Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cricieth - Llam y Cawr.
Oddeutu wyth milltir i'r gogledd o Gricieth, ym mhen Cwm Pennant, y mae lle unig, mynyddig, a elwir Cwm Trwsgl. Un tro roedd cawr yn byw yno. Roedd mewn cariad â merch fferm Hafod y Wydr, dros y bryn at gyfeiriad Feddgelert. Cyfarfu'r ddau yn gyfrinachol ond clywodd ei thad am y garwriaeth ac roedd yn anhapus iawn. Cynhyrfodd ddicter ymhlith dynion y fro ac un noson penderfynodd criw ohonynt ei ddal. Rhedodd y cawr o'u blaenau a neidiodd o un ochr y dyffryn i'r llall, ac y mae ei ôl troed yn aros yno hyd heddiw. Yn anffodus, llithrodd a chwympodd yn wysg ei gefn, nes yr oedd fel pont ar draws y nant. Byth ers y diwrnod hwnnw, mae’r lle wedi’i alw’n ‘Llam y Trwsgl’ ac mae’r dyffryn wedi’i alw’n ‘Cwm Trwsgl’.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw