Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Goglais Eogiaid.
Chwedl Nadolig.
Dywedir y byddai’r hen bobl yn arfer addoli bryniau ac afonydd am y credant fod rhyw ysbryd bywiol yn treiddio trwyddynt, ac mai oddi wrth nerth yr ŷd a dyfai hyd y bryniau ac oddi wrth ddwfr yr afonydd yr oedd eu bywyd yn cael ei gynnal. Mae’r afonydd Dwyfor a Dwyfach, yn Eifionydd, wedi eu seilio ar draddodiad, neu ynte traddodiad wedi ei seilio are eu henwau hwy, eu bod, oherwydd eu cysegredigrwydd dwyfyddol, yn wrthrychau addoliad yr hynafiaid. Hefyd perthynai i’r olaf o’r ddwy, y Ddwyfach, chwedl, sef yr arferai eogiaid (salmons) ddyfod at ei glannau ar foreau'r Nadolig a chaniatáu i bob un a fynnai eu goglais a’u dwylaw, ac weithiau eu codi o’r dwfr er nad oedd hynny’n foddhaol iawn ganddynt. Gwnelent hyn yn rheolaidd hyd newidiad y flwyddyn, yr hyn a achosodd atalfa ar y ddefod, oherwydd cysylltiad yr hen gyfrif a’r newydd ynglŷn ag amseriad cadw'r Nadolig.

Y Genedl Gymreig
Awst 25 1908

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw