Iorwerth Davies, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Iorwerth ei enw, a’i gyfeiriad a chafodd o ei eni yn 1932.
 
Ganwyd o ym Mhenrhyndeudraeth ac roedd ei dad yn gweithio yn y chwarel ym Mlaenau Ffestiniog, bu farw pan oedd Iorwerth yn 4 oed. Doedd o ddim yn iachus fel plentyn, na'i chwiorydd chwaith, yn dioddef o TB ac roedden nhw i gyd yn yr ysbyty llawer. Aeth o i’r ysgol ym Mhenrhyndeudraeth a gadawodd yn 14 oed i weithio'n syth yn y gwaith powdwr.
 
Ni chafodd gyfweliad i gael swydd yn Cookes, jyst mynd i lawr i ofyn am swydd. Y pryd hwnnw, roedd y Blaid Lafur newydd ddod i'r brig a ddechreuodd hreol newydd fod gweithwyr ifanc yn gorfod gorffen eu gwaith hanner awr cyn y gweithwyr hŷn, felly roedd Iorwerth yn gallu gadael y gwaith am 4.30. Yr oriau arferol oedd 8.00 tan 5.30 ac roedd o'n mynd yn gynt. Roedd cryn dipyn o weithwyr ifanc yn Cookes achos aeth llawer o bobl y pentref yno ar ôl gorffen ysgol. Roedden nhw'n gwneud bagiau, achos roedd yn rhaid bod 18 oed i weithio efo'r ffrwydron. Gwneud ffrwydron i'r pyllau glo a chwareli yr oedd Cookes ar ôl y rhyfel.
 
Gwnaeth Iorwerth nifer o swyddi yn Cookes yn ystod y 42 o flynyddoedd roedd o yno, gan ddechrau efo'r bagiau - 'paper shells' - yr oedd y ffrwydron yn mynd i mewn ynddynt. Dechreuodd efo'r ffrwydron yn 16, dywedodd Iorwerth, ond roedd y merched yn gorfod bod yn 18 oed. Wedyn roedd y bagiau yma yn mynd i'r merched yn y packing i gael eu llenwi efo ffrwydron. Ni chafodd unrhyw hyfforddiant pan ddechreuodd ond - thrown in at the deep end, meddai. Ar ôl 16 oed, roedd o'n gweithio yn y cytiau efo merched a dynion eraill, dim efo'r ffrwydron ei hun ond efo'r bagiau. Roedd dynion hefyd fel service waiters yn mynd â bagiau rownd i bob cwt ac yn eu casglu nhw ar ôl iddynt gael eu llenwi.
 
Cyflog cyntaf Iorwerth oedd £1 a dau swllt, a oedd yn isel achos ei oedran, a chafodd o godiad wedyn. Doedd dim rhaid iddo wisgo overalls na dillad arbennig, gan nad oedd y gweithio efo'r ffrwydron, ond roedd yn mynd i'r gwaith yn ei ddillad ei hun. Roedden nhw'n clocio i mewn a mas 1 yn y 'time office.'
 
Fel dyn ifanc, roedd o'n hapus i gael swydd yn Cookes ac ennill arian. Roedd o'n rhoi ei gyflog i'w fam. Roedd ei ddwy chwaer yn dal yn yr ysgol. Roedd o'n cael 'swlltyn bach' iddo’i hun allan o'i gyflog. Roedd y berthynas yn dda rhwng pawb, meddai, ac roedd pawb yn nabod ei gilydd. Felly, rhwng oed 14 a 16, roedd Iorwerth yn gwneud y bagiau papur; yn 16 oed, roedd o'n mynd â'r bagiau hyn rownd i'r merched yn y cytiau, ac roedd yn rhaid iddo wisgo overalls bryd hynny. Wrappers oedd y bagiau yma i fynd rownd y ffyn o gelignit. Roedd y merched yn gorfod lapio'r papur hwn rownd y gelignit. Doedd o ddim yn cael cyflog dyn yr adeg hynny, er ei fod o'n gwneud job dyn. Cafodd o air efo un o'r rheolwyr am hyn, a dywedodd y dyn nad oedd o yn gallu hawlio cyflog dyn achos ei oed, atebodd Iorwerth 'well, if I'm not entitled to a man's wages I'm not doing a man's work.' Aeth y mater i’r uwch reolwr ac enillodd Iorwerth gyflog dyn yn y diwedd, pan oedd yn gwneud y gwaith o fynd â'r bagiau i'r cytiau a chasglu'r rhai oedd wedi'u llenwi. Roedd bocsys o ffrwydron yn drwm iawn, tua 75lbs, a dyna pam roedd y gwaith yn waith dyn. Roedd 'na lawer o fathau o bapurau, gwahanol faint ar gyfer y gwahanol fathau o ffrwydron, e.e. roedd y rhai efo 'permitted' ar y papur yn gallu mynd allan i'r pyllau glo, ond roedd rhai heb 'permitted' felly, dywedodd Iorwerth, doedd o ddim jyst yn fater o’u cario nhw o gwmpas, ond roedd yn tynnu tipyn o sylw ar hyn hefyd. Gwnaeth o'r swydd hon tan roedd o wedi cyrraedd 18 oed, ac erbyn yr oedran hwnnw, roedd yn cael cyflog dyn beth bynnag.
 
12.00 Yn 20 oed, daeth yn charge hand yn y packing house ac wedyn y tu allan, ac roedd hynny'n golygu mwy o gyfrifoldeb, er nad oedd o yn llawer mwy o arian. Fel chargehand, roedd yn rhaid iddo wneud rhagen waith i bob cwt, e.e., pa faint o ffrwydron roedd pob un yn cael ei wneud. Roedd 600 o cartridges i bob case, ac roedd y merched yn lapio'r ffrwydron hyn i fyny i 25 pound or 50 pound case (?). Roedd Iorwerth yn gwneud rhaglenni gwaith a oedd yn penderfynu faint o cartridges oedd yn mynd i bob cwt. Roedd yno 8 cwt ac roedd 4/5 merch ym mhob un.
 
Dechreuodd o fel charge hand dros dro tra bod rhywun yn sâl ac arosodd yn y swydd. Dywedodd, am y berthynas rhyngddo a merched y cytiau, "on i'n ffraeo efo nhw i gyd." Dim byd dig, ond efallai byddai un cwt yn cael cam neu yn cael gormod o'r meintiau bach. Doedd neb yn hoffi'r meintiau bach achos roedden nhw ar piece work ac os roedden nhw'n cael mwy o cases roedden nhw'n cael mwy o gyflog. Roedd Iorwerth yn trio fod yn deg ond weithiau roedd yn amhosibl rhoi, deudwch, tri case bach i dri chwt os oedd nifer i'w gwneud. Roedd y merched yn tynnu ei goes, yn enwedig o gwmpas adeg Nadolig.
 
Roedden nhw'n cael hanner awr i ginio ac roedd yn rhaid iddynt dalu am y bwyd. Roedd yn rhaid iddynt fynd i'r cantîn i gael paned. Roedd y gweithwyr yn gwisgo eu dillad a’u sgidiau arbennig yn y cantîn ond doeddwn nhw ddim i fod rhag bod ffrwydron arnyn nhw. Roedd fformen yn rheoli ond roedden nhw yn 'very relaxed' yn ôl Iorwerth, ac roedd pethau gwirion yn cael eu gwneud, cutting corners ag ati. Roedd Iorwerth yn sôn am achos pan oedd ddyn, a dylai fod wedi bod yn y blockhouse (reinforced concrete building), yn defnyddio 'remote control' ie rhyw fath o periscope, a gadawodd y blockhouse yma a'r peiriant yma yn dal i fynd. Roedd pawb yn gwybod bod o'n gallu fod yn beryglus ond doedd dim gwaith arall o gwmpas, meddai.
 
Mae'n cofio ffrwydrad yn 1988, pan gafodd ddau ddyn eu lladd. Roedd ffrwydrad yn 1957, pan laddwyd 4, ac yn 1968, meddai. Roedd waliau o gwmpas y cytiau, er mwyn atal difrod yn achos ffrwydrad, ond yn 1957, methodd y rhain, a chafodd merched y dets eu brifo hefyd. Ar ôl hyn, adeiladwyd 'mounds' o gwmpas y cytiau. Mae'n cofio dyn yn colli ei olwg hefyd mewn damwain efo un o'r periscopes, ac ar ôl hyn, gosodwyd teledu yn ei le. Gwellodd diogelwch ac iechyd, yn 2 ogystal â chyflogau, pan gymerodd ICI drosodd.
 
23.00 Roedd Iorwerth yn aelod o'r undeb, er nad oedd yn rhaid bod yn aelod. Roedd hefyd mewn cronfa bensiwn, ac roedd yn talu 10 ceiniog y bunt i hwn (?), a nes ymlaen 6 ceiniog o bob punt pan oedd o ar y staff, yn 36, ac yn cael ei dalu bob mis, yn lle yn wythnosol, fel gweithwyr y cytiau. Cafodd o bensiwn da ar ôl ymddeol achos gwnaeth un o'r rheolwr ei gynghori i ddechrau yn 18 oed. Roedd y gweithwyr yn mynd i ffenestr y swyddfa bob dydd Gwener i gael eu cyflog, ond yn nes ymlaen roedd pawb yn cael eu talu yn syth i'r banc.
 
Y tu allan i'r gwaith, roedd Iorwerth yn mynd am beint neu i 'chwilio am ferched.' Ond cwrddodd â'i wraig yn y gwaith, roedd yn gweithio yn y cytiau.
 
Doedd o ddim yn cofio streic yno, ond bu rhyw achos pan oedd yn 16, ac yn mynd â phapurau rownd i'r cytiau, ac roedd 4 hogan mewn pob cwt, ac roedd rhai ohonynt mewn un cwt wedi bod yn gas efo un o'i chydweithwyr. Roedd y merched eraill i gyd yn gwrthod dychwelyd i'r cytiau ond roedden nhw'n sefyll o blaid y ferch yma a phan oedd yn rhaid iddynt fynd yn ôl i'r cytiau roedd y merched i gyd yn gweiddi 'boo' ac yn dilyn y tu ôl y tair hogan a oedd wedi bod yn gas. Ar y cyfan, roedd pawb yn dda efo'i gilydd, ac roedd hyn yn anghyffredin iawn, meddai. Dro arall, fel fforman, anfonodd o hogyn i fynd â'r rhaglenni gwaith rownd, ac roedd o ac un o ferched y cytiau yn ffraeo, ac roedd y boi yma yn ei galw hi yn 'hwren,' ac roedd yn rhaid i Iorwerth, fel fforman, fynd lawr i sortio fo. Roedd pawb yn cael 'nicknames', meddai. Pan aeth o yn ôl, ar ôl ymddeol, a doedd o ddim i fod i adael i neb fynd i mewn i'r safle roedd y dynion yn ei alw fo’n 'Hitler.' Dydy o ddim yn beth hawdd, dywedodd, gwneud swydd bos.
 
Pan ddaeth yn fforman, roedd o'n barod yn 'acting' fforman ar y shifft nos, bythefnos pob yn ail fis, ond dim ar y staff, ac roedd rhywun wedi ymddeol a chafodd o ei alw i'r swyddfa, a gwnaethon nhw gynnig y swydd iddo fo. Roedd gynno fo bump o blant a doedd o ddim eisiau gweithio gyda'r nos, ac roedd swydd fel staff supervisor i fyny yn fuan wedyn, a chafodd o'r swydd honno. Aeth ei gyflog i fyny gryn dipyn. Ar y shifft nos, roedd yn cael £40 yr wythnos.
 
Roedd pedair shifft - bore, prynhawn, nos a dydd, ac roedd y shifft nos yn rheolaidd, tra roedd y lleill yn newid o wythnos i wythnos. Roedd Iorwerth ar shifft nos am ddwy flynedd ond roedd o 'biau'r’ shifft nos yr adeg honno, meddai, - dim ond un dyn uwch ei ben o.
 
Roedd y rheolwyr yn iawn efo fo, ac roedd agwedd y gweithwyr tuag atyn nhw yn iawn hefyd, ond unig fai'r rheolwyr, meddai Iorwerth, oedd y cur pen roedd y gweithwyr yn ei ddioddef achos roedden nhw'n anadlu'r gelignit, y merched yn y cytiau a hefyd y bechgyn a oedd yn mynd a chasglu'r bagiau. Triodd y cwmni ddatrys y broblem, rhoi gwyntyllau i mewn, neu sgrin, ond doedden nhw ddim yn gweithio. Doedd dim masgiau na menig yn y dechrau ond tua'r diwedd roedd pobl yn gweithio yn y blockhouse (?) ond oedd pawb mor involved yn y dechrau (?). Ar wahân i'r pennau tost, roedd merched yn llewygu weithiau. Roedd y nyrs arfer rhoi rhywbeth i'r stumog iddynt ar gyfer hyn - Isotop? - dydy o ddim yn siŵr o'r enw. Roedd pobl yn mynd â darnau bach o gelignit adre gyda nhw ond wnaeth Iorwerth mo hynny.
 
35.00 Dechreuodd o ganlyn yn 1950 a phriododd yn 1955, pan oedd yn 23oed, roedd ei wraig yn 21. (Roedd gan Iorwerth ffoto o'i deulu fan hyn). Roedd Mary, ei wraig, yn gweithio am ychydig o flynyddoedd wedyn, tan iddi gael plant, cafodd hi bump i gyd, a daeth hi’n wraig tŷ. Roedd pawb yn byw felly ar gyflog Iorwerth ac roedd yn galed iawn, meddai, er ei fod o'n ennill mwy. Prynodd o dŷ yn Nhanygrisiau cyn priodi ac roedd yn mynd i'r gwaith wedyn ar y bws, ac yn gorfod talu. Daeth yn rheolwr transport wedyn a doedd o ddim yn gallu gyrru, er ei fod o'n gyrru lorïau o 3 gwmpas y safle, a wnaeth y cwmni dalu iddo gael gwersi gyrru a phasiodd ei brawf. A wnaethon nhw roi ffôn i mewn yn ei dŷ yr adeg hynny.
 
Weithiau roedd y ffrwydron yn chwysu ar y ffordd i ryw bwll glo a pan ddigwyddai hynny, roeddent yn beryglus iawn. Swydd Iorwerth oedd rheoli pethau felly a delio efo'r perygl. Pan roedd y ffrwydron yn gadael y ffatri, roedden nhw'n solid, ac yn ddiogel, ond ar y ffordd, os oeddent yn mynd yn wlyb, roedden nhw'n chwysu ac yn mynd yn feddal, ac yn beryglus. Roedd yn rhaid iddo deithio'n aml i lefydd pell iawn i’w gwneud nhw'n saf, gan foddi'r stwff mewn gwlybwr a woodchips. Weithiau roedd nifer fawr o cases wedi mynd yn beryglus, fel y 12 yn Doncaster un tro, ac roedd yn rhaid iddo aros yno am bedair noson i sicrhau eu bod nhw'n saff. Taflodd y 12 case wedyn i mewn i'r North Sea! Yn yr Alban yr oedd head office Cookes.
 
Enillodd o ddim cymwysterau yn Cookes ond cafodd lawer o brofiad. Pan orffennodd o yn 1988, dim ond 90 o bobl oedd yn gweithio yno ac roedden nhw i gyd yn gorfod gwneud popeth. Pan ddechreuodd o roedd tua 700 yno. Peth arall yr oedd yn rhaid iddo’i wneud tua'r diwedd oedd delio efo detonators ac roedd wedi dod yn ôl achos roedd rhywbeth yn bod efo nhw, ac roedd yn rhaid iddo fo’u distrywio nhw. Roedd o wedi gwerthu detonators o'r blaen fel rhan o'i swydd, ond dim byd fel hyn. Beth roedd o'n gorfod ei wneud oedd detonate nhw mewn i rywbeth roedden nhw'n galw yn 'bell' a phan oedd hwnnw'n llawn, roedd o'n taflu'r cyfan i mewn i'r llyn, live detonators oedd y rhain, ac yn ffrwydro'r cyfan. Doedd dim llyn yno i ddechrau, ond creodd y cwmni un ar gyfer pethau fel hyn. Doedd dim ofn gynno fo pan oedd yn mynd i mewn i'r cytiau lle roedd y merched yn lapio'r ffrwydron ond roedd gynno fo ofn mawr o'r dets.
 
Roeddyn rhaid iddo losgi'r ffrwydron hefyd ac roedd golygfa hyfryd o'r' lle roedd yn gwneud hyn, lawr dros y môr tuag at Harlech. Ar un adeg, roedden nhw'n anfon ffrwydron i'r fyddin yn Iwerddon adeg y 'troubles' ac roedd yn rhaid llenwi bob math o ffurflenni swyddogol are u cyfer. Roedden nhw'n llenwi ffurflenni ar gyfer pob math o ffrwdron ond roedd rhyw 'dye coch' ar rheina ac roedd yn rhaid clirio cwt arbennig i'w gwneud.
 
Pan gâi o wyliau, roedden nhw'n mynd i Butlins, yn Barry, Bognor Regis, Minehead, Skegness, fel llawer o'i gydweithwyr, - yn nes ymlaen roedd hyn, pan oedd o'n ennill yn well. Roedd cinio Nadolig yn Cookes pob blwyddyn a hefyd roedd Workers Playtime, rhywbeth mae'n ei gofio'n dda yn y cantîn pan oedd o newydd ddechrau yno.
 
Aeth llawer o gyn-weithwyr Cookes i Drawsfynydd ar ôl i'r ffatri gau, neu pan gawson nhw eu diswyddo, ond mae Iorwerth yn deud bod hi wedi talu iddo aros yno mor hir, achos mae wedi cael pensiwn da iawn. Roedd o'n mwynhau gweithio yno ar y cyfan ond dim y pennau tost. Roedd yn rhaid i'r gweithwyr cael archwiliad iechyd yn rheolaidd, roedd dau feddyg, Dr Pritchard o Borthmadog a Dr Mansell, ac efo'r ail, yr unig beth oedd yn digwydd oedd, roedd o'n gofyn "Sut ydych chi'n teimlo heddiw?" a'r gweithiwr yn ateb "Iawn, diolch." Ond gan Dr Pritchard, roedden nhw'n cael archwiliad llawn a da.
 
Roedd yn rhaid i’r gweithiwr gael archwiliad meddygol hefyd cyn dechrau. Roedd pawb yn cael ei archwilio wrth ddod i mewn trwy'r giât, rhag ofn bod matsys ganddynt. Os oedden nhw'n smygu, roedd yn rhaid iddynt fynd i'r cantîn ac roedd peiriannau arbennig ar y waliau i osod eu cigarettes. Doedd dim hawl ganndynt i fynd ag arian - coins - i mewn, rhag ofn gwreichion, ac roedd yn rhaid iddynt roi sgidiau arbennig am eu traed a thynnu eu sgidiau eu hunain rhag ofn fod rhywbeth arnynt a allai achosi ffrwydrad. Mae'n cofio rhyw ferch o Danygrisiau, gweithiwr newydd, yn mynd i mewn efo studs yn ei sgidiau, sgidiau roedd y cwmni wedi’u rhoi iddi i’w gwisgo trwy gamgymeriad ond roedd rhai dynion wedi sylwi mewn pryd.
 
4 Stori arall a ddywedodd Iorwerth oedd - pan oedd yn rhaid iddo losgi ffrwydron ac roedd yr heddlu a'r frigâd dan wedi dod, fel oedd yr arfer, ac yntau’n gweiddi 'tanio, tanio' fel rhybudd i bawb - a dim byd yn digwydd.
 
Ar y staff, roedd rhaid iddo fynd i gynadleddau hefyd, i Ogledd Lloegr a Jersey, ac roedd y cwmni yn talu am bopeth. Roedd o 'in charge of disputation (?)' pan oedd rhywun yn ymddeol dros y wlad i gyd yn y diwedd. Cafodd o llun o Fynydd Cnicht pan ymddeolodd. Mae’n dal mewn cysylltiad efo nifer o’i gydweithwyr. Does dim un o'i blant wedi mynd i weithio mewn ffatri. Lle mawr oedd Cookes, sydd nawr yn natur a bywyd gwyllt.
 
Hyd 1 awr
 
http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN030.2.pdf