arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

O Dan y Môr a'i Donnau

dydd Mawrth, Tachwedd 12, 2019
Cymraeg
Mae moroedd tiriogaethol Cymru yn ymestyn 12 milltir fôr o’r arfordir ac yn hynod o gyfoethog o ran eu bywyd gwyllt. Ond mae’r moroedd hyn – sydd â’u harwynebedd bron â bod yn dyblu maint Cymru – hefyd yn gyfoethog o ran eu hanes a’u chwedlau. Wrth grwydro ein traethau yr haf hwn, faint ohonom tybed oedd yn ymwybodol bod dros 300 o longddrylliadau wedi eu canfod ar hyd a lled arfordir Cymru erbyn hyn? Dros y canrifoedd mae’r môr wedi rhoi cynhaliaeth i sawl cenhedlaeth yng Nghymru, o bysgotwyr penwaig Pen Llŷn i longwyr masnach Dociau Biwt, Caerdydd, ac wedi chwarae rhan bwysig yn y ddau Ryfel Byd ac yn natblygiad diwydiant yng Nghymru. Mae’r môr hefyd wedi bod yn sail amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau gan ddenu nifer o unigolion o sawl gwlad ledled y byd i wneud eu cartref yma yng Nghymru. Un dyn a wnaeth hyn oedd John Davis Freeman fu’n gwasanaethu ar longau masnach yn ystod y rhyfel ac yn union wedi hynny.
Roedd ei Gerdyn Llongwr Masnach Prydeinig yn un o’r eitemau a gyfranwyd i’r prosiect Llongau-U-Boats Project 1914-1918: Coffáu'r Rhyfel ar y Môr, menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol. Hyd yma, mae’r prosiect hwn wedi cyfrannu ymhell dros 800 o eitemau, storïau a chasgliadau i wefan Casgliad y Werin Cymru, a gallwch ddarllen am eu prosiect ar eu proffil: https://www.casgliadywerin.cymru/user/29486/author/29486/sort/date/page/2 Un o’r nifer helaeth o gasgliadau sydd wedi eu creu gan y Prosiect Llongau U-Boat ar y wefan yw un sy’n adrodd hanes llynges fasnachol Caerdydd a’r fasnach lo, a gallwch ddarllen mwy yma am Ddociau Caerdydd a’r llongau oedd yn cludo glo – a nwyddau eraill – i bedwar ban byd: https://www.casgliadywerin.cymru/collections/1038571 Dywedir i o leiaf 200 o’r llongau hyn gael eu suddo o amgylch arfordir Prydain – y mwyafrif o ganlyniad i ymosodiadau llongau-U. Dyma lun o’r CAMBANK, aerlong 3,111 tunnell fetrig, ar 20 Chwefror 1915 oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn. Roedd y CAMBANK ar y ffordd o Huelva yn Sbaen i Garston ar lannau Merswy gyda chargo gwerthfawr o gopr pan ymddangosodd llong danfor yn sydyn a thanio torpedo. Dechreuodd suddo yn syth:
Ddechrau fis Medi, cynhaliwyd Gweithdy Gwaddol y Prosiect Llongau-U ym Mhorthaethwy, yng Nghanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor Ynys Môn lle cafwyd cyfraniadau gan amrywiol siaradwyr, yn eu plith, Julie Satchell o’r Ymddiriedolaeth Archaeoleg Forwrol oedd yn rhoi sgwrs ar ‘Longddrylliadau Anghofiedig y Rhyfel Byd Cyntaf a safbwynt y DU ar brosiectau archaeoleg morol coffa’. Yn ôl Julie, llwyddodd y prosiect hwn i sicrhau bod gwell dealltwriaeth am archaeoleg ar wely’r môr o safbwynt treftadaeth, gan alluogi swyddogion y prosiect i adnabod y themâu hynny oedd angen mwy o ymchwil yn y dyfodol. Pwysleisiodd bod cyfoeth o astudiaethau thematig yn bosib, gan gynnwys perthynas llongau â phyllau glo Cymru – er enghraifft, gellid edrych ar sut roedd y llongau hyn a glo Cymru yn chwarae rhan yn yr Ymherodraeth Brydeinig. Siaradwr arall fu’n cynnal sesiwn yn y gweithdy oedd Mike Roberts o Ganolfan Gwyddor Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor, fu’n sôn am ryngweithiadau safleoedd llongddrylliadau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’u hamgylcheddau ar wely’r môr ac am arolygu morol a chynrychioliadau digidol 3D. Soniodd am bwysigrwydd yr ymchwil mae technolegau newydd yn ei ganiatáu iddynt ei wneud, oherwydd ymhen ugain, deg ar hugain a deugain mlynedd arall, meddai, bydd y llongddrylliadau hyn wedi diflannu o waelod y môr. Mae’r Ganolfan wedi ymgymryd â phrosiect i sicrhau delweddau sonar ambaladr o rai llongddrylliadau ac fe welir un o’r eitemau hyn ar Gasgliad y Werin, sef llun sonar ambaladr y CAMBANK wnaeth suddo oddi ar Drwyn Eilian, Ynys Môn:
“Mae’n bwysig felly datblygu a meithrin cyfleoedd i gydweithio a datblygu proseictau gydag eraill cyn i’r llongddrylliadau ddirywio’n ddim byd,’ yn ôl Mike Roberts. ‘Mae’r prosiect Llongau U wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog o straeon o safbwynt hanes a threftadaeth, ond mae’n llongddrylliadau ni wedi bod yn cymaint mwy na hynny wrth gwrs o safbwynt yr ochr wyddonol – lle rydyn ni yma yng Nghanolfan Môr Cymru wedi bod yn edrych ar fywyd ar waelod y môr a’r hyn sy’n tyfu ar y llongddrylliadau, astudio’r adwaith cemegol rhwng y llongddrylliadau a bywyd ecolegol. Edrych hefyd o safbwynt archaeolegol ac ystyriaethau cyfreithiol ynghlwm wrth y ddarganfyddiadau a’r deunydd sy’n cael eu hachub o wely’r môr. Yn dilyn o hyn wedyn mae yna gwestiynau moesol ynghylch cymryd samplau a sut i dynnu deunydd oddi yno. “Wrth geisio gwneud synnwyr o’r hyn rydyn ni’n ei weld ar waelod y môr mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth y 70 mlynedd o brosesau morol – effaith y llanw a llif y dŵr – a hefyd y ffaith na allwch chi sicrhau bod gwely’r môr yn gallu cael ei adfer i’r hyn oedd o, unwaith rydych chi wedi ymyrryd ag o.” Mae prosiect y Llongau-U bellach yn ei fisoedd olaf ac erbyn hyn mae nifer o straeon cymunedol gan bartneriaid cymunedol y prosiect wedi eu llwytho ar eu gwefan: https://prosiectllongauu.cymru/straeon/ Cafodd nifer o’r rhain eu llwytho ar wefan Casgliad y Werin yn ogystal, megis y casgliad ‘Wynebau’r Môr’ sy’n cynnwys ffotograffau o fenywod a dynion yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel ar y môr 1914-18 yn nyfroedd Cymru ac ar draws y byd. Dyma gloi gyda ddau ffefryn – y naill yn ffotograff o Wiliam Landon Davies, Morwr yn y Llynges Frenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf:
a’r llall yn llun o Gustav Pritshow. Roedd Gustav yn llongwr masnach wnaeth briodi merch leol, Ann Williams o Forfa Nefyn.
I nifer o deuluoedd yng Nghymru, ac am ddegawdau lawer roedd y môr nid yn unig yn darparu cynhaliaeth, ond yr oedd hefyd yn ffordd o fyw. Un agwedd bwysig ar brosiect Moroedd Byw/Living Seas Cymru sydd hefyd wedi bod yn llwytho saw eitem ddifyr ar hanes morol Cymru ar ein gwefan yn ddiweddar yw casglu atgofion plentyndod am y môr sydd wedi eu trosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall. Cyflwynir prosiect Moroedd Byw/ Living Seas gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ac maent wedi ychwanegu eitem yn ddiweddar bysgotwr ar Ynys Môn yn creu cawell cimwch o bren helyg - crefft draddodiadol sy’n prysur ddiflannu:
Maent hefyd yn casglu sylwadau pobl ynghylch sut mae’r moroedd wedi newid yn ystod eu hoes. Mae Peter Williams, yr arlunydd a’r hanesydd o Amlwch wedi cyfrannu mwy nag un eitem am hanes ei deulu pysgota o Ynys Môn. Dyma lun o’i deulu yn un o’u cychod ar yr arfordir oddi ar Amlwch:
Ceir stori hefyd gan Peter Williams am sy’n sôn am ei deulu yn cymryd rhan yn pysgota Penwaig ym Mhorth Amlwch ganol y ganrif ddiwethaf: “Dwi’n siŵr ei fod o’n gyfnod diddorol ... dwi’n cofio fy nain yn dweud y bydden nhw’n arfer cael dimai am bob penwaig, felly pe baech chi’n dal miloedd o benwaig yna mae’n debyg y byddai wedi bod yn arian da ... “Roedd yr holl bobl leol yn cymryd rhan, y pysgotwyr a'r gwragedd. Byddai'r gwragedd, ar ôl iddynt gael y pysgod, yn eu diberfeddu a’u llnau nhw ac yna yn eu rhoi mewn casgenni. Ac mi fyddai ganddyn nhw flociau mawr o halen, a chyllyll, ac mi fyddan nhw jest yn torri’r halen a’i wasgaru. Wedyn, roeddach chi'n rhoi haenen yn y gasgen ac wedyn ychwanegu ychydig mwy o halen (gan fod halen yn cadw’r pysgodyn), ac wedyn mi fyddan nhw’n adeiladu ar hynny, nes byddai’r gasgen yn llawn, ac mi fyddan nhw’n rhoi caead arnyn nhw a’u selio fel nad oedd unrhyw hylif yn dengid ohonyn nhw wyddoch chi, ac wedyn fe fyddan nhw’n mynd â nhw i’r orsaf leol lle bydden nhw’n cael eu cludo gan drên i lefydd fel Llundain .... “ Os oes ganddoch chi stori i’w hadrodd, beth am fynd i wefan Moroedd Byw/Living Seas i’w rhannu: https://livingseas.wales/ Bydd mwy o eitemau fydd yn cael eu llwytho ar gyfrif Moroedd Byw/Living Seas Wales dros y misoedd nesaf! Gallwn hefyd edrych ymlaen at arddangosfeydd gan y prosiect Llongau-U yn Amgueddfa Dinbych-y-pysgod a Bae Colwyn a hefyd, yn olaf, yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd, lle bydd cyfraniadau partneriaid Llongau-U yn Nhrebiwt yn cael eu dangos yn ystod mis Rhagfyr.
Tags: 
Darlun Casgliad y Werin Cymru / People's Collection Wales