Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Daeth Angelo a'i frawd Benitto Greco i Abertawe yn yr 1900au cynnar o Caserta yn ne'r Eidal. Cyrhaeddodd y ddau gyda dim byd ond rysáit ar gyfer hufen iâ; roeddem nhw'n benderfynol o weithio'n galed a gwneud bywoliaeth dda o'u caffi. Daeth gwraig Angelo, Maria Antoinette Greco, i Abertawe tua 1910 a ganwyd iddynt 11 o blant dros y blynyddoedd nesaf, 9 o ferched a 2 fachgen. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd Angelo a'i frawd, Ben, sawl busnes wedi eu lleoli yn yr Hafod, Stryd Fawr, St Thomas a Threforys. Byddai Angelo yn gweithio diwrnod hir iawn, codi am 4yb i baratoi'r cacennau a'r pasteiod yn ogystal â gwneud hufen iâ yn yr ystafelloedd oeri yn Heol Castell-nedd, Hafod a gai eu gwerthu yn y caffis.
Ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn eithaf tlawd a di-waith, byddai Angelo yn caniatáu i'r dynion eistedd yn y caffi y rhan fwyaf o'r dydd a mwynhau paned boeth o de. Yn anffodus pan ddatganodd Churchill bod dinasyddion Eidalaidd yn estroniaid cafodd Angelo ei gludo ymaith fel carcharor rhyfel ac roedd ar fwrdd yr enwog Arrandora Star pan gafodd ei tharo gan dorpedo oddi ar arfordir Iwerddon. Yn wyrthiol fe oroesodd y drychineb a chafodd ei alltudio am weddill cyfnod y Rhyfel i Awstralia. Gyda'i asedau wedi'u rhewi daeth yn amhosibl cynnal y busnesau i gyd.
Parhaodd ei blant i redeg caffis teuluol am flynyddoedd lawer ar ôl hynny gyda Ernesto a Mathilda Greco yn Nhreforys, Angelo Jnr a Dorothea Greco yn Hafod a Harriet a Gaetano Avo yn St Thomas.
Adroddiad gan Paola Browne
Lluniau gan Paul Greco (ŵyr Ernie a Matilda)
Anfonwyd at Casgliad y Werin Cymru gan Anita Arcari
Llun 1: Angelo Café
Llun 2: Ernie a Matilda Greco, Woodfield St Café
Llun 3: Ernie Greco
Llun 4: Stondin hufen iâ Greco, gydag Yvonne John Greco
Llun 5: Priodas Greco
Llun 6: Matilda Greco 1940
Llun 7: Mr a Mrs Ernie Greco gyda'u mab, John
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (1)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw