arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Rhan 1 – Cyflwyniad, y Cymry-Eidalaidd a Mewnfudo

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Teulu Arcari, Abertawe

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Teulu Macari, Abertawe

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Ernie a Matilda Greco Woodfield St Café, Abertawe

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Teuluoedd Greco ac Avo

Y Cymry Eidalaidd; Mewnfudo
Ymfudo. Beth mae'n ei olygu i chi? Ymadawiad trawmatig i rai a ddadleolwyd o wledydd wedi eu rhwygo gan ryfel? Neu efallai addewid o obaith a chyfle i'r rhai sydd wedi byw mewn tlodi enbyd ddianc rhag afiechyd a thrychineb naturiol? Neu rywbeth arall? Nid ffenomen ddiweddar yw ymfudo. Mae symudiad pobl rhwng gwledydd, boed dros dro neu'n barhaol, wedi boddoli er erioed. Mae'r DU yn ynys sy'n frith o borthladdoedd sydd wedi darparu'r gefnlen berffaith ar gyfer masnachu rhyngwladol dros y canrifoedd, gan fewnforio ac allforio bwyd, sidan, grawn ar gyfer blawd, mwynau i'w toddi ac amryw byd o bethau eraill, gan annog pobl o bob gwlad i ymweld â'n glannau.

Ac eto, i mi, mae gan y gair ‘mudo’ arwyddocâd llawer dyfnach. Cyrhaeddodd fy nheulu yma yn y DU o'r Eidal yn yr1800au hwyr gan ymgartrefu yma yn barhaol wedi blynyddoedd lawer o ymweliadau ar gyfer masnachu tymhorol. Daeth yr Eidalwyr yma mewn niferoedd bach iawn ar y dechrau, gan droi eu llaw yn aml a gwneud hufen iâ yn yr haf neu gynnig cnau casten a thatws poeth, neu chwarae'r organ gasgen, yn y gaeaf. Byddai rhai yn gwneud ffigurynnau ac yn eu gwerthu wedyn. Cafwyd ymateb cymysg i ddyfodiad yr Eidalwyr. Ystyriai rhai hwy yn chwareus egsotig ac yn gwmni hynod ddifyr, tra byddai eraill yn cyfeirio atynt fel 'dirty ruffians ' a ' Eye-ties'. Mae’n debyg nad oedd Charles Babbage, y mathemategydd a 'Tad Cyfrifiadureg', yn gallu goddef y cerddorion yn eu plith; dywedir iddo agor ffenest ei ystafell wely gan eu ffieiddio, a chan wagio cynnwys ei bot siambr gorlawn dros un cerddor diniwed a wnaeth y penderfyniad annoeth o osod ei organ gasgen yn union oddi tano!

Cyrhaeddodd ymfudwyr o bob cwr o'r Eidal i’r DU ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, ond roedd y rhai a ddaeth i Gymru yn hannu yn bennaf o ddwy ardal wahanol: Bardi yn rhan ogleddol yr Eidal (y Bardigiani) ac un ardal arall arwyddocaol ond sy’n aml yn cael ei hanwybyddu, sef Picinisco, ardal fynyddig ychydig mwy deheuol, sy’n cynnwys clwstwr o bentrefannau ger Cassino, yn rhanbarth Mezzogiorno yn yr Eidal. Pan rwy’n dweud ‘anwybyddu’ rwy’n cyfeirio yn bennaf at ddiffyg cydnabyddiaeth llwyr a pharhaus o grŵp y Piciniscani mewn adroddiadau yn y cyfryngau am yr Eidalwyr Cymru, gan gynnwys erthyglau ysgrifenedig, rhaglenni teledu a rhaglenni teledu a rhaglenni dogfen, yn ogystal â mewn adroddiadau newyddion ac arddangosfeydd. Y methiant llwyr hwn i gydnabod y grŵp yma sydd wedi arwain at sefydlu a lledaenu’r myth (i aralleirio Carlo Levi, bod 'Crist wedi stopio yn Eboli') bod yr Eidal yn stopio yn Bardi. Na, dyw e wir ddim!

Mae'n debyg bod defnyddio ymadroddion fel 'mae bron y cyfan' neu 'y mwyafrif' o’r Cymry-Eidalaidd wedi dod o Bardi yn esgusodi'r cyfryngau o’u methiant i ymchwilio ac i gyflwyno gwybodaeth gywir a gwir a ddylai gwmpasu pob ardal o bwys yn yr Eidal, ac felly mae'r camsyniad hwn yn parhau. Mae hyd yn oed ein hamgueddfeydd lleol yn euog. Y ddwy ohonyn nhw! Mae'r un wybodaeth anghywir yn cael ei harddangos ar hysbysfyrddau ac arddangosfeydd, ac er gwaethaf ein holl ymdrechion dros sawl blwyddyn, nid yw dal wedi cael ei newid. Mae'r rhai ohonom sydd â’n treftadaeth a’n calonnau yn ddwfn yn ardal Picinisco ac ardaloedd deheuol eraill yn ystyried hyn yn sarhaus, yn dorcalonnus ac yn ddiraddiol.

Y gwir amdani yw bod y Bardigiani wir yn rhan o grŵp mawr a phwysig iawn o Eidalwyr y mae eu teuluoedd i’w canfod o hyd yng Nghasnewydd a’r ardal o amglylch, yng Nghaerdydd a'r Cymoedd, ac y mae rhai ohonynt yn gyfeillion personol i mi. Nid beirniadaeth ohonynt hwy yw fy sylwadau mewn unrhyw ffordd, ond yn hytrach ar newyddiaduraeth ddiog sy'n edrych dim pellach na’r hyn sy’n gwbl amlwg. Mae angen iddynt deithio ymhellach i'r gorllewin, lle’r ymsefydlodd mintai fawr o Piciniscani ac eraill o ardaloedd mwy deheuol yr Eidal – yn enwedig i Abertawe a'r cyffiniau. Yn wir, un o deuluoedd Piciniscani enwocaf yn ne Cymru yw'r Cascarinis, a sefydlodd hufen iâ Joe's ac sy'n dal i fynd ar ôl 100 o flynyddoedd. Felly gadewch i ni beidio ag anghofio hynny a rhoi iddynt y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Er gwaethaf ymdrechion y cyfyngau, allan nhw ddim newid hanes!

Gwreiddiau

Clwstwr o bentrefi bach yw Picinisco sydd â phoblogaeth o tua 1200, ac sy’n swatio'n ddiddos yn rhanbarth fynyddig Mezzogiorno, hanner ffordd rhwng Rhufain a Naples. Maent yn eistedd yn yr union fan lle mae rhanbarthau anhygoel o hardd Lazio, Molise ac Abruzzo yn cwrdd. Contadini tlawd neu ffermwyr oedd y Piciniscani yn bennaf. Roedden nhw’n llwgu yn aml, a doedd dim llawer o waith yn unman, heblaw am waith ar y tir, ac felly roedd ganddyn nhw ddyhead gwirioneddol i wella eu bywydau. Yn gyffredinol, roedden nhw’n bobl hardd iawn, i'r fath raddau bod artistiaid adnabyddus yn cynnig gwaith fel modelau iddynt dramor. Yn wir, yn ôl un hanesyn teuluol roedd cefnder pell wedi modelu ar gyfer y cerflun o Eros yn Piccadilly. Aent adref gydag arian yn eu pocedi a hanesion am ddigonedd a chyfoeth yn y mannau pellennig hyn, gan annog eraill i drio eu lwc. Byddai llawer yn cerdded y daith yma, neu’n neidio ar gerfn cert, gan gadw’r ychydig o arian oedd ganddynt ar gyfer y daith dros y môr. Weithiau, byddai’n rhaid iddynt gysgu mewn ysguboriau neu o dan perthi er mwyn cysgodi. Ac eto dychwelai’r ymfudwyr cyntaf hyn i'w cartrefi gyda mwy o arian nag y gallent fyth fod wedi breuddwydio amdano, gan adrodd hanesion am eu hanturiaethau. Yn fuan, aeth mwy i’w dilyn, gan adael eu cartrefi yn y mynydd-dir i geisio eu ffortiwn yng 'Ngwlad yr Addewid lle’r oedd strydoedd a'u palmantau aur'. Un peth oedd ganddynt yn gyffredin, er hynny, oedd eu hysbryd anorchfygol o anturus, a'u hewyllys penderfynol i wella eu hunain. O gyplysu hyn ag entrepreneuriaeth gynhenid, dyna greu cyfuniad grymus iawn yn wir.

Cychwynnodd fy mam-gu a nhad-cu, fel sawl un arall wnaeth ymgartrefu yng Nghymru yn ddiweddarach, gyda chert llaw yn gwerthu hufen iâ yn Whitstable Sands, tra bod eraill wedi agor siopau pysgod a sglodion, gan wasgaru ar draws y wlad i gyd. Cyn gynted ag y gallent fforddio gwneud hynny, symudodd fy mam-gu a nhad-cu i Ferthyr am gyfnod byr iawn ac yna'n ddiweddarach, i Abertawe er mwyn bod yn nes at eu perthnasau Pompa a oedd eisoes wedi sefydlu caffis llwyddiannus. Ymhen fawr o dro roedden nhw wedi agor eu caffi eu hunain yn agos at eu perthnasau, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaethant agor caffi mwy yn agos at yr orsaf drenau yn Abertawe, gyferbyn â'r theatr ar High Street. Dyma fan cychwyn agor parlyrau hufen ia a chaffis niferus yn yr ardal – rhywbeth y mae gan nifer o bobl atgofion hoff ohonynt. Y caffis hynny lle roedd pawb yn argyhoeddedig bod y perchnogion yn ffraeo wrth iddynt weiddi ar ei gilydd, tra mewn gwirionedd, dyma sut roedden nhw bob amser yn siarad – gydag arddeliad ac awch mawr am fywyd; dyma hefyd lle roedd arogl ffa coffi yn codi o beiriant arian anferth, gydag eryr a rei ben, a lle byddai pibell boeth sgleiniog y dod â chwmwl o stêm ar ben pastai gig nes i’r grefi orlifo dros yr ochrau. Dyma'r adeg pan fu i’r genedl groesawu’r Eidalwyr i’w calonnau. Tan i ryfel ymyrryd.
Yn 1940, fe wnaeth araith 'collar the lot' Churchill gychwyn ar gyfod o gipio a charcharu a thros nos, daeth pob Eidalwr yn elyn – Eidalwyr oedd wedi byw yma am ddeugain mlynedd a mwy, eu plant, a oedd wedi dod drosodd yma yn fabanod, rhai oedd wedi cael eu geni yma, a hyd yn oed rhai oedd â’u meibion yn gwasanaethu ym Myddin Prydain – roedden nhw i gyd yn cael eu trin fel estroniaid dan amheuaeth. Buan iawn y daeth ochr hyll cymdeithas i’r wyneb. Cafodd nifer o Eidalwyr eu cam-drin yn eiriol ac yn gorfforol, tra cai ffenestri eu siopau eu chwalu, a thu mewn i’w busnesau a’u heiddo eu dinistrio. Arestiwyd llawer o Eidalwyr ar orchymyn y Llywodraeth, a hynny gan ddefnyddio nerth bôn braich yn aml. Fe’u hanfonwyd i wersylloedd pellennig nad oedd gan eu teuluoedd unrhyw syniad o'u lleoliad. Yn drist iawn, boddwyd bron i 500 o garcharorion Eidalaidd ar yr Arandora Star (roedd dros 700 ar ei bwrdd gyda’i gilydd), wedi iddi gael ei tharo gan dorpedo ei thaith i Ganada.

Yna, yn yr 1950au, daeth newid eto. Yn sgil ymgyrch recriwtio gan Lywodraeth y DU yn annog Eidalwyr ifanc i ddod yma i weithio, daeth mewnlifiad newydd o weithwyr mudol yr oedd gwirioneddol eu hangen. Dechreuodd cylch newydd o fudo Eidalaidd ac unwaith eto, ffynnodd y caffis.

Ysgrifennwyd gan Anita Arcari, ar gyfer Casgliad y Werin Cymru Chwefror 2020

Darllenwch Rhan 2 yma: www.casgliadywerin.cymru/story/1364836

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw