Rhan 4 – Rhai teuluoedd lleol a digwyddiadau

Eitemau yn y stori hon:

ARCARI (Anita Arcari)
Rwyf yn gyn-ddarlithydd cyfrifiadureg ac yn awdur nofelau a ysbrydolwyd gan fy nhreftadaeth deuluol. Rwy'n falch iawn o fy mod yn gynnyrch (un o saith mewn gwirionedd!) o dad Eidalaidd a mam Gymreig. Rwy'n teimlo'n freintiedig o fod wedi cael profiad o ddiwylliant yr Eidal a'r diwylliant Cymraeg drosof fi fy hun! Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe wnes i gyfarfod unwaith eto â'm ffrind gorau o'r ysgol gynradd ar ôl blynyddoedd lawer. Gofynnodd a oeddwn i erioed wedi sylwi ei bod bob amser yn galw heibio ein tŷ ni tua'r adeg pan oeddem yn cael ein pryd nos. A naddo, doeddwn i ddim. Ond aeth yn ei blaen i egluro fel y byddai wrth ei bodd yn cael dod i ’nghartref, nid yn unig oherwydd ei bod yn gwybod y byddai'n cael ei gwahodd i ymuno â ni, ond oherwydd ei bod hi'n mwynhau gweld a bwyta'r gwahanol fathau o fwydydd nad oedd hi erioed wedi eu gweld o'r blaen.

Rwyf wedi teimlo erioed bod gan bobl o’r Eidal a phobl Cymru gymaint yn gyffredin; o ran diwylliant – eu cariad tuag at gerddoriaeth a chelf – a chynhesrwydd eu personoliaeth a ' joie de vivre ' sy'n anodd dod o hyd iddo mewn mannau eraill. Roedd fy nhad ac un o fy mrodyr yn gallu chwarae’r piano a'r accordion yn dda iawn, ac roedd fy modrybedd yn chwarae'r mandolin. Mae ein rhanbarth ni yn yr Eidal, Picinisco, yn enwog am ei zampogne, offeryn tebyg iawn i bagpipes, ac un sydd i’w glywed yno o hyd heddiw. Daeth yr Eidalwyr i'r DU i chwilio am waith, i ddechrau i ardaloedd Dover a Llundain, ac oddi yma fe symudodd llawer ohonynt yn ddiweddarach i Gymru a'r Alban. Gwaith tymhorol oedd hwn i ddechrau arni – mewn bandiau cerddorol, yn gwerthu melysion (hufen iâ yn bennaf), cnau casten poeth a thatws. Ond yn ddiweddarach, caent eu denu gan y diwydiant lleol a'r cyfle i sefydlu eu busnesau eu hunain, fel arfer mewn caffis, parlyrau hufen iâ a siopau pysgod a sglodion.

Nid yw'n syndod felly canfod, yn ystod y mewnlifiad mawr o Eidalwyr i Gymru ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed canrif, ac yn ddiweddarach yn ystod y 1950au, iddynt gael eu croesawu a'u cynnwys mewn cymunedau yng nghymoedd a threfi Cymru, lle bu i lawer ohonynt fwrw gwreiddiau cadarn a lle mae eu disgynyddion yn aros hyd yn oed heddiw. Does ryfedd felly, bod y cyfeirlyfr ffôn yn frith o enwau cerddorol a digamsyniol o’r Eidal – Arcari, Pelosi, Demarco, Grilli, D'Ambrosio, Cascarini, Valerio, Capaldi, Zanetti, Avo, Greco i enwi dim ond rhai. Mae llawer o'r rhain i’w gweld yn fy nghoeden deuluol i dro ar ôl tro.

Mae'r rhan fwyaf o'r teuluoedd yn ardal Picinisco yn gysylltiedig â’i gilydd. Dyw hyn ddim yn syndod, gyda chronfa genynnau bach iawn o tua 1200. Yn wir, mae'r cofnod cyntaf am fy nheulu i, yr Arcaris, yng nghofrestri plwyf yr Eidal, gyda phriodas rhwng Arcari a Pelosi ar ddiwedd y 1500au. Bu llawer o briodasau o'r fath rhwng y teuluoedd ers hynny, ac ar ymweliad â chartref y teulu ym 2009 fe ddarganfyddon ni fod fferm Arcari, a adeiladwyd yn 1604, yn y cae nesaf i gartref teulu’r Pelosi. Bedair canrif yn ddiweddarach, mae Paulette Pelosi a minnau'n dal yn ffrindiau agos yma yn ne Cymru, ac yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ein gilydd.

Agorodd yr Arcaris eu caffi cyntaf yng Nghymru yn 77 Woodfield Street, Treforys, ar ddechrau'r 1900au, ar ôl ymgartrefu yn y lle cyntaf yng Nghaint. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Stryd Fawr Abertawe, lle'r oedd ganddynt gaffi yn union gyferbyn â'r Pictoriwm, a enwyd yn ddiweddarach yn Palace Theatre; mae’r adeilad bellach yn aros am i waith adnewyddu mawr gael ei wneud arno gan y cyngor lleol.

POMPAS – Treforys ac Abertawe (Diolch i Dominic Byrne)
Roedd Nascenza Pompa yn chwaer i Sabbatino Arcari. Daeth y Pompas i Gymru a Threforys ddiwedd y 1800au gan agor eu caffi yn Morriston Cross, Treforys, Abertawe. Roeddent hefyd yn berchen ar ail gaffi ar gornel Heol Santes Helen a Dillwyn Street, yn agos i ddau gaffi Eidalaidd arall yn Dillwyn Street, Macaris (siop pysgod a sglodion) ac yn ddiweddarach Pelosis. Bu farw Ferdinando Pompa, gŵr Nascenza, yn drasig adeg trychineb yr ' Arandora Star ' yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

GRECO’S (Diolch i Paul Greco)
Roedd caffi Eidalaidd adnabyddus arall yn Nhreforys yn eiddo i deulu'r Greco. Yn yr Hafod roedd y caffi cyntaf roedd Angelo Greco yn berchen arno, a ddilynwyd ef yn ddiweddarach gan eraill yn St Thomas, Abertawe ger y dociau, un arall ar y Stryd Fawr a dau yn Nhreforys.

Roedd Angelo yn byw yn ardal Arpino yn yr Eidal, gyda'i fam, dad, brawd, a dwy chwaer. Bu farw ei fam ac ymhen amser priododd ei dad gyda gweddw a chanddi ddwy ferch ei hun; daeth yn amlwg ei bod yn nodweddiadol o lysfam gas yn ei hymddygiad tuag at Angelo a’i brawd – hynny pan oedd dal yn ei arddegau. Penderfynodd ddianc i Gymru, gan ddweud wrth ei frawd a'i chwiorydd y byddai'n gwneud ei ffortiwn ac yn anfon amdanynt. Cyrhaeddodd yma gyda dim byd mwy na'r dillad ar ei gefn, ac ychydig o ryseitiau ar gyfer gwneud bara a chacen a rysáit ar gyfer hufen iâ! Dechreuodd wneud bara a chacennau a'u gwerthu i siopau eraill oddi ar hambwrdd, gan gerdded y strydoedd. Cafodd afael ar feic tair olwyn iddo’i hun hefyd, ac yn ôl y papur newydd lleol byddai’n ei ddefnyddio werthu ei hufen iâ!

Rhoddodd Angelo un o gaffis Treforys i'w frawd, Benedetto a'r llall i'w fab, Ernesto. Ernie a'i wraig Matilda, ac yna eu mab, John, yw’r rhai y byddai'r rhan fwyaf o bobl Dreforys nawr yn eu cofio. Paul yw ŵyr Ernie.

BLYNYDDOEDD Y RHYFEL
Yn ystod y Rhyfel, fe wnaeth rhai anghofio am lawer o garedigrwydd a haelioni’r Eidalwyr yn anffodus. Byddai dyfodol llawer o berchnogion caffi'r Eidal yn cael ei gysylltu'n anorfod gan y digwyddiadau a ddechreuodd ddatblygu. Pan ymunodd yr Eidal â’r Rhyfel yn 1940, datganodd Churchill mai ‘enemy aliens’ oedd holl drigolion yr Eidal yn y DU a bu adwaith yn syth i hyn.

CASGARINIS YN YSTOD Y RHYFEL – GALW ENWAU (Diolch i Paul GRECO a Mr Zanetti)
Roedd caffi Cascarini, ger Gorsaf High Street, yn un o'r rhai gafodd ei ymsod arno gan dorf wnaeth falu ffenestri, dwyn o’r eiddo, a chwalu’r tu mewn. Achubwyd eu hail gaffi, ym Mhorth Tennant, rhag tynged debyg gan grŵp o weithwyr o’r dociau a safodd o flaen y caffi, a rhwystro’r giwed oedd wedi dod yno. Ymgasglodd grŵp o tua 200 y tu allan i gaffi Segadelli ar Heol Caerfyrddin, lle gorfodwyd yr heddlu i ddefnyddio pastynau er mwyn atal rhagor o ddwyn a difrodi.

Ymosodwyd ar gaffis Angelo Greco a Giuseppe Pelosi yn ogystal ac fe wnaeth llawer o bobl eraill ddioddef oherwydd ymosodiadau corfforol a geiriol. Atafaelwyd caffis ac eiddo erill, megis Zanetti's, gan yr awdurdodau. Cafodd y ddau riant eu tynnu mewn i gael eu holi. Roedd y fam bron mynd o’i cho’ gan fod ganddi ddau o blant ifanc, bachgen a merch. Llwyddodd, rhywsut, i gael neges i gyfreithiwr y teulu, a drefnodd i’r plant fynd i gwfaint St Joseph (sydd bellach yn westy) er mwyn iddynt gael eu cadw'n ddiogel, ac yno y buont am weddill y Rhyfel. Rhyddhawyd Mrs Zanetti ond treuliodd weddill y Rhyfel yn lletya yn Rhodfa Sain Helen, gan fod y caffi teuluol a'r cartref wedi cael eu hatafaelu gan yr awdurdodau. Cafodd Mr Zanetti ei gaethiwo, ac yn anffodus collodd ei fywyd yn ystod trasiedi yr Arandora Star.

CAETHIWO A CHARCHARU
Roedd yn ddealladwy bod yna bryderon mawr ynghylch y ffaith y gallai fod cefnogwyr Mussolini ymhlith yr Eidalwyr, ond roedd y mesurau a gymerwyd gan y Llywodraeth yn hynod o llym serch hynny. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yr Eidal wedi byw yn y DU ers blynyddoedd ac yma roedd eu catrtref, gyda llawer wedi cymryd dinasyddiaeth Brydeinig; ychydig iawn o gefnogaeth oedd yna i Mussolini, nac unrhyw ddiddordeb yn ei ymwneud ef yn y Rhyfel. Aeth nifer fawr ymlaen i wasanaethu gyda lluoedd Prydain.

Rhoddwyd y gorchymyn i bob gwryw Eidalaidd rhwng 16 – 70 oed i gael eu dwyn i mewn i gael eu holi yn y lle cyntaf. Nid oedd menywod wedi'u heithrio rhag hyn ychwaith, a chafodd llawer eu harestio. Er gwaethaf eu protestiadau nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn ffasgiaeth na Mussolini, cawsant eu casglu ynghyd, llawer ohonynt am 3yb, ac fe'u cymerwyd i mewn i'w holi yn y lle cyntaf; yn ddiweddarach cawsant eu trosglwyddo i wersylloedd trosglwyddo – megis hen felinau budr – cyn iddynt gael eu halltudio i Ganada, Awstralia neu Ynys Manaw. Rhyddhawyd rhai yn ddiweddarach, ond bu'n rhaid iddynt hysbysu'r heddlu'n rheolaidd o'u symudiadau ac ni chaniatawyd iddynt y tu allan i'r ardal heb ganiatâd arbennig.

ARANDORA STAR
Llong bleser foethus gafodd ei haddasu at bwrpas Rhyfel oedd yr Arandora Star; fe’i hadeiladwyd yn 1927 gan Cammel Laird, ar gyfer mordaith i Ganada o Lerpwl. Nid oedd unrhyw beth i nodi mai llong sifil oedd hon – nid oedd y groes goch yn cael ei harddangos, ac fe'i paentiwyd yn lliw llwyd ‘llong rhyfel’, lle roedd tair gwaith yn fwy o deithwyr arni nag mewn amser heddwch. Câi llawer eu gorfodi i gadw o dan y deciau, ac roedd weiren bigog o gwmpas y rheiliau; doedd yna ychwaith ddim digon o gychod achub ar gyfer y niferoedd o deithwyr oedd ar fwrdd y llong. Roedd hi'n hwylio o Lerpwl ac yn gynnar fore drannoeth, a hithau oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon cafodd ei tharo gan dorpedo gan long-U Almaenig.

Cafodd 486 o Eidalwyr eu boddi, yn cynnwys Ferdinando Pompa, Francesco D’ Ambrosio ac Antonio Zanetti. Cafodd eraill fel Angelo Greco a Giuseppe Pelosi, eu gorfodi i barhau â'u taith dim ond dyddiau'n ddiweddarach, a hynny ar fwrdd y Dunera, er bod y digwyddiadau wedi eu sigo. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Gymru, gwrthododd llawer ohonynt siarad am eu profiadau weddill eu hoes. Ar 3 Gorffennaf 2010, dadorchuddiwyd cofeb Gymraeg barhaol iddynt yn yr Eglwys Gadeiriol yng Nghaerdydd.

AR ÔL Y RHYFEL
Pan ddychwelodd y carcharorion adref i Gymru, buan y gwnaethant sylweddoli bod yn rhaid iddynt ddechrau o'r dechrau eto. Fe wnaeth rhai ailadeiladu eu busnesau, ond doedd eraill ddim yn gallu wynebu dechrau o'r newydd ac felly doedd dim amdani ond edrych am waith arall.Ond beth bynnag fo’r achos, un peth nad oedd unrhyw amheuaeth yn ei gylch oedd y ffaith eu bod yn ystyried mai yma yng Nghymu roedd eu cartref.

Bu gwersyll y carcharorion rhyfel yn Henllan ger Castellnewydd Emlyn yn gartref i garcharorion rhyfel Eidalaidd – ac mae honno yn stori arall ynddi ei hun. Yn eu hachos nhw, dychwelodd rhai i'r Eidal, ond roedd ambell un wedi cwrdd â merch leol ac yn caru'r ardal gymaint fel eu bod wedi penderfynu aros. Erbyn hyn, mae gan ddisgynyddion un o’r carchrorion hyn fwyty llwyddiannus, 'La Calabria', ger Henllan.

1950'AU YMLAEN
Daeth y degawd hwn â mewnlifiad ffres o ymfudwyr Eidalaidd, a oedd yn bennaf yn chwilio am waith, a hynny ar gyfnod pan oedd y Llywodraeth yn rhedeg ymgyrchoedd recriwtio er mwyn ceisio denu rhai o dramor i lafurio. Roedd y pyllau glo a'r gwaith dur ledled y DU yn atyniad mawr ac yn cynnwys y gwaith dur ym Margam, y diwydiant glo a diwydiannau eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, dilynodd llawer ohonynt yn ôl troed eu cyndeidiau entrepreneuraidd a dechrau eu busnesau eu hunain, yn bennaf siopau pysgod a sglodion, bwytai, parlyrau hufen iâ a chaffis espresso cyfarwydd, gyda pheiriannau coffi hisian, pasteiod poeth a'r jiwcbocs hollbresennol.

Ysgrifennwyd gan Anita Arcari, ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, Chwefror 2020.