arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Megan Owen, Lleisiau o Lawr y Ffatri

James Kaylor (Compactau), Caernarfon (1952-65 & 1977-84?)

Cyfwelai: VN022 Megan Owen

Dyddiad: 14: 04: 2014

Cyfwelydd: Kate Sullivan ar ran Archif Menywod Cymru

Roedd Megan yn y ffatri gompactau am ugain mlynedd, gan ddechrau yno yn 15 oed. Doedd hi ddim wedi gadael yr ysgol yn swyddogol ond roedd ffrind ganddi, roedd wedi pasio'r ysgoloriaeth ac yn cael mynd i ysgol ramadeg, ond doedd hi ddim eisiau mynd, a dywedodd honno wrth Megan ei bod hi'n mynd i drio am swydd yn y ffatri compactau. Aeth y ddwy ohonynt i lawr i ofyn am swydd a llwyddon nhw, a chafodd Megan 'row' gan ei mam wedyn. Ar ei diwrnod cyntaf, roedden nhw wedi mynd yno "fel plant bach, socs bach gwyn a' ponytails', fath yn union â plant ysgol, ac yn giglan gwirion a ddim y gwbod be' i ddisgwyl." Roedden nhw'n rhoi'r rhai ifanc mewn ystafell efo'i gilydd lle roedden nhw'n rhoi'r pethau bach crwn yng nghanol y compactau i ddal y powdwr, a rhoi'r 'satin' o'i gwmpas o. Wedyn, roedd Megan yn dysgu gwaith arall, gweithio yn yr adran brintio am y rhan fwyaf o'r amser, yn rhoi'r patrwm ar y compactau mewn paent. Gadawodd hi am 12 mlynedd i fagu'i merch, ac yna dychwelyd tan i'r ffatri gau, tua 1984.

Eitemau yn y stori hwn

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Cyfweliad. Megan Owen, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compact James Kaylor, 1950au

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compact James Kaylor, 1940au

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compactau James Kaylor, yr un â...

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compact James Kaylor, 1950au

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compact James Kaylor, 1950au

Favourites Icons A vector image of a heart to represent a Favourite Item

Llun: Compact James Kaylor, 1950au

Cadarnhaodd Megan ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 08/10/1937

Cafodd Megan ei magu ar stad Sgubor Goch yng Nghaernarfon, plentyndod 'digon tlawd' ond hapus, digon o fwyd a dillad, a phawb yn agos iawn. Roedd ei theulu yn fawr am y capel, ac roedd Megan yn canu mewn côr ac mewn eisteddfodau. Roedd ei mam yn gweithio mewn ffatri adeg y rhyfel yn gwneud 'carco' (?) ac wedyn fel waitress mewn hotel. Labrwr o'r de oedd ei thad. Bu farw ei thad yn 66 o strôc. Collodd ei mam fabi arall, felly unig blentyn oedd Megan. Aeth i i ysgol y genethod yng Nghaernarfon ac wedyn pasiodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Segontium. Roedd hi'n mwynhau'r ysgol er nad oedd hi'n glyfar, meddai. Gadawodd hi yn 15 oed a chafodd hi gyfweliad i fynd i siop drin gwallt, ond jyst pan oedd hi'n meddwl ei bod hi wedi cael y swydd, gofynnodd y cyfwelydd iddi lle roedd hi'n byw. Roedd y stad yn cael ei hystyried fel lle difreintiedig ar y pryd a chafodd hi ddim o'r swydd o achos hynny. Derbyniodd lythyr y diwrnod wedyn yn deud bod hi ddim yn 'suitable.' Stad newydd oedd hi, gyda phobl dlawd yn dod o bob man i fyw yno.

Doedd Megan ddim wedi gadael yr ysgol yn swyddogol ond roedd ffrind ganddi, roedd wedi pasio’r ysgoloriaeth ac yn cael mynd i ysgol ramadeg, ond doedd hi ddim eisiau mynd, a dywedodd honno wrth Megan ei bod hi'n mynd i drio am swydd yn y ffatri compactau. Aeth y ddwy ohonynt i lawr i ofyn am swydd a llwyddon nhw, a chafodd Megan 'row' gan ei mam wedyn.

Felly cafodd hi'r swydd yn syth a bu yno am ugain mlynedd. Roedd cyfweliad y ffatri yn anffurfiol iawn, roedd y ffatri yn cymered beth roeddech chi'n ddweud, ac roedd y gweithwyr yn dod yn ffrindiau efo'r bosys ar ôl mynd i mewn, pawb yn dod i nabod ei gilydd. Roedd ei mam yn flin ei bod hi wedi cael swydd. Doedd hi ddim yn hapus ei bod hi wedi mynd tu ôl i'w chefn, a byddai'n well ganddi tasai Megan wedi mynd i weithio mewn siop. Ond doedd Megan ddim wedi difaru, meddai; er bod y cyflog yn isel, mae wedi mwynhau ac wedi cyfarfod llawer o ferched, a gwneud gwahanol bethau a dysgu sut i drin pawb.

Ar ei diwrnod cyntaf, roedden nhw wedi mynd yno "fel plant bach, socs bach gwyn a ponytails, fath yn union â plant ysgol, ac yn giglan gwirion a ddim y gwbod be' i ddisgwyl." Roedden nhw'n rhoi’r rhai ifanc mewn ystafell efo'i gilydd lle roedden nhw'n rhoi’r pethau bach rownd yng nghanol y compactau i ddal y powdwr, a rhoi'r satin o’i gwmpas o. Cafodd hi ryw fath o hyfforddiant, sef un o'r merched yn dangos i'r lleill sut i’w wneud e, a chargehand yn dod rownd i weld sut roedden nhw'n gwneud. Doedd Megan ddim yn ofnus o gwbl, gan fod pedair ohonynt yn mynd efo'i gilydd ar yr un pryd. Roedd hi'n nabod rhai o'r merched yn barod ond roedd nifer yn dod o'r wlad - o Lanberis, Llanrug.

8.30 Roedd Megan yn gwneud y swydd uchod am bedwar mis ac wedyn cafodd hi ei symud ymlaen i wneud rhywbeth arall. Doedd hi ddim yn hoffi'r dasg newydd o gwbl ac eisiau mynd yn ôl i lle roedd hi. Roedd hi wedi dod yn gyfarwydd â'r swydd gyntaf a'r criw roedd hi'n gweithio efo nhw; roedd yr ail swydd yn gwneud pethau gwahanol. Cafodd hi ei symud eto ac wedyn gwnaethon nhw ofyn iddi i wneud y printing. Roedd 'na beiriant o'r enw 'belan' a oedd yn cymysgu'r paent i wahanol liwiau, ac ar slab o haearn roedd ‘na batrwm, wedyn roeddech chi'n crafu'r paent ar y patrwm a dod â rwber mawr lawr arno fo a symud o ymlaen wedyn ar y copr, roedd rhaid mesur maint y compact, a’i gael e yn union yn ei le. Roedden nhw'n gwneud 'screen printing' hefyd,- mesh oedd hwnnw a'r paet yn mynd trwy'r mesh. Roedden y compactau yn dod mewn nifer 'gross' h.y. 144, a dyna oedd maint y bocs, ac roedd rhaid iddi wneud hyn a hyn o focsys mewn diwrnod. 'Wel y mwy on i'n wneud, y mwyaf on i'n arfer, o'n i'n fflio drwyddyn nhw, ond ddim yn dangos ein bod ni'n gwneud. Roedd y rhan fwyaf ohonon ni yn gwneud y gwaith, eu cyfrwng, yn y bore ac yna roedden ni'n cael chat bach, neu beth bynnag roedden ni'n licio wedyn ‘te. Roedden ni'n mynd i'r toiled ac yn y toiled, ro’n i'n dysgu dawnsio. Roedd 'na lawr o sgwâr i gyd ac roedd y genod yn dysgu i mi'r quickstep a'r waltz.' Yn y ty bach hefyd, meddai, roedd y merched yn golchi'u gwallt yn barod i fynd allan gyda'r nos. Roedd y rheolwyr yn gwybod ond yn troi llygad oni bai bod rhywun yn cymryd gormod o fantais a ddim yn gwneud eu cyfran (?) o waith. Roedd y rheolwyr yn reit dda, meddai, ac yn dod yn ffrindiau â nhw.

11.50 Roedd y ffatri yn gwneud compactau a broetsys. Roedd Boots yn gwerthu'r compactau. Roedd Megan yn son am y rheolwr, Mr Chappell, a oedd wedi mynd i mewn i Boots ac wedi mesur un o'r compactau i weld a oedd hi wedi gwneud y patrwm yn iawn. Byddai'r dyn yma yn dod ati hi yn y ffatri ac yn deud os oedd ei gwaith yn 'thou' out, h.y. hyn a hyn o centimetres allan. Mr Ansell oedd ei boss cyntaf yn James Kaylor, - dyna oedd enw'r cwmni, a chafodd y ffatri ei gwerthu i ddyn o Lundain, a doedd Megan ddim yn hoff iawn ohono fo, dyn diarth, a doedden nhw ddim wedi gweld llawer o 'foreigners' yn y dre. Roedd dau reolwr yn y ffatri, cyn hynny; Mr Chappell ar lawr y ffatri a Mr Welsh yn y swyddfa. Mae Mr Chappell dal yn fyw, yn 91 oed, yn yr un pentref â Megan.

Merched oedd y gweithwyr, ond roedd nifer o ddynion yn y tool room, tad a dau fab a dau brentis, a dynion eraill yn cario pethau. Roedd y dynion yn gwneud yr offer ac yn trwsio'r peiriannau hefyd, yn y pressing shop, lle oedd rhai o'r merched yn gweithio hefyd. Gofynnodd Mr Chappell i Megan a fasai hi'n dysgu popeth, er mwyn sefyll i mewn os oedd rhywun yn sâl. Ar y peiriannau pressing, roedd 'na guard, ac roedd rhaid tynnu hwn i lawr, pwshio'r pedal ac roedd y peiriant yn dod i lawr i dorri siâp y compact allan, y gwaelod a'r top ar wahân. Ac roedd ffrind Megan yn eistedd wrth ei hochr ar un o'r peiriannau hyn, a sylwodd y ferch bod rhywbeth yn bod ar y peiriant, doedd o ddim yn dod i lawr ar ei ben ei hun, er bod y guard i fyny, ac roedd hyn y beryg. Roedd y ferch hon wedi deud dair gwaith am hyn ac roedd y fforman wedi bod yno ond heb ddarganfod beth oedd y broblem, bob tro roedd e’n dod, roedd y peiriant yn gweithio yn iawn. Yn y diwedd cafodd y ferch ddamwain ar y peiriant hwn, dal ei bys ynddo a’i dorri fo i ffwrdd. Cafodd hi fil o bunnoedd fel iawndal a hi yn ferch ifanc wedi colli bys. Roedd Megan yn eistedd wrth ei hochr hi pan ddigwyddodd y ddamwain a chafodd hi sioc fawr.

Roedd hi'n gweiddi ar y fforman, doedd dim llawer o gymorth cyntaf yn y ffatri, ac aeth y ferch i'r ysbyty efo'r fforman ac un o'r bosys. Dychwelodd hi i'r swydd ond dim ar y peiriannau hynny. Doedd o ddim yn gyffredin i bobl ddysgu tipyn o bob peth, fel Megan, a dydy hi ddim yn gwybod pam wnaethon nhw ei ddewis hi, oni bai ei bod wedi bod yn y gwaith am amser hir. Ar y printio roedd hi'r rhan fwyaf o'r amser. Yno, roedd 'na beiriant gydag 'engraved designs' arno yn gwneud patrymau fel blodau neu fythynnod, pethau bach del i fynd ar y compactau. Tasen nhw eisiau 'four gross' o'r blodau, roedd hi'n newid y plât engrafu i'r blodau gwyn, glas a melyn. Os oedd y gwyn yn mynd arno yn gyntaf, roedd hi'n cymysgu'r paent hwnnw a gadael iddo sychu tan ei bod hi'n cymysgu lliwiau eraill. Felly roedd hi'n gwneud y blodau gwyn i gyd ar y compactau i gyd, ac wedyn rhoi'r blodau melyn arnynt, ac wedyn y blodau glas, fel hynny. Metal 'tin' oedd y compactau ac roedd rhaid iddynt fynd i'r siop acid ac i'r siop sgleinio ac wedyn i'r siop lacro, ac yn olaf dod at Megan i gael y dylunio arnynt, ac yn ôl wedyn i'r siop lacro i gael lacyr terfynol.

19.00 O ran cyflog, roedd Megan yn ennill one pound three and seven; rhoi'r bunt i'w mam a chadw'r 3s 7d iddi ei hun. Ac oedd ei mam yn dued 'Ti ddim yn cael dim mwy, rhaid i ti ddysgu i wneud ar hwnna.' Ar nos Fercher a nos Sadwrn, roedd y bobl ifanc i gyd yn dod i lawr i Gaernarfon, meddai, bysys o bob man, ac roedden nhw'n mynd 'rownd y blocs ac fel yna roedden ni'n cyfarfod, 'naill a'r llall ac yn mynd lawr i'r cei i garu.' Roedd Megan yn mynd efo merched y ffatri ac yn mynd i ryw gaffi i gael paned, neu pan oedd hi'n oer yn y gaeaf, Oxo. 'Doedd gynna i ddim pres i gael dim byd arall, a Vimto yn yr ha.' Roedd hi'n mynd i'r sinema hefyd ddwywaith yr wythnos os oedd hi'n lwcus, meddai - roedd tair sinema yng Nghaernarfon yr adeg hynny – y Majestic, yr Empire a'r Guild Hall - ac roedd pawb yn galw'r Guild Hall 'laugh and scratch' o achos roedd mewn stad wael, 'dilapidated.'

Roedd Megan yn mwynhau gweithio yn y ffatri, cafodd hi hwyl, wrth edrych yn ôl, ond ar y pryd, meddai, dydach chi ddim yn meddwl am y peth. 'Sbïo yn ôl roedd yn brofiad.' Roedd hi'n hoffi'r printio yn ofnadwy, roedd yn ddiddorol iawn ac roedd yn rhaid i chi gael tipyn bach o sgil i wneud y printio, meddai, a gwybod beth roeddech chi'n ei wneud i gael y 'transfers' a'r 'printing' yn eu lle yn iawn. 'Os oeddech chi'n cymysgu'r paet yn rhy denau, roedd o'n smydgio, os oeddech chi'n cymysgu fo yn rhy dew, doedd o ddim yn printio neu gael dod drwodd trwy'r sgrin. Dyna roeddech chi'n dod i wbod yn union sut a faint i gymysgu ac i roid o yn wahanol liw, te. Adeg hynny, on i'n gwbod pa liw oedd yn gwneud gwahanol bethau.'

21.35 Roedd pobl yn dwyn y compactau. Beth oedden nhw'n ei wneud oedd, byddai rhywun yn deud 'O, mae Margaret eisiau compact, ga i dop a gwaelod gen ti?' Ac yn mynd â nhw i'r polishing shop ac yn deud bod so and so eisiau hwn, ac fel hynny roedden nhw'n cael nhw, a mynd â nhw i'r assembly shop i’w rhoi nhw at ei gilydd. Roedd Megan yn gwneud compacts i'w chydweithwyr ond heb gael ei thalu amdanynt, ond wnaeth hi ddim gwneud un iddi hi ei hun. Cafodd hi un ond dydy hi ddim yn cofio sut, ond mae ganddi o hyd, gyda 'liberty clock' arno, a'r geiriau: 'One minute gone comes never back again, take heed and see nothing done in vain.' Transfer fyddai hwn, nid engrafiad.

Roedd ei horiau o 8 tan 6 bob dydd ac weithiau gweithiai ar fore dydd Sadwrn, yn enwedig ym mis Gorffennaf, gan fod y compactau yn cael eu gwneud i fynd i'r siopau ar gyfer Nadolig. Roedd llawer o'r compactau yn mynd i Loegr, a Boots oedd y prif brynwr. Roedd rhaid i Megan glocio mewn a mas, gan gynnwys yr awr roedd hi'n ei chael i ginio. Roedd hi'n mynd adre i gael cinio, yn cerdded, er bod hi'n 3/4 milltir, a byddai ei mam wedi gwneud cinio yn barod iddi.

Roedd ei mam gartre a'r teulu yn byw ar gyflog Megan a'i thad, ac oedd ei nain yn byw efo nhw hefyd, ac ewythr oedd ddim wedi priodi, 'Nain a fi mewn un bedroom, mam a dad yn bedroom arall, ac Uncle Tom yn bedroom arall.' Amser braf, meddai, bwrdd mawr sgwâr, dim teledu, dim ond 'wireless,' roedd hi'n darllen, gwneud 'crochet,' dim yn difaru o gwbl. Un dda am fynd i'r capel oedd hi, ac mae’n dal i fynd.

Roedd hi'n cerdded i'r gwaith hefyd yn y bore ac yn y nos. Caent ddeg munud i frêc yn y bore ac yn y prynhawn, a tasen nhw'n gorfod gweithio'n hwyr, byddent yn cael chwarter awr arall tua chwech. Doedd na ddim cantîn yno i ddechrau, dim ond ystafell llle oedden nhw yn gwneud paned i'r gweithwyr a phrynu cacennau i mewn. Tasa gan rywun ddim pres, roedd 'na lyfr a gallent sgwennu eu henwau i lawr a thalu wedyn - "Oedden ni'n rhoi'r cyflog yn ôl iddyn, yn prynu cakes fancy, fel hynna ni'n blant yn gwneud." Oedden nhw'n bwyta'r cacennau hyn o flaen y peiriannau tra bod nhw'n gweithio, gyda'r llwch a phob dim. Wedyn, adeiladwyd cantîn ac roedd yn orfodol i'r gweithwyr fynd yno i gael paned a bwyta, ond doedd neb eisiau gwneud, roedd pawb yn hapus yn bwyta o flaen y peiriannau. Roedd y cantîn yn neis meddai a'r gegin hefyd. Roedd pawb yn ysmygu ar y pryd ar bwys eu peiriannau; dechreuodd Megan ond doedd hi ddim yn hoffi fo.

Wnaeth hi roi gorau iddo ond mae'n meddwl bob 'passive smoking' wedi cael effaith arni. Flynyddoedd wedyn, pan oedd hi mewn swydd arall - coginio yn y ffatri brics - roedd pawb yn ysmygu fanno hefyd. Mae ganddi asthma. Roedd llawer o lwch hefyd yn y ffatri compactau, meddai, ac roedd merched y siop wasgu yn gorfod defnyddio peiriant chwythu i chwythu'r llwch oddi yna a'r bits bach o fetel yn cael ei glampio i lawr a'i dorri'n siarp, rhaid bod rhywfaint o rheiny ar ôl ymysg y llwch, meddai. Roedd rhyw chemical hefyd yn y siop sgleinio, sef 'dipping' - trichloroethylene (?) a roedd arogl hyll arno fo. Roedd merched hynach na Megan yn rhoi'r compactau i mewn i fasged ac roeddent yn cael eu dipio i mewn i'r trichloroethylene ac roeddent yn dod allan yn lân ac yn mynd wedyn i gael eu sgleinio. Doedd hyn ddim ym mhrif adeilad y ffatri ond mewn rhan arall.

31.00 Roedd y ffatri eithaf mawr ond dydy Megan ddim yn cofio faint yn hollol oedd yn gweithio yno, tua hanner cant, neu saith deg. Roedd y ffatri ei hun yn oer iawn: "Arglwydd, oedd hi'n oer, and yn od, doedd neb yn cael annwyd. Ac oeddech chi'n gafael yn y machine yn y bore, brrrrrrrrrr. Ac yn mynd i mewn ar ôl y penwythnos yn y gaeaf te.' Dywedodd nad oedd gwres yno trwy gydol yr ugain mlynedd y bu hi yno. Ond doedd neb yn meddwl dim byd ohono fo.

Wedyn priododd Megan a dychwelodd i'r ffatri am ddwy flynedd. Cafodd hi ferch fach a stopiodd weithio tan i Glenys gyrraedd 12 oed. Cafodd hi waith mewn 'warehouse' yn gweithio yn y swyddfa yn gwneud yr anfonebau. Roedd rhaid iddi fynd heibio'r ffatri compactau ar y ffordd a daeth Mr Chappell allan un bore a gofyn iddi ddod yn ôl. Dywedodd hi fod hi'n gallu gweithio rhan amser yn y warehouse ac atebodd o y byddai hi’n gallu gwneud hynny yn y ffatri, felly aeth hi yn ôl i Kaylors, ac roedd hi yno am y bum mlynedd nesaf tan i'r ffatri gau. Roedd hi'n gallu gwneud yr un oriau rhan amser ag yr oedd hi'n eu gwneud yn y warehouse - sef o 9.30 i 2.00, a mynd i'r ysgol i nôl y ferch. Megan oedd yr unig un a oedd yn gweithio rhan amser - roedd y ffatri wedi gwneud amod arbennig iddi hi - 'am fod i'n handi, yn gallu gwneud bob dim iddyn nhw.' Doedd neb yn deud dim byd yn ei herbyn hi am hyn, ond roedd llawer o'r merched oedd wedi dechrau'r un pryd â hi wedi gadael, wedi priodi, neu wedi mynd i Ferrodos am fwy o gyflog.

Doedd dim llawer o genfigen yn y ffatri, meddai, pawb yn dod ymlaen yn dda iawn, pawb yn hapus, "a phob dydd Gwener yn meddwl yn canu fel rhywun yn meddwl bod nhw'n cael 'fortune o gyflog, pawb yn canu'n braf ar ddydd Gwener am fod ni'n cael cyflog a darfod gweithio, un yn dechrau a rhywun arall, ie, a dw i'n cofio gofyn i Mr Chappell 'Gawn ni wireless na rhywbeth yma?' 'Na chewch.' O tyrd, peidiwch fod yn mean rwan.' A gwybod be wnath o? 'Os rhowch chi i gyd chwech i mi bob wythnos, cewch chi.' Ha, ha, a wnaethon ni, do. Wireless fawr a speakers."

Roedd perthynas dda rhwng y merched a'r dynion. "Wel, genod ifanc oedden ni, genod bach ifanc. Roedd y dynion yn ddynion, yn ei 50s a 60s. Dw i'n cofio rhyw dro yn y pressing shop, roedd rhaid i chi basio'r pressing shop i fynd i'r toiled, roedd 'na ffordd glir, ac yn y pressing shop roedd ‘na ambell i beiriant efo pelan fawr, lead am wn i oedd hi, i rhoid y pwysau i'r presses, yn dod i lawr oedd o. Roedden nhw'n medru tynnu un pelan a rhoi pelan arall i gael gwahanol bwysau. Ac roedd un o'r hogiau, y prentis, wedi rhoid un o'r pelau ‘ma mewn bag papur ac wedi rhoi fo yng nghanol y ffordd ‘ma i gerdded, oedd o'n gwbod bod y bos, a'r hwnnw'n ddigon annifyr, Mr Ansell, ddim yn licio mess. A dyma hwnnw yn dod lawr a rhoi cic mawr i'r bag papur. Oedd o ddim yn gwbod bod o'n belan. Roedd rhaid i ni i gyd fynd i'r offis, roedden nhw'n mynd i'r roi sac i ni i gyd nes bod ni'n deud pwy oedd wedi gwneud. A wnaeth neb ohonon ni ddeud."

Doedd dim undeb yn y ffatri er bod y gweithwyr wedi trio sawl gwaith i gael un a'r bosys yn deud bod nhw ddim yn derbyn undeb. Daeth Llafur i mewn ac yn deud y dylai fod. Mae Megan yn deud, efo undeb, roedd y gweithwyr wedi cael llawer o bethau ond wedi colli rhai pethau hefyd, fel mwy o gyflog. Ond wrth gael rhywbeth fel undeb, chi'n chwalu pethau hefyd, meddai. Roedd 'na undeb yn y gwaith brics pan oedd hi yno ac roedd hi'n aelod ond doedd pethau ddim lawer yn wahanol. Roedd pethau wedi symud ymlaen erbyn hynny, beth bynnag, meddai, a'r cwmnïau mawr yn gwybod bod rhaid i'r undebau dod i mewn. Y cyflog oedd yr anghytundeb mwyaf yn y ffatri compactau, meddai, ond cododd y cyflog erbyn y diwedd. Neu’r anghytundeb pan nad oedd y merched eisiau gweithio'n hwyr a'r bosys yn deud wrthynt fod rhaid iddynt wneud. Pan oedd anghytundeb, byddai un person o lawr y ffatri yn mynd at y bosys i ofyn. Byddai dewis y person hwnnw yn fater o 'Wnei di fynd?' wrth bwy bynnag, ac weithiau cael lwc, dro arall - ddim yn cael lwc. Unwaith aeth Megan ond dydy hi ddim yn cofio beth oedd yr achos na beth oedd y canlyniad.

39.00 Diniwed oedd hi, meddai, ac yn mynd yng nghanol y merched ac yn gwybod dim byd am ryw na dim byd fel ‘na. Roedd y merched eraill yn deud pethau mawr wrthi a hithau'n eu coelio nhw er bod 'na ddim ffasiwn beth. Roedd y merched yn siarad am bob peth. Mae'n cofio gweithio yn yr adran 'inspection' efo tair merch hyn o ryw bum mlynedd - pan oedd hi’n 17 roedd hi'n meddwl bod merched 23 oed yn llawer hyn na hi. Ac roedd y merched hyn wedi priodi ac eisiau babis ac yn mwydro bob dydd am fabis, a dyna hi yn meddwl, 'dyma ni yn mynd eto efo rhain a'r babis ‘ma.' Aeth y gweithwyr i Blackpool am y diwrnod, trip o'r ffatri wedi'i drefnu gan y chargehand, ac yn gweld cathod Manx, ac roedd y cathod yma i fod yn lwcus. Prynodd hi dair cath a dod â nhw adre, a chafodd y tair merch fabi yr un. Mae Megan yn dal i weld un ohonynt yn y siop drin gwallt ac mae’n sôn am y digwyddiad. Mae hi mewn cysylltiad efo llawer o'i chyd-weithwyr.

Doedd dim tripiau eraill, dim ond y trip i Blackpool bob blwyddyn, a'r un dyn yn trefnu fo bob blwyddyn - 'I weld y goleuadau i fod. On i ddim yn mynd i weld y goleuadau, on i'n mynd i'r pub i gael drinc a chwilio am hogia.' Roedd y gweithwyr yn talu swllt y wythnos am gael mynd ar y trip ‘ma. Dechreuodd y ffatri wneud cinio Nadolig hefyd – yr un dyn oedd wedi trefnu rhyw ddrama fach i ddau, ac roedd Megan yn un ohonynt, yn perfformio yn y cinio. Roedd ei hwythr hi yn rhedeg catalog 'Rattans' ac roedd hi wedi archebu ffrog goch a sgidiau coch ohono ar gyfer y ddrama, a chyrhaeddodd y sgidiau ond ddim y ffrog, ond cafodd hi sgidiau i fynd i'r parti. Ar y top table yr oedd hi, a dwy ferch arall o lawr y ffatri, y ddwy ohonynt efo'r penaethiaid, eu gwragedd, a'r bobl a oedd yn gweithio yn y swyddfa. Aeth Megan i ofyn os oeddent eisiau diod a gofynnodd Mrs Welsh am 'Dubonet splash' a Megan yn dychryn, achos doedd hi byth wedi clywed amdano ac roedd yn meddwl ei fod o'n mynd i gostio ffortiwn.

Roedd gan y bosys arfer o ddod atoch ar lawr y ffatri - fel un dyn, Mr Flynn, a oedd yn chargehand ac a oedd yn siarad o hyd ac o hyd am ei fywyd fel llongwr, pan oedd yn ifanc. Roedd gan Mr Welsh bwdl a daeth o atynt un tro a gofyn a oeddent yn mynd i unrhywle ar ôl y gwaith. Dywedodd Megan nag oedd, a gofynnodd e iddi a fasai hi'n edrych ar ôl y ci hwnnw. Doedd hi ddim eisiau ac roedd yn difaru bod hi ddim wedi deud ei bod hi'n brysur. Wnaeth Mr Welsh ei chasglu hi o'i chartref yn ei gar 'open top' ac roedd ganddi gywilydd bod pobl wedi ei gweld hi yn y car hwnnw.

Roedd Mrs Welsh wedi gwneud tray o frechdanau ciwcumber iddi a 'sugar lumps' efo tongs, pethau doedd hi ddim yn eu cael gartre. 'Help yourself to drinks' meddai Mrs Welsh ond doedd Megan ddim yn yfed, 'ond roedd tele yna' a chafodd hi £5 am ofalu am y ci. Mae'n cofio Mrs Welsh yn dod lawr y grisiau mewn ffrog las a cape hir gyda pleats mân navy. Sais oedd Mr Welsh ond Cymraes oedd hi, merch i gyn-faer y dref. Roedden nhw'n gwneud ffrindiau efo'r bosys, meddai Megan, roedden nhw'n neis a dim jyst efo hi, ond efo’r rhan fwyaf yn y ffatri, roedd y gweithwyr i gyd yn eu galw nhw wrth eu henwau cyntaf. Cafodd hi anrheg gan Mr a Mrs Welsh pan oedd hi'n priodi - brwsh bach (?) Priododd Megan yn 1965 a chafodd hi'i merch yn 1967.

Mae'n edrych yn ôl ar ei blynyddoedd yn y ffatri fel amser braf. Doedd hi ddim yn barod i adael yn y diwedd ond bod iechyd ei mam ddim yn dda; heblaw hynny, fasa hi wedi mynd yn ôl, roedd hi'n colli'r cwmni. Caeodd y ffatri yn y diwedd ac roedd ei chyflog erbyn hynny wedi codi, ond dim mwy na phum punt, ond rhan amser oedd hwnnw, dydy hi ddim yn gwybod beth oedd y cyflog llawn amser.

Doedd dim bonws amser Nadolig ond roedd y cwmni yn talu am y cinio Nadolig (? dydy hi ddim yn siwr am hyn) Cynhalion nhw ginio swyddogol pan oedd y ffatri yn cau a chafodd cardiau neis eu hargraffu ar gyfer pawb i ddeud beth oedd ar y fwydlen. Ar ben-blwydd 90 oed Mr Chappell, rhoddodd Megan gerdyn trwy'r drws iddo, efo cerdyn y fwydlen hon ynddo. Gwelodd hi fo wedyn yn aros am y bws ac oedd yn falch iawn, achos roedd o wedi gadael ei gerdyn ar ôl ar y pryd, ac roedd ei enw ynddo yn rhoi toast i’r Frenhines. Roedd y parti mewn hotel lle mae archfarchnad Morrisons yn awr ac aeth y gweithwyr i gyd iddo.

O ran gwyliau, roedden nhw'n cael dau ddiwrnod ar gyfer y Nadolig, dau ddiwrnod ar gyfer y Pasg, a phythefnos yn yr haf. Doedden nhw ddim yn mynd i ffwrd, ar wahan i un flwyddyn pan aeth hi a’i gwr i Butlins yn Skegness ar y trên. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn aros gartre, meddai, ac yn dechrau mynd i ffwrdd yn nes ymlaen, pan ddaeth yn boblogaidd, ond prin iawn yn y chwedegau. Câi’r gweithwyr y Sulgwyn i ffwrdd a Labour Day wedyn.

Mae'n deud fasa hi ddim wedi newid ei hamser yn y ffatri o gwbl, ond, o edrych yn ôl, roedd yn lle budr a'r llwch a'r siop sgleinio yn ofnadwy ac roedd y merched yn ddu yn dod adre oherwydd yr olew ar olwynion y peiriannau. Doedd neb yn gwisgo iwnifform heblaw rhywbeth rwber yr oedd y bobl yn y 'dipping shop' yn ei ddefnyddio gan fod acid yno (er bod Megan yn gwisgo rhyw fath o oferôl yn y llun ohoni - VN022.4) Roedd 'na wyntyll yn tynnu'r llwch, meddai, ond roedd mwy o faw yn mynd ar y gweithwyr nag i'r gwyntyll. Mae'n syndod nad oedd neb wedi mynd yn sal o achos y llwch a'r baw. Roedden nhw'n cymryd hyn i gyd yn ganiataol ar y pryd, hyd yn oed pan oedd y gwaith gallu fod yn beryglus, achos dyna sut roedd pethau'r adeg hynny, meddai - 'you accepted everything, face value.'

Hyd: 1 awr

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN022.2.pdf

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw