Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn 1908 ysgrifennodd Myrddin Fardd (John Jones 1836 -1921), yr ysgolhaig hynafiaethol o Chwilog :
“Y dosbarth arall o fridwyr oeddynt rodreawyr a gymerant arnynt egluro pethau tywyll, dirgel a rhagfynegi digwyddiadau dyfodol, drwy gyflawni gwahanol ystrywiau i gyflawni eu rhodreswaith. Os byddai dyn yn meddu ychydig wybodaeth uwchlaw darllen ac ysgrifennu, neu ei fod yn berchen talent a dysgeidiaeth mwy na’i gyfoedion, a thrwy ei fyfr a’i wybodaeth wedi cael dyfais newydd, ar na fedrant hwy amgyffred, priodolid y peth i’w gyfeillgarwch â Satan, a chredant fod mewn a’r cythreuliaid.
Yr oedd yn y Cennin ŵr genedigol o’r lle o’r enw William Robert Huws, yn ddyn hynod mewn llawer o bethau. Yr oedd ganddo feddwl cryf a gafaelgar, a mesur da o athrylith; ond ei duedd fwyaf oedd at ddewiniaeth yn ei gwahanol ganghennau, a medrai egluro pethau felly mor gyfarwydd nes yr aeth y gair allan ym mysg y werin ei fod wedi cael gafael are lyfrau hen “Ddewin y Cennin”.
Dewin y Cennin, yn ôl llafar gwlad oedd yn byw mewn tŷ a elwir “Tŷ’r Derwin” ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant.

Hanner can mlynedd ynghynt, ysgrifennodd Eban Fardd (Ebenezer Thomas 1802-1863) yr ysgolfeistr a bardd o Lanarmon, a oedd yn gyfaill i William Robert Hughes
“Wrth Grybwyll am hen Ddewin y Cennin sylwi mai ardal yn Eifionydd yw'r “Cennin” yn cynnwys ynddi fryn helaeth a elwir “Mynydd y Cennin” ar lethr pa un y mae anedd-dy a elwir Tŷ’r Derwin lle y dywed traddodiad fod gŵr cyfarwydd yn byw ryw oes, a enillodd iddo ei hun yr enw uchel o “Ddewin y Cennin”. I lawr wrth droed y bryn y mae ardal a elwir Dewin, a thybia rhai o’n hynafiaethwyr mwyaf craff a dysgedig, oddi wrth yr enwau hyn, a’r traddodiadau yng nglyn â hwynt ynghyd â sefyllfa ac ansawdd tebygol y fro mewn amseroedd pell yn ôl, fod Derwin yn gartref rhyw hen arwr deddwyddol.

Yn yr 20fed ganrif, ysgrifennodd Bob Owen, Croesor(1885-1962), fod gan William R. Hughes allu eithriadol i wella'r ddafaden wyllt, etc. Gymaint oedd ei allu fel y gelwid ef ' Dewin y Cennin.' Ymfudodd i U.D.A. yn 1845, gan ymsefydlu yn Columbus, Wisconsin. O'r straeon hyn gallwn weld sut y cafodd ei uniaethu â dewin yr hen amser.
Ymddengys fod y chwedlau a’r straeon hyn wedi’u cadarnhau pan ddaeth David Rowland, ffermwr Tŷ’r Derwin, wrth gloddio mawn, o hyd i fwced bren hynafol ym 1881. Ym 1900 fe'i harchwiliwyd gan y Gymdeithas Archeolegol Cambrian. Fe'i disgrifiwyd felly:
“Mae'r bwced yn 7 modfedd o uchder a 7 ¼ modfedd mewn diamedr. Mae wedi'i adeiladu o erwyddion yw, wedi'u dal at ei gilydd gan dri chylch efydd. Mae'r ymyl wedi'i osod ag efydd ac mae handlen hanner cylch wedi'i gosod ar rybedion sy'n mynd drwy'r cylchyn uchaf. Mae tair o'r erwyddion yn hirach na'r gweddill, er mwyn ffurfio coesau i gynnal y bwced. Mae'r gwaelod wedi'i wneud o ddarn crwn o ywen. Ar y tu allan i'r bwced mae symbolau paganaidd wedi'u hysgythru. Mae seren bum pwynt, neu bentacl, yn cael ei hailadrodd deirgwaith”.

FFYNONELLAU:
Myrddin Fardd - Llên Gwerin Sir Gaernarfon 1908
Eban Fardd - Y Brython Rhagfyr 1859
Bob Owen - Bywgraffiadur Cymreig
Cylchgrawn Cymdeithas Archeolegol Cambrian
Mae’r bwced bellach yn STORIEL ym Mangor (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd gynt). Mae wedi'i dyddio i'r 5ed-6ed ganrif.
https://www.casgliadywerin.cymru/items/7695

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw