Sali (Sarah) Williams, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Sali ei henw, ei chyfeiriad a’i ddyddiad geni, sef 08/10/1924. Ganwyd hi yn Amlwch, yn y tŷ, roedd ei modryb yn byw yn agos, a oedd wedi bod yn nyrs yn y rhyfel byd cyntaf, a gwnaeth hi helpu yn y geni. Roedd ei thad yn forwr nes cafodd o ddamwain fawr a thorri ei goesau, a mynd yn anabl iawn. Chafodd Sali ddim llawer o addysg achos doedd y teulu ddim yn gallu talu am dren a llyfrau ayyb a gadawodd hi’r ysgol yn Amlwch yn 14 oed. Daeth rhywun o'r ffatri, a oedd yn nabod ei theulu, i'r drws i gynnig gwaith iddi felly aeth hi'n syth i'r gwaith. Roedd ei thaid yn cario'r baco o'r orsaf hefyd ac roedd hi'n meddwl ei fod o'n nabod y bosys.
 
Cafodd hi ryw fath o gyfweliad ac wedyn 'dechrau straight away.' Roedd hi'n 14 oed ar y pryd felly roedd hyn yn y flwyddyn 1938. Dyna'r oes roedd hi'n byw ynddi , meddai, pawb yn dechrau gwaith yn 14 oed.
 
Roedd ei diwrnod cyntaf yn iawn, wnaethon nhw ddangos iddi beth i wneud. Roedd hi'n nabod☺ llawer o bobl, o'r pentref, ac o bell a oedd yn dod i'r gwaith ar gefn beic (?) Ei swydd hi oedd gwneud yr 'ounces' crwn, pwyso'r baco mewn ounces ar fwrdd gyda thair merch arall. Roedd rhaid pwyso'r baco yn gywir er mwyn i rywun arall ei bacio fo mewn pecynnau crwn. E. Morgan & Co oedd enw'r cwmni yma, er bod tair ffatri baco yn Amwlch ar y pryd, un ohonynt yn y tŷ drws nesaf i ble mae Sali yn byw nawr, Huw Owen & Co. Roedd y bos yn byw yn y tŷ lle mae'n byw nawr. Roedd Sali yn byw hanner ffordd i Borth Amlwch ac yn cerdded i'r gwaith neu’n mynd ar gefn beic.
 
Ei horiau hi oedd wyth tan hanner awr wedi pedwar, gydag awr i ginio. Doedd dim brec arall yn ystod y dydd ac roedd hi'n mynd adre i ginio gan nad oedd cantîn yn y ffatri 'cerdded adre i gael rhyw snac a cherdded yn ôl wedyn.' Weithie roedd rhaid gweithio'n ymlaen, oes oedd archeb fawr i gwblhau. Eistedd lawr oedd hi i weithio, wrth fwrdd. Roedd y gwaith yn ddiddorol, meddai. Roedd y baco yn dod mewn bocsys mawr iddi o Lerpwl, y rhan fwyaf, ar y tren. Carters yn dod â'r bocsys o'r orsaf i'r ffatri ac ar ôl cael eu pwyso a'u pacio, aent i siopau dros Gymru.
 
11.30 Yn y bore, roedd hi'n cael gwybod gan y swyddfa faint o baco roedd hi i fod i bacio, bocsys o 16 ounces wedi'u pacio'n dwt, ounce bob un, gyda'r enw'r baco arnyn nhw - fel Hen Aelwyd a Pride of Wales. Roedd y ffatri yn eithaf mawr gyda phawb a'i waith, meddai. Roedd y dail a oedd wedi dod i'r ffatri yn mynd lan loft, trwy 'trap door’ lle roedden nhw'n gael eu gwasgu a'u 'spreadio' nhw ar ryw staging er mwyn cael eu tretio gyda dŵr ac wedyn roedden nhw'n cael eu gadael i sychu tan iddyn gyrraedd rhyw 'texture' iawn ac wedyn cael eu crasu. Roedd dynion yn gwneud y gwaith hwn a byddent yn dod i Sali a'r merched i gael eu rolio a'u pacio mewn ounces. Gwaith mwyaf y merched oedd pacio er bod rhai yn gwneud y 'twistio' hefyd, sef, rolio baco mewn i ryw fath o raff a rhoi 'olive oil' arno a’i roi fo mewn press wedyn am diwrnodau. Roedd y math hwn o baco yn cael ei smocio mewn pibell neu ei gnoi.
 
Gwnaeth hi ddysgu'r gwaith yn gyflym, meddai, ac roedd yn dda yn pwyso'r ounces, yn eu pacio nhw'n dda, rhoi'r wrapper cywir amdano. Roedd rhaid iddi hefyd roi'r baco mewn rhyw fath o 'dwmfat' er mwyn ei wneud yn dwt ac yn crwn. Roedd y parseli wedyn yn mynd allan i'r orsaf. Roedd HMS customs yn dod weithie, heb roi gwybod, i destio'r baco ac i weld oes oedd ‘na ormod o ddŵr ynddo fe. Os oedd yn rhy wlyb, roedd pobl yn talu gormod amdano. Roedd supervisor yn dod at Sali efo archebion. Yr un baco oedd yn mynd i bob wrapper, meddai, ac er bod yr enwau yn wahanol roedd yr un un baco.
 
19.00 Dywedodd Sali ei bod hi yno am bedair blynedd cyn iddi gael ei galw 'i fyny' ac aeth hi i mewn i'r fyddin dir. Roedd y rhan fwyaf o'r merched oedd yn gweithio yno yn ifanc, fel hi, achos doedd dim llawer o merched hŷn y gweithio yn yr un lle ar ôl priodi. Efallai eu bod nhw'n dychwelyd i'r gwaith, meddai, ond mewn lle arall. Cafodd Sali le un ferch oedd wedi priodi a wedi symud i Gaer efo'i gŵr a dyna sut cafodd hi'r swydd, meddai.
 
Roedd y berthynas yn iawn rhwng y merched 'pawb yn gytun.' Doedd na ddim byd 'hygienic' am y lle, dim ond tipyn o ddŵr i olchi'r dwylo mewn bwced, dim tap, a dim 'water toilets.' Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch er bod hi ddim yn cofio damweiniau erioed. Roedd y belt i fyny grisiau yn mynd ac yn gallu bod yn beryglus. Roedd y belt yn gwneud y Taffi Twist baco, ac roedd dynion yn hoffi cnoi. Ac roedd na press mawr fanno a pheiriant hefyd i falu'r dail (?) Doedd y gwaith ddim yn frwnt, meddai, er ei bod hi'n defnyddio ei dwylo. Doedd ei chroen ddim yn cael ei staenio hefyd ac roedd yr olive oil yn lyfli ar y dwylo, meddai. Roedd hi'n gwisgo 'brat', hy, rhyw oferol, ond roedd rhaid i bawb brynu eu hoferols eu hunan.
 
23.00 Roedd ei chyflog yn dechrau ar 10 swllt yr wythnos, ond aeth hwn i fyny ryw ychydig. Roedd y dynion yn cael mwy o gyflog - £1.50 - achos roedd rhaid iddynt gadw tŷ. Doedd y merched ddim yn cwyno am hyn achos 'dyna chi'r oes oedd hi, doedd neb yn ddim byd gwell na'i gilydd, doedden nhw ddim yn gyflogau mawr.' Roedd Sali yn rhoi 'rhywbeth bach' o'i chyflog i'w mam a chadw'r gweddill iddi ei hun er mwyn mynd i'r sinema. Roedd llawer o bethau'r gymdeithas yn mynd ymlaen, meddai, dramau, rhywbeth efo'r eglwys, Band of Hope, Girls’ Friendly Society, ayyb, ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd rhan yn y pethau yma. Roedd hi'n perthyn i lawer o bethau fel hyn.
 
Roedd hi'n byw gartref ar y pryd. Roedd ganddi hi frawd ac aeth o i'r RAF, ar ol bod yn saer cerrig. Roedd y rhan fwyaf o'i theulu yn ymwneud â'r môr, heblaw ei brawd a'i thaid. Doedd dim undeb i’r gweithwyr yn y ffatri a doedd neb wedi galw am un. Dydy hi ddim yn cofio streic.
 
Ar ddechrau'r rhyfel, roedd llawer o ddynion yn mynd o'r ffatri i'r fyddin, ac roedd dynion mewn oed a'r rhai nad oedd eu hiechyd yn iawn yn aros. Roedd perthynas dda rhwng y merched a'r dynion, meddai, gyda thipyn o dynnu coes. Roedd ei gŵr wedi dechrau yn y ffatri ac yna cafodd ei alw i fyny i'r llynges.
 
Doedd hi ddim yn ysmygu, jyst 'pwff bach' o bryd i'w gilydd. Dydy hi ddim yn cofio unrhywdun yn dwyn baco o'r ffatri ond 'synnwn i ddim,' meddai. Mae'n debyg fod y bosys yn cau eu llygaid, dywedodd, gan eu bod nhw yn gwerthu cigarettes i'r gweithwyr, cigarettes roedden nhw wedi eu prynu o Wills mewn bulk. Roedd y gwaith yn un go fawr, meddai, fwy na'r ddwy ffatri baco arall yn Amlwch. Mae'n meddwl bod y gweithwyr yn gallu prynu baco o'r ffatri ond ddim yn siwr gan fod y baco yn mynd mewn pecynnau i'r siopau. Roedd y ffatri yn gwneud 'snuff' hefyd (?) ac roedd merched gan fwyaf yn cymryd snuff ac roedd eu trwynau yn mynd yn goch. Doedd Sali ddim.
 
30.40 Roedd hi'n cael pythefnos o wyliau yn yr haf ond doedd hi ddim yn gwneud llawer, mynd am dro neu drip i Lerpwl ond ddim yn aml, neu fynd am y diwrnod ar y tren. Roedd hi'n cael gwyliau banc hefyd a Nadolig a Pasg. Tasai rhywun yn sal roedd rhaid iddynt gael papur meddyg ond dydy hi ddim yn cofio os oedd y cwmni yn talu gweithwyr a oedd yn sal. Roedd y bosys yn iawn ond yn strict. Roedd gan y ffatri ddrws mawr rownd y cefn ac roedd pobl yn trio sleifio i mewn fan yno pan oedden nhw'n hwyr. Wnaeth Sali drio unwaith yn unig achos cafodd hi ei dal ac dywedon nhw bod yn rhaid iddi ddefnyddio'r drws ffrynt.
 
Roedd hi'n hoffi'r gwaith, yn reit hapus, ac yn mwynhau'r cwmni. Roeddech chi'n dod ar draws pob math o bobl, meddai, ond roedd pawb yn hapus. Doedd y gwaith ddim yn undonog iawn, er bod o'r un peth bob dydd, meddai, a beth bynnag, roedd o'n waith. Roedd hi'n gwneud yr un peth trwy'r amser, gwneud yr ounces, a doedd dim cyfle i ddysgu gwaith arall na thyfu i fod yn siwpervisor, o achos roedd na rhai hynach na hi i fyny'r grisiau yn gwneud y Taffi Twist ac hefyd ar ei bwrdd hi, er bod tuedd i'r rhai henach briodi a mynd o ‘na. Ar hyn adeg, achos hyn, hi oedd yr un hyna ac roedd merched ifancach ar ei bwrdd, felly roedd ganddi fwy o gyfrifoldeb, gofalu bod yr archebion yn iawn.
 
Doedd hi ddim yn meddwl bod y ffatri yn lle anghysurus i weithio ac roedd pobl yn dod i arfer. Pan gafodd hi ei galw i fyny yn 1942, dywedodd y bos y byddai lle yn y ffatri iddi pan oedd hi'n dychwelyd. Roedd hi yn y fyddin dir am dair blynedd ac, ar ôl y rhyfel, aeth hi'n ol i'r ffatri am dipyn.
 
Roedd hi ar ffermydd yng Nghymru yn ystod y rhyfel, yn y diwedd ar un ar Ynys Môn. Roedd hi'n mwynhau ac yn gwneud bob dim - godro, hel wyau, bwydo'r anifeiliad. Roedd y fferm olaf yn strict iawn, a doedd dim hawl ganddi gyffwrdd â dim byd yn y tŷ, dim ond gweithio ar y fferm, er ei bod hi'n byw efo nhw. Roedd hi'n reit hapus ac yn gallu mynd i Fangor i'r sinema a dawnsio ayyb. Roedd hi'n 18 yn mynd i'r fyddin dir ac roedd meddyg lleol wedi awgrymu y byddai'n gallu mynd fel nyrs, ond landiodd i fyny yn y fyddin dir. Roedd merch arall o'r ffatri wedi mynd i'r fyddin dir hefyd ac roedd Sali yn benthyg beic i fynd i'r fferm yn Brynsiencyn lle oedd y ferch yma'n gweithio, ond roedd rhaid iddi dalu am ddefnyddio'r beic, er ei fod yn perthyn i'r fyddin.
 
40.00 Roedd hi'n cael 12 swllt a 6 ceiniog a llety a bwyd yn y fyddin dir. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd hi i'r ffatri ond roedd llawer o'r cyn-weithwyr wedi mynd. Aeth hi'n ôl ac enillodd hi fwy o arian. Gwnaeth hi symud i fyw gartref tan iddi briodi ei gŵr. Roedd o wedi bod yn llynges yn ystod y rhyfel ac wedyn roedd o yn y ffatri baco am ychydig cyn symud i ffatri arall - Roctal? Roedden nhw'n nabod ei gilydd achos dyn o Amlwch oedd o. Priodon nhw yn 1949 pan oedd Sali yn 25. Doedd dim rhaid iddi adael y ffatri ar ôl priodi ond gadawodd hi pan oedd hi'n disgwyl ei mab cyntaf. Wnaeth hi ddim dychwelyd i'r gwaith achos cafodd hi bump o blant ac roedd hi gartref wedyn yn eu magu nhw ac yn cadw'r tŷ.
 
Pan oedd hi yn y ffatri, doedd y gweithwyr ddim yn trefnu partion, er eu bod nhw'n dod at ei gilydd ar adegau arbennig fel Nadolig. Doedd y bosys ddim yn trefnu dim byd i'r gweithwyr. Roedd y 3 gweithwyr yn cael eu talu am weithio drosodd. Gwnaeth Sali ambell i fore Sadwrn er mwyn cael archebion wedi'u cwblhau.
 
Mae Sali yn dweud ei bod hi wedi cael bywyd llawn iawn, er bod hi wedi colli'i gŵr ac, yn diweddar, ei mab hynaf.
 
Am ychydig o funudau ar y diwedd, mae Sali yn siarad am rai profiadau gafodd hi yn y fyddin dir, fel benthyg gemwaith rhyw faroness, a oedd â thŷ mawr yn Ynys Môn, i fynd i ddawns ac roedd GI yn meddwl ei bod hi wedi eu cael nhw fel anrheg gan rywun.
 
Hyd: 50 munud