Cerdyn Post a ddanfonwyd gan Tom Williams: 'Quick, Give me some news from you'
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Danfonwyd y cerdyn post hwn at ei chwaer, Kate, ym mis Awst 1916. Mae'r nodyn yn darllen 'Dear All, Received parcel and letter today Aug 17 which was most acceptable. We are going on rest for a short time after our great charge. Still feeling in the pink. Yours T Wms. Trusting that Jennie and Katie will enjoy their holiday. Give my kind regards to her mother'. Mae nodyn ychwanegol wedi'i ysgrifennu yn y Gymraeg yn ddiweddarach yn dweud: "Ysgrifennais hwn cyn streifio fy nhroed." Mae'n debyg mai dyma'r rheswm y danfonwyd Tom nôl fel claf i Brydain ar 22 Awst 1916.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment