Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"Stratmarghel c.1170, 1322, St(ra)dmarchell 1183, estrat marchell 1191, Stradmarhel 1198, Stratmarchell 1200, Strat Marchell 1322, 1584. Ystrad Marchel 1330, Strattemarcelle 1333, Ystrad Marghel 1341, ystrat marchell 1197 (14g.), Strate Marcelle Abbey 1536-9, (maenol) Streatmarshall 1640
Scedstradmarchel 1271, Swythstradmarcell, Soyrstradmarghel 1278, Southstradmerghell 1421-2, Soothestrademerghele, c. 1423-32, Suthstradmarghel 1554
Ystrad megis yn Ystradelfedan, ac ati (uchod) + enw pers. hysbys Marchell (o Lad. Marcellus), sant honedig y 5g., ac eglwysi wedi’u cysegru iddo yng Nhapel Marchell (Llanrwst) a Llanfarchell (= eglwys Dinbych) Dinbych. Dim amgen na ffurf wedi’i Lladieiddio yw Strata a chymerodd Marchell olwg enw benyw. pers. i ‘gytuno’ â Strata. Ceir hefyd enw afon Marchell (Llansteffan), Maesyfed a Marchell 1682 ac yn enw fferm Llanmarchell 1832. Cyfeiria Ystrad Marchell a Strata Marcella at y fynachlog Sisteraidd a enwid fel arall Pool (yn enwedi cyn tua 1313): Pola 1263, 1271, Poli 1278, Strata Marcella alias Pola 1496, enw a dardda, wrth gwrs o Pool neu Welshpool. Swydd Ystrad Marchell oedd un o dair swydd Y Tair Swydd.
"

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw