Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Dwyn Afalau.

Cyhoeddwyd yr erthygl ddiddorol a ganlyn mewn papur newydd lleol cynnar:- “CRICCIETH. TU ALLAN I'R TYMOR-Ar hyn o bryd y mae coeden afalau yng ngardd Mr Williams, White Lion Inn, Criccieth, yn ei lawn flodeuyn, yn union fel y gallasai fod yn fis Mai. Wrth wneud ymholiadau, dywedwyd wrthym ei fod wedi dyfod cnwd goddefadwy o dda o afalau'r hydref presennol. Ychwanega ein gohebydd : - Edrychir ar y ffenomen hon gan lawer yn y rhan hon o Gymru gydag ofn, fel y credir yn gyffredin ei bod yn rhagflaenydd marwolaeth yn y teulu. Rwy'n gwybod llawer iawn o'r ofergoeliaeth poblogaidd yn Lloegr, ond roedd yr arwydd hwn yn newydd i mi. Roeddwn bob amser yn edrych arno fel troell ecsentrig o natur, neu fel cyflwr afiach y goeden”. Nawr, efallai mai cyd-ddigwyddiad yw hyn ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod 1892, adroddodd y Cambrian News fod dau fachgen wedi'u dwyn gerbron yr ynadon, wedi'u cyhuddo o ddwyn afalau, efallai o'r un goeden! Roedd John Hughes ac Owen Jones yn byw yn Gapel Teras a oedd yn union y tu ôl i Dafarn y White Lion felly mae'n rhaid bod coeden afalau ffrwythlon wedi bod yn demtasiwn mawr. Ymddangosai Mr Humphreys i erlyn a Mr W. George ei amddiffyn. Dywedodd Mr Humphreys fod y cam yn cael ei gneud gyda chyndynrwydd mawr, ond yr oedd yr arferiad o ddwyn afalau wedi dyfod mor gyffredin yng Nghricieth fel yr oedd yn gwbl angenrheidiol cymryd camau pan ddal troseddwyr. Yn gynharach yn y mis gwelwyd bod yr afalau yn iawn ond ychydig ddyddiau'n ddiweddarach roedd y goeden wedi'i stripio a dim ond dau neu dri o afalau oedd ar ôl. Ychwanegodd mai afalau coginio caled oedd yr afalau ac na fyddent wedi gwneud fawr o les i'r bechgyn. Ni adroddwyd yr achos dros yr amddiffyniad na'r dyfarniad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw