Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ysbryd Ty’n y Weirglodd.

Dyma stori gan Guto Roberts, Awdur, actor a storïwr, o Roslan ger Cricieth -

‘Dwi’n cofio sgwrs efo’r ddiweddar Mr Morgan Jones, Cefn-y-Maen,Llanystumdwy -a gawsai eleni yn Llecheiddior Ganol, Bryncir - ac iddo fo adrodd am ei brofiad yn mynd efo’i dad, a Gruffydd Roberts, Hendy, Ynys, i nôl defaid cadw oddiwrth y trên yng Nghricieth. Gan mai defaid o’r un ddiadell oedd yn mynd i’r Hendŷ a Llecheiddior Ganol, mi aed a’r defaid i lawr heibio i’r Fronolau, Rhos-lan, ac wedi cyrraedd yr allt sy’n rhedeg am Dy’n y Weirglodd mi sylwodd Morgan Jones fod ‘na ddynes i’w gweld yn yn ghanol y gyr defaid. ‘Welodd ei dad mohoni ond ‘roedd Gruffydd Roberts Hendŷ wedi gweld y ddynes yn union fel yntau!

Ddeuddydd union wedi i mi glywed y stori yna mi glywais stori arall, fwy na heb ynglyn a’r un llecyn. Mrs.Roberts, 22 Cae’rffynnon Llanystumdwy, oeddyn adrodd y stori.

Flynyddoedd yn ol, ‘roedd hi a’r ddiweddar Mrs Jones, Bewts Fawr-a oedd,gydallaw,yn ferch i Gruffydd Roberts, Hendŷ uchod -ar eu ffordd o Gapel y Beirdd am Gefn Isaf, Rhos-lan, a hynny ar nos Sul go niwlog. Cyn gynted ag yr aethant drwy’r llidiart- sydd dros y ffordd i Dy’n Weirglodd -i gae Brynbeddau: medda Mrs Roberts:

“Mi lithrodd rhywbeth mawr llwyd - a’r peth rhyfedd a welis i ‘rioed ar draws y ffordd o’r cae ar y chwith ini a hebio i gyfeiriad gwaelod y cae gan wneud sŵn rhyfedd – nid annhebyg i chwyrnellu chwibanog y lli-gron-efo-llinyn a fyddai gan blant erstalwm. ‘Roeddan ni wedi dychryn cymaint fel na ddwetson ni’r un gair wrth ein gilydd nes cyrraedd tŷ Cefn Isa’.”

Ffynhonnell : AR LAFAR GWLAD YN EIFIONYDD Gan Guto Roberts

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw