Sibrydion o'r Rhyfel Byd Cyntaf: Cardiau post Harry White

Cafodd y casgliad yma o 14 o gardiau post eu hanfon gan Harry White o Wlad Belg a Ffrainc rhwng 1915 ac 1916 at fam-gu Lucy Tedd ar ochr ei mam, a hefyd at ei hen fodryb, Lillie. Mae nifer o’r cardiau post yn dangos y difrod dychrynllyd a wnaed i drefi a phentrefi, gan gynnwys Ypres a Vermelles. Mae eraill wedyn yn dangos golygfeydd ‘arferol’ o leoliadau megis y farchnad yn Béthune y casino yn Mers-les-Bains a’r ‘prom’ yn Le Treport. Mae’r cerdyn post cynharaf yn y casgliad hwn, a anfonwyd ar 12 Awst 1915, yn atgynhyrchiad o ddelwedd o’r ‘Campagne De 1914-15’, bomio olaf Ypres, gan ddangos yr olygfa o’r Dai’r Gorfforaeth i’r farchnad wartheg:

Nid oes unrhyw neges ar y cerdyn post a anfonwyd at ei chwaer Lucy Jenkins (White gynt) yn y Rheithordy yn Llangynnwr, Caerfyrddin, ond mae’r ddelwedd o sgil-effeithiau’r bomio a amgylchynai’r milwr ifanc hwn yn ei gwneud hi’n berffaith eglur pa fath o fyd roedd o wedi ei daflu iddo fel aelod o Fataliwn 1af y Gatrawd Gymreig.

Hefyd yng nghasgliadau Lucy Tedd mae sganiau o lythyrau o’r un cyfnod. Fel yr eglura: ‘Roedd y llythyrau a anfonwyd gan Harry at ei chwiorydd, Lillie a Lucy ym meddiant cefnder i mi (David Martin Brunel White 1929–2012) yng Nghaerfyrddin. Yn dilyn ei ymddeoliad fel Dirprwy Bensaer y Sir, treuliodd David lawer o amser yn ymchwilio i hanes ac achau teulu White yng Nghaerfyrddin. Yna yn 2005 ymunais ag ef i’w gynorthwyo i sganio’r llythyrau, ac fe wnaeth perthynas arall, Mary Hughes eu rhwymo ynghyd a pheth deunydd perthnasol arall fel eu bod yn ymddangos mewn ychydig o lyfrau ar gyfer aelodau o’r teulu. Mae llwytho’r llythyrau, yn ogystal â’r cardiau post ar Casgliad y Werin Cymru yn eu gwneud yn fwy hygyrch i bawb.

Mae'r llythyr uchod, er enghraifft, yn llythyr cadwyn a anfonwyd ar 12 Ionawr 1915 oan oedd Harry yn y 'Canadian Officers' Convalescent Home'; ynddo mae'n anfon gweddi a roddwyd iddo gan un o'r nyrsys yno gan ofyn i'w chwaer, Lille, rannu'r weddi 'hynafol' gyda 9 person arall,

'Oh Lord, Implore Thee to bless all mankind,
Bring us to Thee. Keep me to dwell in Thee.'

Fel mae Lucy Tedd yn ei egluro: 'Roedd Henry Thompson White (neu Harry fel y gelwid ef) yn un o frodyr fy mam-gu. Gwelir y teulu yn y llun hwn gyda Harry ar y dde i’w fam:

‘Bu farw fy mam-gu (Lucy Hannah Jenkins, White gynt, 1885–1959), a welir yn y llun isod gafodd ei dynnu yn 1912, pan oeddwn i’n 10 oed ac ni allaf ei chofio’n siarad am ei brawd.

[[item:1389376]]

‘Fodd bynnag, clywais fwy am Harry gan fy mam (Margaret White Davies, 1918–2009). Bu farw rhieni Harry a Lucy pan oedden nhw’n ifanc (eu tad yn 1886 a’u mam yn 1891) a chafodd y ddau fachgen, dyddiadur yn 1910). Fodd bynnag, nid aeth yr un o’r chwiorydd i’w briodas yn 1911 â Kathleen Marion Beatrice Vereker’:

Fel nifer o ddynion ifanc ar y pryd, cafodd Harry ei alw i ymladd yn Rhyfel Mawr 1914–1918. Gwasanaethodd Gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig yn y lle cyntaf, ond o Ebrill 1915 ymlaen ymladdodd gyda’r Gatrawd Gymreig, ac fe’i gwnaed yn Lefftenant yn yr Ail Fataliwn a Bataliwn Cyntaf. Pan oedd yn gwasanaethu yn Ffrainc, cafodd ei anafu yn Loos ar y 3ydd o Hydref 1915, a bu farw yn ddiweddarach yn ystod cyrch ar High Wood yn y Somme, ym mis Medi 1916. Gwelir Harry yma (ar y dde) gyda’i ffrindiau o’r fyddin mewn llun a dynnwyd yn 1915:

Yn ôl Lucy Tedd: ‘Roedd fy mam-gu yn ei chael hi'n straen mawr yn 1916 pan gawsant air i ddweud bod Harry ar goll, ac roedd fy mam bob amser yn credu iddi golli plentyn yn y groth o ganlyniad...’

Cafodd y cerdyn post cyntaf yn y casgliad hwn ei ddilyn gan un arall a anfonwyd i Lucy ymhen deuddydd, ar 14 Awst 1915 o Dickebusch. Mae'n dangos llun o'r eglwys, a'r tro hwn mae Harry yn ychwanegu neges syml yn dweud : 'Lle y bu i mi ymuno. Mae'r pentref bellach wedi diflannu.' Anfonwyd cerdyn post arall eto i Gaerfyrddin y diwrnod canlynol – y tro hwn i Lillie – yn darlunio'r dinistr ar La Rue de Lille yn Ypres. Ym mhrysurdeb y gohebu yma mae’r realiti creulon a wynebai’r milwr ifanc hwn yn dod yn fyw o flaen ein llygaid. Mae'r delweddau hyn yn atalnodi’r llythyrau a anfonodd at ei chwiorydd Lillie a Lucy, yn llawn negeseuon o ddiolch am eu caredigrwydd yn anfon parseli ato, a gwerthfawrogiad am y dillad roedd Lillie yn eu trwsio iddo, ac mae hynny, yn ogystal â thameidiau o newyddion a sylwadau ar fywyd bob dydd yn rhoi darlun clir o’r agosatrwydd oedd yn bodoli rhyngddynt. Mae'n gofyn am i gacen gael ei anfon ato 'bob pythefnos' ac am i fwyd sy’n cael ei anfon ato gael eu pecynnu’n ofalus rhag iddo ddifetha.

Ond mae llawer o'r tri deg o lythyrau yn y casgliad hwn hefyd yn datgelu realiti llym bywyd yn y ffosydd. Mewn llythyr a anfonodd ar 28 Medi 1915 mae'n dweud wrth Lucy: 'Rwy'n ceisio, ymysg golygfeydd sy'n amhosib i'w dychmygu, ysgrifennu rhywbeth atat. Rydym wedi bod yn eistedd mewn ffosydd, a bydd y dyddiau nesaf yn hollbwysig.’ Ddeufis yn ddiweddarach, mae'n disgrifio'r amodau dychrynllyd y bu’n rhaid iddo eu goddef mewn mewn llythyr a anfonwyd ar 12 Rhagfyr 1915: 'Dim ond llochesi yw'r tai. Fe wnes i ddeffro y bore yma a chael fy ystafell fach yn wlyb ddiferol ac roedd fy holl offer yn arnofio ar wyneb y dŵr fwy neu lai. Mae'r amodau'n ofnadwy. Dylai pobl yn Lloegr wneud yr aberth mwyaf posib dros y milwyr sydd allan yma a diolch i Dduw am y cysur y maent hwy yn ei fwynhau. Alla i ddim meddwl am ddim byd arall i'w ddweud wrthyt heddiw felly gyda chariad hoffus at bawb...'

Ar Ddydd Nadolig 1915, mae'r cardiau post a anfonodd at Lillie a Lucy unwaith eto yn dangos rhaib a dinistr y rhyfel. Ac er bod hwn yn rhyfel a oedd, iddynt hwy, yn cael ei ymladd ymhell i ffwrdd yn Ffrainc a Gwlad Belg, mae'n rhaid bod derbyn y cardiau post gan Harry wedi dod â'r ymladd yn nes atynt hwythau hefyd. Mae'n dweud wrth Lucy bod y llun ar flaen y cerdyn a anfonodd ati yn dangos 'Adfeilion Eglwys yr wyf wedi mynd heibio iddynt sawl gwaith yn ystod y dyddiau diwethaf', ac mae Lillie yn derbyn cerdyn post sy'n dangos Edward, Tywysog Cymru yn ymweld â'r adfeilion yn Vermelles. Ysgrifennodd neges yn dweud: 'Gerllaw, yn ystod ein dyddiau diwethaf yma... y cyfan yn ddistryw'.

Mae’n rhaid bod dysgu am salwch Harry drwy ei ohebiaeth wedi bod yn anodd i'w chwiorydd; mae cerdyn post Béthune a anfonwyd i Gaerfyrddin yn 1915 gan Harry ar 28 Rhagfyr 1915 yn dweud yn syml: ‘Wedi mynd i’r ysbyty ers Dydd San Steffan gyda gwddf ‘Quinsy’. Symud ymhellach i lawr y llinell heddiw.’ Datgelir mwy o fanylion am ei ymadawiad yn ei gerdyn post at Lucy, lle dywed iddo gael ei anfon i'r Ambiwlans Maes cyn i'r gatrawd adael ar gyfer y ffosydd, a'i fod yn 'cael ei symud gan y trên nesaf o'r Orsaf Glirio'.

Erbyn 31 Rhagfyr cawn wybod o’i lythyrau iddo gael ei gymryd i fewn yn glaf yn yr Ysbyty Cyffredinol yn Le Tréport. Mae'r cerdyn post olaf un yn y casgliad (a anfonwyd at Lillie ar 6 Ionawr 1916) yn dangos llun o'r prom yn Le Tréport, porthladd pysgota bach yn Normandi, tua 20 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Dieppe, yn dangos golygfa o amser tawelach, mwy dymunol.

Tra ar gefn y cerdyn, mae’n gadael y neges fregus yma: 'Rwy’n credu fy mod yn gadael yfory – ddim yn sicr i ble rwy’n mynd eto – fwy na thebyg i gartref ymadfer ger Dieppe'.

Fodd bynnag, rai wythnosau’n ddiweddarach mae’n gwella'n llwyr ac ar ôl peth amser yn ôl yn y ffosydd, mae'n gallu treulio rhywfaint o'i wyliau yng Nghaerfyrddin ym mis Mai. Ym mis Mehefin 1916 dywed mewn llythyr bod ‘Tir Neb yn llawn pabi, glas yr ŷd a blodau melyn y rhywogaethau cyffredin yn blodeuo’n niferus' ac mae’n ymdeimlo ag anadl byd natur sy’n mynnu byw o’i gwmpas. Ond erbyn dechrau mis Gorffennaf, dywed Harry ei fod ‘yn ei chanol hi’, ac erbyn mis Awst, cawn yr argraff bod y Rhyfel yn ei lethu o bob cyfeiriad. Mae'r llythyr llawn diwethaf a anfonwyd gan Harry ar 28 Awst 1916 yn sôn am erchyllterau'r rhyfela yn eithaf manwl. Meddai wrth Lucy yn llawn syndod: 'Collwyd golwg ar ffosydd a choedwigoedd ynghanol mwg y sieliau gan mor gyflym a niferus oedd yr ymosodiadau, ond eto daeth cannoedd allan heb eu cyffwrdd’. Ynghanol yr holl fraw ar y llinell flaen, dyw ei ysbryd ddim wedi torri, ac mae ei feddyliau yn dal i droi at ei deulu adref ac am gael bod yno eto yn rhoi help llaw i'w frawd-yng-nghyfraith, Jim, a chael stwnshian yma ac acw efo'r peth yma a'r peth arall, er ei fod yn gwybod bod hynny yn amhosib ar y pryd.

High Wood oedd yr olaf o'r prif goedwigoedd yn y cyrch ar y Somme yn 1916 i gael ei chipio gan filwyr Prydain, a dyma lle collodd Harry White ei fywyd y mis Medi hwnnw. Amcangyfrifir bod gweddillion tua 8,000 o filwyr o Brydain a’r Almaen yn dal i fod yno heddiw, gan na chafodd y coedwigoedd mo’u clirio yn llwyr erioed.

Os hoffech chi rannu stori gan eich teulu chi sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf, yna anfonwch e-bost atom: [email protected] neu cysylltwch â ni drwy Facebook neu Twitter.

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd