Casgliad Ffotograffig Vernon David Emmanuel ar Casgliad y Werin Cymru

Oni bai am bobl fel fy nhad oedd wedi rhagweld eu pwysigrwydd, ni fyddai’r eitemau yma wedi cael eu diogelu er mwyn i bobl eraill gael eu mwynhau am byth

"Roedd fy nhad, Vernon David Emmanuel, yn hanesydd brwd a oedd yn gwneud ei orau i ddiogelu a chadw ein treftadaeth hanesyddol. Wnes i ddim sylweddoli yn union cymaint oedd yn ei gasgliad tan ar ôl ei farwolaeth, a dyma pryd y gwawriodd arna i beth oedd pwysigrwydd yr hyn ro’n i’n ei weld o’m blaen.

"Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae ei gasgliad ffotograffau a’i waith wedi cael eu rhoi yn fy ngofal i fel eu bod yn cael eu diogelu i’r oesoedd a ddêl; maent bellach yn rhan o archif Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru lle mae tua 4,000 o’i ffotograffau, yn amrywio o adeiladau hanesyddol i rai diwydiannol, yn cael eu cadw.

"Oni bai am bobl fel fy nhad oedd wedi rhagweld eu pwysigrwydd, ni fyddai’r eitemau yma wedi cael eu diogelu er mwyn i bobl eraill gael eu mwynhau am byth. Pan oedd yn ei dridegau cynnar, dechreuodd sylwi bod nifer o gapeli Cymru yn cael eu dymchwel neu eu trawsnewid yn aneddleoedd, a phenderfynodd bod angen eu rhoi ar gof a chadw.

"Mae ffotogtaff o Gapel Persbyteraidd Saesneg Pont-faen (ger Aberhonddu), gafodd ei dynnu gan fy nhad eisoes yn fyw ar wefan Casgliad y Werin:

Felly hefyd Capel Berea, Nant y Glo:

Llafur cariad dros 60 mlynedd yn dogfennu a thynnu lluniau

"Arweiniodd hyn at lafur cariad dros 60 mlynedd yn dogfennu a thynnu lluniau o adeiladau hanesyddol a gwneud copïau o hen ffotograffau y credai ef eu bod yn werth eu diogelu.

"Un arall o’i ddiddordebau oedd casglu hen lyfrau oedd yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif; daethom yn ymwybodol o’r rhain wedi inni ei golli, gan ddysgu bod nifer ohonynt yn llyfrau prin a oedd o bwys hanesyddol. Cafodd y mwyafrif ohonynt eu cyflwyno i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a hefyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffotograffau trawiadol o Frynbuga o ddechrau’r 20fed ganrif

"Wrth edrych drwy ran o’i gasgliad dois i o hyd i luniau nad oeddwn i wedi’u dogfennu. Yn eu plith yr oedd cyfres o ffotograffau du a gwyn trawiadol iawn o safon uchel o Frynbuga a’r cylch a gafodd eu tynnu ar ddechrau’r 20fed ganrif."

Penderfynais ychwanegu lliw at un ohonynt, a chefais fy syfrdanu

"Mae yna rai ffotograffau yn y casgliad sydd, rwy’n credu, yn dangos dathliadau sy’n gysylltiedig â Choroni Edward VII a’i wraig, y Dywysoges Alexandra, yn Frenin a Brenhines yn Abaty Westminster, Llundain ar y 9fed o Awst 1902. Oherwydd eu bod o safon mor uchel, penderfynais ychwanegu lliw at un ohonynt, a chefais fy syfrdanu gan yr hyn ro’n i’n ei weld wrth iddyn nhw ddod yn fyw o flaen fy llygaid:

(Gweler yma am gasgliad o ffotograffau anffurfiol gafodd eu tynnu ar droad y ganrif (o bosib) aelodau o deulu Addams Williams family, perchnogion Ystad Castell Llangybi, Brynbuga ar y pryd hwnnw. Maent yn cynnwys delweddau gwreiddiol a rhai gyda lliw wedi ei ychwanegu atynt.)

Dyma lun o fachgen yn gwerthu papurau newydd yng ngorsaf Brynbuga tua 1902:

A dyma lun defaid yn cael eu trochi yn afon Gwy ger Llangadog:

Mae'r ddelwedd ganlynol yn dangos grŵp o ferched trwsiadus - credir eu bod yn Llangybi House, ger Brynbuga.

Maent yn dangos dillad y cyfnod mewn manylder a bydd lluniau tebyg i hyn yn drysorfa i gynllunwyr dillad a myfyrwyr sy'n astudio gwisgoedd hanesyddol.

Ymysg y casgliad, dois i o hyd i un llun arbennig o ddigwyddiad trasig yn Llangybi, ger Brynbuga. Ym 1878 cafwyd morwr Sbaenaidd o’r enw Josef Garcia yn euog o lofruddio teulu yn y pentref – William ac Elizabeth Watkins a’u tri phlentyn ieuengaf (Charlotte, 8 oed, Alice, 5 oed a Frederick, 4 oed) – ac mae’r ffotograff yn dangos y bwthyn lle roeddent yn byw gyda dau gwnstabl ger y drws, a dau ddyn a menyw yn sefyll y tu allan i’r giât:

"Ni allaf ddod o hyd i unrhyw gofnod ffotograffig arall o’r bwthyn hwn, dim ond llun gan artist."

Graham Tudor Emmanuel 2020

Gallwch ddod o hyd i fwy o ddelweddau o Frynbuga, Llangadog a'r ardal gyfagos yn y casgliad hwn ar wefan Casgliad y Werin.

Am fwy o fanylion ynghylch archif Vernon David Emmanuel gyda'r Comisiwn Brenhinol, edrychwch ar gofnod Coflein.

Archif genedlaethol achrededig â chronfa ddata ar-lein, Coflein, yw Archif y Comisiwn Brenhinol. Mae wedi’i lleoli yn Aberystwyth. Mae ein casgliad unigryw yn cynnwys lluniadau, ffotograffau, mapiau a chofnodion yn ymwneud â safleoedd hanesyddol Cymru. Mae gennym dros filiwn o awyrluniau o Gymru a dynnwyd yn ystod y 100 mlynedd ddiwethaf. Mae bron 20,000 o’n heitemau wedi eu cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

This article was posted by:

Casgliad y Werin Cymru's profile picture

Casgliad y Werin Cymru