Pegi Lloyd Williams, Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Dyddiad geni: 1923. O ran cefndir cafodd ei hysgol i gyd yn Sir Feirionnydd achos roedd hi’n ifanc ‘yn dod i fyny, yn Sisnas ar y pryd’, roedd wedi colli ei thad a’r cartref yn y de wedi rhyw chwalu. Cafodd addysg gynradd arbennig o dda (‘a ddaru mi i gymryd o mewn sydd beth arall’) – slate quarries girls’s school a phasiodd yr arholiad unarddeg i fynd i ysgol County School. Roedd hi’n un ar bymtheg oed yn gadael yr ysgol – yn y pumed dosbarth yn paratoi am arholiad y CWB sef y Matric ond yn anffodus yn yr hydref, ar ôl bod yn y pumed dim ond deufis, cafodd drawiad ar y galon a bu gartref am fisoedd ‘a dyna ddiwadd ‘n addysg ffurfiol i’. ‘A deud y gwir ron i reit falch o gâl mynd achos on i’n rhedag i swydd p’run bynnag.’ Bu ganddi hiraeth ar ôl yr ysgol am ychydig ond ‘roedd y byd mawr wedi agor i mi’.

Ei swydd gyntaf oedd gyda merch oedd yn rhedeg busnes glo llwyddiannus dros ben, a hefyd yn adeiladu tai a gwerthu brics a sment a bob un dim. Roedd hi eisiau rhywun yn yr offis gan mai ei merch hi oedd yn gwneud hynny ar y pryd, ond roedd wedi priodi ac ar fin rhoi genedigaeth i’w phlentyn cyntaf. Bu gyda hi am bedair blynedd a chael addysg ardderchog gyda dynas fusnes ardderchog. Roedd hyn tua dechrau’r rhyfel.

3.00

Yn dilyn hynny – a hithau yn adeg y ‘call up’. Doedd hi ddim yn adnabod llawer o ferched oedd yn cael eu galw i fyny, ond fe gafodd hi bapurau a gwrthododd fynd. ‘Felly dwi’n un o’r merched hynny sy’n gwybod beth yw bod o flaen tribiwnlys yn erbyn bod i’n barod i fynd i – rhwbath fasa’n helpu efo’r rhyfal doeddwn i ddim am ‘i wneud o. Ac yn y tribiwnlys roedd y merched yn holi fi’n dwll, ac yn trio deud wrtha i “Well, what did you think of the Wrens? You’d look smart in that…’. Cred nad oedd wedi mynd yn bell iawn ar gyfer y trbiwnlys (Penrhyn?) ond yn y Blaenau yr oedd yr ail yn sicr. ‘Doch chi’n câl dim trugaradd gynnyn nhw…. Gwrthod yn llwyr ‘nes i’ Byddai wedi bod yn fodlon mynd i’r

Fyddin Dir ond chafodd hi ddim mynd. Felly cafodd ei rhoi yn y ‘naffy’ – roedd naffy blues (?) lle roedd y merched yn gweini mewn cantîns mawr a ‘naffy goods’ – gwaith swyddfa. Roedd naffy goods ym mhob camp milwrol, - yn prynu pob peth i mewn a hwythau wedyn yn dosbarthu’r cyfan. Yn y lle cyntaf cafodd ei rhoi mewn camp milwrol yn Traws(fynydd), wedyn i Dywyn, ac yna i Donfannau. Roedd yn gwisgo kakki – ‘ron i ddigon del ynddo fo’ – sgert o ddeunydd fel fyddai gan yr officers – ‘deunydd neis, smart ‘te’, a byddai’n cael ambell i saliwt er nad oedd yn yr army.’ Teimla iddi fod yn lwcus i fynd i’r naffy goods gan fod yno ferched yr un fath â hi ac na fyddai wedi ffitio i mewn yr un fath yn y naffy blues.

Yn Nhonfannau roedd yn aros i mewn. Cafodd ei symud yno gyda dim ond rhyw awr o rybudd am fod rhywun arall wedi gwneud rhyw giamocs efo’r pres neu rywbeth a clirio hwnnw i fyny. Cafodd drafferth gyda’i chalon eto. Er ei bod wedi byw bellach i oedran da mae wedi cael trafferth gyda’i chalon sawl tro.

6.46

Daeth yn ôl i Blaenau wedyn, ‘Ges i’r fraint adeg hynny, o gael swydd fel on i’n gwella, efo Evan Tudor and Son yn Nhrawsfynydd … un o freintiau mwya mywyd i oedd cael bod yn ysgrifenyddes i Dafydd Tudor. ‘ Roedd e wedi gadael yr ysgol yn naw oed, ond gorffennodd ei yrfa yn Uchel Siryf Sir Feirionnydd. Dyn busnes oedd e ac mae hithau’n ddynes fusnes hefyd. Bob prynhawn dydd Mercher byddai’n eistedd gyda hi i ddweud cyfrinachau a hithau’n llyncu’r cyfan. Roedd e’n torri coed a phrynu stadau mawr a bu ganddo gontract go fawr ( ei gwmni felly) i weithio o dan afon Conwy cyn gwneud y twnnel. ‘A dwi’n meddwl mai yn fan’no y ces i flas ar waith peirianyddol’. Erbyn hyn roedd y rhyfel drosodd a phethau wedi dechrau dod yn ôl a’r hogiau wedi dod nôl. Bu hi efo fe am ddeg mlynedd nes iddi briodi a doedd ei gwr ddim yn licio llawer ei bod hi fel gwraig briod yn dal bys am hanner awr wedi saith a dod adre am chwech gyda’r nos, a hithau â gofal cartre, a gofal gwneud bwyd. Cafodd gynnig swydd fel ysgrifenyddes i Mr Metcalf – mewn ffatri a oedd wedi’i hadeiladu i bwrpas gan Gyngor Tref Ffestiniog i ddarparu gwaith i’r hogia. Roedd e’n ddyn busnes da hefyd ond Dafydd Tudor roddodd yr addysg orau iddi hi. Ffatri Metcalfe.

9.24

Roedd hi wedi datblygu ei diddordeb mewn gwaith peirianyddol trwy wneud cwrs ar sut i brynu fel prynwr - buyer. Ond ysgrifenyddes fu hi yn y ffatri. Mi roedd y ffatri yn cynhyrchu peiriannau i bario tatws, i wneud chips, i dorri pob math o gigoedd e.e. bacwn, a pheiriannau mawr i gymysgu bwyd - safon commercial (nid y rhai mwya). Peiriannau cegin go fawr. Roedd ei thad yng nghyfraith yn rhan o’r cwmni – yn berchen y rhan fwyaf o’r shares a hithau fel petai yn ail iddo fo. Felly bu hi’n engineering buyer. Ffatri fechan oedd hi – yn cyflogi rhyw 50 o ddynion a nifer o ferched yn y swyddfeydd. Ar ôl iddi orffen ei chwrs hi oedd y prif swyddog agosaf at y bòs ei hun. Roedd hi’n deall y peiriannau.

Bu cyfnod pan gafodd hi fynd i lawr i Gaerdydd i stiwdios HTV ‘achos bod hi’n hynod o beth bod ‘na ferch yn cymryd y gwaith hwnnw mae’n debyg.’ Bu’n Llundain … ‘Gwaith on i wrth fy modd hefo fo. Doedd o ddim yn hawdd … ac roedd o’n tynnu’r petha da allan ohonoch chi … ‘n swydd i oedd edrych bod popath yn rhedag mor esmwyth â phosib.’ Mae’r ffatri yn dal mewn bodolaeth, ond erbyn heddiw, maen nhw’n mewnforio’r peiriannau modern, ac yn eu gwerthu nhw. Ac wedyn dim ond chwech neu saith o ddynion sydd yno.

13.00

Mae wedi’i lleoli yn ardal Glanpwll. Roedd stesion y tren yn ymyl yn enwedig pan oedd Cyngor Ffestiniog yn meddwl am adeiladu. Bellach y stesion wedi mynd. Cyflogau? – y bechgyn yn grefftwyr, yn beirianwyr – y rhai hynaf yn gorfod dod â’u papurau i ddangos eu bod wedi pasio a chymhwyso. Genod oedd yn yr offis ac roedd hi’n gwylltio – cafodd ei ffordd ar y diwedd – cymryd bachgen i mewn o’r ysgol i hyfforddi mewn gwaith peirianyddol a chymryd merch i mewn o’r ysgol a’i chyflwyno hi i waith offis. Roedd y raddfa tâl ac roedd hi’n ddig nad oedd y bechgyn a’r merched yma yn cael eu talu yr un fath. ‘Mi gymerodd amsar i mi. Ond diwadd y gân – os oedd hogan yn dod i mewn i weithio i’r offis roedd hi’n cael beth bynnag roedd yr hogyn yn gael.’ ‘Dysgu roedd y ddau’. Ond fu dim un merch yn gweithio ar lawr y ffatri a heddiw dynion yn unig sy’n gwneud y gwaith peirianyddol. Mae rhyw 10 yn y swyddfa rwan. Mwy o waith swyddfa rwan gan nad yw’r ffatri yn cynhyrchu dim byd. Pan oedd hi’n gwneud y peiriannau, a chwmnïau tebyg iddyn nhw, roedden nhw’n cael eu gwneud i bara am oes. Ond rwan os gwnaiff peiriant bara am ddwy-dair blynedd … Heddiw maen nhw’n gyrru’r peiriannau’n bell. Mae’r cwmni yn dal ym mherchnogaeth yr un teulu – Mr Metcalfe, yna’i fab yng nghyfraith – Thomas Richards, yna’u mab nhw- Max Richards a bellach ei fab yn rhedeg y busnas ar ôl i’w dad ymddeol. Hen gwmni, ar ôl y Rhyfel Byd cyntaf – o Coventry. Wedi bod yn y Blaenau am 60 mlynedd – mis Medi 1954. Dechreuodd hi weithio iddyn nhw yn 1955 a bu yno am 40 mlynedd – roedd yn 69 yn ymddeol.

17.08

Undebau Llafur? Dau Undeb yno – un ar gyfer y trydanwyr (mae’n meddwl) a…? Doedd dim undeb ar gyfer y rhai oedd yn y swyddfa. Amodau gwaith - Roedd popeth yno yn y swyddfa at eich gwaith chi – roedd pob peth roedd pob clerc eisiau ar ei desg ei hun. Roedd mân ddamweiniau yno weithiau ond ‘dim, dim, dim, dim’ mawr.

Pythefnos o wyliau a gwyliau Banc i gyd. Rhai gweithwyr yn teithio yno ar y bws o Traws, ac ar un adeg ar y trên o Traws i stesion Blaenau. Erbyn hyn roedd ganddi hi ei hun ysgrifenyddes a staff iddi hi ei hun, a byddai’r ysgrifenyddes yn dod i fyny ar y bws ac yn cyrraedd yn y gwaith toc wedi wyth. Felly byddai hi’n rhoi gwaith i’r ferch yma fel y gallai fynd adre erbyn pedwar. Byddai hi ei hun yno tua hanner awr wedi wyth. ‘Don i ddim yn cydweld ond ‘gwaith oedd yn bwysig i fi ac on i’n câl gwaith’. Teimla fod y ddynes hon yn mynd adre ar yr amser prysura – pan oedd y merched eraill yn troi’r llyfrau allan yn trio dod i ddiwedd eu gwaith. Roedd hi neu Mr Richards yn rhoi’r gwaith ar dâp iddyn nhw gan ei gadael hi’n rhydd i wneud gwaith arall. Gallai fynd dipyn yn wyllt i deipio’r holl lythyrau mewn pryd, gan eu bod yn ateb y ffôn hefyd, ‘Don i ddim yn ei weld o’n deg iawn, ond roedd o’n waith iddi hi on’d oedd? Ond roedd ‘na dipyn o bwysau - rhoi tegwch i bawb.’

Roedd hi’n mwynhau y gwaith. Fu hi ddim ar gyrsiau hyfforddi tra bu hi yno. Daeth y cyfrifiaduron i mewn pan oedd hi bron â gorffen yno, ac roedd hi’n gyrru’r merchaid (i’r cyrsiau).

Roedd swyddfa accounts yn gwneud y cyflogau. Roedd hyn yn dipyn o waith oherwydd doedd y tâl ddim ‘ar flat rate’, roedd pwysau ar beth oedden nhw’n ei droi allan. Roedd hyn yn waeth pan oedd hi’n gweithio i Tudor’s yn Traws, gan fod ganddyn nhw chwarelwyr yn gweithio iddyn nhw, bechgyn yn y coedwigoedd, gwahanol swyddfeydd , locking and talking (?), a loriau yn cario coed a tsaeniau i’w cadw’n saff, - roedd gwaith mawr gwneud cyflogau yn fan’no.

22.26

Sôn am Glynllifon – plasty yn eiddo i’r Arglwydd Newborough – yr un teulu â pherchen Rhug a lle arall yn ochr Caernarfon a llawer o diroedd ac ystadau yn yr ardal. Mae wedi’i gladdu mewn bedd unigol iddo’i hun ym mynwent Llan Ffestiniog tua 1919. Mae Newborough Street yn dal yno heddiw. Bydden nhw’n gwneud lot efo’r plasau – stadau ganddo ond dim arian parod – a byddai galw ar Tudor i fynd draw i dorri coed mawr i lawr. Roedd yr Arglwydd Newborough wedi rhoi’n hysbys ei fod e am werthu’r lle a chymerodd Tudor e – roedd efail, home farm yna, ac anifeiliaid a phlasty ac roedd y Newboroughs yn byw yno ar y pryd (aeth yn Goleg yn ddiweddarach) ac roedd hi’n mynd yno. Roedd hi’n gwybod ers tua blwyddyn bod gwerthu a phrynu am fod ond doedd hi ddim wedi dweud wrth unrhyw un. Roedd hi’n canlyn ar y pryd – y gwr, a’r newyddion yn y Daily Post yn dweud bod Evan Tudor and Sons wedi prynu’r plasty am £75,000 – ar ol y Rhyfel (byddai’n filiynau heddiw).

Yn rhinwedd ei swydd byddai’n mynd yno – dros 100 o ystafelloedd yn y plasty ac yn y cyntedd roedd llun bychan ar y wal – twr eglwys digon di-nod ac wyneb cloc bychan a phan oedd y cloc yn taro roedd pob ystafell yn y plasty’n ei glywed. Mae’r cloc heddiw yn fferm yr Aber, Trawsfynydd. Cyfnod hynod o ddiddorol. Hyd yn oed pan ddaeth hi’n ocsiwn ar gynnwys y ty, doedd y Tuduriaid (Dafydd neu Robin) ddim yn gallu bidio a chynnig pris, felly byddai hi’n eu cynrychioli. Dim mwy na £5 – gwerth pres ddim yr un fath heddiw wrth gwrs. Llwyddodd i gael ambell beth. Gorfodwyd Tudor i’w werthu (y stad) achos compulsory purchasing powers gan fod Sir Gaernarfon angen yr adeilad i’w droi’n goleg amaethyddol. Hyd yn oed pan brynodd Tudor y lle i gychwyn roedd yn rhaid iddo adael 30 llath o goed rownd y waliau i gyd gan gwtogi llawer ar y coed roedd e’n cael eu torri. Gorfodwyd ef i werthu a chofia fynd yno wedyn a thorri’i chalon – gweld y bobl ifanc yn rhedeg i fyny ac i lawr y grisiau. Gwerthwyd y cyfan bryd hynny. A chafodd e ddim dewis y pris ychwaith.

Mae Pegi wedi gweithio ar hyd ei hoes yn rheoli dynion yn gweithio – ar lawr y ffatri! Fu dim rhaid idd erioed ofyn i ddyn i wneud rhywbeth iddi – gofyn ‘Robin, beth am i ti wneud hwnna?’ a byddai’n gwneud. Nid gorchymyn ond awgrymu.

29.00

‘I mi mae sgwrs gyffredinol efo merchaid … am gyrtans a coginio a plant a prynu a – nac oes, does gyn’na i ddim diddordab – petha angenrheidiol dwi’n gwbod ….’

Er ei bod yn 90 oed – mae’n dal i yrru car ac i ddefnyddio cyfrifiadur – mae sgiliau peirianyddol wedi parhau felly. Teimla fod ganddi le i ddiolch – er ei bod wedi cael trafferthion mawr gyda’i chalon – triniaethau yn Gobowen a Lerpwl, ond ‘dwi yn credu hyn, fe gesh i ail-gynnig, ail-gyfla’ felly nid yw’n mynd i wastraffu yr hyn sydd ganddi heddiw. Mae’n ansicr a fyddai wedi dilyn yr un llwybr heddiw. Bu’n rhaid iddi ddal ei phriodas yn ôl am ei bod yn gweithio ar y prosiect mawr yng Nghonwy – gorfod gweithio ar gostau pob peth a phrisio’r gwaith ‘ar y pryd roedd o’n job go ryfadd i ferch wneud ond dwi reit ddiniwad ‘n ffordd cofiwch,’ mae’n gallu rheoli dynion ‘heb iddyn nhw sylweddoli’.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN015.2.pdf