arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterNoddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government

Disgrifiad

Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â’r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd anaf ar ei droed ym mis Awst 1916 ac fe’i danfonwyd nôl i Loegr am driniaeth ysbyty. Danfonwyd y cerdyn hwn at ei chwaer, Kate, o Burry Old Road Camp, Heaton Park, Manchester ar 25 Hydref 1916. Dywed y teitl ar y llun “Somme Push. Huns carry in wounded Frenchmen”. Mae’r nodyn yn darllen ‘Annwyl Oll, Yma fel convalescent. Lle da iawn. Llythyr yn fuan. Tom’.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw