Greta Davies. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

00:08 Ocê, Greta, allech chi roi eich enw a dyddiad geni?
Greta Davies. Dyddiad geni 28/6/48.

Diolch. Allech chi ddweud rhywbeth am eich cefndir, eich rhieni, o le dach chi'n dod yn wreiddiol?
Ces i ngeni a’m magu mewn pentref bach o'r enw Glan-yr-Afon, dim yn bell o Corwen, yn un o naw o blant, a dw i wedi byw yn y pentref erioed.

Naw o blant? Teulu mawr felly.
Oedd naw o blant, oedd.

Eich rhieni, beth oedden nhw'n gwneud? Oedden nhw'n ffermio?
Na, oedd mam adre, ac oedd dad yn mynd rownd efo injin ??, mynd rownd gwahanol ffermydd, efo'r injin ??? Felly, roedd wyth chwaer a brawd gynnoch a oeddech chi un o naw. Pedwar o frodyr a pedair o chwiorydd.

Sut oedd e, tyfu i fyny mewn teulu mawr?
O, roedd o'n hyfryd, neis iawn. Na, roedd yn hyfryd o beth cael teulu mawr.

Oeddech chi'n byw mewn ty mawr, felly?
Na, mewn ty cyngor, cyffredin, ie.

Aethoch chi i'r un un ysgol, pawb?
Do, ysgol fach gynradd, yn y pentre ‘ma, ond mae wedi cau bellach, Ysgol Llawr y Betws, ac o fan’no wedyn i Ysgol y Bala.

Felly oeddech chi yn yr un dosbarth a rhai o'ch chwiorydd neu frodyr?
Nac oeddwn. Dw i'n agosach i'r ienga.

Reit, eich brawd, neu chwaer, hynaf, faint o flynyddoedd oedd rhyngoch chi?
O, un deg pump, un deg chwech o flynyddoedd rhyngof fi a'r hynaf, fel petai, ynde, roedd o wedi hen ymadael yr ysgol pan oeddwn i yno. Na fum i yn yr ysgol efo dim un o'r brodyr na’r chwiorydd.

Oeddech chi'n deulu agos?
O, oedden, agos iawn, oedden. Digon o hwyl, oedd.

03:15 Faint oedd eich oedran yn gadael yr ysgol?
Pymtheg.

Oedd pawb yn gadael yn bymtheg oed?
Oedden, oedden.

A beth wnaethoch chi?
Dw i'n cofio'r gwaith cyntaf ces i oedd hotel yng Nghorwen, Owain Glyndwr, glanhau llofftydd yn fan’no, ac o fan’no es i i'r ffatri laeth yng Nghorwen. Fues i fanno dros ddeuddeg mlynedd.

Reit. A beth oeddech chi'n gwneud yn y ffatri laeth?
Gwneud caws. Ie, gwneud caws. Ddaru fi orffen a magu plant wedyn, ar ôl i'r ienga fod yn ddigon hen i gychwyn yn Ysgol y Bala, fues i’n gweithio yn y caffi yn y pentre, efo mam, am ddeg mlynedd.

04:15 Pryd wnaethoch chi briodi felly? Pa flwyddyn oedd e?
Un naw saith dau.

A faint oedd eich oedran blwyddyn hwnna, yn priodi?
Dauddeg pedwar.

Felly, wnaethoch chi stopio'r gwaith pan briodoch chi?
Do, ac mi stopias i fagu'r plant, magu tri o blant, a fues i adre wedyn am ryw ddeg mlynedd. A ches i waith, fel on i'n deud, yn y caffi yn y pentref yma - caffi cau i lawr, ac mi ges i waith yn ffatri Ackroyds yn y Bala.

Reit, beth oedd eich gwr yn gwneud fel gwaith?
Roedd y gwr, Hefin, yn gweithio yn ffatri Ivor Williams yng Nghynwyd, gwneud trelars. Fuodd Hefin yn y ffatri am dros dri deg o flynyddoedd.

Oeddech chi'n nabod Hefin cyn priodi? Oedd o'n foi lleol?
Oedd, roedd Hefin, y gwr, yn enedigol o Betws Gwerfyl Goch, a fuon ni'n canlyn am dair neu bedair blynedd cyn i ni briodi. Ac mi ddoth y ferch, gawson ni'r ferch gyntaf, Lyn, gawson ni fab nes (ymlaen)wedyn, Adrian, a Malcolm, y mab ienga. Teulu bach hapus iawn.

Felly, oedden nhw i gyd yn yr ysgol pan ddechreuoch chi yn y ffatri pyjamas?
Oedden, oedden.

A sut cawsoch chi o hyd y swydd yn y ffatri?
Digwydd gweld yn y papur lleol, y Cyfnod adeg hynny, papur y Cyfnod, bod nhw yn hysbysebu, eisio gwragedd i weithio yno, a meddwl 'mi â i i weld beth sy'n mynd ymlaen, a dyna fo, mi ges i alwad ffôn wedyn yn deud bod 'na waith i mi ar y dydd Llun canlynol. Ac on i'n meddwl, wel, mi dria i o mewn ffatri, a beth bynnag, bues I yno dros ddeuddeg mlynedd. A deuddeg mlynedd hapus iawn.

Felly pa flwyddyn dechreuoch chi yn y ffatri? Rhyw ddeg mlynedd ar ôl priodi? Wyth deg dau?
Ie, dyna chi, ie.

Reit. Oedd rhaid i chi gael cyfweliad?
Do, dim ond cyfweliad, doedd na ddim byd, yn gofyn beth on i wedi bod yn gwneud o’r blaen a dw i'n cofio'r gwaith cyntaf ges i, pan wnes i ddechrau yn Ackroyds, oedd tsecio'r dillad roedd y merched yn gwneud ar y mashîns. Ac o fan’no ymlaen, ces i ddyrchafiad bach wedyn a mynd i smwddio dillad. On i wrth fy modd efo fflat smwddio yn fy llaw.

07:40 Felly, oeddech chi ddim yn gwnïo?
Na, doeddwn i ddim yn gwnïo, nag on, na.

Felly, oeddech chi wedi bod yn gweithio mewn ffatri laeth, yn gwneud caws,
Oeddwn, do.

Oedd yn wahanol iawn dod i ffatri pyjamas?
Mi oedd o, mi oedd o, ond, na, on i'n mwyhau fy hun yn y ddwy ffatri, do, digon o sbort a hwyl, a gweithio digon caled.

08:11 Ydach chi'n cofio beth oedd eich cyflog chi, yn gyntaf?
Yn y ffatri laeth, wel, hen bres oedd yr adeg hynny, dw i'n cofio'n iawn, o, on i'n dod adref, deudwch, tri deg chwe punt, saith deg, rhywbeth fel hynna.

Reit, ac yn y ffatri pyjamas, oedd o'n lot mwy?
O, oedd, oedd. Ac yn gweithio’n galetach yno hefyd.

Ac oeddech chi'n gweithio naw tan bump?
Yn y ffatri pyjamas, roedden ni'n gweithio wyth tan bump, ac wyth tan un ar ddydd Gwener. Roedd pawb yn gorffen un o'r gloch ar ddydd Gwener.

Oedd rhaid i chi gweithio dydd Sadwrn weithiau?
Roedden ni'n gweithio dydd Sadwrn os oedd hi'n brysur iawn, ac roedden nhw eisio rhywbeth allan ar frys, roedden ni'n mynd i mewn ar fore Sadwrn, saith tan un ar ddeg, ar fore Sadwrn.

Ydach chi'n cofio'ch diwrnod cyntaf, sut oeddech chi'n teimlo'n mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl deg mlynedd?
Oeddwn, ond dim yr un peth pan es i i Ackroyds. On i'n nabod lot, nabod llawer iawn, jyst eu gwynebau nhw, fel petai. Ond buan iawn, yn dod i mewn i'r, wel, doedd o ddim yn glic na dim byd, ond i'r cymysgu. Na, oedd yn iawn, grêt.

09:48 Byddai'n well gynnoch chi aros yn y ty neu oeddech chi'n barod fynd yn ôl i'r gwaith?
O, on i'n barod i fynd yn ôl i'r gwaith. On i yn barod.

Pam?
O, colli ffrindiau, colli cymdeithasu, pethau bach.

A beth oedd y teulu yn meddwl? Oedd eich gwr, er enghraifft, yn hapus bod chi'n mynd yn ôl?
O, na, doedd gynno fo ddim byd yn erbyn i fi fynd yn ôl i'r gwaith, nag oedd.

Oeddech chi'n casglu'r plant o'r ysgol felly, a mynd â nhw i'r ysgol cyn y gwaith? Sut oedd hynny'n gweithio?
Na, roedden nhw, erbyn pan oeddwn i yn Ackroyd's roedden nhw wedi ymadael yr ysgol bron, adeg hynny, ac roedden nhw'n mynd allan, wel, roedden nhw'n gweithio eu hunain, fel petai. Na, on i ddim yn gostod dibynnu ar neb i fynd â nhw neu bigo nhw i fyny na dim byd.

OK. Felly, oeddech chi'n tsecio'r dillad?
Ie, roedd y merched yn gwnïo - oes oedd ‘na, fel roedden ni'n galw, rhyw dyllau bach yn y defnydd, neu oes oedd na rhyw needle damage, tyllau bach ar y seam, ac on i'n mynd â fo yn ôl i'r person, pwy bynnag oedd ar y side seam neu gwnïo'r goes, cewch chi jyst lluchio nhw'n ôl i rheiny, ac roedd y rheiny yn damio chi i'r cymylau, bod chi'n ffindio'r tyllau ‘ma. ‘Na sbort ofnadwy.

Oedd ‘na lot yn mynd yn ôl? Oedd ‘na lot o dyllau?
Oedd ‘na lot o dyllau. Dim byd i wneud efo machinist, dim byd, jyst tyllau yn y defnydd, na. Ac on i'n cofio iawn, oedd na sticer bach coch ar y twll, lle roedd y twll.

Felly, oedd rhaid iddyn nhw drwsio'r twll wedyn?
Dim os oedd yn y defnydd - na, na. Oedd hwnna yn mynd, fel petai, fel seconds. Seconds oedden nhw'n galw pethau fel hyn’na. Neu os oedd yn y llawes neu, oedden nhw'n jyst mynd drosto fo. Ac ambell waith roedden nhw'n gweiddi arna i i roi'r sticer ar fy ngheg!

Oedd 'na lot o chwarae o gwmpas felly?
O, oedd, mewn ffordd, oedd. Mewn ffordd hapus iawn. Neb yn dal dig, dim byd, 'na. ‘Swn i’n gallu ‘sgwennu llyfr, dw i'n meddwl, ha, ha.

Oedd ‘na lot o ferched yn gweithio 'na?
Oedd, mi oedd na ar un adeg, oedd. Oedd na ddau lond mini bus o Blaenau yn dod yna. O, oedd ‘na, dw i'n siwr, dros gant ar un adeg, oedd.

Dynion hefyd?
Oedd, roedd 'na ddynion yn gweithio 'na, yn y warws, oedd.

Beth oedden nhw'n gwneud?
Roedden nhw'n dod efo bocsys, dod â'r gwaith trwodd, cario'r defnyddiau a phethau trwodd. Na, roedd 'na dipyn o waith i ddynion hefyd. Roedd 'na loriau yn dod yno a mynd â gwaith o 'na. Yr unig un dw i'n cofio, oedd na beer lori fawr, BHS, yn dod yna ac yn nôl y gwaith, dw i'n cofio roedd 'na lori fawr yn mynd â gwaith yn ôl i Primark, roedd yno lot o loris fel 'China Shipping' yn dod yna.

Sut oeddech chi'n mynd i'r gwaith, achos roedd y ffatri yn y Bala, do? Yn y Bala oedd y ffatri, ie. Wel, on i'n lwcus, roedd ‘na ffrind imi ochr draw i'r ffordd, Brenda, oedd ei henw hi, on i'n mynd efo Brenda bob dydd, a dod adre efo Brenda.

Yn y car?
Ie, ie.

13:12 Reit. Ac eich brodyr a chwiorydd, oedd un ohonyn nhw yn gweithio yn y ffatri?
Na, nac oedden.

Beth oedden nhw'n gwneud? Yr un fath o waith, neu waith gwahanol?
O, roedd na un brawd i fi yn gweithio, a fuodd dad, yn gweithio yn y ffatri laeth. Ac on i'n mynd efo nhw i'r ffatri. Emyr, y brawd hynaf, o, dw i ddim yn cofio felly beth oedd y lleill, y brodyr a’r chwiorydd eraill, yn gwneud.

Teulu rhy fawr!
Ie, ha, ha.

Felly, roeddech chi wedi priodi ac wedi mynd yn ôl i'r gwaith, oedd 'na lot o bobl, menywod yn y ffatri wedi priodi ac yn gwneud yr un peth?
O, oedd, oedd. Ac roedd 'na lot o rai ifanc, ond 'na fel 'creche', ac roedd lot o'r Rhai ifanc yn mynd â'u plant i'r 'creche' a dod i'r gwaith wedyn, a'u pigo nhw i fyny.

Felly, oedd y creche yn y ffatri?
Un darn o'r ffatri, oedd, oedd. Ac oedd yn handi iawn i'r rhai lleol.

Oedd rhaid iddyn nhw talu am hynny?
Oedd, oedden. Os dw i'n cofio'n iawn, roedden yn tynnu pres allan o'u cyflog nhw bob wythnos, tra bod y plant yn y creche. Ac mae'r creche yn dal i fynd hyd heddiw.

Sut oedd y cyfleusterau yn y ffatri? Oedd 'na cantîn?
Oedd, roedd 'na cantîn da iawn yno, roedd yna cantîn da iawn, yr adeg hynny roedd 'na ddau gantîn, un i'r smokers a non-smokers yn y cantîn arall. Gen i ofn bod 'na fwy yn y smokers nag oedd yn y non-smokers.

Pa un oeddech chi?
O, dw i ddim yn licio dweud ‘chwaith, ond y smokers. Oeddech chi'n teimlo, o, Och chi ddim isio bod yn odd one out efo ffrindiau eraill, a mynd i'r smokers, ynde.

Felly, roedd y rhan fwyaf o bobl yn smocio?
Oedden, oedden.

Felly, roeddech chi'n gallu smygu ar y bwrdd tra roeddech chi'n byta? Oedd 'na ashtrays a phethau ar y bwrdd?
Oedd, roedd ashtrays ar y bwrdd, oedd, adeg hynny, oedd. Pan ddoth y 'nonsmoking' yma, roedden nhw'n gwneud rhyw gut bach allan, lle roedden nhw'n cadw beics, roedd bwrdd yn fan’no, ac roedd pawb yn mynd i fan’no i smygu wedyn, i gael smoke. Ac roedden ni'n cael rhyw brêc bach, roedden ni'n cael pum munud pob awr i fynd allan i gael smoke a mynd â paned o de neu goffi o'r vending machines. Mi oedd 'na cantîn da iawn yna, roedden nhw'n wneud tost yn y boreau, amser cinio roedden nhw'n wneud cinio poeth, amser cinio. Roedden ni'n cael cinio Nadolig a pwdin Nadolig bob blwyddyn yna, gan Gwyneth. Roedden nhw wedi addurno y cantîn i fyny yn smart iawn, atmosphere neis iawn amser Dolig.

18:09 Yn y cantîn, oedd rhaid i chi dalu am eich cinio?
Oedden. A dw i ddim yn cofio'n iawn, dw i'n gwybod oredden ni'n talu pymtheg ceiniog am rownd o dost, dyna fo, tri deg ceiniog roedden ni'n talu am rownd o dost a mwg o de. A dydw i ddim yn hollol siwr beth oedd y cinio, ond doedd o ddim yn ddrud, roedd o'n werth o beth bynnag.

Faint o brêcs oedd gynnoch chi yn ystod y dydd? Un yn y bore ac un yn y prynhawn, neu fwy?
Roedden ni'n cael brecwast, pymtheg munud i frecwast, roedden ni'n cael hanner awr i ginio, ac wedyn roedden ni'n cael mynd allan wedyn, roedden ni'n mynd allan dau o'r gloch a pedwar o'r gloch.

Felly, oeddech chi'n mynd o'r ty heb frecwast ac yn cael brecwast yn y cantîn?
Wel, ‘y mai i oedd bod i'n mynd allan o'r ty heb frecwast yn y bore, ond doeddwn i ddim yn cael dim byd wedyn tan y brecwast ‘ny yn ffatri. Dw i'n meddwl roedd gang ni, oedd 'na wahanol 'sittings' fel petai, roedden ni'n mynd deg o'r gloch tan chwarter wedi deg. Ac roedd 'na sittings arall wedyn o chwarter wedi deg tan hanner wedi deg, arall wedyn hanner wedi deg tan chwarter i un ar ddeg, y dynion oedd y rhai olaf os dw i'n cofio'n iawn.

Lle oedd eich lle gweithio? Roedd y merched yn gwnio, lle oeddech chi'n tsecio?
Roedd yn un llawr mawr, un ffatri fawr, doedden ni ddim yn bell. Roedd 'na resi o ferched yn gwnïo ar y mashîns, cychwyn ar un pen i'r pen arall, roedden ni'n eistedd ar y stôl yn y gornel ac un arall yn pasio'r dillad i gael eu tsecio.

Felly oedd pob un yn dod atoch chi?
Oedden, oedden. Ac roedden ni'n mynd â nhw wedyn ar ryw conveyor bach, doedd o ddim yn conveyor chwaith, roedd yn rhywbeth special, a deudwch fod 'na darn o nodwydd wedi torri yn y defnydd neu rywbeth, roedd cloch yn canu, so och chi'n mynd â'r defnydd yn ôl i bwy bynnag oedd wedi torri nodwydd yn y defnydd, fel petai.

21:02 Roedd 'na beiriant yn pigo hynny i fyny?
Oedd, roedd y peiriant efo'r gloch, ie, ie.

Pan wnaethoch chi newid i wneud i smwddio, lle oedd hwnna?
Roedd hwnna yn yr un darn o'r ffatri hefyd, yn y packing oedden ni'n galw'r darn hynna. Roedd ‘na bump ohonon ni'n smwddio, pawb yn gweithio ar wahanol lein, fel mod i'n gweithio ar grwp A, roedd 'na grwp B, C a D. ‘Swn i ddim ond yn smwddio beth oedd yn dod oddi ar lein eich gwrp chi, fel petai.

Y pyjamas, neu bethau eraill hefyd?
O na, tops oeddwn i'n smwddio gan amlaf.

Pyjama tops?
Ie, pyjama tops. Oedd ‘na eneth ochr draw i mi wedyn,r oedd hi’n gwneud y closau, yn plygu'r closau, roedden nhw'n glosau hir, roedd eisiau plygu nhw, rhoi rhyw bin arnyn nhw a rhoi nhw ar y hangers. Neu weithiau roedd ‘na tops and shorts i fechgyn, roedden ni jyst yn smwddio llewys y tops ac roedd eisiau smwddio'r shorts ‘ma, jyst smwddio'r gwaelod lle roedd yr hem yn y gwaelod. A rhoi rhyw clips a rhoi nhw ar y hanger wedyn.

22.50 Ac i le o fanno? I gael eu pacio?
Roedden nhw'n mynd wedyn i'r pacio, roedd 'na mashîn, ac roedd rhai yn rhoi pob un ar y mashîn ‘ma a tynnu'r polythene bag a cau nhw yn y gwaelod, ac oedd ‘na rai eraill wedyn yn pacio nhw yn y bocsys, a mynd â nhw, roedd 'na ddynion yn dod wedyn a mynd â nhw, fel petai, i'r warehouse.

Oedd o'n anodd smwddio'r dillad 'ma?
Roedd hi'n job boeth, oedd, roedd hi yn job boeth, acroedd o fwrdd smwddio Mawr a'r fflat smwddio yn drwm ofnadwy. Ac roedd tin ar yr ochr lle roedd y dwr, y stêm fel petai, roeddech chi'n gorfod gofalu bod hwnnw, bod 'na ddigon o ddwr ynddo.

Steam iron?
Ie, ie. Neu basa fo’n chwythu i fyny, roedden nhw mewn llefydd mawr fel petai, maen nhw'n iwsio, a’r fflatiau smwddio mawr 'ma. Swn i ddim yn meindio un o rheiny adre ar un adeg.

Oeddech chi'n eistedd lawr neu sefyll?
O, roedden ni'n sefyll trwy'r dydd.

Sefyll trwy'r dydd?
O na, doedden ni ddim yn eistedd. Roedd y machinists yn eistedd trwy'r dydd, wrth gwrs, na, roedden ni'n sefyll trwy'r dydd.

Oedd hynny'n anodd felly?
Oedd, roedd fy nghoesau i'n mynd a fy nhraed yn brifo weithiau, a gaethon ni ryw fatiau special, fatha ryw sponge odanyn nhw, a sefyll ar rheiny wedyn trwy'r dydd, am wyth awr.

24:28 Amser hir, tydi?
Ydy. O, mi oedd.

Ydach chi'n cofio beth oedd eich tal, felly? Eich cyflog?
O, dw i'n siwr roeddwn i'n dod adre, deudwch, rhyw ychydig dros gant. Oedd, mi oedd ychydig dros gant, oedd, erbyn talu beth roeddech chi'n talu, national insurance,ynde.

Cant bob wythnos neu gant bob mis?
Naci, bob wythnos.

Ac roedd hwnna yn mynd i mewn i ryw 'pot' teulu, neu oeddech chi'n cadw rhywbeth?
Naddo, doeddech chi ddim ond yn cael payslip ac roedd yn mynd syth i'r banc, ond oedd.

Felly roeddech chi'n gwario eich arian yn y ty, felly? Ar gyfer y teulu?
Ie, ie.

Oeddech chi'n gwario rhywfaint ar eich hunan?
A fi fy hun, naddo, dim llawer iawn, na, bwyd a ‘swn i'n cael rhyw baced deg o cigarettes ac roeddwn i'n ddigon hapus.

25:37 Oeddech chi'n smygu lot?
Na, na, doeddwn i ddim yn smygu yn y ty, dw i'n licio smôc weithiau, ond dw i ddim erioed wedi smygu yn y ty.

Yn y ffatri pryd honna, oedd 'na undeb gweithwyr?
Mi oedd, ond oedd 'na lot ddim wedi joinio fo, dim wedi mynd i mewn.

Athochi chi i mewn?
Naddo, naddo.

Pam lai?
Dw i ddim yn gwybod. Dw i'n cofio Hefin, y gwr, yn dweud rhywbryd dim eisio bothero efo union. Na, oedd na lot ddim wedi talu'r union 'ma.

Felly, beth fyddai ddigwydd os oedd 'na broblem gwaith? Pobl yn eisau mwy o gyflog neu . . ?
Wel, doedden ni ddim yn cael dim say yn y mater na dim byd, sai' chi ddim yn y union, doeddech chi ddim yn cael gwybod dim byd, na fyddech.

27:00 Felly, y bobl oedd yn y union, oedden nhw'n cwyno am . . . ?
Nac oedden. Clywais i ohono ddim yn, ym, na. Dw i ddim yn meddwl bod nhw wedi gwneud llawer o wahaniaeth i rheiny oedd yn y union a rheiny oedd ddim yn y union, yn fy meddwl i, ddim llawer o wahaniaeth.

Ydach chi'n cofio achlysur pan oedd na streic neu dispute neu rywbeth felly?
Nag ydw, nag ydw, na. Ond dw i'n cofio un adeg, Cath . .

Cath Parry?
Cath Parry, ie, caethon nhw, o be maen nhw'n galw fo . . .

Beth ddigwyddodd?
O, os dw i'n cofio'r stori'n iawn, Cath Parry o Bala, cyn 'Dolig wastad yn brysur iawn, eisio pob peth allan cyn 'Dolig, ac oedd un o'r supervisors wastad yng Nghanol yr wythnos yn dod rownd pawb i ofyn 'Fedrwch chi weithio bore Sadwrn wythnos nesaf?' - bod nhw eisio hyn a'r llall, ac yr oedd y rhan fwyaf yn ddigon bodlon i'w wneud. Ddaru Cath, a geneth o'r enw Barbara Ellis 'ma, methu gweithio, felly, gan eu bod nhw ddim wedi gweithio ac wedi dweud bod nhw yn mynd i weithio, caethon nhw eu syspendio. A fuon nhw i ffwrdd o'r gwaith am, o, dair wythnos siwr, ond mi ddaethon nhw i ryw gytundeb wedyn, yn ôl caethon nhw ddod beth bynnag.

Ac roedd y union, felly, yn . . .
O, adeg hynny, oedd, oedd. A dw i'n cofio oedd y ddwy ohonyn nhw wedi joinio'r union. So ddaeth un peth da ohono iddyn nhw.

Roedd yr undeb yn ymladd drostyn nhw?
Ie, ie.

Sut oeddech chi'n meddwl am hynny? Oeddech chi'n meddwl bod hwnna'n annheg?
O, jyst o ran, pan oedd y supervisor yn dod rownd, o gwmpas, wel, doedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd yr wythnos wedyn. Rhywbeth oedd wedi cropio i fyny oedd y peth a dyna fo. Ond mi gaethon nhw eu suspendio beth bynnag.

Sut oedd y bosses felly? Oedden nhw'n deg?
Oedden nhw'n fosses da iawn i weithio efo nhw. O, oedden, roedd Nigel a David. Wel, Nigel oedd yn y ffatri yn Bala, roedd David yn y ffatri yn Altringham. Dyna lle roedd o'n mynd. Nag oedd, roedd y ddau yn ddau berson da iawn i weithio.

A beth oedden nhw'n meddwl am yr undeb? Oedden nhw'n fodlon cael undeb i mewn?
O, i ddweud y gwir, dw i ddim yn cofio. Dw i ddim yn cofio.

30:25 Oedd ‘na, oeddech chi'n son am partis 'Dolig, sut oedden nhw?
Oedden ni'n cael partis da iawn. Oedd na gymaint ohonon ni, a'r unig le oedd 'na yn Bala i bawb gael mynd ac eistedd i lawr oedd Neuadd y Cyfnod adeg hynny. Ac roedden ni'n cael partis bendigedig a bwyd da iawn. A digon o cherry binks a bob peth yno, rhyw ddisgo yn y nos wedyn.

Beth ydy 'cherry pinks'?
Wel, dach chi'n cael glasiad bach o ddwr neu glasiad o . . . ha, ha . . o win, beth bynnag oeddech chi eisio. O, roedd fel bod ni wedi cael ein gollwng, wedi bod yn gweithio mor brysur, a'r ffatri wedi cau, oedden ni wastad yn cael y parti diwrnod bod y ffatri yn cau lawr am y gwyliau 'Dolig. A fuon ni yn Neuadd y Cyfnod, os dw i'n cofio'n iawn, fues i efo nhw dair neu bedair gwaith, ond roedd y lle ddim yn ddigon mawr wedyn, roedd cymaint ohonon ni wedi dod i weithio, a dw i'n cofio mynd efo nhw un flwyddyn i Fron Olau, dw i'n meddwl, yn Dolgellau, oedd ‘na ddau lond bws o ni adeg hynny yn mynd i Fron Olau. Oedd ‘na fwy o le fanno nag oedd ‘na yn Neuadd y Cyfnod.

Felly oedd bosses y ffatri yn rhoi popeth, bwyd, gwin, y buses, popeth?
Oedden, oedden, popeth.

Am faint oedd y ffatri ar gau dros 'Dolig?
Roedden ni'n cau, deudwch, rhyw dridiau cyn y 'Dolig ac roedden ni'n mynd yn ôl diwrnod ar ôl y flwyddyn newydd. Rhywbeth tebyg i beth ydy o heddiw, fel petai.

Ac yn yr haf?
Ie, roedden ni'n cau, adeg hynny, cau am bythefnos efo'i gilydd. Roedden ni'n arfer cau wythnos ola’ yn Gorffennaf, roedden ni'n arfer cau pan oedd y ffatrïoedd mawr 'ma yn y Midlands,roedden nhw yn cau o achos roedden nhw'n dod â stwff i fyny a phethau, ac roedden ni wastad off pan oedd ffatri Ivor Williams yn cael …yn cau dros y 'Dolig hefyd.

Beth yw ffatri Ivor Williams?
Gwneud trelars, trelars anifeiliaid, ie.

Felly, roedd eich gwr ar ei wyliau ar yr un pryd?
Oedd, roedd e, ie.

Oeddech chi'n mynd i ffwrdd yn yr haf?
Na, doedden ni ddim yn mynd, dw i'n cofio, oedd gynnon ni garafán blynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n ddigon hapus i fynd i Bethel ger Caernarfon.

Yn y garafán?
Yn y garafán, ac yn mynd, hel a pac ar ddydd Gwener a jyst dilyn ein trwynau ac i fyny am Gaernarfon. On i'n mwynhau hwnnw'n ofnadwy.

Felly touring carafan oedd e?
Ie, ie. Ac mi aeth Cath a fi, ddaru ni wneud rhaglen ar wyliau haf ar y teledu, o'r enw 'Pobol y Pyjamas' a fuon ni, roedden nhw'n dod yma i'n ffilmio ni, a fuon ni yn Eisteddfod Llanelli. Mae hynna ddeg mlynedd yn ôl. Roedd yr Eisteddfod yn Llanelli, caethon ni sbort, hwyl ofnadwy.

34:40 Faint ohonoch chi? Oedd 'na griw mawr o ferched?
Na, fuon nhw ffilmio pawb, ffilmio y rhan fwyaf yn y ffatri, gwahanol bobl, beth oedden nhw'n wneud, hanes y ffatri a phethau, ond mi gaeth Cath a fi ein dewis i fynd … , roedden nhw eisio i ni fynd i gampio i'r Eisteddfod, i Maes B, yn Llanelli. A ddaru ni fynd a fuon ni’n aros yn y dent am ddwy noson, roedd yn dent mor fach, dw i'n cofio'n iawn, roedd ein coesau ni a'n traed ni wedi chwyddo fel balwns.

Felly, oedden nhw'n ffilmio chi yn yr eisteddfod?
Oedden, oedden.

Beth oeddech chi'n gwneud? Jyst cerdded o gwmpas?
Jyst cerdded o gwmpas a gwneud gwahanol bethau, dw i ddim yn cofio rwan yn iawn, ynte, a ddaru ni fynd i bingo yn Llanelli un noson, roedden nhw hyd yn oed yn ffilmio ni yn y bingo. A dw i ddim yn gwybod os oedden nhw’n gwybod bod ni'n mynd i bingo'r noson hon, mi ddaethon nhw â andros o gacen fawr i ni, cyflwyno cacen fawr,a dod â hi yn ôl, enw 'Pobl y Pyjamas' ar y gacen, a dod â hi yn ôl bob gam o Lanelli i Bala.

A beth ddigwyddodd i'r gacen?
I ddweud y gwir, dw i ddim yn cofio'n iawn. Dw i siwr ei bod hi wedi cael ei bwyta, oedd, roedd y dynion wedi ei bwyta dw i'n siwr!

36:21 Aeth y gacen i'r ffatri wedyn?
Doedd, roedden ni wedi mynd â'r gacen i'r ffatri, do. Ond gaethon ni sbort ofnadwy yn ffilmio. Oedd, roedd y rhaglen ar y teledu bob nos, bob nos Fawrth a enw’r rhaglen oedd 'Pobol y Pyjamas'.

Oeddech chi'n cael eich talu am hwnna?
Oedden. Do, mi gaethon ni ein talu, roedden ni'n haeddu rhywbeth am wneud beth ddaru ni wneud.

Oedd o'n waith anodd?
Mi oedd, mi oedd.

Ac roedd Cath yn son am ddiwrnod allan yn y rasys? 
O ie, roedden ni'n cael, roedden ni'n cael, chwarae teg i Ackroyds, roedden nhw wedi gaddo i ni, buon ni yn Haydock.

Nid jyst Bangor on Dee?
Na, buon ni yn Haydock Park yn Lerpwl, neu Aintree, dw i ddim yn cofio. Do, fuon ni i Bangor on Dee, hefyd. Oedden ‘na ddau lond bws ohonon ni'n mynd, oedd o'n ddiwrnod bendigedig, ac roedden ni'n bwysig, roedd 'na marquee fawr wedi cael .. jyst i weithwyr Ackroyds.

Do?
Ie, a cinio, pwdin, a sôn am win, roedd 'na ddigon o win, roedd hwnna pob peth am ddim. A betio wedyn, mynd i fetio, doedd gynna i ddim syniad 'na dim byd beth.

Ond wnaethoch chi ennill?
O, do, do. On i'n reit lwcus, dweud y gwir. Ond at y diwedd, ar ôl i rywun gael dipyn bach gormod o win coch a gwyn, dw i'n cofio dweud wrth Cath, 'Cath, does gynna i ddim llawer o bres yn fy mhwrs, ond be' sgenna i dw i'n mynd i roi fo i gyd ar y ceffyl ola’.' A dyna wnes i, dw i ddim yn meddwl mod i wedi ennill yr un geiniog.

Felly, pryd wnaethon nhw ddechrau efo'r rasys 'ma, y ffatri? Oedd o'n rhywbeth newydd pan oeddech chi yno neu oedd o wedi digwydd o'r blaen?
Dw i'n meddwl eu bod wedi bod rhyw ddwywaith cyn i mi gychwyn yn Ackroyds. Ond roedd yn ddiwrnod gwerth ei gofio. Roedden ni'n cychwyn yn ôl adre, ar ôl y ras ola', rhyw hanner awr wedi pump. Roedd pawb yn mynd i Bala wedyn, i Blas Coch I orffen y noson, a chyfri faint o bres roedd bawb wedi’i bocedi.

Ar ddydd Sadwrn oedd e, felly?
Ar y dydd Sadwrn, ie. O, on i'n edrych ymlaen yn ofnadwy at fynd i'r rasys.

Y dynion a'r merched yn mynd?
O, oedden, oedden.

Y ffatri i gyd mwy neu lai?
Roedd pawb a oedd eisio mynd, wedi rhoi eu henwau, roedd y mwyafrif yn mynd, pawb yn edrych ymlaen.

39:39 Ac oeddech chi’n cymdeithasu gyda phobl gwaith felly yn ystod y penwythnosau neu tu allan i'r gwaith? Achos oeddech chi'n byw yn Corwen ac roedd y ffatri yn Bala, oeddech chi'n cymdeithasu?
Na, wel, on i'n mynd efo Cath, Cath a fi, ‘dan ni'n hoff iawn o bingo, a ddaru ni fynd i Wrecsam ar ddydd Sadwrn weithiau, i'r Mecca yn Wrecsam, i gael gêm o bingo. A fuon ni yn, y ddwy ohonon ni, fuon ni yn York rhyw flwyddyn, ar mini weekend, efo Seren Arian, dw i'n meddwl, ac mi aethon ni i bingo rhyw nos a mi gaeth Cath lwc dda iawn, wna i byth anghofio.

Wnaeth hi ennill?
Do, mi ddaru Cath ennill swm mawr iawn. Do, gaeth hi, do, noson Cath oedd hi'r noson hon.

Lyfli! Felly am faint oeddech chi yn y ffatri pyjamas?
Bues i'n gweithio yn y ffatri pyjamas am ddeuddeg mlynedd, deuddeg mlynedd, do.

Pam wnaethoch chi adael felly?
Ddaru fi adael, aeth y gwr yn sâl, a fues i adre efo'r gwr, ac yn yr amser hynny ges i lythyr yn deud bod y ffatri yn mynd i gau. A rhwng y gwr yn mynd yn sâl a'r llythyr yn dweud bod y ffatri yn mynd i gau, o, on i wedi torri nghalon braidd, a beth bynnag collais i'r gwr pum mlynedd yn ôl ac roedd y ffatri wedi cau ychydig cyn hynny, wel, roedd o'n ddau golled mawr iawn, iawn, iawn i mi.

Felly, oedd y ffatri yn cau yn gyfan gwbl? Neu jyst stopio gwnïo?
O, na, na, roedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr i gyd, dylai fod wedi cau, ond roedd 'na hanner dwsin o ferched, fel part-timers, roedden nhw'n dal yno, ac maen nhw'n dal yna hyd heddiw. On nhw jyst yno naw tan dri. A mae 'na ferched yn yr offis, mae rheiny dal yn gweithio yno.

Ond y rhan fwyaf wedi . . .
O, na, mae rhan fwyaf wedi chwalu. Ydyn, maen nhw wedi mynd, pawb wedi mynd ffordd ei hun.

Cawsoch chi ryw fath o redundancy?
O, do, do, ges i, do.

Ond oeddech chi'n drist iawn i ddod o na?
Oeddwn, on i wedi, oeddwn.

43:00 Pam? Beth oedd y peth gwaethaf? Gadael swydd, neu adael cwmni?
Ie, colli ffrindiau da, ond mi oedd ‘na, oedd, rhaid i mi ddeud oedd ‘na giang da iawn yn gweithio yn Ackroyds. Roedd pawb yn ffrindiau efo'i gilydd, pawb yn ffrindiau, roedd ‘na gwahanol, roedden ni'n galw'r merched wahanol enwau, un Ann Fach, am fod hi'n fach, Ann Wyau am fod hi’n dod â wyau i werthu yno, oedd 'na Sioned Fach o Landderfel, hi oedd y lleia o'r Sioneds, oedd na Carys Llan, Carys o Llanuwchllyn. Pan on i'n nabod nhw roeddwn i'n galw 'Carys Llan tyrd yma,' neu 'Ann Wyau', na, …grêt.

Ac oedd pawb yn siarad Cymraeg?
O oedden, y mwyafrif, ie. Oedd, roedd 'na giang da iawn, merched neis iawn. O Blaenau, roedd ‘na rai o Tan y Grisiau, Margaret o Tan y Grisiau, oedd 'na Iona o Ffestiniog, a dw i dal yn ffrindiau efo Iona hyd heddiw, dal yn cadw cysylltiad efo Iona.

Felly oeddech chi'n sôn am pan oeddech chi'n smwddio, oeddech chi'n sôn am y peth gyda'r stêm a dwr, oedd 'na ddamweiniau o bryd i'w gilydd?
O, oeddwn i'n llosgi’n llaw neu rywbeth o hyd efo stêm ac ambell i waith on i'n llosgi’r defnydd ond jyst roi fo yn y bin a neb yn ei weld o.

Oedd ‘na ryw fath o 'health and safety' yn y ffatri?
O, oedd, oedd, oedd.

Beth ddigwyddodd tasai chi wedi llosgi? Oedd rhaid i chi reportio fo?
Oedd, reportio fo ac oedd ‘na fel 'first-aider' yn y ffatri. Ie, fasech chi’n reportio fo a sgwennu fo lawr yn y llyfr wedyn.

Oedd pobl yn ofalus?
O, oedd, roedd rhaid bod yn ofalus, oedden.

Felly, oeddech chi'n son bod 'na merched a dynion yn gweithio, sut oedden nhw'n cymysgu? Oedd na lot o 'banter?' Sut oedd y dynion yn edrych ar y menywod fel cyd-weithwyr?
O, roedden ni'n cael sbort efo'r dynion, roedd 'na rai digon direidus, dod yna a cuddio sisyrnau, neu cuddio rhywbeth o hyd, neu roedd rhywun yn gweiddi, clywed y ffôn yn mynd, 'mae eisiau so-and-so ar y ffôn' ac erbyn i rywun fynd at y ffôn, y ffôn wedi mynd i lawr, a bod rhywun wedi rhedeg, reit o'r un pen o'r ffatri i'r pen arall, ond roedden nhw'n gwneud triciau ofnadwy. Na, roedden nhw’n ferched a dynion grêt i weithio efo nhw.

46:33 Oedd y dynion yn gwneud trics ar y merched neu ffordd arall rownd?
Na, y ddau, dw i'n meddwl, dynion a merched fel petai. O na, roedden nhw'n grêt, oedden.

Felly, oedd y lle yn eithaf strict neu oedd na lot o . . .
O, dw i ddim yn deud, wel, roedd rhaid i chi fod yn strict, ond oedd, efo'r, chi mod, roedd pawb yn gweithio'n galed iawn, pawb yn gwneud ei gwaith, oedd, oedd. Doedd ‘na ddim chwarae o gwmpas pan oedd pawb yn gweithio, o na, doedd ‘na ddim chwarae o gwmpas neu fyddech chi'n gweld Nigel yn dod trwodd, roedd Nigel druan yn cael tantryms weithiau.

Oedd o?
O, Nigel yn gweiddi weithiau ‘sai rywbeth ddim yn iawn, roedd yn hen weiddi.

Oedd rhywbeth yn rong?
Ie, rhywbeth ddim yn mynd yn iawn efo rhyw ordyr neu rywbeth, dach chi'n clywed y drws o'r offis yn bangio, clywed Nigel yn bangio'r bwrdd, ond ?(?) na hynny, na oedden nhw'n bobl neis iawn i weithio iddyn nhw.

Oedd na lot o swn, felly, peiriannau gwnïo a phethau felly?
Oedd, ac eto dim felly, roedd 'na fwy o swn ar y radio weithiau, roeddech chi'n cael yn y bore, o wyth tan ddau, Radio One. Ac oedden nhw'n troi o drosodd wedyn, o ddau tan bump, i Radio Two.

Pam oedden yn troi o?
Wel, oedd y rhai ifanc eisiau Radio One a roedd y rhai yn dipyn bach yn hyn, roedd 'na fwy o ganeuon oedden ni, oedran ni, ar Radio Two. Ac roedd 'na ryw gwis pnawn neu ganol bore, os dw i'n cofio'n iawn, ar Radio Two. Doedden ni ddim yn cael Radio Cymru am ryw reswm, oedd na interference ofnadwy wastad, doedden ni ddim yn gallu gwrando ar Radio Cymru trwy'r dydd yn y ffatri. Ond Radio One yn y bore a Radio Two yn y pnawn.

Felly, oedd hyn yn gytundeb rhwng y gweithwyr, i newid y sianel?
Oedd, oedd, achos roedden ni'n sbïo ar y cloc weithiau a deud 'O wel, ‘dan ni'n mynd i gael Radio Two mewn munud' ac roedd rhyw giang bach, rhyw gân, ?? a roedden ni'n canu efo'n gilydd.

Oedd pobl yn canu? Pobl yn gweithio ac yn canu ar yr un pryd?
Oedden ni, a'r merched eraill ond yn smwddio fel petai, oedden ni'n canu wrth smwddio, neu ryw hummian, a rhywun yn gweiddi 'Cae'ch big ceg', ynte.

49:49 Felly, mae gynnoch chi memories da iawn?
O, oes, da iawn, oes. Ond bechod bod y ffatri, bod Ackroyds wedi cau. Oedd, roedd yn dipyn o bom i Bala, bombshell i Bala, oedd.

Oedd na ryw protests yn erbyn cau? Neu doedd y gweithwyr ddim yn gallu gwneud dim byd?
Na, doedd neb yn gallu, roedd yr Ackroyds yn trio pob peth, chi’ mod. Caethon ni barti.

Ffarwelio?
Do, cawson ni barti, do, mewn marquee, do, chwarae teg. Na, oedd yn ddiwrnod digon trist, oedd. Trist iawn.

Felly, doedd y bosses ddim eisau cau'r ffatri? Pam wnaeth o gau felly?
Na, doedden nhw ddim eisau cau, doedden nhw ddim eisau cau, fel roedden nhw'n deud, na, doedd ganddyn nhw ddim dewis. A symud y gwaith i China, fel petai.

Felly'r head-office wedi penderfynu?
‘Swn i feddwl, ie, ie.

Y bobl oedd wedi gadael, aethon nhw i waith arall y rhan fwyaf?
Do, mi gaeth y rhan fwyaf, do, wedi cael gwaith tu allan i'r Bala, fel petai, do. Mae rhai wedi bod yn lwcus iawn, ynde. Ond ddaru fi ddim, o achos roeddwn i wedi dod i'r oed ymddeol. Roeddwn i'n ddigon hapus wedyn, ie.

Oedd hi'n anodd wedyn stopio'r gwaith?
Oedd, ond rhaid i mi ddeud, dair neu bedair blynedd diwethaf dw i wedi bod yn reit lwcus. Os ydy Ackroyds yn cael rhyw amser prysur bach, maen nhw wedi bod yn ffonio fi a gofyn swn i fewn i helpu nhw. A fues i yna llynedd, fues i yna am bedwar mis, a dw i wedi bod yna'r flwyddyn gynt, fues i yna am chwe mis tan Nadolig. Roedd yn neis mynd yn ôl ond doedd hi ddim yr un fath, doedd na neb, wel, y merched, ac roedd hi'n wag ofnadwy yna, ond roedd hi’n rhyfedd iawn mynd yn ôl yno.

Felly roedden nhw'n galw arnoch mewn adegau prysur?
Ie, yn gwybod mod i adre', a swn i'n mynd i helpu nhw i bacio, neu tsecio eto, ie.

Pwy sy'n galw arnoch chi? Y bosses, neu'r personel department, neu?
Ie, Gareth yn yr offis. Ffonio a gofyn os ydw i'n brysur, beth oeddwn i'n wneud a pethau, faswn i licio mynd yn ôl.

Felly, fo oedd y manager pan oeddech chi yno o'r blaen?
Gareth, ie, ie, fo oedd y personel ‘ma, ie. O na, 'swn i mynd yno y bore nesaf, dw i'n nabod nhw i gyd, pawb sydd yna. Ac mae'r ferch, fel on i'n deud, mae hi’n dal yna.

53:33 Felly, edrych yn ôl dros eich amser yn y ffatri, beth oeddech chi'n hoffi mwy na ddim byd arall?
O, y cyfeillgarwch, ynte, y sbort, ‘dan ni wedi chwerthin a chwerthin, a be' ydy ?? , na, enjoio mas draw, ynte.

Wnaethoch chi newid yn ystod eich amser yna?
Na! Ym ma ffordd? Naddo, dim o gwbl, naddo. Na, roedd pawb ar un un lefel. Na, dw i'n meddwl bod o'n rhywbeth neis iawn gweithio mewn ffatri a chymysgu efo merched eraill.

Oedd na rywbeth oeddech chi ddim yn hoffi am y lle? Neu'r bobl, neu'r gwaith?
Na, rhywbeth fel ‘na ddim erioed wedi croesi fy meddwl i. Roeddwn i'n licio mynd yn y bore, oeddwn, oeddwn. Na, roeddwn i wrth fy modd, wrth fy modd.

Oes 'na rywbeth arall, dw i ddim wedi gofyn, dach chi'n gallu meddwl am?
Na, dim.

Wel, diolch yn fawr iawn, Greta.
54:55 Croeso.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VN004.2.pdf