Skip to main content

Marion Davies , Lleisiau o Lawr y Ffatri

Cadarnhaodd Marion ei henw, ei chyfeirid a’i dyddiad geni, sef 08/10/1931.

Mae Marion yn chwaer i Beti Davies. Aeth hi i Ysgol y Glyn ac wedyn i’r ysgol ramadeg yn Llangollen. Gadawodd hi yn 14 oed a chafodd swydd yn y ffatri wlân, yn gwneud bobinau fel ei chwaer. Roedd hi'n gwneud bobinau drwy’r amser, ond doedd hi ddim yn ffeindio hyn yn ddiflas. Erbyn iddi ddechrau, roedd Beti wedi symud i weithio ar y peiriannau. Roedd Beti wedi dechrau'r flwyddyn gynt. Roedd cefnder Marion yn dysgu iddi sut i wneud y bobinau, ond doedd ei chefnder ddim yn gweithio ar y bobinau, ond ar yr wydd fel Beti.

Roedd Marion yn hapus i fynd i'r ffatri ac yn ffeindio'r gwaith yn hawdd. Dechreuodd hi yno tua 1951 ond nid yw’n cofio'r flwyddyn dechrau (os oedd hi wedi dechrau syth ar ôl ysgol, fel dywedodd hi , 1945/6 fyddai'r flwyddyn dechreuodd hi). Gadawodd Beti flwyddyn cyn iddi hi adael ac roedd hi yno tan i'r ffatri gau yn gyfan gwbl. Pan orffennodd hi, saith deg chwech oedd ei chyflog hi (?).

Ar ôl gorffen, aeth hi i ffatri Frics yn Newbridge, ger Y Waun. Dydy hi ddim yn cofio sut daeth hi o hyd i’r swydd hon. Roedd hi'n a ffrind yn teithio yno ar y fan a oedd yn dod â phapurau newydd i'r Glyn, o Lerpwl, mynd am 6 o'r gloch yn y bore ac yn dal y bws yn ôl yn y nos. Daeth hi i nabod y dyn a oedd yn dod â'r papurau trwy ddyn y siop, meddai. Doedd hi ddim yn talu am y lifft ac roedd y fan yn mynd heibio'r ffatri.

Yn y ffatri frics, roedd hi'n rhoi'r clai mewn teils sgwar i mewn i'r press. Mae'n debyg ei bod hi'n gweithio efo rhywun arall, achos dywedodd fod un yn rhoi'r teilsen i mewn i'r press ac un arall yn troi'r olwyn i’w gwasgu nhw. Roedd hwn yn waith caled - yn troi'r olwyn yma, meddai. Ar yr ochr arall, roedd rhywun yn eu tynnu nhw allan ac yn eu stacio nhw ac wedyn roedd y brics yn mynd i'r kiln i sychu. Roedd yn waith trwm iawn.

Roedd merched a dynion yn gweithio yno, dynion gan amlaf oedd yn gweithio yn y kilns a'r merched, gyda rhai bechgyn, yn gwneud y gwaith gwasgu a throi'r olwyn. Roedd mwy o bobl yn gweithio yno nag yn y ffatri wlân, gan gynnwys llawer o ddynion y tu allan yn mynd â'r brics i ffwrdd. Roedd y cyflog yn well hefyd, dydy hi ddim yn cofio faint oedd ei chyflog hi.

O ran cyfleusterau, roedd gan y ffatri frics ryw fath o gantîn, gyda dynes yn gwneud paned o de i'r gweithwyr, ac roedden nhw'n dod â’u bwyd eu hunain neu’n talu am ginio yno. Syml iawn oedd y cantîn, benches o gwmpas y bwrdd. Roedd hi'n cael hanner awr i ginio a brêcs o chwarter awr yn y bore a'r prynhawn.

Roedd y gwaith yn eithaf peryglus, roedd perygl colli bys os oeddech yn rhy araf gyda'r presses, wrth roi'r clai i mewn a throi'r olwyn. Roedd hyn wedi digwydd i un neu ddwy, meddai, ond dim iddi hi. Wnaeth hi ddim gweld damwain.

Roedd hi'n gweithio mewn rhes o ddau neu dri press. Doedd hi ddim yn nabod neb cyn mynd yno, dim ond y ffrind a oedd yn cael lifft gyda hi yn y fan. Roedd hi'n nabod pawb yn y ffatri wlân ond meddai roedd rhaid mynd i weithio i ffwrdd, fel petai, achos doedd dim gwaith yn y Glyn. Roedd y bobl yn y ffatri frics yn neis iawn ond Saeson oedd y rhan fwyaf. Felly, iaith y ffatri oedd Saesneg. Doedd hynny ddim yn anodd iddi. Doedd hi ddim yn meddwl bod y bobl yn wahanol chwaith, er eu bod yn Saeson ac yn 'pen lawr' (?) y rhan fwyaf ohonynt. Doedd hi ddim yn cofio gweld y bosses o gwbl, ond roedd supervisors, Saeson oedd y rhain hefyd, ac roedden nhw'n gwneud yn siwr eich bod chi'n gweithio.

Roedden nhw'n gallu siarad wrth weithio. Roedd yn rhaid iddynt siarad, meddai, wrth wneud y gwaith. Roedden nhw yn gorfod gwneud y gwaith yn go gyflym hefyd. Doedd dim llawer o fesurau health and safety, a chafodd hi ddim llawer o hyfforddiant ynglyn â sut i wneud y gwaith. Doedd e ddim yn anodd, jyst troi'r olwyn a gwneud hyn a hyn o deils, meddai. Doedd hi ddim yn gwisgo iwnifform, - ei dillad ei hun, trowseri, a dim menig am ei dwylo. Roedd ei dwylo yn sych iawn, meddai, oherwydd y clai.

Roedd y brics yn mynd i lefydd yn yr ardal er mwyn adeiladu tai.

Dydy hi ddim yn cofio os oedd undeb yno.

Ei horiau gwaith oedd o 7.00 tan 4.00. Roedd hi'n mynd oddi cartref am 6.30. Ar ddiwedd y dydd, roedd hi'n dal bws i'r Waun a bws arall i'r Glyn, siwrnai hir, oni bai ei bod hi'n cael lifft gan rywun oedd hi'n ei nabod a oedd yn digwydd pasio.

Gwnaeth hi ffrindiau yn y ffatri ond doedd hi ddim yn cymdeithasu efo nhw, achos roedd hi'n byw yng Nglyn Ceiriog ac roedden nhw’n byw'r ffordd arall. Yn ei hamser hamdden, weithiau byddai Marion yn mynd i'r sinema yng Nghroesoswallt ar nos Sadwrn ar y bws, roedd tipyn o fysus yn mynd yno’r adeg honno. Roedd hi'n mynd efo ffrindiau, nid mewn grwp o bobl.

Roedd hi'n rhoi'r rhan fwyaf o'i chyflog i'r teulu ac yn cael tipyn o 'pocket money' ar ôl iddi hi ei hun, os oedd hi eisiau mynd rywle. Roedd hi'n gwario'r darn hwnnw ar 'swîts mae'n debyg', meddai.

Dydy hi ddim yn cofio faint o amser roedd hi yn y ffatri frics. Ar ôl gorffen, bu’n chwilio am waith yn Llangollen - gwaith cafe, dim gwaith ffatri, achos, meddai, doedd dim llawer o gwmpas. Aeth hi i weithio i Boots Chemist yn Llangollen.

Roedd hi wedi mwynhau gweithio yn y ffatrïoedd, er bod dim llawer o sbort yn y ffatri frics. Gweithio i gael pres yr oedd hi. Doedd hi ddim yn teimlo'n flinedig ar ôl dod adre o'r ffatri, er bod y gwaith yn drwm, achos roedd hi'n ifanc, a doedd hi ddim yn gorfod gweithio penwythnosau.

Mae hi wedi gweithio erioed. O'r ffatri frics aeth i Boots Llangollen am dipyn, ac wedyn cafodd hi'r cyfle i fynd i Boots yng Nghroesoswallt. Roedd hi'n dros 30 o flynyddoedd yn Boots. Doedd hi ddim eisiau gweithio ar y cownter felly yn Llangollen aeth hi i weithio yn y warws yn derbyn y goods i mewn, tsecio bod pob peth yno, ac roedd hynny yn cymryd drwy'r dydd bron. Tu ôl i'r siop yr oedd y warws. Yn Boots yng Nghroesoswallt, cafodd hi waith yn y swyddfa, ar y cyfrifiadur, gyrru'r ordyrs i ffwrdd, gwneud invoices ayyb. Dywedodd iddi fod ar y dôl am dipyn cyn cael gwaith yn Boots ac roedd hi'n hapus iawn yn gweithio yn Boots yng Nghroesoswallt.

Doedd hi erioed wedi priodi ac mae wedi gweithio ar hyd ei hoes ac wedi mwynhau. Dydy hi ddim wedi symud o Glyn Ceiriog erioed ac mae'n byw efo’i chwaer, Beti a'i gwr.

Hyd: 25 munud.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN010.2.pdf

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment