Cerdyn Post yn dangos milwyr y Liverpool Scottish Regiment
Cerdyn Post yn dangos milwyr y Liverpool Scottish Regiment
Disgrifiadau
Ganwyd Thomas Williams ym Mhenmachno ym 1886 ac roedd yn gweithio fel teilwr ym Mae Colwyn pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr. Fe ymunodd â'r Liverpool Scottish Regiment ar 21 Tachwedd 1915 a fe welir ef a'i gyd-filwyr yn y llun hwn, pob un yn gwisgo iwnifform y gatrawd. Danfonodd Tom y cerdyn hwn ar y diwrnod y gadawodd i fynd i Ffrainc, sef 9 Ebrill 1916. Cyfeiriwyd y cerdyn at ei dad, William Pritchard Williams, ac mae'n dweud 'Cychwyn heddyw i France. Cewch lythyr yn fuan. Gwelwch fy llun tu ol i'r dot. Cofion oll Tom'. Yn ddiweddarach fe gafodd Tom ei glwyfo a'i ddal gan yr Almaenwyr. Dychwelodd i Gymru, lle bu farw ym 1945.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment