Olive Jones, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Olive ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 17/05/1950
 
Mae Olive yn dod o Garno ac wedi priodi dyn o Garno, ffermwr. Gwraig tŷ oedd ei mam ond aeth hi i weithio yn Laura Ashley ar ôl i'r plant fynd i ysgol uwchradd. Roedd pump o blant, gyda Olive y trydydd, ac aethon nhw i gyd i’r ysgol yng Ngharno ac wedyn yn y Drenewydd. Roedd ei thad yn gweithio i'r cyngor. Gadawodd Olive yr ysgol yn 15 oed ac roedd hi eisiau gadael achos doedd hi ddim yn hoffi'r ysgol, ar wahân i ddosbarthiadau PE. O edrych yn ôl, mae'n difaru bod hi ddim wedi gweithio'n galetach ac mae'n credu y gallai hi fod wedi gweithio'n galetach.
 
Ar ôl gadael yn 1965, cafodd hi swydd fel nanny i Emlyn Hooson yn Llundain. Roedden nhw'n chwilio am nanny Gymraeg a doedd dim llawer o Gymry - Cymraeg yn yr ardal. Felly clywodd hi am y swydd trwy'r adran Gyrfaoedd yn yr ysgol. A daeth yr Hoosons i’w gweld hi a symudodd hi i Lundain, ond roedd ganddi lawer o hiraeth am gartref. Roedd hi'n mwynhau Llundain a doedd hi ddim yn nerfus o gwbl, er ei bod hi'n ifanc. Roedd ei chwaer yn byw yn Llundain hefyd ac roedd yr Hoosons yn dod yn ôl i Lanidloes bob haf. Gofalu am y ddwy ferch yr oedd hi, pump oed a dwy flwydd oed - roedd yr hynaf yn yr ysgol ond yr ifancach gartre, ac roedd Olive yn ei gwisgo hi, rhoi bwyd iddi, mynd â hi i'r parc, ayyb. Gwelodd hi lot o bobl bwysig a oedd yn dod i'r tŷ. Mae Lady Hooson yn dal yn byw yn Llanidloes ac mae Olive yn mynd i’w gweld hi weithiau. Câi hi ddydd Iau a dydd Sul yn rhydd, ac roedd hi'n mynd i Gapel Cymraeg yn Llundain ond dim yn cymdeithasu llawer tu fas i'r capel a'i ffrindiau Cymraeg. Doedd hi ddim yn mynd allan gyda nos achos roedd hi'n rhy ifanc ond roedd hi'n mynd i weld ffrind, cyn nanny yr Hoosons, a oedd bellach yn gweithio i deulu Americanaidd yn St John's Wood.
 
Daeth hi yn ôl i Garno ar ôl hynny, achos yr hiraeth mawr am ei chartref a oedd arni. Ar y pryd, roedd ei hewythr hi wedi cael damwain fawr hefyd, ac roedd hynny'n rheswm arall. Roedd hi'n chwilio am swydd am dipyn a chafodd hi waith yn glanhau yn Llys Maldwyn, ysbyty i blant anabl o achos y cyffur Thalidomide, ond roedd yn ffeindio’r swydd hon yn rhy drist “gweld y plant bach, very upsetting. Doedd o ddim jyst fel un o'r teulu, oedd tri efo'r un peth, ddim yn gallu cerdded, ddim yn gallu siarad.”
 
1 8.00 Cafodd hi swydd yn fuan wedyn yn Laura Ashley, er ei bod hi'n byw yn Nhrefeglwys ac roedd rhaid i rywun fynd â hi i lawr a’i nôl hi. Penderfynodd hi fynd i mewn i ffatri achos dyna oedd yr unig waith yn yr ardal, fyddai rhaid mynd i Drenewydd am waith arall, ac os nad oedd rhywun yn gallu gyrru, roedd yn anodd iawn teithio. Cafodd hi gyfweliad ac roedd hi'n nabod y person ac oedd yn ei gweld hi. Roedd hi'n nabod llawer o bobl o Garno a oedd yn gweithio yno'n barod 'Dim jyst un ond teuluoedd.” Aeth ei mam yno i weithio ond ar ôl i Olive ddechrau. Doedd hi ddim wedi bod yn gwnïo o'r blaen ond roedd y dyn a oedd wedi rhoi cyfweliad iddi yn ffrind mawr i'w gŵr-i-fod. Dywedodd Olive doedd o ddim fel y cyfweliadau chi'n cael heddiw, jyst eisiau gwybod pryd gallai hi ddechrau “pwy bryd allet ti ddechrau? Dyna'r cwestiwn ces i, pwy bryd allet ti ddechrau.”
 
Roedd y gwaith yn anodd iddi “Fues i ar yr hemiau am wythnosau, hemio ffrogiau, ac roedd yn job, mashîn yn torri lawr, ac altro rhywbeth o hyd ac o hyd.” Doedd hi ddim wedi defnyddio peiriant gwnïo o'r blaen. “Roedd diwrnodau on i'n meddwl - wna i fyth sticio fo. Ond persevere, ynde.” Roedd hi'n nerfus er ei bod hi'n nabod bron pawb, achos plant o Garno oeddent. Roedd pawb efo'i gilydd. Doedd dim llawer yn gweithio yno ar y pryd, tuag ugain, ac roedd y merched yn eistedd mewn dwy res gyda pheiriannau. Roedd hyn tua 1968. Priododd hi yn 1971. Dydy hi ddim yn cofio'i chyflog cyntaf ond roedd yn fwy nag oedd yr Hoosons yn ei dalu, gan ei bod hi'n byw yn eu tŷ. Mae'n cofio pan oedd hi ar piecework ac adeg hynny roedd y gwaith yn galed, roedd Olive yn gweithio trwy amser cinio er mwyn gwneud pres. Roedden nhw hefyd yn dod i mewn yn gynharach yn y bore er mwyn dal i fyny efo'r gwaith. Ar y pryd, roedd hi ar yr overlocker ac roedd ganddi dri orders i edrych ar eu hol nhw. Roedden nhw'n dod â'r gwaith ati ar ôl gwnïo’r dillad ac roedd hi'n tacluso'r gwniadau ar yr overlocker. Roedd ganddi hi fwndel o tua 24 darn a byddai'n edrych ar un sampl i weld beth oedd i'w gwneud cyn i'r flat machinists gael o. Roedden nhw i gyd yn mynd i mewn i bin mawr gydag enw ar y top yn deud beth oedd y steil a byddai peiriannwr yn dod ati i gasglu'r bwndel a’i wneud o.
 
13.13 Y peth mwyaf oedd newid y cotymau i gyd, efallai byddai angen deg ffrog o liw glas, chwech o liw coch, a phedwar o liw gwyrdd, felly roedd rhaid iddi newid lliw drwy'r amser. Roedd pum lliw ar yr overlocker, meddai.
 
Roedd hi wedi dechrau ar yr hemiau i ddechrau, symud ymlaen ar ôl dysgu sut i wneud hynna at waith arall a dysgu sut i wneud hwnnw ayyb. “Fues i ar y button machine, y button hole machine a fues i’n dysgu dipyn.” Doedd swydd ar yr overlocking ddim yn swydd gyfrifol o gwbl. Doedd Olive ddim yn meddwl bod y gwaith yn undonog chwaith “oedd gwahanol steil a gwahanol faint o overlocio arno fo. Ar rai o'r wedding dresses roeddech chi'n overlocio lot o ddarnau, ynde, ond ar fathau eraill, efallai doedd dim cymaint, pethau fel sgert.”
 
Dillad oedd y ffatri yn ei wneud ar y pryd a doedd hi fyth wedi gwneud y llenni achos roedd hi wedi gadael erbyn hynny. Roedd hi yn gwneud llieiniau bwrdd a ffedogau a 'loose shaped' ffrogiau, a oedd yn colli dye, mae hi'n cofio, ond ar y dechrau oedd hynny. Doedd hi ddim yn hoff iawn o ddillad Laura Ashley er ei bod hi'n prynu seconds weithiau o'r llieiniau bwrdd, dim y dillad. Ond roedd ei dwy chwaer yn hoffi dillad Laura Ashley. Roedd hi'n hoffi 'ambell i steil.' Roedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ferched ond roedd yno ambell i fachgen hefyd. Roedd un bachgen o Fachynlleth ar yr overlocker meddai, a oedd yn reit dda, ond roedd y dynion yn torri'r dillad allan ac yn glanhau. Roedd pawb yn yr un stafell fawr “roedd y cutting out table yn fancw ac roedden ni lawr fan hyn.” Doedd y lle ddim yn swnllyd ac roedd radio ac roedd y merched yn canu, a doedd dim rhaid codi llais i siarad “efallai mod i wedi dod i arfer efo'r sŵn, dw i ddim yn gwybod.” Eistedd roedden nhw wrth y peiriant ac roedd Olive yn gweithio wyth tan bump 2 ac wyth tan hanner dydd ar ddydd Gwener. Weithiau roedden nhw'n gweithio ymlaen tan tua saith os oedd archeb i fynd allan, ac roedden nhw'n cael eu talu am y gwaith hwn; weithiau roedden nhw'n dod i mewn yn gynnar yn y bore i ddal i fyny. Roedd 'na lawer o weithio shifftiau, ond dim y merched. Roedd y bobl a oedd yn lliwio'r defnydd yn gweithio 6am tan 2pm a 2pm tan 10pm, ac roedd gwarchod yno hefyd.
 
Roedd un ferch yn gweithio efo'r dynion a oedd yn gwneud y lliwio ond dim ond hi “dw i'n cofio hi yn y dyehouse pan fues i'n gweithio yna gyntaf.” Amser aeth y ffatri yn fwy o faint, aeth y ddynes hon i smwddio yn yr adran lle roedd y merched yn gweithio. Gwaith trwm oedd y lliwio achos roedd y barilau yn drwm ac roedden nhw'n defnyddio overlocker hefyd i uno’r darnau defnydd.
 
20.00 Roedd 'na brecs yn ystod y dydd - yn y bore, awr i ginio, ac yn y prynhawn tua thri o'r gloch. Nid oedd pawb yn mynd i'r cantîn, ond roedd llawer o bobl yn mynd i ysmygu. Roedd rhaid iddynt fynd allan i wneud hynny, ac roedd 'na fwced wrth y drws. Roedd rhywun yn coginio yno; pan aeth Olive yno yn gyntaf, roedd cantîn bach, ac roedd ‘na ddynes yn gwneud cawl. Ond fel aeth y lle yn fwy, roedden nhw'n gwneud cinio poeth. Roedd y te a’r coffi am ddim ond roedd yn rhaid iddynt dalu am y bwyd. Doedd dim rhaid iddi weithio penwythnosau ond efallai ei bod hi'n gwneud ambell i fore Sadwrn.
 
Prynhawn Gwener oedd diwrnod siopa ac roedd pawb yn mynd o Laura Ashley yn eu ceir i'r Drenewydd i siopa. Roedd Olive wedi pasio'r prawf gyrru erbyn hynny. Siopa am fwyd ar gyfer yr wythnos roedd hi, dim am bethau fel dillad iddi ei hunan. Os oedd hi eisiau rhywbeth arbennig fel dillad, roedd hi'n mynd i Aberystwyth neu Amwythig. Efo'i chyflog, roedd hi'n rhoi rhywfaint i'w mam a chadw rhywbeth ar gyfer ei hunan “Fel dw i'n cofio, amser on i'n ennill, deudwch, rhyw twenty pound a week, dim yn sowndio lot, nag yw. On i'n rhoi pum punt i mama ag on i'n disgwyl helpu hi hefyd. On i'n smwddio ac on i'n glanhau, pethau fel na, ac on i'n meddwl dim byd am wneud o. Because roedd hi'n gweithio hefyd.”
 
Doedd hi ddim yn ennill mwy ar yr overlocker nag oedd hi ar yr hemio, ond pan oedd hi'n gwneud piecework, roedd hi'n ennill mwy. Roedd piecework yn waith caled, meddai. Doedden nhw ddim yn gwneud piecework pan oedd hi'n dechrau ond daeth time and motion i mewn hefyd. Roedd rhywun yn gwneud ffrog i fyny, teimio'r amser roedd y gwaith o wneud wedi cymryd, a disgwyl i'r merched wneud yr un gwaith yn yr un amser. Ond doedd o ddim yn gweithio allan fel hynny “mae'n wahanol gwneud un ffrog i wneud hanner dwsin.” Roedd y gweithwyr yn cwyno am y time and motion, achos os oedd yr amser ddim yn iawn, roedd rhaid ail amseru'r gwaith, felly roedd yn amhoblogaidd. Cwyno i Meirion, brawd Gwlithyn Rowlands (VN013) oedden nhw ond roedd yn ddeg iawn. Roedd rheolwyr eraill yno ond roedd Meirion yn bennaeth yr adran wnïo. Daeth y piecework mewn efo'r rheolwyr newydd; roedd yr Ashleys yno o hyd, ond roedd gan y bobl newydd yma syniadau newydd. Roedd pawb yn meddwl y byd o Laura ac aeth pawb i'w hangladd. Roedd yr Ashleys yno bob dydd. “Ond oedd o, roedd temper ofnadwy gynno fo.”
 
Roedd tri neu bedwar bys yn dod â'r gweithwyr i Garno - o Fachynlleth, Llanidloes, Y Drenewydd, ac i gyd yn llawn. Tyfodd y lle yn gyflym iawn - i 300 neu 400 o bobl. Roedd Olive yn dal y bys ar y ffordd, y gyrrwr - menyw - yn pigo pobl y pentrefi i fyny ar y lôn.
 
Roedd y berthynas yn dda iawn. Dydy Olive ddim yn cofio unrhyw bitchiness “You just got on with it. And when you're on piece work, dim ots beth mae rhywun arall yn gwneud, you just get on with your own work.”
 
Gadawodd Olive i gael ei merch gyntaf ac wedyn roedd hi'n meddwl dychwelyd a mynd yn ôl 3 ar yr overlocker, ond dywedodd un o'r merched 'Oh, Olive, you'll never get your speed back up.” Felly aeth hi ddim yn ôl ond roedd hi du fas i'r ysgol efo'i merch un bore a gwnaeth rhywun ofyn iddi a fyddai'n dod yn ôl i lanhau'r ffatri. “A dywedais i 'wel, what hours is it?' Achos on i'n gorfod bod adre erbyn i Maria orffen ysgol am hanner awr wedi tri. A dywedodd 'Wel, it's early mornings, starting at four o clock.' 'I'll take it,' dywedais i. Roedd y gŵr adre, felly on i'n gweithio pedwar tan wyth. Roedd rhaid bod off the premises am wyth o'r gloch, erbyn i'r bobl ddod i mewn i weithio. A wnaethon nhw newid i hanner awr wedi saith, felly on i'n off the premises erbyn hanner awr wedi saith.”
 
Roedd glanhau yn galetach lawer na gwnïo, meddai, ac roedd hi'n boeth iawn, roedd hi'n chwysu. Roedd chwech o bobl yn glanhau'r holl ffatri a phawb yn gwneud eu gwahanol flociau. Roeddech chi' ar eich traed ac yn gorfod gwagu'r biniau i gyd. Roedd y security yno yn gadael nhw i mewn. Pan oedd hi'n gadael, doedd hi ddim yn weld y peirianwyr yn dod i mewn, roedden nhw'n bobl ddiarth, meddai. Dydy hi ddim yn cofio faint roedd hi'n ei ennill pan oedd hi'n glanhau, ond pan oedd hi'n gwneud piecework, roedd hi'n ennill £80 y wythnos. “Dydy o ddim yn swnio’n lot rŵan, nad yw, ond dw i'n cofio un wythnos, wnes i ennill eighty pound, ac on i'n meddwl 'reit, mae gen i target rwan i ennill hynna bob wythnos,' ond, look, you could never do it. Dependio ar steils, oedd, it was hard going.' Mewn ateb i'r cwestion os oedd y gwaith yn mynd yn 'sloppy' o achos y gwaith cyflym, dywedodd eto, bod o'n dibynnu ar y steil. Doedd sgert, er enghraifft, dim yn gymhleth ond os oeddech chi'n gwneud steils efo pintucks a lês, neu fancy belt, roedd lot mwy o waith. “Ond dw i'n cofio on i'n trio gwneud yr eighty pounds yma, oh, oedd o'n strygl, I just couldn't make that.”
 
30.00 O ran iechyd a diogelwch, roedd llawer o bobl yn cael nodwydd trwy'r bys, ond wnaeth Olive ddim, byth. Y dyddiau hyn, mae 'na guards ar y peiriannau gwnïo ond dim yn y dyddiau hynny, meddai. Doedd o ddim yn lle peryglus, yn enwedig pan oedd y bobl newydd ddod i mewn yn nes ymlaen. Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch pan ddechreuoedd Olive yn y ffatri ond er hynny dydy hi ddim yn cofio damweiniau o gwbl. Yn 1968, roedd gan y ffatri lawr concrit, ac roedd 'na dai bach yno, a gwres hefyd a ffenestri mawr rownd yr adeilad. Roedd yr ail ddarn o'r ffatri yn fodern iawn, efo swyddfeydd ar y llawr uwch ac roedd y rheolwyr yn edrych lawr ar y gweithwyr. “Oedden ni'n gallu gweld nhw ac oedden nhw'n gallu gweld ni. Managers, directors and all this parlaver.” Roedd Bernard Ashley yn dod i'r ffatri ar ei sgîs os oedd hi'n bwrw eira. Ond oedd yr Ashleys yno lai ar ôl iddynt brynu'r chateau, er bod nhw yno bob dydd pan oeddent yn byw yn Clogiau. Roedd Laura yn arfer dod o gwmpas a siarad efo'r gweithwyr, roedd hi'n boblogaidd iawn.
 
Roedd Olive wedi gadael pan fu fawr Laura, a newydd gael ei merch gyntaf yn 1979. Aeth hi yn ôl i lanhau, a gadawodd hi yn 1988 i gael ei mab, Dylan. Ar ôl hynny, aeth hi yn ôl i weithio yn y cantîn yn y ffatri. Roedd y ffatri yn symud i'r Drenewydd ar y pryd a doedden nhw ddim eisiau iddi barhau i lanhau a gofynnwyd iddi fynd i'r cantîn 'until the canteen moves.' Roedd hi'n golchi llestri a serfio'r bwyd ac roedd hi'n reit hapus yno. Roedd rhyw chwech yn gweithio yno yn y cantîn ac roedd Olive yn nabod rhai o'r gweithwyr a oedd yn dod i fwyta yno achos roedd hi wedi gweithio efo nhw ar y peiriannau. Roedd y cinio yn 'one sitting' ond roedd y cantîn yn gwneud brecwast llawn hefyd. Doedd hi ddim yn hoffi'r gwaith serfio cymaint ac roedd yn well ganddi fod 'in the background' meddai. Doedd hi ddim yn mwynhau'r cantîn yn well na'r gwnïo ond roedd yn 'rhywbeth gwahanol.' Doedd hi ddim yno am hir; roedd y ffatri i gyd wedi symud i'r Drenewydd, yn 2006. Felly roedd Olive yno o 1968 hyd 2006, gyda bylchau i gael ei phlant.
 
Doedd dim undeb yno, meddai, achos doedd Bernard Ashley ddim yn credu mewn undebau. Ond mae'n meddwl bod rhai o'r gweithwyr yn aelodau o undebau annibynnol, y dynion yn enwedig. Roedd hi'n aelod o undeb hefyd ond doedd yr Ashleys ddim yn gwybod. Roedd y 4 gweithwyr eisiau undeb ond dywedodd Bernard Ashley 'no way.' Roedd Olive yn talu i fod yn aelod o undeb annibynnol ond nid yw’n cofio pa un na faint yr oedd hi'n ei dalu. Roedd Laura Ashley yn talu cyflog da ond fel roedd y blynyddoedd yn mynd ymlaen, roedd llawer yn cwyno bod y cwmni'n talu'n wael.
 
Dydy hi ddim yn gwybod am y cyflogau nawr ond mae wedi clywed bod y gweithwyr sy'n gwneud y 'soft furnishings' yn gorfod sefyll ar eu traed i weithio a’u bod nhw'n flinedig iawn erbyn diwedd y dydd, gan eu bod yn gweithio'r pedaau.
 
Gwnaeth Olive fwynhau gweithio yno a chafodd y gweithwyr gyfle i brynu'r peiriannau pan oedd y ffatri yn newid i beiriannau mwy modern. Prynodd hi un ac mae'n dal i wnïo 'patsio, rhoi zips mewn jeans' i'w neiaint. Mae ganddi lenni a lliain bwrdd hefyd roedd hi wedi’u gwneud yn y ffatri.
 
Chafodd hi ddim parti gadael achos roedd hi'n disgwyl, ond pan oedd hi'n priodi, gwnaeth ei chydweithwyr ei rhoi hi mewn troli, mynd â hi lawr i'r afon, a thipio hi i mewn i'r dŵr. Roedd pawb yn cael yr un driniaeth pan oedden nhw'n priodi “ac oedd hi yno, Mrs Ashley.” “Roedden ni'n cael lot o hwyl yno, rhaid i mi ddeud hynny, dipyn o hwyl ond roedden ni'n gorfod gweithio hefyd. It was an enjoyable time.”
 
Hyd: 45 munud
 
http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN039.2.pdf