Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Gorsaf Treftadaeth Ddigidol?

Cyfleuster gwasanaeth gan sefydliadau cynnal ar gyfer gweithgareddau treftadaeth ddigidol yw Gorsaf Treftadaeth Ddigidol . Y syniad yw bod y sefydliadau cynnal yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaeth yn eu hadeiladau. Dylai'r orsaf fod yn groesawgar gydag arwyddion clir ynghylch ei bwrpas a'i swyddogaeth. Bydd y cyfleusterau yn cynnwys sganiwr a gliniadur ar gyfer gweithgareddau digido. Dylai hefyd fod mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer hyrwyddo gwefan Casgliad y Werin Cymru . Fel elfen wasanaethol y sefydliad cynnal dylai staff neu wirfoddolwyr fod wrth law i gynorthwyo'r cyhoedd gydag unrhyw anghenion digido.Dylai hynny gynnwys cefnogaeth i alluogi defnyddwyr i greu cyfrifon ac uwchlwytho cynnwys digidol ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Beth sydd angen arnom i fod yn Orsaf Treftadaeth Ddigidol?

Y prif beth i'w hystyried cyn penderfynu ar sefydlu Gorsaf Treftadaeth Ddigidol yw a oes gan eich sefydliad yr adnoddau o ran amser a staff neu wirfoddolwyr i fod yn gallu cynnig gwasanaeth parhaus. Ni fydd pwysai arnoch i wneud hynny mwy nag sydd yn bosibl o fewn eich gallu.. Bydd angen i chi gael sganiwr a gliniadur ar gyfer defnydd y cyhoedd. Mae’n bosib y gall rhaglen Casgliad y Werin gynnig offer i chi ond bydd hynny yn ddibynnol ar faint o offer bydd ar gael adeg eich cais. Gallwn eich cefnogi gydag unrhyw gais am arian i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae gennym ganllawiau y gallwn rannu gyda chi os ydych yn ystyried y llwybr hwn. Mae'n bwysig bod gennych fynediad at y rhyngrwyd gan fod yr Orsaf Treftadaeth Ddigidol yn gysyniad sy'n cael ei chyflwyno gan raglen Casgliad y Werin Cymru. Bydd angen i chi hyrwyddo'r wefan fel rhan o'r gwasanaeth a chyfleuster hwn.

Pa gefnodaeth bydd Casgliad y Werin Cymru yn cynnig i ni?

Bydd rhaglen Casgliad y Werin Cymru yn barod i gefnogi unrhyw sefydliad sydd yn bwriadu cynnal Gorsaf Treftadaeth Ddigidol drwy ddarparu hyfforddiant digido ar gyfer staff a gwirfoddolwyr a fydd yn eich helpu i redeg yr orsaf. Mae'r hyfforddiant hwn yn arfer safonol ar gyfer digido deunydd. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am elfennau pwysig fel hawlfraint a metadata. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer eich sefydliad i adnabod Pencampwyr ar gyfer Casgliad y Werin. Rydym yn darparu rhagor o wybodaeth am sut i fod yn Bencampwr i Gasgliad y Werin mewn dogfen ar wahân. Byddwn hefyd yn eich cefnogi drwy ddarparu dogfennau gwybodaeth angenrheidiol a deunydd ategol i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu gwneud defnydd llawn ac effeithiol o'r gwasanaeth ddigido. Byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth cyn belled â bod yr orsaf yn bodoli ac am oes rhaglen Casgliad y Werin.

Pa fantes sydd i ni fel Sefydliad Lletyol?

Mae Casgliad y Werin Cymru yn fenter a ariennir gan y Llywodraeth ac sy'n cael ei harwain gan bartneriaeth ffederal sy'n cynnwys y 3 corff Treftadaeth Genedlaethol, sef Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru. Fel sefydliad cynnal byddwch yn dod yn rhan o'r bartneriaeth hon. Byddwch yn denu grwpiau a chymdeithasau neu unigolion sydd â diddordeb mewn Treftadaeth i'ch sefydliad a byddwch yn dod yn allweddol o ran cynorthwyo gyda phrosiectau Treftadaeth er mwyn rhannu a chyfrannu i stori hanes a diwylliant Cymru. Bydd hyn yn gadael etifeddiaeth o wybodaeth ar Dreftadaeth Gymreig am genedlaethau i ddod. Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd i chi wneud cais am gyllid tuag at eich prosiectau Treftadaeth. Byddai Casgliad y Werin Cymru yn hapus i gefnogi eich cais fel sefydliad cynnal yn cynnig cyfleusterau Gorsaf Treftadaeth Ddigidol.

Beth am y bobl sydd yn rhan o’n prosiect?

Gall rhaglen Casgliad y Werin gynnig hyfforddiant digido ynghyd a gwybodaeth ar sut i wneud y gorau o wefan Casgliad y Werin Cymru i’r sawl sydd yn rhan o’ch prosiect. Bydd hynny yn eich helpu i ddatblygu sgiliau eich staff, gwirfoddolwyr a phobl leol. Trwy hyn byddwch yn cynyddu cyfranogiad pobl â'r we a chyfryngau digidol. Gall datblygu sgiliau lythrennedd digidol fod yn help i gynorthwyo datblygiad personol a phroffesiynol unigolion a gall Casgliad y Werin gynnig modiwl achrededig Agored Cymru iddynt a fydd yn cyfrannu tuag at y Cymwysterau a Fframwaith Credydau (CFfC). Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gwblhau diwrnod hyfforddiant digido safonol cyn mynd ymlaen i wneud yr uned achredu lefel 2 ac yn 3 o gredydau. Gellir cyfuno’r uned ag unedau eraill o fewn y Fframwaith Credydau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael. Cysylltwch â ni i ofyn mwy.

Beth gallwch wneud nawr?

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Gorsaf Treftadaeth Ddigidol ar gyfer Casgliad y Werin Cymru, byddem yn hapus i drafod hyn gyda chi ac i hwyluso hyn ar eich rhan. Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod i gael gwybod mwy am sut i ddatblygu Gorsaf Treftadaeth Ddigidol.