Yr Holocost a Chymru

Ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost, fe wnaethom wahodd Klavdija Erzen, Rheolwr Rhaglen a Phrosiect Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, i ddweud mwy wrthym am eu prosiect a’r gyfres o 20 o adnoddau addysgu rhad ac am ddim y maent wedi’u creu a’u cyhoeddi ar ein gwefan a Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sy’n atgoffa myfyrwyr bod yr Holocost wedi effeithio ar bobl o’u cymunedau nhw yn Gymru.

Ffotograff o Kate Bosse a Gwyn Griffiths ar ddiwrnod eu priodas ym Mhontypridd, Medi 1939. Ffoadur Iddewig oedd Kate Bosse-Griffiths a wnaeth ffoi i Brydain o'r Almaen ym 1937. Priododd â'r Cymro John Gwyn Griffiths ym Medi 1939 a symudon nhw i Bentre yn y Rhondda. Dysgodd Gymraeg a daeth yn hyrwyddwr angerddol dros yr iaith Gymraeg, gan gyhoeddi barddoniaeth a llyfrau Cymraeg. Symudodd y teulu i Abertawe ar ôl y rhyfel, lle parhaodd i ysgrifennu i'r wasg Gymraeg, gan gefnogi sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn 1962. Bu farw yn Abertawe yn 1998.

Beth yw Diwrnod Cofio’r Holocost?

Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost bob blwyddyn ar 27 Ionawr, diwrnod cofio rhyddhau Auschwitz-Birkenau, gwersyll difa mwyaf y Natsïaid. Mae’n ddiwrnod rhyngwladol i gofio’r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd â’r miliynau o bobl eraill a laddwyd yn sgil erledigaeth grwpiau eraill gan y Natsïaid, ac yn yr hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae’n achlysur i bawb ddod at ei gilydd er mwyn dysgu, cofio a myfyrio.

Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC)

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru ym mis Tachwedd 2017 i adrodd hanes Iddewon yn ne Cymru. Ers ei sefydlu, mae’r prosiect wedi cyfrannu dros 1,000 o ffotograffau a dogfennau hynod ddiddorol i’n gwefan sy’n manylu ar hanes y cymunedau Iddewig yn ne Cymru. Nod y prosiect yw datgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol ymysg cymunedau Iddewig de Cymru. “Wrth wneud hyn, ein nod yw codi proffil cyfoes a hanesyddol y cymunedau hyn a dangos yn union faint y maent wedi cyfrannu ac yn parhau i gyfrannu at fywyd economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol ac artistig De Cymru,” meddai Klavdija wrthym.

“Rydyn ni’n gobeithio newid agweddau a herio rhagdybiaethau, er mwyn i’r gymuned Iddewig gael ei gweld fel ‘ni’ yn hytrach nag ‘eraill'; i gael ei gweld fel rhan o’r gymuned yn hytrach nag ar wahân iddi. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn rhoi inni gydnabyddiaeth ryngwladol digwyddiad y gallwn ei ddefnyddio i hyrwyddo'r nodau hyn," meddai Klavdija.

Ffotograff du a gwyn o Heinz Koppel a Renate Fischl, ar ddiwrnod eu priodas yn 1949. Ganed yr artist Heinz Koppel i rieni Iddewig yn Berlin ym 1919. Wedi i'r Natsïaid ddod i rym yn yr Almaen, ymfudodd y teulu i Prague, Tsiecoslofacia, a ffoi yn ddiweddarach i'r Deyrnas Unedig yn 1938. Sefydlodd ei dad, Joachim Koppel, y ffatri Aero Zipp yn Nhrefforest lle’r oedd yn gweithio ac astudiodd Heinz gelf yn Llundain. Roedd gan ei fam, Paula, arthritis difrifol ac nid oedd yn gallu gadael gyda gweddill y teulu; cafodd ei llofruddio yn y diwedd yng Ngwersyll Difodi Treblinka.

 

Adnoddau Addysgu Yr Holocost a Chymru

Pam y penderfynodd y prosiect yma greu’r adnoddau addysgu? Mae Klavdija yn esbonio: "Credwn fod addysgu am yr Holocost mewn ysgolion yn hanfodol oherwydd, "Condemnir y rhai na allant gofio'r gorffennol i'w ailadrodd" (George Santayana, The Life of Reason, 1905). Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor wir yw hyn; mae materion yr Holocost yn parhau i atseinio hyd heddiw.”

"Penderfynom greu deunyddiau addysgol dwyieithog ar yr Holocost oherwydd nad oedd rai yn bodoli’n barod. A thrwy greu adnoddau sy'n cyflwyno cysylltiad lleol, gallwn atgoffa myfyrwyr bod yr Holocost wedi effeithio ar bobl o'u cymunedau nhw eu hunain ac nid yn unig ar bobl o rywle arall:  roedd y pethau hyn yn digwydd i ffrindiau a chymdogion eu teuluoedd," meddai Klavdija.

Ffotograff o busnes a oedd yn eiddo i Iddewon a gafodd ei ddinistrio yn ystod Kristallnacht, Berlin, 10 Tachwedd 1938. Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. 

Mae Catalena Angele, Swyddog Addysg Casgliad y Werin Cymru, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Klavdija a’r tîm ar y prosiect hwn, yn dweud mwy wrthym am yr adnoddau addysgu. "Gall yr Holocost fod yn bwnc helaeth a llethol i ddysgwyr ac athrawon. Gall cysylltu'r dysgu gyda straeon am bobl leol ac mewn lleoedd cyfarwydd helpu i ddod ag effeithiau'r Holocost yn fyw i'r dysgwyr." Meddai,” Meddai. “Mae'n cael gwared ar y syniad o 'arallrwydd' - bod hyn wedi digwydd i bobl eraill mewn lle ac amser arall - ac yn ei le yn creu gysylltiad a chydymdeimlad. Mae hyn, wrth gwrs, yn werthfawr mewn unrhyw ddysgu hanesyddol, ond yn fy marn i, yn allweddol mewn addysg am yr Holocost."

"Mae'r cysylltiad hwn â hanes lleol hefyd yn hanfodol mewn ysgolion yng Nghymru, gan fod y cwricwlwm Cymreig yn pwysleisio gwerth addysgu am ddiwylliant, treftadaeth, amrywiaeth a hunaniaeth Cymru a sut y gall hyn fod yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o'r Byd. Mae'r 20 o'r adnoddau 'Holocost a Chymru' a gynhyrchwyd gan CHIDC yn adrodd amrywiaeth eang o straeon difyr. Maent wedi'u hymchwilio'n drylwyr, wedi'u hysgrifennu'n sensitif ac yn ddiddorol iawn. Mae llawer ohonynt, yn enwedig y rhai ar Ryddid, Hunaniaeth a Chofio, yn hynod o bwerus a theimladwy," meddai Catalena.

Rhyddhau Gwersyll Crynhoi Bergen-Belsen, Ebrill 1945. Tynnwyd y llun gan Rhingyll H. Oakes o Uned Ffilm a Ffotograffiaeth y Fyddin Rhif, isadran o'r fyddin Brydeinig, o dwr gwylio a ddefnyddiwyd gan warchodwyr Almaeneg. Mae'r ffotograff yn dangos Gwersyll Rhif 1 wedi'i wagio.

 

Mae’r adnoddau addysgu sydd ar gael ar ein gwefan a thrwy Hwb yn cynnwys enghreifftiau a straeon sy’n benodol i Gymru. Mae'r pynciau yn cynnwys:

Mae'r ffotograff hwn yn dangos Paul Bosse (yn sefyll, chwith) yn cyfarfod â Hitler yn Wittenberg, yr Almaen, ym mis Mehefin 1935. Tynnwyd y ffotograff hwn ar ôl ffrwydrad mewn ffatri arfau gerllaw. Er gwaethaf ei holl waith, cafodd Paul ei ddiswyddo chwe mis yn ddiweddarach. Roedd gwraig Paul, Käthe, yn Iddewig, a pam gwrthododd Paul i'w hysgaru, fe gafodd ei ddiswyddo o'i swydd fel prif lawfeddyg yn yr ysbyty lleol. Roedd Paul Bosse yn dad i’r ffoadur Kate Bosse-Griffiths, Eifftolegydd o fri ac awdur yn yr iaith Gymraeg.

 

Sesiynau Cymorth Galw Heibio Ar-lein

Os ydych chi'n athro neu'n addysgwr ac eisiau dysgu sut y gallwch chi ddefnyddio ein gwefan i helpu disgyblion i ddarganfod eu treftadaeth a datblygu dealltwriaeth o'u cynefin, neu os oes gennych ddeunydd addysgol yr hoffech ei gynnwys ar wefan Casgliad y Werin Cymru, yna cysylltwch â’n Swyddog Addysg, Catalena Angele, e-bost: [email protected]

Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost

Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn elusen gofrestredig a ariennir gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo a chefnogi’r Diwrnod. Mae’n darparu adnoddau a chymorth ar gyfer miloedd o weithgareddau Diwrnod Cofio’r Holocost bob blwyddyn mewn gweithleoedd, grwpiau ieuenctid, amgueddfeydd, carchardai, ysgolion, colegau a phrifysgolion, addoldai, a mwy.  I ddysgu mwy am Ddiwrnod Cofio’r Holocost a’r thema eleni, neu i ddod o hyd i adnoddau di-dâl, ewch i hmd.org.uk

Cyflwyniad i Adnoddau Addysgol yr Holocost CHIDC

Mae'r adnoddau a gyhoeddwyd ar Casgliad y Werin Cymru yn seiliedig ar gyfweliadau hanes llafar gyda phobl Iddewig yn Ne Cymru a gynhaliwyd gan CHIDC. Wrth recordio'r cyfweliadau hyn, mae CHIDC wedi sicrhau bod y storïau hyn wedi'u cadw a’u rhannu gyda chenedlaethau'r dyfodol.

Mewn prosiect cysylltiedig arall, mae CHIDC wedi creu mwy o adnoddau addysgu am yr Holocost yn seiliedig ar dystiolaeth o archif Sefydliad Shoah USC (Prifysgol De California). Gallwch ddysgu mwy am yr adnoddau addysgu hyn yn eu digwyddiad hyfforddi ar-lein, sy'n cael ei gynnal gan Archifau Morgannwg, ar 25 Ionawr 2023 am 15:30. Bydd y digwyddiad yn cefnogi athrawon i ddarparu addysg am yr Holocost mewn ysgolion. Archebwch eich lle!

This article was posted by:

Jessica Roberts's profile picture

Jessica Roberts