Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"Furtune 1086, Forton 1292, 1540-1, Fortone 1292, 1404 (Griffith de Fordon 1364, fordun c.1155-c.1195 (c.1400), ofortun12g. (15g.), Fordyn 1535, Fording, -e 1566, Forden 1570, 1836, ffording al’s Forden 1587, Capell Fordon 1610, ffordon 1634, Ffordyn c.1630-38, 1700
HS ford + tũn ond nid yw’r esboniad ‘trefgordd neu anheddiad ger rhyd’ (megis Forton Caerhirfryn/Lancashire ac Amwythig) yn ddilys yma. Saif Ffordyn fwy na miltir o afonydd Hafren, Camlad a’u hisafonydd, ac nid oes ‘rhyd’ nodedig yn nes na’r rhyd ger Trefaldwyn (gw. Horseford). Er hynny, dylid nodi bod ffordd Rufeinig (Watling Street) o Westbury, Amwythig i’r Gaer yn rhannu’r plwyf yn ddwy. Efallai mai hyn sydd wedi ysbrydoli cyfieithiad ‘ffordd hen’ oherwydd peth tebygrwydd â’r enw Saes. Forden. Mae hi bron yn sicr bod HSaes. ford yn golygu ‘ffordd, heol’ yma, fel y mae yn ffordd, gair wedi’i fenthyg o hwn. Gwelir Forden bellach fel enw safonol modern Saes., ond trdda’n uniongyrchol o ffurf Gym. ar y sillafiad Saes. cynharach; oni bai am ddylanwad y Gym. dylai’r enw fod wedi cynhyrchu sillafiadau modern megis Forton, Amwythig. Fel arfer fe roir ffurf Gym. fodern fel Ffordun ac mae cadarnhad i hynny mewn fynonellau Cym. cynnar, ond mae ffynonellau diweddarach yn ffafrio Ffordyn, Cymh. ambell i enw Saes. yng ngogledd-ddwyrain Cymru sydd wedi dwyn golwg Gym., e.e. Selattyn, Prestatyn ac ati.
"

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw