Susie Jones , Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

  • 773
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 400
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 456
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 674
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
Dechreuodd Susie weithio yng ngwaith powdwr Tachwedd 1933 ychydig ddyddiau ar ôl cyrraedd ei 14 oed. Roedd yn rhyw fath o forwyn fach tra roedd yn yr ysgol am 3 ceiniog yr wythnos. Cafodd ei hanesmwytho’n arw pan gyrhaeddodd yr adran o’r oedran yma – roedd yn oes pan oedd rhai yn ennill tipyn o geiniogau am gael gafael ar forwynion bach i hwn a’r llall. Roedd rhywun wedi son am Susie Griffiths – gan i berson plwyf ddod i’w thŷ o gyffiniau Bethesda i gymell job iddi. Gan fod ei mam yn wraig weddw, a phedwar o blant ganddi ac yn wael ei hiechyd, a hithau’n ferch, roedd rheswm iddi fod wrth law i’w helpu. Ond roedd ganddi frawd hŷn na hi, ond roedd ef wedi hwylio am Ganada trwy gynllun Salvation Army, yn 16 oed ar y pryd. Dyna pam roedd hi eisiau gwaith yn y ffatri leol. Pan gladdwyd ei thad bu’n rhaid iddi hi fynd i Ro Wen, Conwy efo teulu ei thad am dipyn a dechreuodd fynd i’r ysgol yn Ro Wen; roedd wedi bod yn ysgol Maenofferen ar y dechrau un cyn i’r teulu symud i’r Penrhyn. Pan ddaeth adre o Ro Wen aeth i ysgol Penrhyn. Hynny tua 1928. Un mis ar ddeg oedd ei chwaer ieuengaf pan gollwyd ei thad. O Lanfrothen y deuai ei mam yn enedigol.
 
Bu’n gweithio fel morwyn fach i Miss Rees Hyfrydle, chwaer y Doctor Rees ac roedd Ifan Rees yn gwneud dramâu. Roedd Tom Rees yn glerc yn y stesion ym Minffordd a’i gartref ef oedd Hyfrydle – gŵr gweddw oedd e, a daeth ei chwaer i gadw cartref iddo fe. Roedd Miss Rees yn mynd o gwmpas tai yn gwerthu staes – Spirella – roedd ganddi gês yn llawn ohonynt.
 
14.05
 
Cafodd waith yn y ffatri – roedd y ffatri yn ddwy ran, y rhan gyntaf yn gwneud Mining Safety Explosives a’r llall yn Cooke’s. Y criw ieuengaf oedd yn gweithio yn y detonators department, nid yn handlo dets ond yn paratoi’r ? ar gyfer y dets. Ac yna yn symud i fyny yn ôl eich oed. Mae’n cofio un digwyddiad – i berson oedd yn hŷn na hi, gael gwaith yn y rhan yr oedd hi i fod i symud nesa iddo. Fe gynhyrfodd y rest o’r criw, gan y byddent hwythau ddim yn cael eu symud chwaith, - doedd dim i’w wneud ond mynd i’r offis gyda’i gilydd i gwyno. Gyda llaw roedd office Miners yn y pen yma wrth y giat – y time offis ar y chwith a’r main offis ar y dde. Y ddau oedd yn gofalu am y rhan yma o’r gwaith oedd Mr Eden a Mr Lovet, a phan gyrhaeddodd ddrws yr offis dim ond y hi oedd ar ôl ac meddai Mr Lovet ‘I don’t think much of your supporters Susie’. Wrth son am y dynion pwysig noda mai fel hyn y bydden nhw’n sôn amdanyn nhw wrth iddyn nhw ddod o gwmpas y gwaith – y dyn gwyn a’r dyn du, gan fod un â gwallt wedi britho a’r llall â gwallt du.
 
Nifer y gweithwyr: tua 10 yn y wire room, yn y darn nesaf roedd tuag ugain+, ond yn y rhan yn handlo detonators roedd yn flychau bychain unigol – celloedd i gyd o dan yr un to. Yna yn y packing, roedd 5-6 fan honno. Roedd yn amser difyr pan oeddent yn gweithio gyda’i gilydd – canu gyda’i gilydd ambell brynhawn, neu stori yn cael ei gwneud i fyny ei hun. Cawsant hanes aml garwriaeth wedi mynd yn ffliwt. Mae’n cofio un oedd yn cadw trefn arnynt - byddai’n gofyn iddynt o ble yn y Beibl yr oedd ambell adnod yn dod.
 
7.45
 
Doedd y lle dechreuodd hi weithio yn y gwaith ddim yn beryglus o gwbl – roedd coils mawr o wires – weiran mewn gwyn a choch - yn dod i fyny i’r wire room. Roedd mashîn yno a’i gwaith hi ac un arall oedd torri’r wires oddi ar y coils yn feintiau gwahanol. Roedd y gweddill ohonynt yn coilio’r wires yma – dwy weiran efo’i gilydd ac yn gwneud ffigwr wyth allan o’r rhain. Ar ôl iddyn wneud bwndal o ddeg roedd y rhain yn cael eu pasio ymlaen wedyn i rai oedd yn stripio dau ben i bob weiran, y pen uchaf i ddal yr het – y fusette a’r darn nesaf ychydig yn fwy fel bod hwnnw’n glir i gael ei destio ar ôl i’r fusette gael ei osod arno fo. Roedd y fusette yn yr adran lle roedd mwy o gyflog. Roedd un ochr i’r sied honno yn gosod fusettes, ac yn eu sodro – bu hi’n gwneud hynny. Merched oedd yn sodro – jyst edges bach, ac yn aml iawn byddai yna glec!
 
Yn y top yr oedd y celloedd – rhyw 20 yn gweithio yno, dwy wrth bob bwrdd. Roedd hi tua 15-6 oed yn cael gweithio ar y dets. Ar ol eu sodro roedd angen pitsho rownd y top, ac yna eu testio. Wedyn roedd y rhain yn mynd i fyny i adran y detonators. Bu hi’n gwneud y gwaith testio hefyd. Cael eu symud i fyny yn dibynnu ar rywun yn gadael. Aeth yn ei blaen i’r lle detonators ac o fan’no i’r lle’n eu testio yn y top, ac yn crimpio gwaelod y detonator. Yna byddai honno’n mynd ymlaen i roi rwber ar y lle roeddech chi wedi’i grimpio; wedyn i’w hail-destio, ac o fan’no i gael ei phacio. Roedd rhai o’r merchaid yn chargehands. Y bosys oedd y dyn gwyn a’r dyn du!
 
Cafodd hi a’i ffrind Myfi, eu symud i’r shearing wedyn, yn gosod y cartridges powdwr mewn gorchudd o soda – mae’n debyg mai yn y pyllau glo y câi’r rhain eu defnyddio. Yma roeddent yn gweithio fel tîm a’u cyflog dipyn yn uwch – piece-work – y mwya y byddent yn llwyddo i’w wneud mwyaf y caent eu talu.
 
13.10
 
Daeth y rhyfel a bu hi’n llenwi hand grenades, tair shifft a gwneud llawer o ffrindiau newydd. Caiff ei hatgoffa o hen bennill – ei ddyfynnu. Ymhlith y gweithwyr newydd roedd sawl seren – sonia am un gwr o’r Blaenau ond ni all gofio’i enw. Roedd y powdwr wedi cael ei ddatrusio? yn barod – roedd ffram fawr yn dod i chi a thop pren arni hi a byddai 25 bwndel o 4 weiran – roedd yn rhoi y bagiau papur am y rheiny, troi hon ar ei hwyneb a rhoi’r cartridges i mewn trwy’r tyllau yn y top pren i’r ffram. Yna roeddech chi’n ei llenwi gyda’r powdwr a’r soda, ac roedd mashîn yn ei dyrnu fel hyn i’w llenwi hi i fyny. … ‘Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi pigo rhai o’r dets i fynd i fan’no, am eu bod yn gwybod y caen nhw waith allan (ohonyn nhw). Roedd hyn yn gyfle iddyn nhw gael mwy o gyflog.’ Yna bu’n llenwi hand grenades. Adeg y rhyfel roedd yn rhaid ufuddhau i orchmynion rhag colli gwaith a oedd iddynt ar garreg eu drws. Tair shifft – un trwy’r nos – wyth awr y shifft. Yr adeg honno roedd rhwng 600 a 700 o weithwyr yno. Merchaid oedd y rhan fwyaf yno. Roedd chwech ohonynt yn gweithio ar yr hand grenades a dyn yng ngofal. Yna aeth yn ôl eto i’r packing. Cred mai’r hand grenades oedd y gwaith caletaf er bod pob bocs roedden nhw’n ei lenwi yn pwyso 50 (pwys?). Caent eu hanfon mewn magazines i fyny i’r Alban.
 
17.58
 
Ar ol y rhyfel, roedd yn dal i weithio yno – yn y packing ond gan orffen yn y lab. ‘Fi oedd yr unig hogan oedd yn y lab.’ Roedd hyn yn yr 1960au/70au. Y lle chemist oedd y lab – yno roedden nhw’n testio gwahanol batshys o bowdra cyn iddyn nhw fynd i lawr, ac yn mesur gwahanol cartridges ac yn y blaen. Cafodd glec yn fan’no hefyd. Roedd test-tubes yno ac ychydig bach o asid yn y gwaelod a handlen ar y top ac roedd ganddynt wydrau bach. Roeddent yn rhoi ychydig o’r powdwr yma yn hwnnw i weld sut oedd o’n gweithio mewn tymheredd ac fe fethodd hi â chodi’r peth a chafwyd clec. Llosgodd ei braich ond doedd dim marc na dim byd i’w weld. Cafodd ei gyrru at y nyrs a oedd i lawr wrth ymyl y cantîn. ‘On ni’n lwcus iawn ohonyn nhw’. Un nyrs oedd yno ar y tro ar gyfer pob shifft. Cofia Nyrs - Mrs Morris o Port a Mrs Roberts, Minffordd (gwraig Ifan David) gynt Thomas – hi oedd y brif nyrs. Ar ôl i’r nyrsys orffen yno derbynion nhw bobl oedd â First Aid wedyn. Doedd hi ddim yn gorfod gwneud First Aid – dim ond rhai pobl oedd yn dysgu hynny.
 
Roedd Susie fel Jack of all trades’ yn y gwaith. Roedd hi’n meddwl mai dyma sut roedden nhw’n mynd i gael gwared ohoni trwy ei hanfon o un man i’r llall. Cafodd ei hel allan o’r packing – Yno roedd un ddynas fel chargehand, - ei gwaith hi oedd, ar ôl i chi lenwi eich bocs pacio byddai hi yn ei bwyso a tsecio bod y pethau iawn yn y boscys. Un diwrnod roedd 11 ohonynt yn y packing (ar piece work) (roedd rhai wedi cael diwrnod arbennig i ffwrdd) – a 3 chafodd dwy ohonynt (hi ac un arall) staff grade. Allwch chi fentro, doedd hi ddim yn braf iawn arnyn nhw’u dwy. Dwedon nhw na fydden nhw’n ei gymryd e ond yn y diwedd daeth pawb iddo fe. Roedd bod yno yn fwy o privilege na gweddill y gweithwyr.
 
22.45
 
Bu’n perthyn i’r Undeb yn y gwaith – ddim trwy’r amser. Doeddwn i ddim yn llawar o ddynas Undeb. Llenwi bwlch o hyd - ‘Neith Susie’r tro’. Roedd yr Undeb yn reit gryf yno ond nid yw’n cofio pa un. Yn ystod y cwthrwfl uchod gyda staff grade, fe ffindiodd hi pan oedd y cesys ar y rolyrs, bod y seis anghywir ar y bocs roedd hi wedi’i lenwi,- roedd y sawl oedd yn mynd â’r bocsys oddi wrthach chi i fod i tsecio beth oedd i mewn a beth oedd y tu allan iddyn nhw cyn eu cau nhw. A dwedodd Susie wrthi ‘O na,’ meddai hi doedd y ffasiwn beth ddim wedi digwydd. Ymhen hir a hwyr daeth y ces yn ôl a’r label i mewn ynddo, a chafodd Susie ei hel allan o’r packing. Wedyn bu yn y lle tsecio allan – roedd yn well iddi hi. Dyma pam y cafodd hi staff grade (?).
 
Bu’n gweithio yno am 46 mlynedd (ond dau ddiwrnod) - petai wedi aros am y ddau ddiwrnod arall byddai wedi cael blwyddyn yn fwy o bensiwn. Ond pan aeth i holi gwrthodwyd hi. Daeth ar draws nifer o gymeriadau annwyl iawn yn y gwaith. Adeg y rhyfel roedd rhai yn dod i’r gwaith gan feddwl y byddent yn help i ddod â’r rhyfel i ben. Roedd rhai yn rhoi eu henwau ar y bocsys ac yn cael ateb, yn wir digwyddodd i un briodi bachgen, trwy roi ei henw ar y bocs – daeth ef i’r pentref a dod i weithio yn y gwaith. Mae e’n dal i fyw yn y pentre heddiw – mae hi wedi’i chladdu!”
 
Roedd carwriaethau yn y gwaith ond nid dyma lle cafodd Susie ŵr.
 
Daeth dwy ochr y ffatri yn un yn y diwedd a bu hi’n gweithio yn y darn Cooke’s o’r gwaith sef cynhyrchu – gelignite ac yn pacio ac yn y labordy. Roedd ganddi bedwar o ffrindiau a thri ohonynt yn cael eu pen-blwydd yn yr un mis. Pan oedd pen-blwydd un byddai’n prynu bar o siocled i’r gweddill. Enwi’r criw.
 
‘Ni chefais ysgol uwch na choleg ond bu gweithio yn y gwaith yn brofiad ac yn agoriad llygad ac roedd cymeriadau annwyl a chlyfar i’w canfod yn ein mysg. … “Trwy chwys dy wyneb y bwytëi fara”’
 
28.00
 
Sôn am sut roedden nhw’n symud pethau o gwmpas yn y gwaith – mewn bwgis – tebyg i cable cars (yn Llandudno) yn cario pethau uwch eu pennau. Roedd rhai ‘cardia’ yn gweithio yno. Daliodd un ddafad a’i rhoi yn y bwgi! Cafodd yr un agorodd e i fyny yn y top sioc.
 
Un peth arall ddigwyddodd yno – cawson nhw ddwy neu dair o German machines yno, a Germans i ddangos iddyn nhw sut i’w gweithio. Dim ond un bachgen o Blaenau oedd yr unig un oedd yn gallu siarad German efo nhw. Roedd y peiriannau hyn yn gwneud y gwaith 4 yr oedd y merched wedi bod yn ei wneud – lapio’r cartridges a.y.y.b. Rhestri’r bobl oedd yn gweithio yno – chemist, ysgrifenyddion, clercod, pobl cyllid – swyddi da i bobl. ‘Dyna i chi golled i ardal – ac mae’n dal i hitio heddiw. Cofiwch chi “hen ferched gwaith powdwr” oeddan ni gin yr ardal.’
 
Roedden nhw’n dod o bob man yno – o Bwllheli a llond car o ganolbarth Cymru ac yn lodgo yn Penrhyn.
 
Petaech chi wedi meddwl am y peryg fyddech chi ddim wedi mentro yno. Diwedd yr wythdegau (1989) bu tanchwa a lladdwyd nifer o weithwyr. Pan oedd Susie tua 13 oed collodd Bessie Humphreys hanner ei llaw yn y gwaith ond daeth yn ôl i weithio yno. … ‘Un bora roeddan ni’n pasio – roeddan ni’n pasio rhai o’r cytia – a gweiddi “Good morning” – pawb ar ein gilydd ‘te, …ac wedyn … roeddan ni yn dechrau gweithio a dyma ni glec. Roedd y cwt wedi mynd i fyny a ninna newydd ei basio fo ynte.’ Lladdwyd tair o genod a dau foi. (eu henwi – Eric, ac un arall, Laura o ?, Alys o Lanfrothen, a Annie o Ben Llyn). Sôn hefyd bod dyn o Port wedi colli’i olwg yno efo asid. Yn ystod y rhyfel bu Workers Playtime ddwywaith yn y gwaith – y cantorion a thîm o bobl yn rhoi adloniant iddynt.
 
Mae ganddi lawer o luniau ohoni mewn ciniawau – yn ei dangos yn derbyn gwobrau am wasanaeth – ‘Fi oedd y gynta i gael’ … wats gafodd hi am 25? o flynyddoedd. Nid un aur. Cafodd ei llun yn y papur gyda Mr Cooke yn ei chyflwyno iddi ym Meddgelert. Pan ymddeolodd cafodd loced ac mae’n dal yn y bocs! Mr Cooke ddechreuodd y gwaith – roedd yn byw yn Llanbedr ac yna gwerthodd ef i ICI. Mae’r teulu yn dal o gwmpas. Sonia am Mr Lovet a Mr Eaton a oedd yn byw yn lleol hefyd.