Skip to main content

Cerdyn Post a ddanfonwyd gan Tom Williams yn dangos milwyr Ffrainc

Disgrifiadau

Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Danfonwyd y cerdyn post hwn at ei chwaer, Kate, ar 3 Awst 1916. Mae'r nodyn yn darllen 'Dear All, Just a card to let you know that I am alright. The weather is frightfully hot. Thanking you for your kind offer of sending me something occasional???? (cake) will be very acceptable. Tom Aug 1st'. Yn ddiweddarach fe gafodd Tom ei glwyfo a'i ddal gan yr Almaenwyr. Dychwelodd i Gymru, lle bu farw ym 1945.

Owner:
Hywel Roberts
Crëwr:
Hywel Roberts
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Publisher Ref:
WVP01046
Eitem wedi’i llwytho:
22/11/2011
Date originally created:
3/8/1916
Gwelediadau:
938
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment