Blodwen Owen, Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Blodwen ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 20/08/1925
Mae'n dod yn wreiddiol o Lanfrothen, roedd ei mam yn wraig ty a'i thad yn chwarelwr yn y chwarel yng Nghroesor, a symudodd o i'r de am ychydig ar ôl i'r chwarel gau i weithio yn y pyllau glo. Aeth y teulu ddim efo fo. Roedd saith o blant i gyd yn y teulu, ac roedd Blodwen yr ifancaf ond un. Aeth hi i ysgol yn Llanfrothen ac wedyn i Ysgol Sir Porthmadog, yn gadael tua 15 neu 16 oed, achos doedd dim arian gan y teulu i dalu'r bws o Lanfrothen i Borthmadog nac am lyfrau. Roedd y teulu yn byw ar gyflog ei thad. Roedd Blodwen gartref yn helpu ei mam wedyn ac yn gweithio tipyn mewn hotel yn Llanfrothen. Roedd hi'n dysgu llawer gan ei mam. Câi hi 'chweugian' yr wythnos yn yr hotel. Roedd ei mam yn golchi pethau hefyd yn yr hotel, ond nid oedd yn cael cyflog am hyn (?). Aeth ei brodyr i ffwrdd i weithio ac wedyn i'r rhyfel. Roedd Blodwen yn yr hotel tan iddi gael gwaith yn Cookes, trwy ffrind oedd yn gweithio yno. Chafodd hi ddim cyfweliad, dim ond mynd i'r swyddfa i ofyn am swydd.
Roedd hi'n mynd ar gefn beic o Lanfrothen i Benrhyndeudraeth. Roedd hi'n 15 oed yn dechrau yn Cookes dywedodd hi. Doedd hi ddim yn nerfus yn dechrau achos roedd ganddi ffrindiau yno yn barod. Ei swydd hi oedd gwneud bagiau papur i mewn i ryw fath o cartridge ar gyfer y powdwr a'r gelignit, dim efo pethau perygl. Pan oedd y merched yn cyrraedd 18 oed, roedden nhw'n gorfod symud i'r cytiau i weithio efo'r deunydd peryglus; cyn 18, roedden nhw'n gwneud pethau fel bagiau. Roedd y gwaith yn undonog iawn, meddai, ac roedd hi'n gweithio 'piece work', a oedd yn golygu os nad oedd hi'n gwneud digon, doedd hi ddim yn cael cymaint o gyflog. “Roeddech chi'n gorfod gweithio'n galed i wneud eich cyflog.”
7.15 Roedd hi'n gweithio 8yb tan 5yh, gyda hanner awr i ginio. Roedd y cyflog yn codi rhywfaint ar ôl mynd i'r cytiau, meddai, ond dim llawer. Tair punt oedd ei chyflog cyntaf ac ar ôl cael codiad, chafodd hi ddim mwy na saith bunt. Doedd y ffatri ddim yn lle cyfforddus i weithio yn enwedig yn ystod y rhyfel, pan oedden nhw'n gwneud hand grenades ac roedd dwylo'r merched yn mynd yn felyn ac roedd ‘na arogl drwg yno o'r TNT, a oedd yn beryglus ofnadwy. Wrth ddisgrifio'r gwaith, dywedodd Blodwen fod ganddi stand ac oedd hi'n rhoi'r grenade arno a gwthio'r powdwr i mewn. Roedd rhai eraill yn peintio'r tu allan, naill ai yn wyrdd neu’n goch, ac roedd yn rhaid iddyn nhw beidio’u cyffwrdd nhw os oedd y paent yn wlyb. Ar ôl i'r paent sychu, roedden nhw'n rhoi'r grenades i mewn i 'r holder yma er mwyn llenwi nhw efo TNT, ac roedd ganddi ryw offer - pric - i dopio fo i mewn. Ac wedyn swydd rhai o'r merched oedd goruchwylio i weld os oedd y grenades wedi'u llenwi'n iawn, bod digon o bowdwr ynddynt. Os na, caent eu gwrthod ac roedd rhaid eu hail-lenwi nhw. Roedd Blodwen yn trio’u llenwi nhw yn iawn.
Ar ddiwedd pob shifft, roedd rhaid i'r gweithwyr roi dwr i lawr i sicrhau nad oedd 'friction' pan oedd rhywun yn brwsio'r llawr; doedden nhw ddim yn gallu jyst brwsio'r powdwr i ffwrdd rhag bod 'na friction a gallai hynny achosi ffrwydrad. Doedd y merched ddim yn gallu gwisgo clipiau yn eu gwalltiau am yr un rheswm.
Roedd hi'n gwisgo iwnifform ac roedd ei chroen wedi'i achub ond doedd hi ddim yn gwisgo masg. Doedd pobl ddim yn ymwybodol o pa mor beryglus oedd y gwaith tan i ICI gymryd drosodd. R.T Cooke oedd piau'r lle ond ar ôl y ffrwydrad mawr, cymerodd ICI drosodd a newidiodd pethau. Collodd Blodwen chwaer yn y ffrwydrad mawr yn 1957, sef Elizabeth (VN026) Roedd
Blodwen newydd orffen gwaith yng nghwt P3, lle roedden nhw'n gwneud y sheathing ac roedd ei chwaer ar y powdwr yng nghwt P1. Roedd Blodwen newydd ddweud hwyl wrth ei chwaer a hithau wrthi yn llenwi ?? ar y peiriant “A dyma fi yn dweud 'Dw i'n mynd, mae'r hwter yn canu'” a cherddodd hi lawr i'w lle hi, a daeth 'coblyn o glec' a chafodd hi ei thaflu dros y bench a'i hitio allan, a chawson nhw hyd iddi yn fanno. Roedd hi mewn sioc felly doedd hi ddim yn gwybod faint na phwy oedd wedi cael eu lladd am ddau ddiwrnod. Roedd ei chwaer yn byw gartre ac roedd Blodwen wedi priodi erbyn hyn ac yn byw ym Mhorthmadog. Roedd ei chwaer yn 45 oed ar y pryd a Blodwen yn 32 oed. Cafodd pedwar eu lladd y diwrnod hwnnw, tair merch ac un dyn. Roedd 'na gwest i mewn i'r ffrwydrad, gyda'r dyfarniad: 'No negligence on the part of the company', ond doedd neb yn gwybod. Ond mae Blodwen yn cofio, un diwrnod ychydig cyn y damwain, bod un o'r fformen wedi galw ar griw o ferched, gan gynnwys Blodwen, i beidio â mynd un ffordd, ond i gymryd ffordd arall. Pan ofynnodd Blodwen pam, dywedodd y dyn yma ei fod o wedi gweld flashes glas o drydan glas y ffordd hynna. Roedd llygod i fyny'r grisiau, meddai Blodwen, a phobl yn meddwl eu bod wedi cnoi trwy'r gwifrau trydan. Roedd pobl yn ddig ond chafodd neb geiniog o iawndal i'r teuluoedd achos doedd gan ei chwaer ddim dependents, dim ond talu am y claddu gwnaeth y cwmni, er bod dim byd ar ôl i gladdu, meddai Blodwen.
15.00 Roedd Blodwen i ffwrdd o'r gwaith am hanner blwyddyn; yn y diwedd, meddai rheolwr y gwaith wrthi y byddai'n well iddi fynd yn ôl neu ni fyddai’n anghofio am y peth fyth. Roedd o'n anodd iddi fynd yn ôl, meddai, yn ofnadwy, ond wnaethon nhw ei symud hi o'r lle roedd y damwain wedi digwydd i ochr arall y safle. Ail-adeiladon nhw'r cwt hwnnw yn y diwedd. Gwaith newydd Blodwen oedd yn y packing house, lle roedden nhw'n pacio'r cartridges i fynd i ffwrdd. Roedd y grenades wedi stopio erbyn hynny, ar ôl i'r rhyfel orffen. Ar ôl i ICI gymryd drosodd (yn ystod y rhyfel), wnaethon nhw adeiladu 'mounds' uchel o gwmpas pob cwt er mwyn lleihau'r effaith tasa ffrwydrad arall yn digwydd. Cyn hyn, roedd y safle yn hollol agored. Roedd 'na fwy o reolau iechyd a diogelwch wedyn, meddai. Ar ôl y rhyfel, gwneud ffrwydron ar gyfer pyllau glo yr oedd y ffatri.
Yn y pacio, roedd rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ferched, heblaw'r dyn a oedd yn derbyn y stwff i mewn ac yn gyrru'r ffrwydron i ffwrdd. Gweithio mewn grwp o bum merch ac un dyn yr oedd Blodwen yn yr ystafell bacio, o 1957 ymlaen. Cyn hynny, roedd hi wedi bod yn gweithio yn y sheathing, lle roedden nhw'n derbyn y cartridges ac yn eu rhoi nhw mewn bagiau efo soda (?) o’u cwmpas. Roedd y merched yn gorfod rhoi rhywbeth am ei gwalltiau yn y swydd hon ac oedd na beiriant yn rhoi rhywbeth o gwmpas y bag yma i'w gloi. Doedd Blodwen ddim yn hir yn y swydd hon achos doedd hi ddim yn ei hoffi fo o gwbl ac o fanno, aeth hi i'r pacio. Roedd twrw ofnadwy gyda'r peiriant cloi yma, ac roedd hi’n ofnadwy pan oedd hi'n boeth, yn enwedig os oedd hi'n mynd i mewn ar gyfer y shifft prynhawn. Roedd y shifftiau yn mynd o chwech tan ddau a dau tan ddeg, ac wyth tan bump, ac amser rhyfel, roedd hi ar y shifft nos hefyd. Doedd y gweithwyr ddim yn gallu dewis shifft a doedd hi ddim yn hoffi'r shifft nos o gwbl, Roedd hi'n teithio ar gefn beic hefyd, ddydd a nos. Mae’n dweud bod hyn yn 'way of life adeg hynny.' Roedd rhai merched o Lanfrothen yn gweithio yno hefyd ond dim o angenrheidiol ar yr un shifft.
21.00 Priododd Blodwen yn 1947 a chafodd hi ddau fab, a pharhau i weithio, yn codi am bump os oedd hi ar y shifft fore, gwneud brecwast iddynt a'r gwr, ac roedd y gwr yn mynd â'r plant i'r ysgol. Roedd ei gwr yn gweithio efo'r bwrdd nwy ac yn gweithio shifftiau gwahanol i Blodwen, felly roedden nhw'n rhannu'r gwaith gofalu am y plant rhyngddynt. Cafodd Blodwen gap o Cookes pan oedd hi'n feichiog a dychwelyd wedyn. Roedd hi yno 25 1/2 o flynyddoedd o'r dechrau i'r diwedd, o tua 1940 tan1970, gyda'r bwlch yma. Roedd rhaid i'r merched oedd yn gweithio efo'r ffrwydron fynd at y meddyg bob wythnos am 'check up' ac aeth Blodwen un tro, a dywedodd y meddyg wrthi fod gwasgedd ei gwaed yn isel iawn, ac roedd o'n mynd i’w thynnu hi oddi ar y ffrwydron i wneud gwaith ysgafn am chwe wythnos. Ond ar ôl mis, daeth rhyw foreman ati a dywedodd bod rhaid iddi fynd yn ôl i'r cytiau, ac aeth hi. Ar ôl tipyn, galwodd y meddyg hi’n ôl i'r feddygfa ac roedd ei gwasgedd yn isel eto. 'Wyt ti wedi mynd yn ôl?' gofynnodd, a phan atebodd Blodwen fod y fforman wedi ei hanfon hi yn ôl i'r cwt, aeth o'n syth ar y ffôn iddo a dywedodd wrth y dyn bod hi'n dioddef o 'NG poisoning' a doedd hi ddim yn mynd yn ôl i'r gwaith, bod rhaid iddi orffen gwaith yr un diwrnod. Dywedodd Blodwen nad oedd hi’n gallu gorffen ond mynnodd y meddyg bod yn rhaid iddi orffen neu doedd o ddim yn mynd i yn gyfrifol amdani. Roedd y NG poisoning yn effeithio ar y galon, a gan ei bod hi wedi bod yno 26 o flynyddoedd, roedd hi mewn perygl o ddioddef y salwch hwn. Ymddeolodd Blodwen bryd hwnnw ond chafodd hi ddim iawndal o gwbl am y salwch roedd hi'n ei ddioddef. Roedd undeb yno ac roedd Blodwen yn aelod, fel y rhan fwyaf, ond dim pawb, ond doedd yr undeb ddim yn ddigon cryf i helpu yn y mater hwn. Ar ôl colli ei gwaith, roedd Blodwen yn crïo bob cam o'r ffatri i'w chartref ar y bws. Cafodd hi waith mewn siop esgidiau ym Mhorthmadog ac roedd hi yno tan i'r siop gau.. Yn y siop hon, roedd menyw arall a oedd wedi bod yn gweithio yn Cookes ac roedd hithau yn dioddef efo’i thyroid ac yn gorfod gorffen.
Roedd Blodwen yn colli cwmni'r merched eraill ar ôl gorffen ac yn deud bod nhw'n grêt, ffrindiau da- pawb. Roedd tri llond bws yn mynd â'r gweithwyr yno ac roedd bron chwe chant yn gweithio yno. Roedd 'na rai oedd yn gallu bod yn gas ond ar y cyfan roedd pawb yn iawn. Doedd hi ddim yn cymdeithasu efo nhw y tu allan i'r gwaith achos roedd digon ganddi hi i’w wneud gartref yn gofalu am y gwr, y plant a'r ty. Cafodd hi ei mab cyntaf yn 1948, pan oedd hi'n 23; cafodd hi'r ail fab dwy flynedd wedyn. Dywedodd hi ei bod hi wedi mynd yn ôl i'r ffatri ar ôl i'r ail fab gyrraedd rhyw dair oed, - yn y pumdegau oedd hyn, cyn y ffrwydrad yn 1957.
29.10 Roedd cantîn 'lyfli a cook ardderchog' yn Cookes a phob Nadolig roedd y gweithwyr yn cael cinio am ddim. Roedd staff y cantîn yn dod i mewn ar y Dydd Sul cyn y Nadolig i baratoi. Roedd y gweithwyr yn talu am eu cinio trwy'r flwyddyn ond dydy hi ddim yn cofio faint, ond dim llawer meddai. Roedd y bwyd yn dda iawn. Doedd y cantîn ddim ar agor ar y shifft nos, roedd pobl yn cael mynd yno i fwyta bwyd roedden nhw wedi do dag e i mewn efo nhw, ac roedd 'na degell i wneud te neu goffi, ond doedd y gegin ddim ar agor gyda'r nos.
Roedd rhaid i'r gweithwyr glocio mewn a mas yn y dechrau ond cafodd y cwmni wared â hyn yn nes ymlaen. Roedd pobl yn brydlon achos roedd y swyddfa drws nesaf i'r giât lle oedd pobl yn mynd i mewn, felly roedd yn rhaid iddynt fod yn brydlon.
31.30. Roedd Blodwen ar y 'works committee' ac yn mynd bob blwyddyn ar dripiau i Ogledd Lloegr i gyfarfodydd y cwmni, gyda ffatri arall Cookes wedi'i lleoli yn Yr Alban. (Yma roedd Blodwen yn dangos lluniau, gan gynnwys rhai o'r pwyllgor gwaith ac un o'i chwaer a gweithwyr eraill a gafodd ei lladd yn Awst 1957 a phan oedd hi'n ymddeol). Cyfarfodydd 'Liaison' oedd y rhain efo ffatrïoedd ICI yn yr Alban. Cafodd Blodwen ei hethol i'r pwyllgor gwaith, trwy bleidlais. Roedd y cwmni yn cyflogi ei feddyg ei hun, meddai hi. Roedd un o'r rheolwr wedi dod â scheme i mewn lle roedd gweithwyr yn gallu ennill bonus am beidio colli gwaith; enillodd Blodwen hwn a chafodd hi award o tua £70 am full attendance. Roedd y gweithwyr yn cael tâl salwch.
Doedd y cwmni ddim y trefnu tripiau i'r gweithwyr ond yn yr haf roedd Blodwen yn cael wythnos o wyliau ym mis Awst, gyda gwyliau cyffredin amser y Nadolig a’r Pasg. Yn y pwyllgor gwaith, roedden nhw'n trafod ffyrdd i wella'r ffordd o weithio, ee. Yn nes ymlaen daethon nhw â rhagor o beiriannau i mewn, lle o'r blaen roedd y gweithwyr yn gwneud pethau gyda'u dwylo. Hefyd oedd ‘na scheme lle roedd y gweithwyr yn cael eu hamseru, roedd dynion yn dod ac yn amseru faint roedd hi'n ei gymryd i'r gweithwyr wneud eu gwaith. Doedd pobl ddim yn hoffi hyn o gwbl. Erbyn iddi ymddeol, roedd pethau wedi gwella llawer yn y ffatri, meddai, gyda chyflog gwell a'r automation hyn. Mae ei bysedd hi yn nawr yn chwyddedig ac afluniaidd ac mae'n meddwl mai effaith y gwaith roedd hi'n ei wneud oedd hyn.
Roedd ICI yn gofalu am y gweithwyr yn well na R.T. Cooke, ac roedden nhw'n dda iawn o ran diogelwch 'keen iawn on safety.' Ond aeth y cyflog ddim i fyny llawer, ac roedden nhw wedi dod â'r piece work i mewn a oedd yn mynd ar nerfau pobl, achos os nad oeddech chi’n cyrraedd y nod, doeddech chi ddim yn ennill cymaint o gyflog, doeddech chi ddim yn teimlo 'gwerth y cyflog' ac roedd hynny'n beth drwg, meddai. Time and Motion oedd hyn, dywedodd Blodwen, ac mae'n meddwl bod rhai gweithwyr wedi dioddef achos hyn, fel y ddynes a oedd yn gweithio efo hi nes ymlaen yn y siop sgidiau a oedd yn dioddef efo'i thyroid. Yn ôl pob sôn, dywedodd meddyg yn Lerpwl wrth y ddynes hon 'They are making machines out of you instead of human beings and it is wrong. Piece work is wrong. I condemn it.'
Dywedodd Blodwen roedd 'na lot o bickering yn y ffatri o achos y piece work ac roedd y cyflog yn mynd i fyny ac i lawr. Doedd dim llawer o amser i sgwrsio yn y gwaith, meddai, full speed ahead. Roedd y siarad yn cael ei wneud yn y cantîn. Roedd pobl yn canu yno; roedd un dyn a oedd yn enwog am ganu ac roedd o yn canu o hyd, ond yn gwneud y gwaith ar yr un pryd. Roedd Blodwen wedi mwynhau gweithio yn Cookes, yn enwedig y ffrindiau roedd hi wedi eu gwneud yno. Roedd pobl Blaenau Ffestiniog yn ffrindiau am oes, meddai. Mae'n difaru tipyn achos fod ei hiechyd wedi cael ei effeithio ondyr adeg hynny roedd yn rhaid i chi weithio, meddai, neu lwgu.
Roeddech chi'n ifanc a doedd y NG poisoning ddim yn effeithio ar bawb. Pan oedd y gweithwyr gartref dros y penwythnos roedden nhw'n dioddef o bennau tost ofnadwy, fel rhyw fath o withdrawal symptom ac roedd rhai yn mynd â darn bach o gelignit adre efo nhw a 'snwffio' fo dros y penwythnos a byddai'r pen tost yn mynd. Doedd y rheolwyr ddim yn gwybod am hyn ac roedd y stwff yma'n beryglus iawn. Wnaeth Blodwen mo hynny erioed ond roedd ffrind hi yn gwneud hynny bob penwythnos achos roedd hi'n ddioddef yn ofnadwy efo'r pen tost yma.
Y ffrwydrad mawr yn 1957oedd y peth mwyaf mae Blodwen yn ei gofio am ei hamser yn Cookes. Dywedodd hi fod meddyg, lady doctor, ac roedd hi yno efo'r meddyg arall, ac aeth honno i mewn ar ôl y ffrwydrad, a dod o hyd i allwedd ty ei chwaer, a oedd wedi bod yn gartre i’r teulu ond roedd ei chwaer yn byw yno ar ôl i'w mam a’i thad farw. a doedd hi ddim wedi priodi. Mae’r agoriad gan Blodwen o hyd 'all twisted up.' Roedd gwr Blodwen wedi mynd lawr i'r gwaith ddiwrnod ar ôl y ffrwydrad a dywedodd ei bod hi'n amhosib cerdded yno am fod gwydr dros y lle i gyd. Roedd ei gwr wedi bod yn y rhyfel, yn Burma ac wedi gweld pethau mawr, ond wnaeth o ddim crio tan iddo fynd i mewn i dy ei chwaer yng nghyfraith y diwrnod hwnnw a gweld ei slippers a phopeth yn spick and span a'r bwrdd wedi'i osod ar gyfer te, a thorrodd e i lawr.
Roedd wedi bod damweiniau o'r blaen ond roedd honno yn ddamwain fawr - mae Blodwen yn cofio'r dyddiad, 28 Awst 1957, yr un dyddiad ag y bu farw ei mam, saith mlynedd ynghynt.
Ar ei diwrnod ymddeol, roedd Blodwen yn teimlo'n chwerw a doedd hi ddim eisiau parti ffarwelio. Rhoddodd Dr Stone gloc iddi'r dirwnod hwnnw. Ond roedd 'na barti pan oedden nhw'n rhoi'r watshys i bawb. Tasai hi wedi bod yno dair blynedd arall, byddai wedi cael watsh aur, ond mae'r un arian sydd ganddi yn 'good time-keeper,' meddai, ac mae'n ei gwisgo hi yn y llun uchod.
Dywedodd Blodwen stori hefyd o adeg y rhyfel, stori ysgafn ar ôl i'r recordydd ddiffodd am un o'r merched – ei bod wedi rhoi nodyn i mewn i focs o grenades, gyda'i henw a’i chyfeiriad ac atebodd milwr ateb hi. Ar ôl y rhyfel daeth o i Benrhyndeudraeth a phriododd y ddau yn y diwedd.
Hyd: 50 munud.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment