Skip to main content

Beti Davies , Lleisiau o Lawr y Ffatri

Cadarnhaodd Beti ei chyfeiriad a’i dyddiad geni, 30/08/1930.

Roedd ei rhieni wedi byw yng Nglyn Ceiriog erioed . Roedd ei thad yn gweithio yn y ffatri yno. Bu farw ei mam yn 41 o gancr a dyna pam fod Beti wedi gadael yr ysgol ramadeg yn Llangollen i edrych ar ôl ei mam, ond fu farw ei mam o fewn 6 mis, pan oedd Beti yn 11. Ac roedd ei thad eisiau i Beti ddychwelyd i'r ysgol ramadeg, ond doedd o ddim yn gallu fforddio hynny. Felly, dychwelodd hi i’r ysgol yng Nglyn Ceiriog yn 13 oed, a gadael flwyddyn yn diweddarach, i ddechrau gweithio yn y ffatri wlân yn 14 oed, ym 1944. Gadawodd hi’r ysgol ym mis Gorffennaf a dechrau gweithio ym mis Awst. Roedd ganddi ffrindiau yn gweithio yno yn barod, roedd pawb yn gweithio yn y cwm fwy neu lai. Ond yn yr ysgol ramadeg roedd Beti eisiau bod yn athrawes. Doedd hi ddim yn rhy siomedig, meddai, gan ei bod hi'n mwynhau yn y ffatri.

Ei gwaith cyntaf hi oedd gwneud y bobbin - roedd y rhan fwyaf yn dechrau ar y bobbins. Chafodd hi ddim cyfweliad. Roedd perchennog y ffatri yn byw yn y pentref a gofynnodd ei thad a oedd gynno fo waith i Beti, ac aeth i i mewn yno. Doedd hi ddim yn teimlo’n nerfus na dim byd. Chafodd hi ddim hyfforddiant, er nad oedd hi wedi gwnïo gartref. Roedd yn rhaid dysgu ar y job, fel petai.

Roedd y ffatri yn fawr - tri lawr, gyda phandy o dani. Roedd yn oer yno, lle roedd hi'n gweithio, ar yr ail lawr. Dim ond chwech neu saith o ferched oedd yn gweithio yno, yn sefyll ar eu traed drwy'r dydd. Roedd hi'n gweithio rhwng hanner awr wedi saith tan hanner awr wedi pump, gyda hanner awr i ginio. Doedd dim amser i fynd adre i ginio, felly oedd pawb yn dod â bwyd ac yn bwyta i lawr wrth y pandy yn yr haf, ac wrth y stôf mewn tywydd oer.

Ar ôl symud o'r bobbins roedd hi'n gwneud deunydd ar gyfer cotiau a siwtiau, ar beiriant gwydd (loom) a oedd yn gyflym a swnllyd. Er ei bod hi'n sefyll drwy'r dydd, doedd hi ddim yn cofio teimlo'n flinedig gan ei bod hi'n ifanc, meddai. Roedd hefyd yn gweithio bob dydd Sadwrn, o saith tan hanner awr wedi deuddeg. Roedd brêc am chwarter awr am ddeg o'r gloch, a chwarter awr yn y prynhawn. Doedd dim peiriant na thegell, felly roedd rhaid iddi hi fynd â fflasg.

Roedd y ffatri yn cynhyrchu blancedi, roedd wyth gwydd yn gwneud blancedi a'r tair arall yn gwneud deunydd cotiau a siwtiau.

13:20 Roedd cefnder iddi yn gweithio yno hefyd, a nes ymlaen daeth ei chwaer Marion yno am gyfnod byr. Roedd hi'n ‘nabod pawb. Roedd hi'n mwynhau'r gwaith, er bod y ffatri yn ofnadwy o swnllyd a doedd hi ddim yn bosib siarad, dim ond yn ystod amser brêc. Doedd dim byd i amddiffyn clustiau'r gweithwyr, ond doedd y swn ddim yn effeithio arnyn nhw, gan eu bod nhw wedi arfer. Roedd Beti ar y bobbins am flwyddyn cyn mynd i weithio ar y gwydd yn gwneud defnydd ar gyfer cotiau. Roedd hi'n gwneud darnau ar gyfer y cotiau, dim y cotiau eu hunain, ac roedd y gwlân yn wyn. Roedd y defnydd wedyn yn mynd i Runcorn i gael ei liwio. Deuai’r stwff i wneud y bobbins o Bradford, ar y trên. Aeth hi ymlaen i esbonio sut roedd y bobbins yn cael eu gwneud. Roedd hi'n gwneud lot o bobbins mewn diwrnod ac yn eu rhoi nhw mewn basgedi mawr ar gyfer y bobl ar y gwyddiau i'w defnyddio. Roedd basged o bobbins ar bwys pob peiriant. Roedd y peiriannau yn mynd yn ddi-stop. Roedd hi'n mwynhau gweithio ar yr wydd, achos roedd hi'n gweld y gwaith yn tyfu.

16:00 Ei chyflog ar y dechrau oedd 5 swllt yr wythnos, a doedd o ddim yn teimlo fel lot o bres ar y pryd. Ond ar ôl mis, cododd i 6 swllt, a phan wnaeth hi orffen yn ugain oed, roedd hi'n cael 3 swllt ar hugain a chwe cheiniog.

Un tro, cafodd hi gyfle i brynu un o'r cotiau, smart efo coler felfed ddu: 

“Darn wedi mynd i ffwrdd a bod nhw wedi cael llythyr yn ôl i ddeud bod ‘na lot o glymau ynddo, ond os fasen ni'n licio prynu côt, ac wedyn, camel oedd yr un a fel rhyw 'duck egg blue', o liw neis, a gaethon ni gynnig prynu côt am bum punt, ac oedden nhw'n cadw pum swllt yr wythnos o'n cyflog ni nes on ni wedi talu'r pum punt. A mi ddedodd rhywun wrtha i bod y cotiau 'na yn werth pum punt ar hugain yn y siopau o achos oedd o o'r defnydd gorau - gwlân.”

Roedd Beti yn cadw ty hefyd. Roedd hi'n rhoi’r rhan fwyaf o'i chyflog i'w thad, a chadw dau bisyn hanner coron iddi hi ei hun. Doedd ei thad ddim yn gweithio gan ei fod wedi colli ei iechyd ar ôl i'w mam farw. Felly’r adeg honno, dim ond hi oedd y gweithio, er bod ei thad yn cael rhywbeth o'r chwarel, rhywbeth gan ryw glwb yn y chwarel ar gyfer pobl oedd allan o waith. Felly, ar un adeg, roedden nhw i gyd yn byw ar 2 swllt ar bymtheg yr wythnos, roedd hi’n amser caled iawn. Ond roedd 'na lot yr un fath, doedd dim cyflog mawr i'w gael gan neb. Roedd Beti, fel y ferch hynaf, yn gwneud bwyd i'r teulu. Redd hi'n cael ordor o'r siop bob wythnos ac roedden ddod â'r ordor i ddrws y ty. Roedd ei dad yn trïo coginio hefyd, bob amser yn gwneud bwyd syml, dim 'luxuries' o gwbl.

20:00 Roedd hi'n mynd i'r capel bob Nos Lun, band of hope Nos Fercher, a threuliai ei hamser rhydd yn y pentref. Dywedodd (oddi ar y recordiad) ei bod hi a'i chwaer a ffrindiau arfer mynd lawr i'r siop ar ôl gwaith yn yr haf ac eistedd ar y wal y tu allan am oriau.

Doedd dim undeb yn y ffatri. Doedd hi ddim yn cofio pobl yn mynnu mwy o arian, gan nad oedd gwaith arall yn y pentref, dim ond y chwarel a'r ffatri wlân. Doedd y cyfleusterau ddim yn dda yn y ffatri, dim ond toiled oedd yno, y tu allan, ond dim byd arall. Roedd yn 'draughty' iawn, achos tyllau yn y to, ac yn oer. Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio yn eu cotiau weithiau. Roedd digon o olau ac mae hi'n cofio pan ddaeth trydan i'r pentref. Dydy hi ddim yn cofio o ble yr oedd y golau yn dod cyn i’r ffatri gael trydan, o'r turbines dwr, mae'n debyg. Ond pan oedd hi yn y ffatri, roedd trydan yno.

Dyn o Swydd Efrog oedd y boss, W. A. Dennison. Symudodd i'r pentref ym 1940. Caeodd y ffatri yn 1952. Roedd o'n bresennol bob dydd, yn yr offis, ac yn cadw llygaid drwy'r amser ar y gweithwyr, heb siarad llawer. 'Sais pur' oedd o. Cymry oedd y gweithwyr i gyd. Cymro oedd y supervisor. Roedd dau ddyn yn gweithio yno - un yn gwneud y pethau er mwyn iddyn nhw wneud y bobbins, sef y supervisor, a'r llall yn trwsio'r peirannau pan oedd y fraich yn torri neu'r wennol yn dod allan, a gallai fod yn beryglus. Roedd y berthynas yn iawn rhwng y merched a'r dynion gan fod pawb o'r pentref ac ar yr un lefel. Roedd awyrgylch da yno, pawb yn siarad amser cinio, ac roedd yn lle hapus i weithio.

Roedd pawb yn ymwybodol bod y gwaith yn gallu fod yn beryglus, e.e., os oedd y wennol yn dod allan gallai rhywun gael ei fwrw gan hynny. Dydy hi ddim yn cofio damweiniau o gwbl. Doedd y boss ddim yn gofalu amdanynt, dim ond cerdded o gwmpas lot.

27:20 Roedd y merched i gyd o’r un oedran fwy neu lai, roedd pawb yn gadael yr ysgol a mynd yno. Roedd pawb yn ifanc. Roedd merched hyn wedi bod yn gweithio yno ond yn ei chyfnod hi, roedd pawb bron yr un oedran. Ar ôl priodi, roedd merched yn cario ymlaen, meddai hi. Roedd rhai menywod priod yno cyn iddi hi fynd yno a gwnaeth ei grwp hi gymryd eu lle, h.y. rhywun yn gadael a rhywun newydd yn cael ei gwaith.

Roedd Beti yno am chwe blynedd, roedd bron yn 20 oed yn gadael. Roedd sôn bod y ffatri yn mynd i gau ac roedd ganddi gefnder yn gweithio i'r Forestry Commission, ac roedd 'na nursery yn agos, ger Oswestry, ac roedd merched yn gweithio yno. Roedd y cyflog yn well, 2 bunt a chweugain, felly aeth hi yno i weithio tan iddi hi briodi. Roedd hi'n drist fod y ffatri wedi cau, oherwydd dyna oedd bywyd y pentref. Ond oedd hi eisiau cyflog gwell er ei bod hi’n dipyn o siwrnai i fynd yno. Roedd hi'n gallu cerdded i'r ffatri mewn deg munud ond roedd yn rhaid iddi fynd ar y beic i'r gwaith newydd. Roedd hi'n bwriadu priodi ond roedd hi’n amhosibl cynilo arian yn y ffatri wlân. Ond roedd hi'n gallu cynilo tipyn wedyn. Ar waith 'tasg' roedd hi'n gallu ennill dros £3 yr wythnos.

30:20 Yn y ffatri, roedd hi'n gwisgo’i dillad ei hunan gydag oferôl drostynt, gan fod lot o olew. Roedd rhaid i'r gweithwyr brynu'u hoferôls eu hunain ond roedd hi'n defnyddio 'hen beth oedd gen i'. Doedd hi ddim yn gwisgo menig.

Doedd dim bonuses, neu perks, dim hyd yn oed amser ‘Dolig, a dim parti ‘Dolig ‘chwaith yn y ffatri wlân. Er hynny, roedd yn amser hapus er bod y gwaith yn galed. Roedd hi'n reit hapus yno. Dywedodd fod yn rhaid iddi dyfu i fyny dipyn, achos roedd hi'n gorfod cadw ty, nid achos ei bod wedi mynd i weithio. Hi oedd yr hynaf ac roedd yn teimlo'r cyfrifoldeb yn y teulu ond yn y ffatri doedd hi ddim yn teimlo'n wahanol i'r merched eraill. Roedd hi'n mynd allan yn y pentref, fel pawb arall, ac yn cael hwyl er gwaethaf y cyfrifoldeb gartref.

34:00 Mae'n cofio'r loris GWR yn dod â'r deunydd i'r ffatri a gwnaeth hi a rhai eraill ofyn am lifft lawr i'r pentref yn un ohonynt un amser cinio. Roedd gyrrwr y lorri yn mynd yn rhy bell, heb stopio, ac roedd rhaid iddi weiddi er mwyn iddo stopio a’i gollwng hi. Roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded i fyny eto erbyn un o'r gloch cyn i'r boss gyrraedd.

Stori arall oedd fod y boss yn newid bys y cloc yn ôl tua diwedd y dydd:

“On i wedi sylwi, wedi bod o yn edrych ar y cloc a gweld bod o'n bump o'r gloch . . . a welais y braich yn dod i fyny ac yn gwthio'r cloc yn ôl deg munud. A wedyn, be ddaru mi, deud wrth y merched, mi aeth o adre, ac aethon ni i fyny a gafael yn y ffon fesur . . . a gwthio'r bys yn ei flaen, a mi ddoth y bys i ffwrdd. Ac wedyn ar y llawr roedd y bys ac roedd yno y dirwnod wedyn, a ni i gyd yn disgwyl cael galwad i'r offis, ond ddaeth hi ddim.”

Wnaeth dim byd ddigwydd i'r cloc byth wedyn. Doedd dim llawer o siarad rhwng y boss a'r gweithwyr beth bynnag, roedd o oedd yn cadw iddo’i hun. Priododd hi a chael mab ryw bedair blynedd ar ôl gadael y ffatri, ac ar ôl gadael y Forestry Commission - bryd hynny, wnaeth hi ddim dychwelyd i'r gwaith. Roedd hi'n edrych ar ôl ei thad tan iddo farw. Aeth hi i lanhau ysgol yn rhan amser am dipyn.

Caeodd y ffatri wlân ym 1951, roedd hi wedi gadael y flwyddyn gynt. Chafodd hyn ddim lot o effaith ar y pentref mewn gwirionedd achos roedd bysys yn mynd i lefydd eraill erbyn hynny ac roedd pobl yn mynd i waith eraill yn ardal ac yn y trefi o gwmpas Glyn Ceiriog.

40:00

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN009.2.pdf

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment