Neidio i'r prif gynnwys
arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibalogopdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
People's Collection Wales Logo A vector graphics of the official People's Collection Wales Logo
  • English
  • Mewngofnodi
  • Cofrestru
  • Amdanom NiAmdan CYWC
  • Rhannugolygu a chreu
  • Y Casgliadpori a ffiltro
  • Mapiaucyfoes a hen
  • Cymorth
  • Addysgadnoddau dysgu
Hafan / WiciPics: rhoi treftadaeth adeiledig Cymru ar gof a chadw

WiciPics: rhoi treftadaeth adeiledig Cymru ar gof a chadw

Cymraeg

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â Menter Iaith Môn, gyda chyllid gan Llywodraeth Cymru, i gyflawni prosiect WiciPics.

Mae hwn yn brosiect torfoli sy'n annog cymunedau ac unigolion i archwilio ac ymgysylltu â'u treftadaeth adeiledig leol. Gall cyfranwyr uwchlwytho ffotograffau o safleoedd hanesyddol gan ddefnyddio map rhyngweithiol a bydd yr holl ddelweddau a gyfrannwyd yn ffurfio archif ddigidol newydd am ddim ar gyfer Casgliad y Werin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Wikipedia, lle gellir defnyddio'r delweddau i enghreifftio erthyglau perthnasol. Mae Wikipedia yn llwyfan gwych i recordio a rhannu ein hanes lleol ar y cyd ac mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall cael erthyglau Wikipedia o ansawdd da helpu i hybu twristiaeth yn sylweddol.

Fel rhan o'r prosiect bydd y Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gweithio'n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion i gael plant i dynnu ffotograffau o adeiladau yn eu hardal ac yna eu dysgu sut i ddefnyddio'r delweddau hynny i wella erthyglau Wikipedia perthnasol, yn enwedig ar Wicipedia Cymraeg.

Mae'r prosiect wedi bod yn rhedeg am ychydig wythnosau a bydd yn parhau i redeg tan y Flwyddyn Newydd, felly mae digon o amser i gyfrannu o hyd. Eisoes, mae cannoedd o ddelweddau wedi'u cyfrannu gan gynnwys amrywiaeth eang o dreftadaeth adeiledig.

Roedd mwyngloddio plwm yn ddiwydiant enfawr, yn enwedig yng Ngheredigion ac mae llawer o'r safleoedd mwyngloddio wedi cael eu gweithio am gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd, ond maen nhw'n diflannu'n gyflym wrth i fyd natur adennill ein safleoedd diwydiannol gwasgarog. Mae’r ddelwedd ganlynol (gan Chris Popham) yn dangos gweddillion gwaith mwyngloddio ym Mwynglawdd Plwm Pumlumon ger Eisteddfa Gurig:

Yn anffodus, mae llawer o adeiladau hanesyddol yn diflannu’n llwyr, gyda rhai yn cael eu hailddatblygu yn y fath fodd fel nad oes posib eu hadnabod ac eraill yn gadael dim ond atgof bach o'r hyn a fu, fel y portico hwn (gan Geraint Tudur): dyma’r cyfan sydd yn weddill bellach o westy mawreddog y Penrhyn Arms a oedd yn sefyll am dros 120 mlynedd ar gyrion Bangor. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol fel gwesty ar gyfer teithwyr cyfoethog ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach gan Goleg Prifysgol Gogledd Cymru. Cafodd ei ddymchwel yn y pen draw pan fu’n rhaid ailgyfeirio rhan o ffordd yr A5 trwy’r union safle.

Mae capeli yng Nghymru hefyd yn cau ac yn prysur gael eu gwerthu neu eu datblygu i fod yn dai, felly mae creu cofonod o’r dreftadaeth hon nawr yn hynod bwysig. Isod mae ffotograff Geraint Tudur o Hen Gapel Llanuwchllyn a Thŷ'r Hen Gapel - man geni Michael D. Jones a sefydlodd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Gall unrhyw un gymryd rhan ym mhrosiect WiciPics gan ddefnyddio ffôn neu gamera i dynnu lluniau amrywiaeth o wahanol safleoedd, o adeiladau crefyddol, ysgolion a llyfrgelloedd i ysbytai, caerau bryniau a ffatrïoedd.

Darlun Casgliad y Werin Cymru / People's Collection Wales
Postiwyd gan

Casgliad y Werin Cymru / People's Collection Wales

ar ddydd Llun, 11/30/2020 - 18:54
  • Mewngofnodwch neu Cofrestrwch er mwyn gadael sylwadau

Read more blogs:

Categori

Cymunedau (13)
Communities (9)
Technology (6)
Cylchlythyrau (2)
Newsletters (2)
Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
Ar 21 Mai 1910, fe wnaeth tua 20,000 o bobl sefyll y tu allan i neuadd y dref yn y Barri i glywed Proclamasiwn Bren… https://t.co/Oms41o2oUX — 23 awr 29 mun yn ôl
mwy

Dilynwch ni ar:

  • Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
  • Facebook Logo The Facebook Logo in vector format

Mwy amdanom ni, ein gwaith gyda grwpiau cymunedol, gwasanaethau a hyfforddiant

  • Hygyrchedd
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Map o'r Safle
  • Telerau
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government The Welsh Government Logo in vector format

01970 632 500 Ebost