Marion Roberts , Lleisiau o Lawr y Ffatri
Cadarnhaodd Marion ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, sef 07/10/1932.
Genedigol o Benrhyndeudraeth yw Marion, wedi'i magu yn y pentref, yn yr un stryd lle mae'n byw rwan. Aeth hi i ffwrdd i weithio am dipyn ond dychwelyd wedyn. Baker oedd ei thad a'i mam yn confectioner. Roedd ei thad yn rhedeg ei fusnes ei hunan ac roedd ei mam yn helpu gwneud y bara a’r cacennau ayyb. Adeg rhyfel oedd hi, ac roedden nhw'n cael stwff o'r black market, meddai.
Unig blentyn oedd hi. Doedd hi ddim yn hapus i fod yn unig blentyn, roedd hi eisiau brawd neu chwaer ond doedd ei mam ddim yn gallu cael mwy o blant. Aeth hi yn gyntaf i ysgol Penrhyn ac wedyn I’r ysgol ramadeg yn y Bermo. Gadawodd hi'r ysgol yn 15 oed, wedi cael llond bol o'r ysgol, er ei bod yn hanner meddwl mynd i'r coleg i ddysgu sut i fod yn confectioner fel ei mam, ond roedd hi wedi cael digon. Penderfynodd hi fod yn nyrs i blant, ond yn gyntaf aeth i i weithio mewn siop drapers, Macleans, ym Mhorthmadog yn 1948, am ddeg swllt yr wythnos. Yn ystod y mis cyntaf roedd hi'n dysgu sut i serfio pobl wrth y cownter. Gweithio ar gomisiwn roedd hi - am bob punt, roedd hi'n cael chwe cheiniog. Un diwrnod, gwerthodd hi ffrog, côt a het i ryw ddynes ac roedd hi'n meddwl y byddai'n cael lot o bres ond doedd hi ddim wedi bod yno am fis - un diwrnod yn llai - felly chafodd hi ddim ceiniog o gomisiwn y diwrnod hwnnw.
Wedyn aeth hi i Amwythig i edrych ar ôl plant, fel nyrs. Roedd hi wedi ‘sgwennu at Dr Barnardos i ofyn am swydd gyda phlant a dywedon nhw fod 'na le yn Shrewsbury. Roedd hi wrth ei bodd i gael y swydd hon a doedd hi ddim yn teimlo'n nerfus iawn i symud yn gyntaf i Shrewsbury ac wedyn i Chester ar ei phen ei hun. Chafodd hi ddim hyfforddiant i wneud y swydd hon, dim ond dysgu fel roedd hi'n mynd ymlaen. Roedd hi’n gofalu am tua 30 o blant, gan gynnwys 'potio' nhw yn y bore! Bu hi am 6 mis yn Shrewsbury a thua 2 flynedd yn Chester.
Aeth i wedyn i ryw siop 'credit drapers' am dipyn, am fwy o gyflog. Ond yn fuan ar ôl hyn, aeth ei mam yn sâl ac roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i ofalu amdani. Galwodd Marion ei meddyg ei hun i edrych at ei mam, achos roedd hi wedi bod yn y gwely am 6 wythnos, a darganfod ei bod hi wedi cael trawiad ar y galon. Roedd ei thad wedyn mynd i'r gwaith powdwr i weithio erbyn hyn ond doedd gan Marion ddim gwaith, achos roedd hi'n gofalu am ei mam. Gwellodd ei mam, felly aeth hi i Gaernarfon i weithio am dipyn, gyda phlant eto. Roedd ei thad yn gweithio efo halen a oedd yn dod i’r ffatri mewn casgenni tin. Byddai’n agor y rheiny ar gyfer cymysgu efo'r explosives, ac yn labro yno hefyd.
Aeth Marion i Cookes ar ôl i'w thad ofyn i'r rheolwr am waith iddi. Doedd dim rhaid iddi gael cyfweliad ond roedd yn rhaid iddi fynd at y meddyg er mwyn gwneud yn siwr ei bod hi'n ddigon iach i wneud y swydd. Roedd hi tua 22 oed ar y pryd, tua 1953-4. Roedd y rhyfel wedi dod i ben ond roedd Cookes yn dal yn gwneud ffrwydron ar gyfer y pyllau glo. Doedd ei thad ddim yn y ffatri adeg y rhyfel pan oeddynt yn gwneud grenadau.
Roedd gan Marion ofn mawr mynd i'r ffatri, doedd hi ddim yn licio fo o gwbl 'gas gen i gerdded i mewn trwy'r giât’, meddai. 'dros y Burma Road.' Roedd lot o dynion y pentref wedi bod yn y rhyfel ac roedden nhw'n galw'r ffordd rhwng y ffatri a'r cantîn yn 'Burma Road.' Ond, wrth edrych yn ôl, cred mai Cookes oedd y lle hapusaf roedd hi wedi gweithio ynddo erioed. Roedd cyfeillgarwch mawr yno. Gweithio yn y cantîn yr oedd hi, yn gwneud bwyd ar gyfer 'cannoedd.' Roedd pedair shifft ac roedd hi’n paratoi bwyd ar gyfer tair ohonynt: 6 tan 3, 8 tan hanner awr wedi pump a shifft 3 tan 11.
Roedd hi'n gweithio 8 tan 5.30. 'Don i ddim yn coginio, helpu oeddwn i, sgif . . llond o datws wedi pario â dwr ac on i'n pigo'r llygaid allan o'r tatws yma, dyna oedd fy job gyntaf., ac on i'n wrth fy modd gwneud hynny, achos oedden ni'n medru cael rhyw sgon fach neu banad.' Roedd shifft deg yn dod yn gyntaf i gael cinio. Roedd y gweithwyr yn dod at hot plate mawr ac roedd y cogydd yn gwasanaethu. Swllt oedd pris cinio a phwdin. Roedd yn rhaid iddi olchi'r llestri wedyn a chlirio'r byrddau.
Roedd hi'n ennill tua £5 yr wythnos tan iddi hi briodi. Aeth yn rhan amser ar ôl priodi, gan adael am 4pm y prynhawn ac yn ennill £4.95. Roedd yn waith caled. “Roedd tair ohonon ni'n 'sgrwbio' y cantîn bob dydd Mercher, andros o hen stafell fawr, Jean, a fi a Megan, a bob dydd Mercher roedd Megan yn sâl, a dim ond Jean a fi yn gwneud o, ha, ha.” Roedd yn galed rhoi y cadeiriau i gyd i fyny ar ben y byrddau er mwyn glanhau'r llawr, meddai.
Doedd hi ddim yn gweithio ar y penwythnosau - pum diwrnod yr wythnos. Roedd merched yn gweithio yn y cantîn yn ystod shifft hwyr hefyd, days oedd Marion, heb newid shifft o gwbl. Roedden nhw'n cael cinio Nadolig am ddim, felly roedd pawb a oedd yn gweithio yno yn cymryd mantais ac yn bwyta yn y cantîn adeg y cinio Nadolig - gallai fod yn 600 o bobl. Roedd y cinio Nadolig bob amser y dydd Llun cyn y Nadolig ac roedd rhaid i ferched y cantîn weithio'r trwy'r dydd ar y Sul cynt.
Roedd pawb yn ffrindiau mawr, meddai, menywod a dynion. Roedd gan Marion berthnasau yn gweithio yno, ar wahân i'w thad, - cyfnitheroedd a chefndryd, a chafodd un cefnder ei ladd yno. Doedd damweiniau ddim yn digwydd yn aml, ond gallen nhw fod yn farwol pan oedden nhw’n ddigwydd, roedd yn ofnadwy. Adroddodd Marion hanes un ddamwain a digwyddodd yn 1957. Roedd hi newydd briodi, yn y mis Awst, ar ôl gwyliau haf. Roedd hi'n mynd i'r gwaith ar gefn beic ryw fore am chwarter i wyth i gwrdd â thair merch, yn mynd i'r gwaith, ym mysg y llwyth a oedd yn cerdded ar hyd y stryd ar gyfer shifft. Roedd rhaid iddi hi frecio'n sydyn er mwyn osgoi un o'r gweithwyr, Nanni. 'O, wyt ti'n iawn, Nanni, wyt ti wedi brifo?' 'Na, dw i'n iawn.' Aeth Marion yn ei blaen i'r gwaith, stopio i ddweud bore da i'r nyrsys, ac roedd un ohonyn nhw’n crïo, yn ddigalon heb wybod pam. Seiniodd yr hwter a dywedodd Marion ei bod hi'n gorfod mynd i fyny i'r cantîn, neu byddai hi'n hwyr a byddai Mrs Williams, y rheolwraig, yn grac. Roedd hi'n newydd gyrraedd yn y cantîn pan ddigwyddodd y ffrwydrad:
“On i wrth y crwc, a dyma 'na glec, a dyma'r crwc, a'r gadair 'ma, yn llithran ar hyd y cantîn fel 'na, a dim dropyn o ddwr yn disgyn ohoni, ond mi ath, 'te, oedd o'n drwm, doedd. A dyma ni i gyd yn rhedeg am y ffenestr, a Mrs Williams yn gweiddi “Peidiwch â mynd i'r ffenestri, mae'n beryg gwydrau”. . . Cafodd pedwar eu lladd y diwrnod hwnnw, yn y cwt 'na.”
Gwelodd hi'r nyrs a oedd wedi bod yn crïo, yn rhedeg i mewn i'r mwg melyn mawr. Cafodd pedwar o weithwyr ifanc eu lladd, 3 merch ac un dyn, ac roedd Nanni yn eu plith, a hefyd merch efo mab bach. Daeth pawb i'r cantîn ac roedd Marion yn gwneud te i ferched y 'dets' (detonators). Roedd y rhan fwyaf yn ifanc ac roedd lot wedi llewygu. Daeth dyn o'r offis a gweiddi rhifau pawb allan i ffeindio allan pwy oedd yno, ac yn fyw, a phwy nad oedd yno ac wedi marw. Roedd genod y cantîn yno tan bump, ac roedd Marion yn teimlo'n iawn tan iddi fynd adre a gweld wyneb ei mam a daeth popeth allan, dechreuodd grïo, y sioc i gyd. Dywedodd Marion 'Dw i ddim yn mynd yno, byth eto' a'i mam yn deud, 'Does dim rhaid i ti fynd, paid â mynd.' Ond y bore wedyn, aeth hi i'r gwaith, fel pawb arall. Aeth pawb i'r angladd ym Minffordd. Dywedodd Marion eu bod nhw yn y cantîn yn ddiogel, ond bod y bobl eraill yn y cytiau mewn perygl drwy'r amser, er nad oedden nhw byth yn siarad am y peth. “Roedd o'n lle peryglus ond doeddech chi ddim ym meddwl am hynny pan oeddech chi yno.”
30:00 Roedd rhai rheolau health and safety ond dim fel maen nhw heddiw. Roedd pawb bron yn ysmygu ac roedd peiriannau bach ar y wal lle roeddynt yn cael tân, achos doedden nhw ddim yn gallu mynd â matsys i mewn i’r gwaith. Yn ddiweddarach, dechreuodd y cwmni wneud 'searches' hefyd i wneud y siwr fod neb yn mynd â matsys i mewn efo nhw. Doedd dim hawl i fynd ag arian i mewn ‘chwaith, i'r cytiau, rhag ofn sparks. Roedd Marion ar y til amser cinio ac yn cymryd eu harian a’i gadw fo tan iddyn nhw ddod i gael cinio.
Ai lot o bobl yn sâl o achos y gelignit hefyd, a'u gwalltiau yn mynd yn oren. Roedd nitroglycerine a oedd yn cael ei ddefnyddio yno hefyd yn effeithio ar y galon, meddai hi, trwy ei anadlu, - effeithiodd hynny ar ei chwaer yng nghyfraith. Roedd doctor yn dod i'r gwaith bron bob wythnos i roi exam i'r gweithwyr, ond nid i ferched y cantîn. Roedd nyrs hefyd ar bob shifft. Mae'n cofio ffrwydrad yn 1939 pan oedd hi'n blentyn. Roedd hi ar y traeth yn ei nicyrs, achos doedd dim swimming costume gyda hi, ac roedd y ffrwydrad mor gryf, daeth cerrig yn hedfan lawr ar y traeth, ac roedd hi'n gweiddi a chrïo ac yn rhedeg adre yn ei nicyrs, ac yn gweld pawb yn rhedeg i'r ffatri. Mae'n cofio ffrwydrad arall (neu ai dyma’r un y soniodd amdani uchod, pan gafodd y pedwar eu lladd) a gwelodd hi gapten y Salvation Army ar ei ben-gliniau tu fas i'r giât, yn gweddïo.
37:00 Roedd y bosses yn iawn, yn gydwybodol, ond dywedodd bod y cyflog yn well pan oedd ICI yn rhedeg y lle nag oedd o dan y brodyr Cookes, ac roedd yn lle da i weithio ynddo, meddai. Roedd supervisor Marion yn y cantîn yn strict iawn ac mae'n cofio un adeg, roedd hi'n gwneud y tatws ar gyfer cinio’r shifft gynnar, a digwydd gweld Rolls Royce ar y traeth, jeeps a llwyth o Chinese, a chamerâu. Roedden nhw'n gwneud ffilm 'Inn of the Sixth Happiness' yn yr ardal ac roedd Marion yn siwr bod Ingrid Bergman yn y Rolls Royce. A dim ond hanner awr oedd tan amser cinio merched y cantîn, am 10.30 - tatws a grefi, ond aeth hi a'i ffrind Jean dros wal y ffatri, dros y rheilffordd, a lawr i'r traeth, yn y dwr ac roedden nhw’n socian yn eu hoferôls yn y 'paddy fields'. Curodd Marion ffenestr y Roll Royce du ac roedd Ingrid Bergman yn eistedd yno. Dywedodd Marion, 'Oh I'm sorry to disturb you, but could I have your autograph?' 'Yes, certainly, have you got a pen and a piece of paper? Roedd gan Marion bencil ond dim papur. Roedd hi'n ysmygu bryd hynny, felly gwacaodd hi becyn o Woodbines a oedd yn ei phoced a chafodd hi'r autograph ar gefn hwnnw. Cawson nhw eu hel o ‘na gan y security ac roedd Mrs Williams, y supervisor, yn y drws yn gweiddi Roedden nhw'n disgwyl cael row. “Ond heidio befo”, medda fi, “'dan ni wedi cael autograph Ingrid Bergman. Sori Mrs Williams, mae Ingrid Bergman ar y traeth”, dywedodd Marion. Mae’r autograph ganddi o hyd. (VN011.6).
(Seibiant bach tra bod Marion yn dangos y llyfr llofnodion)
43:00 Roedd Marion yn gwisgo oferôl gwyrdd yn y gwaith gyda rhyw fath o het 'net' ar ei phen. Doedd hi ddim yn defnyddio menig. Roedd pobl yn gweithio yn y cytiau yn gwisgo oferôl glas neu ddu o wlân tew a sgidiau pwrpasol hefyd weithiau. Dydy hi ddim yn cofio a oedd y merched yn gwisgo trowseri. Roedd 'na londri yno hefyd - job ofnadwy oedd golchi'r dillad. Roedd pawb yn tynnu eu hoferôls bob wythnos a’u gadael nhw yno i gael eu golchi, ac yn cael dillad glân, rhad ac am ddim, a merched y cantîn hefyd. Doedd dim rhaid i ferched y cantîn dalu am eu cinio ‘chwaith, ond roedd yn rhaid iddynt gael eu bwyd am 10.30 yn y bore, o achos byddai’r shifft chwech yn dod i mewn ar 11:00 am i ginio. Câi merched y cantîn de am 3:30 yn y prynhawn. Ai hi i'r gwaith ar gefn beic ac roedd yn rhaid iddi glocio i mewn a mas, rhif 72 oedd hi, mae'n meddwl.
Roedd undeb yno ac roedd hi'n aelod. Doedd dim rhaid i'r gweithwyr ymuno, ond roedd y rhan fwyaf yn gwneud - y merched i gyd, achos roedden nhw'n meddwl ei fod o'n beth da. Talu ar law oedden nhw i ddyn o’r enw Sam, a oedd ' ffrindiau efo pawb.' Doedd Sam ddim byd i wneud efo'r gwaith, meddai Marion, ond dydy hi ddim yn cofio'n iawn pwy oedd o yn hollol. Fu dim streic yno erioed, meddai, ac mae'r lle yn enwog am hyn. Roedd gan bobl ofn colli’u gwaith, efallai, ond mae hi'n cofio bod pawb yn 'reit hapus yn eu gwaith, hapus yno, dw i'n meddwl, fel un teulu bach.'
Roedd y ffatri yn cau am bythefnos yn yr haf, wythnos olaf Gorffennaf ac wythnos gyntaf Awst. Byddai Marion yn 'trafeilio rownd y lle 'ma.' Roedd ei chyflog wedi codi dipyn erbyn iddi hi adael. Roedd hi'n prynu dillad allan o'i chyflog, ond roedd i wedi priodi erbyn iddi adael, ac yn gorfod talu rhent wedyn, dodrefnu'r ty, ayyb. Priododd hi ddyn a oedd yn gyrru haulage i siop Pierce ym Mhenrhyndeudraeth, ond wedyn cafodd ei gwr swydd yn Cookes, fel gyrrwr, yn mynd a'r ffrwydron i Warrington ac i Dde Cymru. Priododd hi yn 1957, pan oedd hi'n 24, roedd ei gwr yn 30. Roedd ICI yno erbyn hynny felly roedd y cyflog yn well.
51:00 Roedden nhw'n byw mewn ty a oedd wedi’i wneud o ddau fwthyn, - modern iawn - gyda thy bach y tu mewn, ac roedd y rhent yn uchel, 17s 6d bob wythnos, ac roedd treth y ty yn £7 y flwyddyn. Roedd tipyn o waith talu, medda,i a beth wnaethon oedd cymryd ymwelwyr i mewn fel gwely a brecwast amser gwyliau, ac roedd hynny'r talu'r dreth. Cafodd ei fab hynaf, Gorwel, yn 1959 a rhoddodd hi'r gwaith i fyny cyn iddo gael ei eni. Fu farw ei mam ddwy flynedd wedyn, pan oedd hi'n disgwyl ei hail fab, Dafydd. Pan oedd y plant oedran ysgol, aeth Marion i weithio fel home help. Er mai Cookes oedd y lle hapusaf yr oedd hi wedi gweithio ynddo, meddai, doedd hi ddim eisiau mynd yn ôl yno. Bu hi'n gweithio am sbel ym Mhort Meirion hefyd, pan oeddynt yn ffilmio The Prisoner, yn y 1960au.
Roedd cinio Nadolig yn Cookes, mewn hotel, - parti da, meddai. Roedd cwmni ICI yn rhoi 'safe driving award' bob blwyddyn hefyd, ac roedd parti grêt ar gyfer hwnnw - popeth am ddim, doedd dim rhaid i'r gweithwyr dalu dim byd. Bu Marion yn gweithio am 4-5 blynedd yn y ffatri bowdwr. Roedd yn waith caled ond roedd pawb yn hapus, meddai. Dydy Marion ddim yn gwybod pa flwyddyn y newidiodd y cwmni i ICI nac a oedd hi'n gweithio yno bryd hynny. Roedd clwb cymdeithasol i'r gweithwyr ar waelod y lon wrth y ffatri, a oedd yn cynnal dances, neu rywun yn canu, ac roedd bar yno. Roedd y plant yn cael parti Nadolig yno hefyd, ac anrheg hefyd. Y gweithwyr eu hunain oedd yn cynnal y clwb, ond dydy hi ddim yn cofio faint. Doedd Marion ddim yn mynd yn rheolaidd.
Mae Marion yn dal i gadw mewn cyswllt â menywod oedd yn gweithio efo nhw ac yn gweld rhai ohonyn nhw bob wythnos. Roedd pobl yn dod, nid dim ond o Benrhyn, ond o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog hefyd, mewn bws, 2 fws bob shifft. Cymraeg oedd iaith y gweithwyr ond Saesneg oedd y bosses. Roedd merched y cantîn yn canu wrth eu gwaith. Mae'n cofio'r 'workers playtime' yn dod i Benrhyn adeg y rhyfel, ac roedd ei modryb yn gweithio yno’r adeg hynny, ac roedd pawb yn y lle yn canu.
Sonia eto am y Burma Road. Ar un ochr y safle roedd 'Miner's Safety' ac ar yr ochr arall roedd 'Cookes', ac ar ôl y rhyfel cafodd ffordd newydd ei hadeiladu rhyngddynt. Roedd nifer o'r dynion wedi bod yn y rhyfel a wnaethon nhw roi'r enw 'Burma Road' i'r ffordd newydd hon. Yn y cytiau, hefyd, roedd y gweithwyr wedi galw’r lle ble roedden nhw'n cymysgu'r powdwr yn 'Klondyke', ond doedd Marion ddim yn siwr pam.
Hyd: 1 awr
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment