Photoscoot: prosiect ffotograffiaeth 'ddoe a heddiw' ar gyfer defnyddwyr sgwteri a chadeiriau olwyn

"Cawsom ein hysbrydoli i ddechrau'r Prosiect Photoscoot gan y ‘Borough Guide’ ar gyfer Machynlleth a gyhoeddwyd gan Edward J Burrows & Co, Cheltenham, ac a ychwanegwyd at wefan Casgliad y Werin Cymru gan Grŵp Treftadaeth Dyfi/ Dyfi Heritage Group yn 2012. Mae'r tywyslyfr, sy'n dyddio o 1911, yn disgrifio tirnodau allweddol y dref farchnad hynafol hon ynghyd â llwybr cerdded i sicrhau bod yr ymwelydd yn gweld pob un ohonynt.

"Disgrifiwyd rhai adeiladau, megis yr Ysgol Ganolradd a welir isod – ac a adeiladwyd tua’r un adeg ag y cyhoeddwyd y tywyslyfr – gyda balchder mawr.

"Felly dyma sut y sbardunwyd y syniad ar gyfer prosiect hanes lleol – a daeth teithio o amgylch tref Machynlleth i weld faint o’r tirnodau lleol oedd yn dal i fod yno yn hollbwysig inni; aethom ati i ymarfer tynnu llun gyda chamera digidol newydd, ac i ail-greu llwybr tywyslyfr y 'Borough Guide'. Gan y byddai fy mam yn defnyddio ei sgwter trydan, neu weithiau ei chadair olwyn, roeddem yn gallu tynnu sylw at lwybrau hygyrch a oedd yn hwylus i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

"Treuliodd fy mam a minnau sawl diwrnod pleserus iawn yn darllen hen fapiau, a chwilio am yr adeiladau oedd yn cael eu crybwyll yn y tywyslyfr, gan elwa o wybodaeth arbenigol staff llyfrgell Machynlleth a'r hanesydd lleol, David Wyn Davies. Tynnwyd y ffotograffau dros gyfnod o dridiau. Roeddem yn ffodus iawn o’r tywydd heulog ac fe wnaethon ni fwynhau galw mewn i’r caffis lleol am baned a chacen.

"Mae hi wedi cymryd amser i’r teulu ddychwelyd at y prosiect Photoscoot, ond Aberystwyth oedd y dref nesaf yr oeddem am ei harchwilio yn yr un ffordd. Fe wnaethon ni ymgymryd â phrosiect Aberystwyth gan ddefnyddio rhifynnau 1af y mapiau OS sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru, tywyslyfr bwrdeistref Aberystwyth – y 'Borough Guide' – a gyhoeddwyd gan Edward J Burrows & Co tua 1905 (o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru), a’r Aberystwyth Official Guide and Souvenir a ailargraffwyd gan Archifdy Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion yn 2015. Unwaith eto, tynnwyd y ffotograffau dros gyfnod o dri diwrnod wrth i ni barhau i esblygu ac ehangu'r rhestr o leoedd i'w cynnwys. Roedd nifer fawr o gaffis, siopau a mannau addoli yn Aberystwyth ar droad yr 20fed ganrif. Rhywbeth arall a ddaeth yn amlwg yn fuan oedd fod nifer fawr o adeiladau eiconig y dref dal gyda ni heddiw – hyd yn oed os yw enwau’r adeiladau a’r defnydd a wneir ohonynt wedi newid. Mae’n ymddangos bod adeiladau eraill, megis tafarn y Downies Vaults er enghraifft, yn parhau i fasnachu yr un nwyddau. Ar droad y ganrif mae'r 'Borough Guide' yn cynnwys hysbyseb ar gyfer cwmni ‘Morgan and Co.’ yn Stryd y Porth Bach (Eastgate heddiw), cwmni a oedd yn fondwyr ac yn fasnachwyr gwin a gwirodydd.

"Mae prosiect Photoscoot wedi bod yn ffordd wych o’n cael ni i fynd i'r afael â thechnoleg ddigidol newydd; rhowch gynnig arni, peidiwch â phoeni am ymdrechion cyntaf a chithau’n gallu dileu’r ddelwedd a chymryd y llun eto. Hefyd, gydag ychydig o waith golygu ysgafn, gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd lluniau sydd ar gael am ddim ar-lein, gallwch oleuo llun yn rhwydd, a thorri allan unrhywbeth sy’n amharu arno.

"Ar gyfer prosiect Aberystwyth, gan fod yr 'Official Guide and Souvenir' yn cynnwys cymaint o hysbysebion diddorol ar gyfer siopau a gwasanaethau lleol, fe wnaethon ni ymestyn ein ffotograffiaeth er mwyn ceisio adnabod yr un safle siop yn y stryd fawr bresennol. Er enghraifft, ar safle lleoliad Café Nero heddiw ar y stryd fawr, arferai siop esgidiau Stead and Simpsons fasnachu ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae'r hysbyseb yn nodi eu bod yn gynhyrchwyr a gwerthwyr esgidiau a bŵts a oedd yn esgidiau smart, ffasiynol, yn cynnwys esgidiau tenis, esgidiau golff ac esgidiau ysgafn eraill. Stead and Simpson oedd y gwneuthurwr esgidiau mwyaf yn y byd yn 1875.

"Roedd hysbysebion siopau yn y tywyslyfr weithiau'n cynnwys brandiau sy'n dal i fodoli heddiw, er enghraifft sawsiau Cross and Blackwell, ysgrifbinau Swan, dillad Aquascutum, sanau Wolsey, diodydd pefriog Schweppes, port Cockburn a gin Gilbey. Unwaith roeddem yn ôl gartref eto, fe aethom ar y we i ymchwilio i rai o hanesion diddorol y cwmnïau hyn. Roedd cyfeiriadau hefyd at y ffaith fod gan un neu ddwy o’r siopau yr hyn a elwid yn ‘Italian Warehouseman', a buom y daethom i ddeall mai’r hyn roedden nhw’n ei olygu oedd eu bod yn gwerthu cynnyrch Eidalaidd fel olewydd a phasta.

"Mae tywyslyfrau Aberystwyth yn agor ffenestr ddiddorol ar fywyd pobl leol ac ymwelwyr tua 100 mlynedd yn ôl. Erbyn dechrau'r 1900au, roedd Aberystwyth yn cael ei galw'n 'Biarritz Cymru' oherwydd y manteision naturiol gwych niferus roedd hi’n ei gynnig fel cyrchfan iechyd a phleser.

"Fe wnaeth dyfodiad y rheilffordd hefyd symbylu datblygiad ym maes twristiaeth. Mae’r casgliad ‘Lleoliadau Gweithgareddau Amser Hamdden a Phleser’ a grewyd gennym ni yn dal cipolwg ar sut oedd bywyd yn arfer bod yn yr 1900au cynnar.

"Yn aml, mae cliwiau am orffennol adeilad i’w gweld ar uchder y llawr cyntaf neu’r ail lawr, a hefyd yn null adeiladu a gwneuthuriad yr adeilad. Roedd dod o hyd i'r onglau gorau ar gyfer ffotograff weithiau'n caniatáu i ddarganfyddiadau newydd gael eu gwneud.

"Mae’r Aberystwyth Guide and Souveneir a gyhoeddwyd gan Gorfforaeth Aberystwyth yn 1924 yn cynnwys hysbyseb ar gyfer ‘Siop Melysion ac Arlwywyr Owen’ – y gellir gweld ei leoliad yn y ffotograff uchod. Roedd y siop yn arbenigo mewn cynhyrchu cacennau bach, cacennau ffansi a melysion. Roeddent hefyd yn cynnig darparu bwyd ar gyfer priodasau, brecwastau, ciniawau, derbynfeydd mewn cartrefi, ciniawau, dawnsfeydd, picnic, garddwestau ac ati. Mae amgueddfa Amgueddfa Ceredigion wedi rhannu delwedd o Arlwywyr, Melysion a Chaffi Owen, Aberystwyth ar wefan Casgliad y Werin ac rydym wedi cynnwys hwn yn ein casgliad o gaffis a siopau, Aberystwyth: siopa yn y 1920au a'r 2020au, gan gadarnhau bod 'diwylliant caffi' Aberystwyth yn fyw ac yn iach yn ôl yn y cyfnod Edwardaidd, fel ag y mae heddiw.

"Roedd drafftio testun at gyfer eitem a llwytho'r delweddau yn broses bleserus iawn yn ystod cyfnod clo y gwanwyn diwethaf. Er hynny, wnaethon ni ddim llwyddo i ymgymryd â gwaith ymchwil ychwanegol fel y byddem wedi hoffi ei wneud dan amgylchiadau arferol yn Archifau Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac adeilad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Felly, byddem yn croesawu sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Casgliad y Werin Cymru os ydynt yn gallu darparu hanes ychwanegol i'r lleoedd rydym wedi tynnu lluniau ohonynt.

"Ble nesaf ar gyfer y Prosiect Photoscoot? Mae awdurdodau lleol Cymru wedi gwneud llawer iawn i sicrhau bod trefluniau yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn drwy ddarparu mannau parcio i'r anabl a chyrbiau wedi gollwng ar y ffordd wrth groesfannau. Felly, a bwrw bod popeth yn iawn, a chyn belled ag y bo’r ‘norm newydd’ yn caniatáu hynny, efallai y byddwn yn gallu dod i dref yn agos atoch chi cyn bo hir...”

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau ar ffotograffau Photoscoot, cofrestrwch ar y wefan a gadewch eich sylwadau yn y blwch dan yr eitem. Neu cysylltwch â ni trwy a href="https://facebook.com/casgliadywerincymru" target="_blank"> Facebook neu Twitter.

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd