Llun o Tom Williams fel Carcharor Rhyfel
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd ei ddal gan yr Almaenwyr ar 30 Tachwedd 1917 yn Honnecourt, wedi iddo gael ei saethu yn ei glun chwith. Fe'i carcharwyd yng ngwersyll Minden, ac mae'n debyg mai yno y tynnwyd y llun hwn o grŵp o garcharorion Cymreig. Mae Tom yn y rhes gefn, yr ail o'r dde. Gwelir amrywiaeth eang o fathodynau catrawd yn y llun, gan gynnwys Monmouthshire Regt, South Wales Borderers, Royal Welch Fusiliers, Dorset Regt, Royal Berkshire Regt a Middlesex Regt. Danfonodd Tom y garden hon at ei chwaer (fe'i hysgrifennwyd ar 12 Mai 1918 ac fe'i postiwyd ar 2 Mehefin 1918). Mae'r nodyn yn dweud "Dear All Just a few lines to let you know that so far I am alright, trusting that you are the same under the circumstances. Having sent you a previous Post card my new address & trust you have received same."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment