Carden a ddanfonodd Tom Williams pan yn dychwelyd o fod yn Garcharor Rhyfel
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ar 30 Tachwedd 1917 yn Honnecourt, wedi iddo gael ei saethu yn ei glun chwith, ac fe'i carcharwyd yng ngwersyll Minden. Wedi iddo gael ei ryddhau ar ddiwedd y rhyfel fe ddanfonodd y garden hon at ei chwaer, Kate, ar 16 Rhagfyr 1918, o Enschede yn yr Iseldiroedd. Mae'r nodyn yn darllen "Dear All, Arrived here yesterday (Holland) and very probably will be in England in a few days. Pleased to say that I am in the pink. Tom".
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment