Cerdyn Post a ddanfonwyd gan Tom Williams o Ashton-under-Lyne
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 ac fe hwyliodd i Ffrainc ar 9 Ebrill 1916. Cafodd anaf ar ei droed ym mis Awst 1916 ac fe'i danfonwyd nôl i Loegr am driniaeth ysbyty. Danfonwyd y cerdyn hwn at ei chwaer, Kate, o Ashton-under-Lyne ar 30 Medi 1916. Mae'r nodyn yn darllen 'Annwyl Oll Eich garedig lythyr i law, da oedd gennyf ei gael a chael ar ddeall eich bod wedi cael y cynhaeaf, hefyd ei fod yn dda. Yr wyf yn edrych ymlaen am ddod yna yr wythnos nesaf, dod ymlaen yn dda yma. Nid oes gennyf eisiau dim ac rwyf yn wir ddiolchgar i chwi am eich caredigrwydd. Cofion fyrdd, Tom'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment