Mair Griffiths. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Mair ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 14/07/1932. Ffermio oedd ei thad ac roedd Mair yn un o saith o blant. Gwerthodd y teulu'r fferm ar ôl marwolaeth ei thad. Roedd rhai o'i chwiorydd yn gweithio mewn ffatri wnïo. Aeth Mair i'r ysgol yn Llangefni, gan adael yn 16 oed, a chwilio am waith. Gan ei bod hi’n un o saith, roedd yn rhaid iddi gael gwaith, meddai. Eisiau bod yn nyrs yr oedd hi ond roedd yn rhaid aros tan iddi gyrraedd 19 oed. Dysgodd hi i deipio yn y British School tra’i bod hi'n chwilio am swydd a chafodd hi swydd yn y ffatri llaeth, er ei bod hi'n trïo am swydd yn y ffatri wnïo hefyd. Cafodd hi'r swydd ar ôl cael cyfweliad ac roedd hi'n teimlo'n hapus i gael swydd. Yn 1949 yr oedd hyn a dywedodd sut, yn 1966, y diswyddodd ffatri nifer o wragedd priod ac roedd yn rhaid i Fair orffen yn y flwyddyn hon, a oedd yn dipyn o sioc, a chafodd hi ddim iawndal. Yr arfer oedd 'first in last out' ond doedd hyn ddim wedi digwydd yn yr achos hwn. Dim ond dwy o ferched oedd yn gweithio yno ar y pryd, meddai, yn lab, ond roedd merched yn y swyddfa (?). Dysgodd hi sut i brofi llaeth trwy wneud y gwaith. Roedd y berthynas rhwng y gweithwyr yn dda, er bod Mair yn eithaf swil. Roedd merch oedd wedi dechrau'r un diwrnod â hi, yn 22 oed ac achos ei bod hi wedi gwneud swydd arall cyn dod i'r ffatri laeth, ac roedd Mair yn ei gweld hi yn llawer hŷn. £1, 12 a 6 oedd ei chyflog cyntaf ac roedd yn rhoi’r rhan fwyaf ohono i'w mam. Roedd hi'n byw ym Modffordd ac yn mynd i'r ffatri yn Llangefni ar y bws. Ar un adeg roedd yn rhaid iddi weithio shifft nos, a phrynodd hi feic er mwyn cyrraedd y gwaith. Yn y dechrau, roedd hi'n gweithio o naw tan bump, ond doedd hi ddim yn teimlo ei fod o'n diwrnod hir. Roedden nhw’n cael brêc am ddeg, amser cinio, a phaned am dri. Doedd dim cantîn yno ond oedd cwtsh bach lle roedden nhw'n rhoi'u cotiau ac roedd bwrdd yno. Doedd dim tegell yno ac roedden nhw'n cynhesu dŵr ar gyfer paned yn y lab (?). Roedd hi'n mynd â brechdanau i mewn yno ond yn y diwedd roedd cantîn yno. 8.30 Roedd tua chwech o ferched yno pan ddechreuodd hi, pawb yn sengl. Wrth ddisgrifio'r gwaith, dywedodd Mair fod loris yn dod â llaeth yno bob dydd mewn caniau, o'r ffermydd o gwmpas, ac roedd rhaid i ferched y lab brofi'r llaeth; roedd dwy ferch yn gweithio gyda'i gilydd, un i gasglu'r sampl o'r can a'r llall i gymryd enwau'r ffermydd, ac âi’r llaeth i'r lab i'r butterfat gael ei brofi. Roedd y can yn mynd i gael ei dipio mewn i can mawr wedyn. Roedd yn broses o brofi'r sampl - agor y can a throi'r llaeth er mwyn ei arogli; os oedd yn sur, roedd rhywfaint o'r sampl (antibiotic?) yn mynd i mewn i incubator tan y diwrnod wedyn. Roedd yn rhaid i'r can aros tan i ganlyniad y profi suro ddod trwodd ond doedd hynny ddim yn cymryd hir iawn. Os oedd y llaeth yn iawn, roedd yn mynd i mewn i boteli neu’n cael ei yrru i ffwrdd. Os oedd rhywbeth yn bod efo'r llaeth, y diwrnod wedyn byddai'n mynd yn ôl i'r ffermwr a ni fyddai hwnnw’n cael ei dalu, a byddent yn gwylio lori'r ffermwr hwnnw am dri diwrnod wedyn. Ar wahân i fynd yn sur, roedd y merched yn dod o hyd i 'foreign bodies' yn y llaeth - tamaid o gig, curlers pan oedd dynes y fferm wedi cael perm. Byddai’n rhaid iddynt ddeud wrth y ffermwyr bod hyn wedi digwydd trwy alwad ffôn o'r swyddfa. Roedd y ffermwyr yn cael llythyr os oedd y can y rhy ysgafn. Ac os oedd yr un ffermwr yn cael ei laeth yn ôl yn rhy aml, am ei fod yn sur er enghraifft, byddai hwnnw yn cwyno wrth ferched y lab. Ond roedd pawb yn nabod ei gilydd, yn enwedig mewn ardal agos. 17.00 Roedd y merched yn gweithio efo asid i brofi'r butterfat, er eu bod yn gwisgo overalls. Ond roedd Mair yn cofio un hogan oedd dim yn cymryd sylw o'r acid ar ei bys a chafodd hi ?? Ond nad oedd y gweithwyr yn gwisgo'r menig roedden nhw i fod i’w gwisgo, doedden nhw ddim yn gallu reportio pethau felly. Roedd pobl yn torri'r rheolau fel hyn, weithiau, er bod supervisor yn gwylio beth roedden nhw'n ei wneud. Roedd y merched yn gorfod gwisgo wellingtons os oedden nhw'n mynd allan i gasglu'r samplau. Oes nad oedd y sampl yn iawn, roedd y llwyth cyfan yn cael ei brofi'r diwrnod wedyn (?). Roedd y gwaith yn ddiddorol, meddai. Roedd y ffatri yn lân iawn ac roedd llawer o olchi efo dŵr gan y dynion. Roedd y poteli yn cael eu golchi a'i sterileisio a'u rhoi mewn centrifuge a phopty. Roedd Mair yn gwneud yr un swydd trwy gydol yr amser y bu hi yno. Roedd y rheolwyr yn dda iawn, yn enwedig Mr R. Thomas, a fu farw yn ei swyddfa toc ar ôl gorffen gwaith am bump o'r gloch. Roedd tua dwsin o ferched yn y ffatri, rhwng y lab a'r swyddfa, lle roedden nhw'n gwneud pethau fel y cyflog. Roedd llawer o ddynion yno. Roedd y rhan fwyaf yn siarad Cymraeg er bod ambell i Sais. Ond roedden nhw’n Gymry i gyd yn y lab. Aeth ei chyflog i fyny a phan oedd hi'n gadael yn 1966, roedd hi'n ennill £11. 30. Roedd rhai o'r gweithwyr yn mynd i goleg i ddysgu mwy am y gwaith, fel Eirlys a Maggie ac Helen. Doedd Mair ddim yn cael cynnig mynd (na Rosie chwaith VN032). Doedd neb yn meddwl am y ffaith bod rhai yn mynd ac eraill ddim yn cael cyfle. “Oedden ni mewn gwaith a dyna fo.” Doedd Mair ddim yn meddwl llawer am wella ei swydd. Dydy hi ddim yn cofio undeb yno, er bod Rosie wedi son bod undeb gan y dynion ond dim gan y merched. Ar yr adeg pan oedd yn rhaid i Mair gael ei diswyddo, roedd menyw, rheolwraig y swyddfa, yn sgwennu llythyr drosti i'r Brif Swyddfa, ond tasa undeb wedi bod yno i'r merched, efallai gallai hwnnw fod wedi ymladd drosti. Rheswm y diswyddo oedd diffyg llaeth a chafodd dwy o ferched o'r lab ei diswyddo, Mair ac Eirwen, achos roedd y ddwy ohonynt wedi priodi, o leiaf dyna oedd yr ateb a gafodd y ddynes oedd wedi sgwennu drosti i ofyn pam. Doedd dim dewis ganddi ond credu'r rheswm hwn ar y pryd. “Dywedodd wrthi eu bod nhw'n stopio'r gwragedd cyn y last in first out.” Cafodd hi rybudd o bum wythnos. Roedd Mair yn gorfod mynd ar y dôl am £4; cyn hyn roedd merched yn gallu mynd i'r blaen yn y dole queue ond dim yr adeg y bu hi'n arwyddo. Roedd llawer allan o waith ar y pryd ond cafodd hi waith mewn siop dros y gaeaf. 31.00 Roedd dynion y ffatri yn yr undeb, y merched ddim. Doedd dim un o'r merched yn trafod hyn. Chafodd y llythyr roedd Mrs Thomas wedi sgwennu drosti ddim effaith - “yr adeg hynny roeddech chi'n derbyn pob peth.” Roedd Mair wedi priodi yn 1958, dyn a oedd y gyrru lori llaeth yn y ffatri, ond doedd dim plant ganddi. Roedd hi'n ddigalon a dig yn gweithio'r pum wythnos olaf yn y ffatri a wnaeth y merched ddim siarad am y peth gan fod o'n “berygl i ddeud dim byd adeg hynny.” Doedd dim parti ffarwelio ond cafodd hi anrheg oddi wrth y merched eraill. Doedd hi ddim yn gweithio shifft nos am hir ac roedd hynna wedi gorffen erbyn iddi hi briodi. Un tro pan oedd hi'n gweithio ar shifft nos, yn ystod ei brêc o awr, aeth i lawr i ryw glwb yn Llangefni i weld y dawnsio, i weld pwy oedd yno, ac roedd y rheolwr yn aros amdani wrth y drws pan ddychwelodd hi a gofyn iddi lle roedd hi wedi bod, doedd o ddim yn hapus. Doedd dim dewis ganddi ond gwneud y shifft nos yr adeg hynny, meddai, a dydy hi ddim yn cofio os oedd mwy o gyflog am wneud. Ar ôl priodi, doedd hi ddim yn mynd allan llawer, jyst aros yn y tŷ a gwneud gwaith tŷ. Dydy hi ddim yn cofio beth oedd ei gwyliau a doedd y ffatri ddim yn cau am bythefnos yn yr haf achos y godro. Doedden nhw ddim yn cael gwyliau banc chwaith ond roedd 'na wyliau blynyddol. Roedd Mair yn arfer mynd i'r eisteddfod adeg y gwyliau. Yn Llangaffo roedd hi'n byw ar ôl priodi. Yn 1958, aeth hi ar daith i Bourneville gyda'r cwmni, pan oedd y ffatri yn nwylo Cadbury's. Hyd: 40 munud http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN040.2.pdf
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment