Rhew a Glo - hanes teulu Crandon

Magwyd Elaine Dacey (Crandon gynt) sydd bellach yn byw yn Sheffield ym mhentref Pantyscallog ger Merthyr Tudful yn y 1950au.  Roedd y rhan fwyaf o’i hynafiaid yn byw ac yn gweithio ym Mhantyscallog ('Pant'), Penydarren, Dowlais a Merthyr yn y 19eg a’r 20fed ganrif, ond fe wnaeth ei thad-cu, Albert Crandon, fel llawer o Gymry eraill dros y blynyddoedd, fentro ymhellach i ffwrdd i chwilio am waith, ac am gyfnod bu ef a’i deulu ifanc yn byw yn America. Ond dychwelyd i Bantyscallog oedd eu hanes yn 1934, ac o ganlyniad mae gwreiddiau Elaine yn gadarn yng Nghymru; er hynny mae ffotograffau ac eitemau eraill yn ymwneud ag amser ei thad-cu a’i mam-gu yn America – ac a gadwyd yn daclus mewn tun Radiance Toffee gan ei thad-cu – wastad wedi cael lle arbennig iawn yng nghalon Elaine, fel yn wir ei hatgofion o’i phlentyndod yng Nghymru a’i chysylltiad clòs phentref ei magwraeth, a hanes y teulu.

‘Clywais am Gasgliad y Werin Cymru yn y lle cyntaf gan haneswyr lleol ym Merthyr Tudful a oedd wedi darllen fy hunangofiant gan awgrymu y dylwn ei lwytho ar wefan Casgliad y Werin Cymru,’ esbonia Elaine. ‘Roeddwn i’n meddwl y gallai fod yn beth gwerthfawr i gadw atgofion fy nheulu ac atgofion am dyfu i fyny yng Nghymru ac y gallai’r atgofion fod yn ddefnyddiol fel adnodd addysgu hyd yn oed. Cefais hyfforddiant i uwchlwytho a golygu deunyddiau gan staff Casgliad y Werin a oedd yn barod iawn i helpu, ac fe gysyllton nhw â mi dros Zoom ychydig o weithiau hefyd.’

Yn ei hunangofiant ‘A Childhood in Wales’ mae Elaine yn rhannu rhai o’i hatgofion cynharaf o fyw ym Mhantyscallog ac ysgrifenna: ‘Mae fy atgofion mwyaf o fyw ym Mhant-cad-Ifor o’r troeon niferus y byddwn yn cerdded ychydig lathenni i fyny’r ffordd i gartref fy mam-gu a’m tad-cu ... Rwy’n cofio eu bwthyn nhw yn llawer mwy na’n un ni. Mewn gwirionedd, rwyf wedi bod yn dychwelyd i’r bwthyn hwnnw ac yn cofio’r bwthyn hwnnw ar hyd fy oes.’

‘Mae rhai o fy hoff atgofion yn cynnwys atgofion am fwthyn fy mam-gu a’m tad-cu ym Mhantyscallog a’m perthnasau o ochr teulu Crandon, nifer ohonynt yn gymeriadau cryf. Clywais gyfoeth o straeon gan fy nhad am ei anturiaethau yn ystod ei ieuenctid, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnes i ei recordio yn ailadrodd llawer o’r hen straeon hynny.

‘Pan ddechreuais ysgrifennu fy hunangofiant fe wnes i hefyd lawer o ymchwil hefyd i fywyd fy nhad-cu Albert Crandon, gan fy mod yn gwybod ei fod wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i fod wedi cadw dyddiadur o’r cyfnod hwnnw.’

Cafodd ei thad-cu Albert ei fagu yn Pant, yr ail o un-ar-ddeg o blant, ac yn ddeg oed cafodd ei anfon iweithio i lawr yn y pyllau glo gyda’i dad, Henry Charles Crandon. Fe’i gwelir yn y ffotograff cynnar hwn isod (ail o’r chwith) gyda’i dad a bachgen arall; maent yn dal bwyeill a lampau ac mae eu hwynebau a’u dillad wedi’u gorchuddio â llwch glo:

Yn 1915, pan oedd yn 17 oed ymunodd Albert â’r Royal Field Artillery, Horse Batalion. Fel yr esbonia Elaine yn ei hunangofiant: ‘Roedd bob amser wedi caru ceffylau felly dyma, mae’n ymddangos oedd y gatrawd orau oedd iddo fod yn rhan ohoni (parhaodd Grandpa i gadw ceffylau yn ddiweddarach yn ei fywyd. Prynodd ef a’i frawd Frederick gae ar gyfer pori ceffylau rhwng caeau’r Co-op a’r Garth, a chofiaf fynd i fyny gydag ef i’w bwydo.)’ Gwelir Albert yn y llun isod, yn y rhes flaen, a’r 2il o’r chwith, gyda’i gyd-filwyr:

Ymladdodd Albert Crandon ym Mrwydr Bailleul a hefyd Ypres, lle cafodd ei anafu a’i gymryd o’r rheng flaen. Cadwodd ei fedalau a llawer o luniau a dogfennau o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac maent hwy hefyd wedi eu cyhoeddi yng nghyfrif Elaine Dacey ar Gasgliad y Werin Cymru. Dysgwch fwy am hanes Albert yn y Rhyfel Mawr yn stori Albert Crandon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

‘Rwy’n hoff iawn o sawl eitem rwyf wedi tynnu eu lluniau a’u cyhoeddi ar y wefan,’ esbonia Elaine. ‘Mae’r rhain yn cynnwys Albert yn blentyn ifanc yn gweithio fel glöwr, Albert pan oedd yn aelod o’r Royal Field Artillery yn ystod y rhyfel a ffotograffau ohono ef a fy mam-gu yn America gyda fy nhad yn fabi a fy Ewythr Chris. Hefyd, y lluniau o’r nodiadau yn llaw fy mam-gu Esther sy’n cofnodi eu taith i UDA, a’r daith oddi yno, a’i thristwch o orfod gadael. Mae’n rhyfedd meddwl beth allai fod wedi digwydd iddyn nhw (a’u holl ddisgynyddion, gan gynnwys fi fy hun!) pe na baen nhw wedi dychwelyd.’

Gwelir isod y Cardiau Gwyrdd ar gyfer Albert, Esther a Chris Crandon oedd yn caniatáu iddynt fynd i mewn i U.D.A. Cafodd tad Elaine, a enwyd yn Ernest Charles ar ôl brawd a thad Albert, ei eni yn Akron, Ohio yn 1932.

Ymfudodd Albert i America yn 32 oed oherwydd y prinder gwaith ar ôl y rhyfel, a chyrhaeddodd Ynys Ellis, Efrog Newydd ar Dachwedd 7fed 1928 ar ôl hwylio ar fwrdd y Majestic o Southampton ar fordaith chwe diwrnod. Daeth o hyd i waith mewn ffatri rwber fawr yn Akron, Ohio ac ar 17 Ebrill 1929 hwyliodd ei wraig Esther a’i fab ifanc Christopher ar fwrdd yr Olympic i ymuno ag ef. Aeth ati yn ddiweddarach i ddechrau busnes bach gyda phartner – ‘Durkin and Crandon’ – a oedd yn prynu a gwethu rhew a glo. Gwelir Albert yma gyda’i fab Chris, yn sefyll yn falch wrth ymyl cerbyd y cwmni:

Fodd bynnag, dychwelodd mam-gu a thad-cu Elaine, ynghyd â’i thad a’i hewythr Chris i Pantyscallog yn 1934, a hynny yn bennaf oherwydd bod iechyd rhieni Esther wedi dirywio’n sylweddol, a bu’n rhaid iddynt adael eu bywyd cyfforddus a’r ffrindiau da a wnaethant yno, fel y cofnodwyd yn ddiweddarach gan Esther Crandon yn ei llyfr nodiadau:

Gallwch ddarllen mwy am amser Albert Crandon a'i deulu yn America yma.

‘Rwy’n trysori’r holl atgofion gwerthfawr hyn a’r straeon teuluol yr ysgrifennais amdanynt yn wreiddiol er mwyn i aelodau iau fy nheulu fod yn rhan ohonynt,’ meddai Elaine. ‘Rwy’n falch, serch hynny, fod llawer o bobl eraill wedi mwynhau darllen fy hanes i am am y blynyddoedd cythryblus hynny yn ne Cymru yn ystod dechrau a chanol yr ugeinfed ganrif, a gobeithio y bydd eraill hefyd yn ei fwynhau drwy wefan Casgliad y Werin Cymru.’

Oes gennych chi ffotograffau teuluol ac effemera all ein helpu ni i gofnodi hanes Cymru a’i phobl? Gallwn gynnig cymorth wrth i chi rannu eich stroi trwy ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant o bell. Rhowch wybod sut allwn ni eich helpu – cysylltwch â ni drwy ein cyfryngau cymdeithasol  Facebook | TwitterInstagram neu anfonwch e-bost atom:  [email protected]

 

This article was posted by:

Casgliad y Werin Cymru's profile picture

Casgliad y Werin Cymru