Waled lledr a gyflwynwyd i Tom Williams gan drigolion Bae Colwyn
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ar 30 Tachwedd 1917, wedi iddo gael ei saethu yn ei glun chwith, ac fe'i carcharwyd yng ngwersyll Minden. Ar ôl y rhyfel fe ddychwelodd i Gymru, ac i'w hen swydd ym Mae Colwyn. Cyflwynwyd y waled lledr hon iddo, gyda'r arysgrif 'The residents of Colwyn Bay, Colwyn and District, desire to record their high appreciation of the loyal services rendered to King and Country by you during the Great War 1914 - 1919'. Bu farw Tom ym 1945.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment