Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth – Carreg Pari Bach.

Dyn bywiog ei feddwl a direidus oedd Pari Bach Penamser. Ar ddiwrnod ffair yn Penmorfa dywedodd Pari Bach wrth barson (gwell i mi beidio ei enwi yn awr) oedd yn byw yn y gymdogaeth, fod carreg rhyfedd iawn heb fod yn nepell o’r pentref; - os elai rhyw un i’w phen a gwaeddi yn uchel, na chlywai neb mohono. Gyda’r amcan o gadarnhau hyn, esgynnodd i ben y garreg, a dechreuodd wneud ystumiau tebyg i ddyn yn gwaeddi. Yr oedd y parson islaw iddo. Gofynnodd iddo a oedd efe yn ei glywed? ”Nac ydwyf ddim,” atebai’r parson. Daeth Pari bach i lawr. Aeth y parson i fyny, gan gredu y gallai gael ymarferiad campus o’i ysgyfaint, ar ben y garreg ac y gallai wella ei lais. Llais cryf oedd gan y parson. Dechreuodd lefain yn ofnadwy, tra oedd Pari Bach yn eistedd yn ddigyffro wrth droed y garreg. Gofynnodd y parson iddo, A ydych chwi yn fy nghlywed?” “Dim gair,” meddai Pari. Ail-ddechreuodd y parson waeddi yn ddychrynllyd. Cyn pen ychydig o funudau yr oedd holl ffair Penmorfa wedi ymgynnull o gylch y person a’r garreg mewn mawr syndod. Gadawaf i’r darllenydd gasglu beth a ddigwyddodd wedi hynny. R.G.Humphreys (Risiart o Fadog)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw