Beryl Jones, Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Beryl ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 20/06/1932 Ganwyd hi ym Mhorthmadog a chafodd ysgol yno tan lefel dau. Disgynnodd hi yn ystod yr haf hwnnw o dop y shelter yn y cae ped droed. Dywedodd ei mam mai arni hi roedd y bai ond dywedodd ei nain bod yn rhaid iddi fynd at y meddyg achos roedd ei braich wedi chwyddo'n fawr. Aeth hi at feddyg a wnaeth o ail-setio fo, ondr oedd yn rhy hwyr i setio'n iawn ac mae'n chwyddedig o hyd. Ond achos hyn, cafodd hi TB. Roedd yn rhaid iddi fynd i ysbyty yn Llangwyfan a chollodd hi bron ddwy flynedd o ysgol. Pan ddychwelodd hi, oedd pawb wedi trïo'r ysgoloriaeth ac roedd yn rhaid iddi fynd i'r Ysgol Central ym Mhorthmadog, er ei bod hi'n siarad mwy o Saesneg nag o Gymraeg. Mae Beryl yn ddig iawn am y blynyddoedd o ysgol roedd hi wedi’u colli, ond aeth hi yn ei blaen ac roedd hi'n dda mewn chwaraeon. Roedd ganddi un brawd yr un oed â hi , a dwy chwaer, - y ddwy chwaer wedi dod yn hwyr, ar ôl y rhyfel. Ar ôl gorffen lefel 4, roedd hi'n awyddus i adael yr ysgol a mynd i weithio a phan awgrymodd ffrind eu bod nhw'n chwilio am waith yn Cookes, aethon nhw lawr i ofyn. Roedd Beryl yn 16 oed. Dechreuodd hi yn yr adran brintio a gadael fel pay clerk. Roedd hi'n nabod Mr Griffiths, yr under manager, felly chafodd hi ddim cyfweliad. Roedd cyfle ganddi i fynd i'r telephone exchange ar ôl yr ysgol ond doedd hi ddim eisiau, a doedd hi ddim eisiau gweithio mewn siop chwaith. Gyda'r fraich fel roedd hi, meddai, doedd hi ddim yn gallu gwneud swyddi fel nyrsio neu hair dresser. Doedd hi ddim yn gallu gweithio yn y cytiau o achos y fraich, felly chafodd hi ddim byd i'w wneud efo'r ffrwydron, a doedd hi ddim yn gallu mynd i mewn i'r cytiau chwaith. Roedd hi'n nabod llawr o bobol yno cyn dechrau ac mae’n dweud ei bod hi fel teulu yno, pawb yn nabod ei gilydd, pawb yn hapus. Doedd hi ddim yn nerfus achos doedd na ddim son am ffrwydrad wedi bod yn ddiweddar; roedd hi wedi mynd oddi ‘na erbyn y ffrwydrad mawr yn 1957. One of the crowd oedd hi, doedd hi ddim yn teimlo'n unig, roedd 'na rywbeth am y lle. Aeth y ferch a aeth i lawr efo hi i ofyn am swydd i'r cytiau i weithio. Roedd mam Beryl yn mynd allan i lanhau ac roedd ei thad yn saer maen. Roedden nhw'n hapus ei bod hi wedi cael gwaith. Ei swydd gyntaf yn y printing oedd printio'r papur er mwyn lapio'r ffrwydron; ond âi y papur i adran arall i wneud hyn, doedd y ffrwydron ddim yn dod i'r stafell brintio. Roedd Beryl yn gweithio ar beiriant fel peiriant papur newyddion ac roedd y papur yn dod mewn reams mawr ac yn dod allan mewn rholiau. Roedd genod eraill yn gwneud 'tubes' ac yn rhoi'r powdwr mewn iddynt. Roedd fforman a dwy o genod a thri o ddynion yn gweithio efo hi yn y stafell brintio. Chafodd hi ddim hyfforddiant ond doedd dim llawer i'r swydd, meddai, ac roedd hi'n ei phigo hi i fyny trwy ei gwneud hi. 12.50 Roedd hi'n mwynhau ond aeth hi o hynny i fod yn glerc i Mr Mitchell, a oedd yn fforman i'r genod powdwr. Roedd 'na le yno am bethau fel gwneud urine samples os oedd rhywun yn gweld y meddyg. Roedd y cwmni yn edrych ar ôl y gweithwyr ac roedd gan y lle feddyg - Dr Pritchard ac wedyn Dr Griffiths - a nyrsys a meddygfa ger y cantîn. Roedden nhw'n rhoi archwiliadau i'r gweithwyr yn rheolaidd. Roedd Beryl yn sôn bod y gweithwyr yn cael pennau tost ofnadwy, yn enwedig ar ôl gwyliau’r haf achos roedden nhw wedi bod i ffwrdd oddi wrth y gelignit am bythefnos ym mis Awst. Chafodd Beryl fyth gur pen achos doedd hi ddim yn gweithio efo'r powdwr ond roedd ei gŵr yn ddioddef yn ofnadwy. Fitter oedd ei gwr. Roedd hi yn yr ystafell brintio am ryw ddeg mis. Roedd hi'n gweithio 44 awr yr wythnos a doedd hi ddim yn gweithio penwythnosau. Roedd yn rhaid iddi glocio i mewn a mas a rhif ei cherdyn oedd 323 a'i gŵr yn rhif 77. Mae'n cofio rhifau'r gweithwyr eraill hefyd hyd yn oed ar ôl yr holl amser. Amser brêc a hanner awr i ginio, roedd hi'n mynd i'r cantîn. Mrs Williams oedd y rheolwraig. Roedd merch o'r enw Megan Jones yn gweithio yno ac roedd pobl yn ei galw hi'n 'pin up' achos roedd ganddi wallt blond gyda waves, ac yn dlws iawn, roedd 'pawb yn nabod Megan o Dalsarnau.' (Mae Megan yn dal yn fyw ond gwrthododd gael ei chyfweld). Roedd Megan yn gwasanaethu, gyda dwy arall, a Mrs Williams yn coginio. Yn y gwaith printio roedd hi'n sefyll drwy'r dydd ond mae'n dweud bod hynny'n iawn. A'i chyflog cyntaf oedd £2 rhywbeth a phan aeth yn pay clerk, cododd ei chyflog i £16 y mis. Roedd rhywun wedi gorffen yn y pay office a gofynnodd Mr Griffith iddi os oedd hi am gael y swydd. Roedd hi'n hapus iawn i symud i'r swyddfa ac roedd hi'n gweithio efo pedair merch arall - Dorothy, Megan, Mary, a Gwenni. Roedd y gweithwyr ar piece work ac roedd y merched yma yn cyfrif faint roedden nhw'n ei gael, gyda'r overtime ayyb. Roedden nhw'n cael time and a half am overtime a double time am weithio dydd Sul. Roedd yr oriau ar y cerdyn ac roedd y gweithwyr yn dod â'r cerdyn i'r swyddfa gyflog. Roedd y merched a oedd ar piece work yn cael bonws os oedden nhw wedi gwneud llawer o waith a gallai eu cyflog godi yn dda iawn. Gwaith Beryl oedd gweithio hyn allan i gyd ac ar y nos Wener, roedden nhw'n agor ffenestr y swyddfa gyflogi ac roedd dwy ohonynt yn rhoi'r pecynnau i gyd allan. Bydd gweithiwr yn dod at y ffenestr, dweud eu rhif, ac roedd y merched yn chwilio am y pecyn. Roedd yr arian yn dod mewn amlen. Roedd merched y swyddfa gyflog ar gyflog misol ond roedd gweithwyr y cytiau yn cael eu talu bob wythnos ac roedden nhw'n gallu ennill llawer mwy na merched y swyddfa, meddai Beryl, gyda'r piece work, bonws, a gweithio dros amser. Os nad oedden nhw yn gweithio llawer, dim ond hourly rate roedd gweithwyr y cytiau yn ei wneud; ond os oedden nhw wedi gweithio'n galed, roedd bonws yn mynd ar ben hwnnw. 21.20 Doedd y merched ddim yn gwneud overtime, yn ôl Beryl, dim ond y dynion. Roedd y dynion yn gweithio overtime, ee, os oedd peiriant wedi torri lawr ac roedd rhaid iddynt ddod mewn ar y dydd Sadwrn neu ddydd Sul i’w drwsio fo, neu os oedd angen gwaith cynnal ayyb, roedd y dynion yn gwneud hyn fel over time. Wrth sôn am y cyflogau da yn Cookes, roedd Beryl yn dweud mai dim ond y merched oedd yn gweithio yn y sheathing neu'r pacio oedd yn gallu fforddio dillad o Hebe Sports ym Mhorthmadog. Mae'n cofio merch, Catherine Edwards, ac roedd Hebe Sports hyfryd ganddi. Siwtiau tweed, sgert a siaced, smart iawn o siop Gordon Jones oedd Hebe Sports. Doedd Beryl fyth yn gallu prynu siwt Hebe. Doedd hi byth yn genfigennus achos roedd hi'n meddwl bod y merched yn haeddu cael y dillad yma o ystyried lle roedden nhw'n gweithio. Sheathing oedd rhoi powdwr mewn i'r tubes? Ond dydy hi ddim yn cofio'n iawn. Pacio oedd rhoi'r gelignit I mewn i yn y cytiau - eto, doedd hi ddim yn gallu cofio beth yn hollol oedd y ddwy swydd yma. Ym mhob cwt roedd tua 4 merch. Yn y cantîn roedd pawb yn cymysgu. Roedd yn rhaid i ferched y cytiau dynnu eu sgidiau cyn mynd i mewn i'r cytiau a’u gwisgo nhw, gyda'u pethau personal y tu fas. Roedden nhw'n gwisgo overalls ac overboots yn y cytiau. Yn y swyddfa, roedd Beryl yn gwisgo ei dillad ei hun a phan oedd hi yn y printio, roedd hi'n gwisgo overall dros ei dillad. Ei horiau fel pay clerk oedd 9 tan 5.30. Roedd undeb yno, meddai, a doedd hi ddim yn aelod. Dydy hi ddim yn gwybod pam lai ond o'r cyflog roedden nhw'n tynnu pres i dalu'r undeb a'r pensiwn. Mae hi'n dal i gael pensiwn ei gŵr, sydd wedi marw erbyn hyn. Mae'r cwmni wedi bod yn dda iawn iddi er mai dim ond am 3-4 blynedd y bu hi yno. Godsend mae'n galw'r arian hwn. Fitter oedd ei gwr, yn trwsio a chadw'r peiriannau i gyd. Mae llun cynnar o'r fitters, gan gynnwys ei gŵr, sef VN027.4. Doedd hi ddim yn nabod ei gwr cyn mynd i Cookes er ei fod o'n dod o Benrhyndeudraeth, achos roedd hi'n byw ym Mhorthmadog. Roedden nhw'n canlyn am 4 blynedd cyn priodi a gorffennodd Beryl weithio ar ôl priodi. Roedd beic modur ganddo ac roedd llawer o ddynion o Cookes yn mynd i Ynys Manaw ar gyfer y rasys TT; aeth ei gŵr hefyd sawl gwaith ac unwaith aeth Beryl gyda fo. Mae'n cofio mynd ar gefn y beic efo'i gŵr trwy bentref Cwm Celyn cyn iddo fo ddod yn dam Tryweryn. Doedden nhw ddim yn mynd allan i'r dafarn gyda'r nos ond roedden nhw'n mynd i'r sinema weithiau, rhannu gofal y plant rhyngddynt. Roedden nhw'n 'reit homely' meddai. Doedd Beryl ddim yn yfed. Roedd rhai o'r gweithwyr yn mynd allan dros y penwythnos neu i'r old time dancing yn y pentref. Roedd ei gŵr yn Cookes am 35 o flynyddoedd a phan gafodd o anrheg am yr amser hwn, cafodd Beryl watsh aur hefyd, yr un sydd ganddi yn y llun uchod. Cafodd ei gŵr watsh ar ôl 20 o flynyddoedd yn y gwaith a set de arian am 35 o flynyddoedd, llun VN027.7. Cafodd pawb anrhegion o'r fath. Roedd y cwmni yn rhoi parti Nadolig i'r gweithwyr a hefyd roedd 'na stafell hamdden fawr a chytiau tenis yno. Roedd Beryl yn chwarae tenis ar ôl gwaith neu ar ddydd Sadwrn. Un tro mae'n cofio chwarae yn erbyn pobl Minffordd. Roedd y plant hefyd yn cael parti Nadolig yn yr ystafell hamdden. Os oedd cyflwyniad mawr, roedden nhw'n mynd i Westy St David's yn Harlech. 34.00 Yn y cinio Nadolig, dim ond y gweithwyr oedd yn mynd, dim eu teuluoedd. Roedd hi'n cael gwyliau o bythefnos yn yr haf, pan oedd y lle yn cau a dim ond gofalwr nos yn gweithio. Doedd Beryl a'i gŵr ddim yn mynd i ffwrdd, dim ond am dripiau dydd i lefydd fel Ynys Môn am bicnic, neu i'r sŵ. Aeth unwaith â'r plant i Ynys Manaw. Roedd y gweithwyr yn cael y gwyliau banc arferol. Gadawodd Beryl Cookes pan oedd hi'n disgwyl ei phlentyn cyntaf. Roedd gan ei mam ddwy o genod gartref ar y pryd felly doedd Beryl ddim eisiau iddi ofalu am ei phlentyn hi hefyd. A doedd dim y fath beth â creche a doedd hi ddim yn gallu talu am rywun i warchod. Priododd hi yn 1954 a chafodd ei merch ei geni ym mis Tachwedd 1955. Roedd Beryl yn ddigon bodlon i adael a’r amser hynny roedd merched yn priodi a chael plant. Mae'n wahanol i ferched heddiw sydd â mwy o gyfle i fynd ymlaen i bethau eraill. Ar ôl gadael Cookes, pan oedd ei merch Carol yn 12 a'i mab Gareth yn 9, aeth Beryl i weithio mewn siop ffrwythau, lle roedd ffrind iddi yn rhoi gorau iddi, ac yn gofyn a oedd Beryl eisiau cymryd ei lle. Ar ôl hynny, cafodd hi swydd yn Bron Garth yn nyrsio, er nad oedd hi ddim eisiau yn y dechrau, ond bu hi yno am 20 mlynedd. Ymddeolodd pan oedd yn rhaid iddi i warchod ei hwyrion. Roedd ei gŵr yn Cookes tan i'r cwmni orffen. Roedden nhw'n teithio llawer ar ôl hynny, gan gynnwys gwyliau da yn yr USA, efo lump sum roedd ei gŵr wedi’i gael gan y cwmni. Wrth edrych yn ôl ar ei gwaith yn Cookes, mae'n cofio'r ffatri fel lle hapus, roedd pawb yn ffrindiau, a fedr hi ddim esbonio'r peth, ond roedd pawb yn un, y gweithwyr, y rheolwyr, merched y swyddfa, y cantîn. Roedd pawb yn ymwybodol fod o'n lle peryglus i weithio ynddo, ond ddim yn siarad am y peth hyd at y ffrwydrad mawr yn 1957, achos roedd yn rhaid i’r cwmni fynd i'r llys. Mae'n meddwl bod clustiau ei gŵr wedi'u heffeithio gan y ffrwydrad hwn, achos roedd o'n weddol agos i'r cwt, ond wnaethon nhw ddim deud dim wrth neb. Aeth ei gŵr yn fwy distaw ar ôl y ffrwydrad hwn, achos cafodd 4 eu lladd. Rai blynyddoedd ar ôl hyn, pan oedd Beryl yn gweithio yn Bron Garth, efo dynes o'r enw Mari, cafodd dyn ei ladd wrth yr afon yn Cookes, gŵr Mari. Dydy hi ddim yn cofio streic yno ac mae’n dweud bod dim byd arall yn yr ardal. Roedd ei gŵr, Owen Gwilym, wedi dechrau yn Cookes yn 14 oed ond pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd, aeth o i'r fyddin, a dychwelodd i'r ffatri ar ddiwedd y rhyfel. Mae llawer o ferched wedi cael hyd i ŵr yn Cookes, meddai, a llawer o dynion wedi cael hyd i wraig. Roedd Beryl yn Cookes Explosives o 1950 tan 1954. Y dyddiau yma, mae'n gwneud gwaith gwirfoddol, felly mae’n dal i fod yn brysur. Hyd 50 munund
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment