Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Bwgan Pwll Berw, Afon Dwyfor.

Dyma stori gan Guto Roberts, Awdur, actor a storïwr, o Roslan ger Cricieth -

Mi glywais i stori ddiddorol gan John Hughes, Efail, Plas Hen-a dyma hi:

‘Roedd o a Ken Roberts, Kenmor, Cricieth, wedi mynd i bysgota i Afon Dwyfor, a hynny i’r Pwll Berw sydd islaw Plasdy’r Trefan. ‘Roedd John Hughes yn pysgota yn un pen i’r llyn a Ken yn y pen arall, ac fel hyn yr ysgrifennodd John Hughes ataf:

“ Roedd tua hanner awr wedi hanner nos a finna ar fy mhenglinia’n a fy nghefn at yr afon ond gyda gola’ bychan ar y llawr o fy mlaen yn rhoi abwyd newydd ar y bach. Yn sydyn clywn Ken yn gweiddi arnaf i ddiffodd y golau- a gwnes hynny, er fy mod yn sicr nad oedd dim llewyrch ohono yn mynd ar y llyn.

“Ar ôl i mi droi at yr afon gwelwn fod llewyrch ar y llyn i gyd er nad oedd golau i’w weld yn unman, ond reit ar fy nghyfer i, ar y graig yr ochr arall i’r llyn ‘roedd rhyw ddyn yn sefyll. Y roedd i’w weld yn blaen, gyda dillad gwyn i gyd. ‘Roedd ganddo got o frethyn cartref a chlos pen-glin, a het (deer-stalker) am ei ben. ‘Roedd ganddo farf fechan ar ei en. Yr hyn oedd yn rhyfedd oedd fod popeth oedd ganddo fel dillad yn wyn- yr hynna fuasai neb yn ei ddefnyddio i fynd i ‘sgota yn y nos.

“Gwaeddodd Ken:

“Pwy ydio?’

A gofynnais innau i’r dyn a oedd o wedi dal rhywfaint o bysgod, ond ‘chefais i ddim ateb. Gofynnais eilwaith, a’r tro hwnnw yn Saesneg, ond ddaeth dim ateb- dim ond sefyll yn ei un fan ar y graig, ac wedi iddo fod felly am bedwar neu bum munud mi ‘gwelwn o’n troi a cherdded yn syth i’r coed a diflannu. Daeth Ken ataf a gofyn pwy neu beth oedd o. Os oedd o’n ‘sgotwr- sut ‘roedd o’n medru mynd drw’r coed heb olau? ‘Er ini gerdded ar ei ol, welson ni mo’no fo wedyn.

“ Ymhen rhyw ddiwrnod neu ddau mi ddeudis y stori wrth rywun mewn tipyn o oes o’r pentref a’r peth cyntaf a ddywedodd hwnnw oedd ein bod ni wedi gweld hen berchennog y Plas – ac yn ol fy nisgrifiad i o’r dyn, nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth nad y fo oedd o”.

Ffynhonnell : AR LAFAR GWLAD YN EIFIONYDD Gan Guto Roberts.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw