Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"(Yn maes) Mathrafal c. 1150-1200, Madrael 1212, Castell mathraual 13g. gynnar, Mathrafal c.1268, c. 1320 -c.1398, Mathranal 1281-2, Mathrawel in Kaereynon, Mathrawell, -vell 1293, Mathrawel 1294, 1312, Mathravel 1299, Mathravelle 1354, Mathravael 1428, Matrafal, olim Regia Povisiæ c.1570, Mathravall 1577

Ma + trafal, tryfal ‘triongl, tir mewn fforchiad’ gan gyfeirio at yr ardal rhwng afonydd Efyrnwy a Banw. Mae llawer o gyfeiriadau cynnar yn dynodi castell yma (SJ 132107). Noder hefyd Y dzef wenn r6ng trenn athraual 12g. (c.1400): ‘the white town between Trenn and Traual’ yn saga gynnar Llywarch Hen. Efallai mai afon Tern, Amwythig yw Trenn ond ychydig o dystiolaeth sydd i gadarnhau honiad llawer o haneswyr mai Mathrafal yw Traual. Mae’n debyg hefyd mai trafal, tryfal yw Tryfel, bryn rhwng Nant y Dwyslyn (Nant Trafel 1836) a Nant y Waun Fraith, a’r bryn cyfagos Moel y Tryfel (SH 9716, 9715) tua deng milltir ar ochr orllewinol Mathrafal. Ceir yr un elfen yn aml yng Nghymru, e.e. Trafel-gwyn (Llangurig SN 8975) Trefaldwyn, Trafle (Llanwrthwl: Cwm-trafle 1833, (fferm) Tir Travelly ucha 1723) Brycheiniog, a Travley (Llowes:Travelly 1639) Maesyfed.
Ystyrid Mathrafal yn lle pwysig iawn, ‘as sum sai,---one of the principal palaces of Walis as for the Prince of Poisland’, yn ôl John Leland 1536-9.
"

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw