Rhan 3 – Trychineb yr Arandora Star

Eitemau yn y stori hon:

Ers blynyddoedd lawer, mae pobl yr Eidal wedi ymgartrefu yn Abertawe ac yn rhannau eraill o Gymru. Mae hanes o ymfudo o’r Eidal wedi bod erioed, ac mae hynny wedi digwydd yn gyson mewn niferoedd gweddol fychan fel arfer, ond ar adegau eraill, mewn tonnau mwy sylweddol. Bu dau gyfnod pwysig o fewnfudo i Gymru o'r Eidal o fewn y 100 mlynedd diwethaf fwy neu lai: y cyntaf oedd ar ddiwedd y 1800au, pan oedd tlodi a mentergarwch cynhenid yn annogaeth i lawer o Eidalwyr ifanc roi cynnig ar wneud eu ffortiwn dramor; roedd yr ail gyfnod yn y 1950au, a bydd llawer yn cofio am siopau coffi, Lambrettas a Vespas, yr olaf yn llawn dynion ifanc egsotig iawn, a hardd iawn yr olwg fel pe baen nhw wedi ymddangos dros nos. Unwaith eto, yr angen am gyflogaeth oedd yn gyrru hyn, ac ar y pryd, yr oedd y diwydiant glo a metal a diwydiannau eraill yn y de oedd yn ffynnu, yn fwy na hapus i'w derbyn. Yn ystod y cyfnod cynharaf y bu i fy hen fodryb Nasceza a hen ewythr Ferdinando Pompa adael eu cartref hardd ond anghysbell rhyw 3000 troedfedd i fyny ym mryniau deheuol yr Eidal i ddod i Gymru, ac fe’u dilynwyd hwy ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gan fy mam-gu a tad-cu, yr Arcaris. Daeth y Cascarinis, Pelosis, Demarcos, Grillis, D'Ambrosios, Valerios, Avos, Grecos a llawer o enwau adnabyddus eraill Abertawe yma tua'r adeg honno o'r un ardal gyffredinol a thu hwnt. Cyn hyn, ymgartrefodd llawer am gyfnod byr yn ardal Caint, ond nid af i fanylu ar hynny, gan fod honno yn stori wahanol, ag iddi ei phwysigrwydd ei hun. Fe wnaeth y rhan fwyaf o Eidalwyr y cyfnod hwnnw, gan gynnwys y Pompas a'r Arcaris, agor caffis a pharlyrau hufen iâ, neu siopau pysgod a sglodion. Gwelsant fwlch yn y farchnad ac fe wnaethant achub ar y cyfle. Agorodd y Pompas eu caffi ar groes Treforys a dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, agorodd fy fam-gu a tad-cu eu caffi hwy ar Stryd Woodfield, gan symud yn nes ymlaen i adeiladau eraill gyferbyn â'r Palace Theatre Abertawe yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd gan yr Eidalwyr le arbennig yng nghalonnau'r Cymry, a daeth y caffis yn llefydd cyfarfod poblogaidd ac yn fan cychwyn sawl carwriaeth. Yr wyf wedi teimlo'n freintiedig erioed o gael dod o gefndir gydag un rhiant Cymraeg a'r Eidaleg arall. Rwyf wastad yn dweud bod gen i’r gorau o'r ddau fyd. Roedd yn ymddangos yn anochel y byddai’r Cymry a’r Eidalwyr o bob ardal yn cyd-dynnu'n dda – a hwythau gyda chymaint yn gyffredin, o safbwynt tirwedd y ddwy wlad, yn fryniau, mynyddoedd a dyffrynnoedd, cariad y bobl at gerddoriaeth a chelf, eu pwyslais ar y teulu a chynhesrwydd a’u cyfeillgarwch cynhenid. Fe wnaeth pobl Abertawe groesawu fy nheulu ac, yn eu tro, fe wnaethant hwythau eu gorau i ymdoddi i’r gymdeithas ac i ddysgu ieithoedd Cymru. Fodd bynnag, er bod yr Eidalwyr yn caru eu gwlad fabwysiedig, roeddent yn dal i deimlo ' lontananza’, gair sy'n debyg o ran ystyr i 'hiraeth'; y poen yna ym mhwll eich stumog, pan mae rhywun yn meddwl am ei famwlad, poen sydd byth yn eich gadael. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, byddent yn aml yn cyfarfod â'u cyfoedion Eidalaidd i chwarae cardiau, neu i sgwrsio am eu mamwlad ar ddiwedd diwrnod gwaith a fyddai, fel arfer yn hir a chaled. Byddai rhai yn ffurfio bandiau –death fy nhad a dau ewythr i mi yn ddiweddarach yn aelodau o fand acordion gyda Len Demarco (teulu hufen iâ lleol arall gan Picinisco) a'i frawd – a byddent ynn chwarae cerddoriaeth i ddiddanu eu hunain ac eraill. Ond yn y cyfamser, yn yr Eidal, roedd seren Mussolini yn codi. Galwodd yr ymfudwyr Eidalwr Eidalaidd yn ' Eidalwr tramor ', gan awgrymu er eu bod yn byw ymhell i ffwrdd, ei fod yn dal i'w gwerthfawrogi fel Eidalwyr. Ariannodd ysgolion iaith drwy'r DU, lle gallai plant teuluoedd Eidalwyr fynd i ddysgu'r iaith Eidaleg; Trefnodd i'r plant hyn fynd i ysgolion haf yn yr Eidal, i ddysgu am y wlad a'i threftadaeth; rhoddodd arian i sefydlu clybiau, lle gallai'r Eidalwyr gyfarfod a chymdeithasu. Roedd hyn oll yn ddigon diniwed ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach, daeth arwyddocâd llawer mwy sinistr a chanlyniadau trasig i hyn. Pan dorrodd y Rhyfel yn 1939, arhosodd yr Eidal yn niwtral. Roedd Mussolini yn aros i weld sut oedd pethau yn mynd yn eu blaen cyn y byddai'n chwarae hap gyda bywydau eraill. Fodd bynnag, pan roedd hi’n ymddangos fel pe bai Hitler yn chwalu ei ffordd drwy Ewrop, yn ddiwrthwynebiad yn ôl pob golwg, ym mis Mehefin 1940 penderfynodd Mussolini ei bod yn bryd i'r Eidal ddangos teyrngarwch i'r Almaen. Fe wnaeth y datganiad o fwriad hwn gan Mussolini ysgogi ymateb ar unwaith gan y Llywodraeth, a ddatganodd bod yr holl Eidalwyr yn y DU yn 'estroniaid gelyn' yr oedd yn rhaid eu hatal, gan gynnwys wrth gwrs y boblogaeth fawr yn Abertawe; daeth gorchymyn gan Churchill: am garcharu pob un: 'Coler the lot!'. Bu’n rhaid i bob gwryw Eidalaidd rhwng 16 a 70 oed gael ei arestio, ei gwestiynu a'i gaethiwo. Cafodd sawl un oedd y tu allan i'r ystod oedran hwn ei arestio yn ogystal gydag adroddiadau am blant mor ifanc â phedair ar ddeg yn cael eu cipio, os nad oedd dogfennaeth ar gael. (Noder: Mae rhywfaint o anghydfod am yr ystod oedran yma a chan fod cymaint o ddryswch ar y pryd, roedd hwn yn dal i newid.) Daeth ffrindiau yn elynion dros nos. Roedd aelodau o’r Heddlu a oedd wedi arfer cael coffi a sgwrs yn rheolaidd gyda pherchnogion caffis Eidalaidd bellach yn cael y dasg o'u harestio. Roedd llawer yn cydymdeimlo â hwy, gan sylweddoli mai dim ond perchnogion siopau syml oeddynt, ac nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth heb sôn am wrthdaro a rhyfel Mussolini; ac eto yr oedd eraill yn trin yr Eidalwyr hyn â dirmyg, ac yn ymosodol yn gorfforol tuag atynt, gan eu llusgo o'u gwelyau a'u cartrefi, o flaen eu gwragedd a'u plant. Am wythnosau lawer, nid oedd y teuluoedd yn gwybod ble roedd eu dynion na beth oedd wedi digwydd iddynt. Ychydig iawn oedd yn cael ei ryddhau drwy ddulliau swyddogol ac yn y cyfamser, mewn llawer o achosion, roedd bywydau'r teuluoedd eu gwneud yn waeth byth gan y gangiau a oedd yn eu brawychu ac yn eu galw’n ' fradwyr ', cyn mynd ymlaen i chwalu ffenestri eu siopau ac wedi hynny chwalu'r siopau pan oeddent wedi cael mynediad iddynt. Dywedir bod gang o'r fath yn barod i ddinistrio siop Miss Cascarini ar Fabian Street, ond ond bod criw o weithwyr o’r dociau wedi mynnu sefyll o flaen ei siop i'w gwarchod rhag y dihirod. Yn aml, erbyn i’r teuluoedd ddod i wybod ble roedd eu hanwyliaid, roedd hi'n rhy hwyr. Roedd llawer o'r carcharorion eisoes wedi'u cymryd i Huyton, ger Lerpwl, yn barod i gael eu trosglwyddo i longau a fyddai'n mynd â nhw i wersylloedd yn Ynys Manaw, Canada neu Awstralia. Gorfodwyd hwy i fartsio am filltiroedd lawer, ac yna cawsant eu cadw mewn amodau dychrynllyd mewn hen warysau afiach. Doedd ganddynt ddim dillad glân i newid iddynt ac roedd y warysau yn ddifrifol o orlawn; yn aml gorfodwyd hwy i gysgu ar loriau concrit, ac os oeddent yn lwcus, byddai matres denau wedi ei wneud o hen sachau wedi'i stwffio â gwellt, wedi'i osod ar lawr oedd wedi’i orchuddio ag olew lle'r oedd y llygod mawr yn dod allan yn y nos yn chwilio am ddarnau o fwyd. Nid oedd cyfleusterau tŷ bach – roedd yn rhaid i'r dynion ddefnyddio bwcedi – nac ymolchi. Roedd bwyd hefyd yn dila iawn felly nid yw'n syndod bod llawer o'r dynion hyn – gan gofio rhai yn bymtheg neu'n un ar bymtheg, neu dros 70 – yn cael eu taro’n wael. Ar Orffennaf 1af 1940, hwyliodd yr Arandora Star o Lerpwl i Ganada, ac roedd fy hen ewythr, a llawer o ddynion eraill o Abertawe ymhlith y rhai oedd ar fwrdd y llong. Rwy'n gwybod bod dynion Abertawe o deuluoedd Pelosi, Demarco, D’Ambrosio a Zanetti ymysg y rhain, i enwi dim ond rhai. Roedd yr Andora Star llong foethus cyn y Rhyfel on dyna cafodd ei phaentio’n llwyd fel llong rhyfel, gyda gwifren bigog o amgylch y deciau i atal y perchnogion siopau ' peryglus ' hyn rhag ceisio dianc. Roedd o leiaf deirgwaith yn fwy o deithwyr ar y llong nag y cynlluniwyd i'w chario ac roedd llawer o'r Eidalwyr wedi'u rhoi mewn amodau cyfyng islaw'r dec. Ac eto nid oedd unrhyw groes goch i’w gweld er mwyn dangos mai llong sifiliaid oedd hon; ac roedd nifer y Badau Achub yn is na nifer y teithwyr. Pam? Yn gynnar ar fore ar yr 2ail o Orffennaf daeth yr ergyd olaf. Cafodd y llong ei tharo gan dorpedo Llong-U Almaenig a dechreuodd suddo. Roedd panig anochel, ac yn brys gwyllt i ddod oddi ar y llong cafodd llawer o Eidalwyr eu gwasgu wrth iddynt geisio cyrraedd y prif ddec. Ceisiodd rhai, mewn anobaith, neidio i mewn i'r dŵr, gan grafangu eu ffordd dros y weiren bigog a thros a'i gilydd. Ac eto roedd y dynion hyn yn dod o'r mynyddoedd, nid oedd llawer yn gallu nofio. Trodd olew wyneb y dŵr yn enfys ddu, drwchus a bu i sawl un gael ei ddrysu’n llwyr o ran pa gyfeiriad roedden nhw’n fynd, a chawsant eu taro gan falurion a’u lladd. Bu farw fy hen ewythr Ferdinando Pompa y diwrnod hwnnw, ynghyd â llawer o'i gydwladwyr: siopwyr diniwed nad oedd erioed wedi gwneud unrhyw niwed i neb, nac wedi bwriadu gwneud. Yn y rhan fwyaf o achosion roeddent wedi gwneud llawer o bethau da dros eu cymunedau, gyda nifer wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i elusennau. Dros yr wythnosau canlynol, cafodd eu cyrff eu golchi ar arfordiroedd Iwerddon a'r Alban. Yn achos llawer, ni ddaethpwyd mo hyd iddynt byth. Roedd yna hefyd Brydeinwyr (milwrol yn bennaf), Almaenwyr a rhai o blith cenhedloedd eraill ar y llong, ond roedd y colledion mwyaf o fewn y gymuned Eidalaidd – bron i bump cant ohonynt, gan chwalu teuluoedd cyfan mewn rhai achosion. Cafodd nifer fechan o bobl wedi hadnabod a’u henwi, ar ôl iddynt gael eu holi dan bwysau, fel rhai a oedd yn cydymdeimlo â ffasgiaeth a Mussolini, ac am eu bod yn cael eu hystyried yn fwy 'peryglus' na'r lleill, cawsant eu carchau a'u hanfon i Ynys Manaw. A ddylai'r drychineb hon erioed fod wedi digwydd? A ddyliai’r perchnogion siopao syml hyn fod wedi cael eu carcharu yn y lle cyntaf? A ddylen nhw fod wedi cael eu trin mor ddychrynllyd o wael? A oedd ymateb y Llywodraeth yn un difeddwl, ac yn un a fwriadwyd i dawelu meddyliau'r boblogaeth a’u sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn y wlad, ac i dynnu sylw oddi ar faterion eraill? A oedd unrhyw bwrpas dros y caethiwo a'r alltudio hwn? Dros saith deg mlynedd yn ddiweddarach, mae mwy o gwestiynau nag atebion yn aros o hyd. Ychwanegaf un arall: a fydd fyth ymddiheuriad swyddogol am y gamdriniaeth a ddioddefwyd gan bobl ddiniwed? Ysgrifennwyd gan Anita Arcari ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, Chwefror 2020 Darllenwch Rhan 4 yma: www.casgliadywerin.cymru/story/1366486