Gwlithyn Rowlands , Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Gwlithyn ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 23/05/1947.

Ganwyd hi yng Nghaersws, roedd ei mam ym wraig ty a'i thad yn gweithio ar fferm. Ar ôl iddo ymddeol o'r fferm, o achos arthritis, aeth i lanhau yn ffatri Laura Ashley yng Ngharno. Yn nes ymlaen, roedd ei mam yn smwddio i Laura Ashley hefyd, yn rhan amser. Roedd gan Gwlithyn 3 chwaer a 4 brawd, ac roedden nhw i gyd, heblaw 1 brawd, yn gweithio yn Laura Ashley. Roedd un brawd, Meirion, yn cneifio ar y fferm a gofynnodd Bernard Ashley iddo ddod i dorri deunydd yn y ffatri, a daeth Meirion yn Managing Director y cwmni yn y diwedd.

Aeth Gwlithyn i ysgol Carno ac wedyn ar y trên i ysgol uwchradd yn y Drenewydd, o ysgol Gymraeg i ysgol Saesneg. Roedd hi'n ffeindio hyn yn anodd iawn. Gadawodd hi'r ysgol pan oedd hi'n bymtheg oed. 'Dim ots be oeddech chi'n wneud, oeddech chi'n gorfod cael job.' Cafodd hi swydd mewn siop yn y Drenewydd, ac wedyn mewn ffatri yn y Drenewydd, ond doedd hi ddim yn hoffi hynny, gan ei bod hi'n gwneud 'parts' i geir, gwaith brwnt iawn.

Aeth hi yn ôl i waith siop ac wedyn, pan ddaeth Laura Ashley i Garno, aeth hi i weithio yn y swyddfa, yn helpu gwneud y cyflogau. Yn 1964 yr oedd hynny. Gadawodd hi yn 1966 i gael ei mab, heb briodi, ac wedyn aeth hi fel 'out worker' i Laura Ashley. Doedd hi erioed wedi gwnïo cyn hynny ond meddyliodd ei bod am 'give it a go' i ennill pres ond 'on i'n quite enjoio fo'. Daeth y ffatri â'r peiriant i'r ty iddi, ac wedyn roedden nhw'n dod â bagiau o ddeunydd ac yn eu casglu nhw mewn ychydig o ddyddiau. Roedd Gwlithyn yn gwneud yr 'outwork' hwn tan w'r mab fynd i'r ysgol yn 1970-1, ac wedyn aeth i i mewn i'r ffatri 9am-3pm. Roedd Laura Ashley yn mynnu bod y mamau a oedd yn gweithio iddi yn gallu mynd â'u plant i'r ysgol a’u casglu nhw yn y pnawn. Yn nes ymlaen, pan oedd ei mab yn hyn, aeth hi i weithio o 8am tan 5pm.

Pan ddechreuodd Gwlithyn yn 1964, fel clerc, dim ond 4 peiriannwr oedd yno, a dau ddyn yn gwneud y printio, meddai. Chafodd hi ddim cyfweliad, jyst deud wrth Laura Ashley ei bod hi allan o waith, a dywedodd Laura "dewch i mewn, wnawn ni ffeindio job i chi." Doedd hi ddim yn eu nabod nhw yn bersonol ond roedd ei mam yn gofalu am ferch fach Laura, gan eu bod nhw'n byw reit gyferbyn y ffatri wreiddiol. Ateb y ffôn, gwneud cyflogau, gwneud paneidiau o de oedd ei gwaith, am gyflog o 'bedair punt rhywbeth,' dyna oedd ei chyflog cyntaf yn y swyddfa.

9:00 Cafodd hi ei hyfforddi sut i wneud dillad fel ffrogiau, sgertiau, blowsys, pan ail-ddechreuodd hi yn y ffatri. Dywedodd iddi ei dysgu ei hun wrth wneud yr outwork, sef blouses, nightdresses, oven gloves, tea-towels. 'Piece work' maen nhw'n galw’r gwaith cartref "ychydig beth fan hyn, ychydig beth fan hyn, ychydig beth pan oedd y plentyn wedi mynd i'r gwely." Ond pan oedd hi wrthi drwy'r dydd, meddai, roedd y gwaith yn galed. Câi hi gyflog o bedair punt am wnïo, yr un faint ag am weithio yn y swyddfa. Pan oedd hi'n gweithio yn y swyddfa, cwrddodd â'i gwr, a oedd yn gweithio yno yn torri'r dillad allan, ond roedden nhw wedi nabod ei gilydd ers talwm. Wnaethon nhw ddim priodi cyn cael eu plentyn, ond ar ôl.

Mae'n disgrifio’r cyfnod y bu hi’n gwnïo yn y ffatri fel yr amser gorau erioed: Dyma y ‘dyddiau mwyaf hapus erioed yn Laura Ashley. On ni'n neud y gwaith, wrthi o hyd, ac o hyd, ond on ni'n cael lot o sbort. Lot, lot o sbort. On ni gweld ni, chi mod, yn gwneud pile o collars, pile o cuffs, troi nhw i gyd trwodd cyn presio nhw. On ni'n mynd â rhai ohonyn nhw adre i smwddio erbyn nos i helpu gwneud rhagor o bres y diwrnod wedyn."

Roedd hi'n hapus i newid o waith swyddfa i waith gwnïo, achos roedd hi wedi bod yn gwnïo ar hyd yr amser. Roedd ei nain wedi dangos iddi sut i wau ac embroidro. Felly, doedd neb yn rhoi hyfforddiant iddi i wneud gwaith cartref. Roedd bechgyn yn mynd â'r bagiau rownd (y tai) a dim ond copïo’r enghreifftiau, e.e. blows, roedd o'n dangos iddi "That's what's in the bag, do it." Ac felly roedd rhaid iddi weithio allan beth oedd beth ayyb. Gwaith cartref oedd pethau fel teatowels, oven gloves, smocks gyda phocedi yn y blaen, ond yn y ffatri roedden nhw’n gwneud mwy o sgertiau a ffrogiau a capes. Roedd hi'n cael rhyw £2 am weithio gartref, yn cael un bag bob wythnos fel arfer, yn cael ei thalu am yr eitemau roedd hi wedi eu gwneud, e.e. 3c am bob un.

Roedd hi'n mwynhau gwnïo ac yn gwneud dillad i'w mab ei hun i fynd i'r ysgol.

15:00 Doedd dim rhaid iddi gael cyfweliad ar gyfer swydd yn y ffatri, achos roedd hi wedi bod yn gweithio gartref am ryw bedair blynedd. Dywedodd wrth yr Ashleys nad oedd hi eisiau rhagor o outwork ond ei bod hi eisiau mynd i mewn i'r ffatri. Aeth hi i mewn i'r hen ffatri pan oedd hi yn y swyddfa, roedd ei mam a’i thad yn byw reit gyferbyn. Pan aeth i mewn i'r ffatri'r ail dro, doedd yr adeilad mawr glas heb gael ei adeiladu. Aeth hi i mewn i ryw adeilad 'top' wrth yr orsaf, ac ar ôl i hwnnw gael ei lenwi, adeiladon nhw'r ffatri newydd fawr.

Roedd hi'n nabod pawb yn ffatri Carno, roedd pawb yn lleol yn y dyddiau cyn i'r cwmni dyfu. Roedd Mo Lewis wedi dweud mai hi a'i chwaer Rosina oedd peirianwyr cyntaf Laura Ashley (VN002) ond yn ôl Gwlithyn, dwy ferch o Landinam oedd y cyntaf, a hi ac Ann Puw yn y swyddfa. Roedd hyd yn oed y bechgyn a oedd yn torri allan yn lleol, meddai. Doedd y cwmni ddim wedi tyfu bryd hynny, yn y 70au cynnar. Wedyn, agoron nhw ffatrïoedd ym Machynlleth, Caernarfon, Llanidloes, y Drenewydd, Gresffordd ayyb.

Roedd yn ffatri yn iawn, yn ddigon cyfforddus, meddai. Roedd cantîn yno, a hen wraig o’r enw Gwenni yn gwneud y te, a’r cinio, ac yn dod â chacennau wedi eu gwneud gartref i mewn ar ddydd Gwener. Meddai Gwlithyn "Laura Ashley oedd fy favourite i, hi oedd y driving force, chi'n gwybod. Dim ots faint o waith oedd gynnon ni i wneud, ’sa gynnon ni i order, ’sa hi ddim yn gorfod gofyn fasa ni'n gweithio overtime, fasa pawb yn bendio drosodd i helpu hi. Ond oedd hi yn helpu ni hefyd." Os oedd order mawr, byddai hi yn eistedd lawr i wnïo ei hunan, roedd hi'n "gariadus ofnadwy." Meddai, os oedden nhw'n cael 40 pence am wneud ffrog a doedd y pris ddim yn iawn, byddai Laura yn gweiddi ar frawd Gwlithyn "Meirion, come here and retime this dress, these girls aren't happy." A byddai o wedyn yn rhoi rhyw 2 pence, neu 10 pence, arni - rhywbeth i gadw'r merched yn hapus. Roedd hi'n iawn, meddai, yn gweithio efo'i brawd fel manager ond os oedd na 'row' i rhoi, roedd o'n 'pointio'r gun' tuag at Gwlithyn a byddai pawb yn gwrando.

20:00 Pan adawodd Gwlithyn y swyddfa yn 1966 i gael ei phlentyn, cafodd un o'i chwiorydd y swydd, ac aeth ei brawd ifancach, Alun, a oedd newydd adael yr ysgol, yn syth i mewn i swydd printio yn y ffatri. Bryd hynny, roedd ei mam yn smwddio yno, ei thad yn glanhau, Meirion yn torri allan, Alun yn printio, Gwyneira, ei chwaer hynaf, yn dderbynnydd. Ac yn nes ymlaen, daeth ei brawd arall, Sulwyn, yno hefyd. Dywedodd Gwlithyn stori ddiddorol am ei brawd, Meirion. Ffermio oedd o ac yn cneifio mewn cystadleuaeth yn y Sioe Frenhinol un flwyddyn, ac wedyn 'dros beint' yn y pub, dywedodd Bernard Ashley wrtho "I hear you've been shearing in the Royal Welsh? Well I want you to come and work with me." "I'll give it a go," meddai Meirion. Dechreuodd yn torri'r deunydd ar gyfer y ffrogiau ac un diwrnod, gwnaeth camgymeriad, a thorri tipyn gormod i ffwrdd o'r neckline. Gwnaeth o banico a galwodd ar Laura Ashley ac meddai hi, "Well, we'll try it and see how it goes" a daeth y math hwnnw o 'scoop neckline' un o'r ‘best sellers!’

Roedd Meirion yn gweithio'n galed, gan gynnwys mynd efo'r loris i lawr i Lundain ar ôl gorffen gwaith am 5 o'r gloch, ac yna i fyny’n ôl. Roedd ganddo fo 'bond' da efo Laura Ashley, roedd hi'n gallu trystio fo i wneud unrhyw beth, ac oherwydd hynny a'i waith caled, daeth yn managing director.

Doedd o ddim yn waith caled nac yn ffurfiol iawn, ond roedd y gweithwyr i gyd yn gwybod beth oedden nhw i fod i’w wneud. Doedd neb yn sbïo dros eu hysgwyddau nhw. Roeddech chi'n gwybod beth i'w wneud a faint o amser oedd gynnoch chi, ac os oeddech chi angen help i orffen, dim ond dweud a gofyn am help oedd yn rhaid i chi. Roedd rhaid iddynt glocio mewn a mas. Roedden ganddyn nhw'r hawl i gael amser i ffwrdd, i fynd â'r plant at y meddyg neu'r deintydd ayyb, a bob amser roedden nhw'n gofyn 'How will you get there?' h.y. roedden nhw’n fodlon cynnig help efo’r teithio os oedd angen. Roedd hi fel gweithio i deulu.

28:00 Roedd y dynion oedd yn gweithio yno yn gwneud pethau fel dying, peintio, golchi'r defnydd, torri'r dillad allan. Roedd Gwlithyn yn gwneud pob math o ddillad. 'Roedd o'n dibynnu beth oedd ar yr order. Falle oedd e’n two hundred o blowsys, neu un steil o ffrog, neu gwahanol steil, oedden nhw'n ‘consentretio’ ar un steil, chi'n gwybod, a unwaith roedd y siopau wedi llenwi efo'r steil yna, ‘sai siopydd yn galw am steil arall. " Dibynnu ar beth oedd y siopau eisiau, roedden nhw'n deud wrth y bechgyn beth i dorri allan a byddai'r deunydd yn dod at y merched i’w wnïo. Roedd pob peiriannwr yn gwneud ffrog gyfan, nid darnau ar wahân, heblaw'r overlocking, a oedd yn mynd dros y seams. Felly, byddai Gwlithyn yn gwneud y ffrog gyfan a byddai'r ferch ar yr overlocking yn mynd dros y seams wedyn. Roedden nhw'n cael lot o perks, fel seconds, e.e. ffrogiau oedd wedi cael eu gwneud y seis anghywir gan ferched a oedd yn cael eu hyfforddi.

"Oh, oedden ni'n cael lot o perks. Fel enghraifft, dedwch chi oedden nhw'n mesur bob ffrog cyn iddi fynd allan i'r siop, a pan dach chi'n joinio'r garment i fyny, dim ond gorfod cael centimetre seam allowance amser on i'n gweithio yn y ffatri. Wel, dedwch chi bod merch yn dechrau trainio, a falle wnaeth hi gymryd one and a half centimeters, neu two centimeters, so pan oedd y garments yn mynd ar y rail, i gael eu mesur, roedd falle wedi mynd lawr o size 12 i size 8. Ac wedyn dyna beth oedd dim yn acceptable yn y shops, dyna be oedden ni'n cael y perks o brynu . . . Ond doedden nhw ddim mor fussy efo sizing pan dechreuson ni yn y ffatri. Ond fel roedd y blynyddoedd yn mynd a mwy o siopau yn agor, roedden nhw'n gorfod bod i'r millimetre."

Roedd awyrgylch y ffatri wedi newid llawer yn ystod amser Gwlithyn, yn enwedig ar ôl marwolaeth Laura Ashley. “Dyna pan oedd 'na complete change.” Ar ôl hynny, daeth pobl ddiarth i mewn, tua diwedd yr 80au oedd hyn, a doedd pethau ddim mor agos ag oedd o ar hyd y blynyddoedd cynt, a “doedd o ddim yn hapus, doedd o ddim yn hapus.” Dywedodd Gwlithyn fod y gweithwyr i gyd wedi torri’u eu calonnau pan fu farw Laura Ashley. “Roedd pawb yn heartbroken - pawb oedd wedi buildio'r ffyrm i fyny efo hi, chi'n gwybod,”. Roedden nhw'n meddwl bod y bobl newydd dim yn deall pa mor agos yr oedd y berthynas rhyngddi hi a'r gweithwyr - bod y ffatri wedi tyfu mewn ffordd deuluol bron. Roedd yr Ashleys wedi gwneud llawer i'r pentref, er bod Bernard yn gallu fod yn sarcastic. Roedd y gweithwyr yn gorfod meddwl ddwywaith cyn dweud unrhywbeth wrtho fo, ond dim efo Laura Ashley. Roedd ganddo fo ffordd o siarad gwahanol iddi hi. “Teulu bach oedd Carno”, meddai Gwlithyn. “Roedd hi wedi helpu pawb, wedi gwneud lot i'r pentre’.” Roedd perthynas hefyd rhwng y gweithwyr a phlant yr Ashleys, oedd yn dod i mewn i'r ffatri o hyd ac yn siarad efo'r gweithwyr.

Bu Gwlithyn yn gweithio i Laura Ashley am tua 48 o flynyddoedd, gan gynnwys ei gwaith yn y swyddfa a'r outwork. Cafodd ei gwneud yn redundant o ffatri Carno, pan newidiodd honno i wneud llenni ac i anfon y dillad dramor i gael eu gwneud. Bryd hynny, yn 1999, roedd Gwlithyn yn supervisor a chawson nhw i gyd sioc fawr pan glywon nhw nad oedden nhw yn mynd i wneud dillad byth eto “No more garments” oedd y penderfyniad o Lundain. Ar ôl hyn, roedd hi'n gwneud tipyn o wnïo gartref, ond un diwrnod ffoniodd y rheolwraig o'r ffatri lenni i ofyn beth oedd hi'n ei wneud ac a oedd hi'n fodlon dod yn ôl i ffatri oherwydd roedd ganddyn nhw order ar frys. “What are you doing, Gwlithyn?” “Well, not a lot”, medda fi, “a bit of sewing at home.” “Come and help us, we've got some urgent orders to do.” Roedd hynny yn erbyn y gyfraith, meddwn i, sef i dderbyn gwaith yn syth ar ôl cael redundancy, - rhaid aros chwe mis, felly doedd hi ddim yn gallu mynd yn syth, yn llawn amser, ond aeth hi i helpu. Gwnaeth hi gais am swydd lawn amser ar ôl chwe mis ac roedd yn gwneud cyrtens ac ati ar gyfer Laura Ashley Home Stylist, ac yn gweithio o 2001 tan iddi ymddeol yn 2011.

39:00 Daeth hi yn supervisor oherwydd roedd yn rhaid cael rhywun i trainio merched newydd, dysgu iddynt i wneud pleats, tucks, cuffs, collars ayyb. Doedd dim digon o ferched efo'r math o sgiliau oedd gan Gwlithyn, oherwydd roedd hi wedi bod yno am amser hir. Aeth hi ar gwrs, yn 1988, wedi ei dalu gan y ffatri. Cafodd y cwrs ei gynnal yn y ffatri yng Ngharno, yn y stafell gyfarfod. Roedd o’n fwy o asesiad na chwrs, roedd rhywun yn gwylio sut roedd hi'n trainio eraill, a phasiodd hi a chafodd hi dystysgrif (VN013.21). Chafodd hi ddim codiad cyflog mewn gwirionedd, achos roedd hi wedi bod yn gwneud piece work a doedd hi byth yn gwybod yn hollol faint fyddai hi'n ei gael bob wythnos, achos roedd y tâl yn dibynnu ar faint o waith roeddech chi wedi'i wneud. Ond fel supervisor, meddai, roedd hi'n gwybod yn hollol faint roedd hi'n ei ennill bob wythnos, ac wrth gwrs roedd mwy o gyfrifoldeb.

Yn y ffatri newydd yng Ngharno, yr adeg hynny, roedd pump supervisors, meddai, ac ugain o ferched, ac oedd y rheolwyr yn cerdded i lawr rhwng y peirianwyr ac yn gwneud yn siwr eu bod nhw'n gwneud y gwaith yn gywir, ac os nad oedden nhw, yn dangos iddynt y ffordd gywir, a gwneud yn siwr fod ganddynt ddigon o waith ayyb. Ond, ar ôl pedwar deg o flynyddoedd, a'r profiad roedd hi wedi’i gael yn gwnïo, meddai Gwlithyn, roedd management y ffatri yn y cyfnod diweddar yn siarad efo hi fel petai yn blentyn, 'undermining' hi fel petai.

O ran perks yn y dyddiau cynnar, roedden nhw'n cael mynd â zips, cottons a oedd yn mynd allan o stoc, neu ddeunydd a oedd ar ôl, roedd hawl i'r gweithwyr eu helpu eu hunain, neu os oedd paent, papur wal sbar, roedden nhw'n cael mynd â nhw adre “Whatever you want from there, take it.” Roedd Gwlithyn yn gwisgo dillad bob dydd i'r gwaith, er ei bod wedi gwisgo smociau Laura Ashley hefyd yn y dyddiau cynnar, smociau efo pocedi mawr yr oedden nhw wedi’u gwneud eu hunain i arbed eu dillad eu hunain.

O ran 'health and safety' roedd yna ambell i ddamwain fach; “O, dw i wedi cael ambell un. O, mae hyn yn dda! On i wedi bod yn iwsio'r gathering foot, dangos i rywun ffordd i wneud gathers, a dach chi'n rhoi'r gathering foot 'ma ymlaen ar y mashîn, a chi'n dal eich bys tu ôl i'r foot, i roi pressure arno, ac wedyn, crinclo i fyny i gyd, so, dw i ddim yn gwbod beth hapnodd, ond fel on i'n rhoi ’mys, aeth y nodwydd mewn i ’mys i. Ac, on i'n gorfod rhoi fo yn llyfr, ‘te. A gofynnodd y first aider. “Is it alright?” “Oh yes”, medda fi, “it's fine, it's only a bit numb at the top, it’s fine.” “Oh, you've got to go to the doctor.” “I'm not going to the doctor,” medda fi, “It's fine.” So es i lawr i'r doctor rwan a, “Oh, you'll have to go to Aberystwyth for an Xray.” “What for? There's nothing wrong with it.” Roedd 'na tri twll ac roedd 'na bisyn o nodwydd yn sefyll rhwng y ddau dwll.” Doedd hi ddim wedi sylwi a dywedodd doedd o ddim yn boenus tan iddyn nhw dynnu fo allan. Aeth i Aberystwyth yn y 'firm's car, ' a rhywun o Laura Ashley yn gyrru, i gael x-ray. Roedd hi yn ôl yn y gwaith y diwrnod wedyn, er iddyn nhw ddweud wrthi hi gael ychydig o ddyddiau i ffwrdd gyda thâl. “Oeddech chi ddim yn licio sgeifio achos oeddech chi'n meddwl, wel, you owe it to them, chi'n gwbod.” Dywedodd Gwlithyn nad oedd unrhyw un yn cael amser i ffwrdd oni bai bod 'na esgus go iawn.'

O ran partis, roedd lot o hwyl, meddai, ar adegau pen-blwydd neu briodas rhywun. Tu ôl i'r Dye House, yng Ngharno, roedd pwll mawr ac os oedd rhywun yn priodi, i mewn i'r pwll â nhw. Roedd

rhywun wedi dod â dillad sbar i'r person oedd yn mynd i mewn - “She's going in the water, somebody bring some spare clothes.” Dywedodd Gwlithyn na wnaeth hyn ddigwydd iddi hi, achos roedden nhw wedi cau'r pwll erbyn iddi hi briodi - wedi gweld y perygl, mae'n debyg. Roedden nhw'n cael nosweithiau allan efo plant Laura Ashley, Nick a Jane, ond dim cymaint efo'r mab hynaf David, a oedd yn cadw iddo fo’i hun.

Dydy Gwlithyn ddim yn gwybod sut dechreuodd y tîm pêl-droed, ond mae'n meddwl bod rhyw ffatri neu gilydd wedi bod yn chwarae pêl-droed mewn sioe a daeth y gair i Carno, a dywedon nhw “Oh, let’s get a football team.” Aeth y gair at Bernard a Laura Ashley "These girls want a football team so they can play on a Sunday against the shops.” “Great idea.” Prynson nhw'r cit i ni, un gwyrdd â'r Ddraig Goch, a oedden ni'n mynd bob dydd Sul, chwarae yn Llanidloes, neu Fachynlleth, neu Gaernarfon, neu yn Garno. O, oedden ni'n cael hwyl. Aniwe, aethon ni lawr i chwarae yn erbyn y siopau yn Llundain, a choeliech chi byth, oedden ni'n chwarae ar gae tu allan i Wormwood Scrubs.” Roedd y Cymry yn yfed yn yr hotel y noson gynt, efo pobl Saesneg, ac fel Cymry yn yfed ac yn canu, ac roedd pawb eisiau iddyn nhw'n ganu mwy. Roedd llawer o'r merched yn chwarae efo 'hangover' - “worse for wear” - y diwrnod wedyn, a'r carcharorion yn gweiddi arnynt o'r ffenestri. Roedd Gwlithyn yn chwarae safle canolwr. Mae wedi colli'r cit a'r bwts ers talwm. Roedd yr Ashleys yn talu popeth – y taith a’r hotel - ac roedd y tîm y mynd am rai blynyddoedd, nes i'r merched ddechrau priodi, cael babis, neu symud i ffwrdd.

53:00 Mae Gwlithyn yn credu mai syniad un o blant yr Ashleys oedd yr 'It's a Knockout ' blynyddol. Planciau dros ddwr, pillow fights, mynd trwy deiars, ac un ar gyfer dynion yn arbennig, lle bob tro roedden nhw'n dod at ryw obstacle, roedd yn rhaid iddynt newid un darn o'u dillad am ddillad menywod - tights, corsets, neu suspender belts. Nid ar gyfer elusen yr oedd y Knockouts ond roedd y pres a godid yn mynd yn ôl i gronfa i gael rhagor o adloniant. “Good days” meddai hi. Amser Nadolig roedden nhw'n arfer mynd allan. Cawson nhw ddathliad hefyd pan enillwyd y Queen’s Award for Industry, yn Deeside. Cawson nhw froets arian ac mae gan Gwlithyn ei hun hi o hyd. “Very precious, hwnna.”

Doedd dim llawer o anghytundeb rhwng gweithwyr Laura Ashley, pawb yn dod ymlaen yn iawn. Os oedd rhyw bwnc fel codiad tal, roedden nhw'n trafod hyn gyda'r Ashleys a dod i gytundeb. “Os on nhw'n deud “Dw i ddim yn cael digon o bres am wneud y sgert 'ma, neu'r ffrog 'ma neu'r garment 'ma, well, ‘We'll look at it,’so on ni'n galw'r management mas a teimio fo eto, efallai sen nhw'n deud, 'no it's alright' or 'yes, we'll put a penny on it, or something.’”

Doedd Bernard Ashley ddim eisiau undeb yn y ffatri, ac roedd pawb yn gwybod hynny. Daeth rhywun yno ryw dro i weithio a dywedodd y person yna rywbeth am undeb. “Ac oedden ni i gyd y gwybod, o'r feri cychwyn, doedd Bernard a Laura Ashley ddim eisio union. A wneson ni ddim questiono fo o gwbl. Ond fel oedd y blynyddoedd yn mynd a pobl newydd yn dod i mewn, roedd 'na union eisiau, definitely, ond dim yr amser oedd hi'n fyw, chi'n gwybod, fasai union wedi sboilio fo.” Yn y diwedd, pan ymddeolodd Gwlithyn, roedd angen undeb yn y ffatri, er na fu hi’n aelod o undeb erioed, meddai.

Disgrifia’r ffatri yn y dyddiau cynnar: “Adeg hynny, amser oeddwn i'n gweithio yno, lle on i'n gweithio, oedd na fel tin roof arno, ac oedd hi'n rhewi yn y gaeaf, berwi yn yr haf, a no air conditioning, wel, ‘sa union wedi helpu fan 'na.” Roedd hi a phobl eraill wedi cwyno am y pethau hyn ond doedd neb yn gwrando, meddai, ac roedd hi wedi dygymod â'r peth, achos y ffordd dda roedd yr Ashleys yn eu trin nhw. Mae Gwlithyn yn cofio adeg pan oedd y lle mor boeth, doedd hi ddim yn gallu gweithio a’i bod yn dod adre o'r gwaith 'absolutely drained.” Gallai hi fynd i fyny'r grisiau i weithio un diwrnod a gweld dwr ar y llawr, gyda'r trydan, cael health and safety i sychu fo, mynd at y management, ond dim byd yn cael ei wneud. Yn y gaeaf, byddai hi'n gweithio mewn cot a menig, ac roedd hi'n gorfod "jumpio mewn i'r bath i gynhesu" ar ôl diwrnod o waith. Ond chafodd dim byd ei wneud am broblemau hyn, achos, meddai, yr ateb bob amser oedd "It costs money. So, give up, give up."

Doedd y ffatri newydd ddim yn swnllyd lle roedd hi'n gweithio, lan y grisiau yn gwneud 'Home Stylists" - yn yr 80/90au oedd hyn (yn y Drenewydd?), roedd y merched lawr star yn ? gwneud ? cael swn. Lle roedd Gwlithyn yn gweithio, roedden nhw'n cael 'fumes' o'r printio papur wal golchadwy, ac roedd yn rhaid iddynt agor y ffenestri oherwydd bod eu llygaid yn rhedeg. Yn ffatri’r Drenewydd ddwy flynedd yn ôl roedd hyn yn digwydd, meddai. Yng Ngharno, pan oedd hi lawr grisiau, doedd dim cymaint o swn fel nad oedden nhw’n gallu siarad a gwrando ar y radio. Roedd y printio mewn darn arall. Roedd y radio ymlaen drwy'r dydd, ac roedden nhw siarad am bethau fel beth oedden nhw'n eiwneud dros y penwythnos, hanes y teulu, “rhedeg y gwr i lawr.”

Mae'n cofio adeg pan oedd pedair ohonynt yn gwneud pum ffrog - “pump velvet burgundy dresses, dwy ferch ochr yma i'r bwrdd, dwy ferch yr ochr arall” - ac roedd yn rhaid i'r ffrogiau fynd allan erbyn diwedd y diwrnod. Dywedodd un o'r merched “Oh, look at this makeup I bought at the weekend.” A thra’i bod hi'n dangos y 'make up' newydd i'r lleill, aeth o dros un o'r dresses! Wnaethon nhw redeg i'r cutting room am ddarn arall o ddeunydd, a dim gallu mynd adre tan iddyn nhw orffen, a rhoi'r darn â'r make up arno yn y bin heb i neb wybod. “You wait ‘til Laura Ashley comes here, she'll want to know where that piece has gone.”

1.08 Cymraeg oedd yr iaith yn y cychwyn, ond daeth yr iaith yn mixed erbyn y diwedd. Dywedodd Gwlithyn hanes rhyw ferch o Dywyn a oedd yn siarad Cymraeg gyda Gwlithyn yn y ffatri yn y Drenewydd, ryw bum mlynedd cyn iddi hi ymddeol. Daeth y manager atynt a dweud "Don't speak Welsh, I can't understand you." "Well, I'm not talking to you, I'm talking to Gwen and she's Welsh," atebodd Gwlithyn. "It's ignorant." A dywedodd y ferch, Gwen, "It's you that's ignorant because this is our native tongue." Gofynnodd Gwlithyn am apology a chafodd hi un ar ôl iddi fygwth mynd at HR.

Dechreuodd Gwlithyn yn Laura Ashley yn 1964; symudodd hi i'r Drenewydd yn 2003; ymddeol yn 2011. Mae'n cofio'r dyddiau cynnar fel y blynyddoedd gorau, pan oedd y ffatri yn tyfu o ryw bump ohonynt i dros gant, amser hapus, pawb yn ffrindiau, pawb yn mynd allan gyda'r nos efo'i gilydd; pawb yn helpu ei gilydd, ac yn enwedig y berthynas rhyngddynt a Laura Ashley. Fel mam, roedd hi'n gallu ymdopi yn iawn efo gweithio a chael plentyn yn yr ysgol, er bod ei gwr i ffwrdd y rhan fwyaf o'r wythnos, yn gyrru loris Laura Ashley i ddinasoedd pell. Wrth edrych yn ôl dros ei 40 o flynyddoedd o waith, mae Gwlithyn yn dweud ei bod hi wedi dysgu amynedd ac annibyniaeth. Mae'n deud bod yr outwork yn galed, achos bod y peiriant yn fach, ond mae ganddi lawer i fod yn ddiolchgar amdano, roedd pawb wedi gallu prynu ty, neb allan o waith. Mae'n son am ffrind oedd yn methu ffindio'r deposit i brynu ty a rhoddodd Bernard Ashley'r deposit iddi fel benthyciad. Diwrnodau hapus a drygionus iawn, meddai.

Hyd : 1 awr, 20 munud.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN013.2.pdf