Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

LYNN DAVIES
stori neidiwr hir

Fy enw yw Lynn Davies. Fe’m ganed ar 20 Mai 1942, yng nghymuned lofaol fach Nantymoel, ym Mro Ogwr. Glöwr oedd fy nhad a oedd yn gweithio dan ddaear. Fe es i Ysgol Ramadeg Ogwr, lle gwnes i feithrin cariad tuag at chwaraeon drwy athro hynod frwdfrydig, Roydon Thomas: rygbi a gymnasteg yn y gaeaf, a chriced yn yr haf. Athletau oedd y diwrnod chwaraeon, ac roeddem i gyd yn bwrw iddi gyda llawer o frwdfrydedd ond heb lawer o dechneg na gwybodaeth ond, er hynny, yn cael mwynhad mawr o’r peth. Oherwydd mod i’n weddol gyflym a mod i’n chwarae ar yr asgell mewn rygbi a phêl-droed, teimlai Mr Thomas y dylwn gystadlu yn y 100 metr ac yn y naid hir ar ddiwrnod chwaraeon yr ysgol, a dyna wnes i. Ond, fel pob bachgen ifanc yn y cymoedd, fy arwyr ym myd chwaraeon oedd pêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi. Roeddwn i eisiau bod fel Cliff Morgan, roeddwn i eisiau bod fel John Charles. Chwaraeais i’r tîm pêl-droed lleol, Lewistown, a chefais fy ngweld a’m rhoi ar lyfrau Dinas Caerdydd fel amatur. Roeddwn hefyd yn chwarae rygbi i Ysgol Ramadeg Ogwr ac i Glwb Rygbi Pencoed felly, yn y bôn, cefndir mewn gemau tîm, rygbi a phêl-droed, sydd gen i.

cyfarfod ar hap

Pan oeddwn yn 17 oed, llwyddais i neidio 6m 40cm heb unrhyw hyfforddiant nac ymarfer. Ar sail hynny, penderfynodd fy athro y dylwn gystadlu yn y Pencampwriaethau Sirol yng Nghaerdydd yn Stadiwm Maendy, a dyna lle gwnes i gyfarfod â Ron Pickering. Roedd Ron yn ymweld â Chymru fel yr Hyfforddwr Cenedlaethol dros athletau ac fe awgrymodd mod i’n ymgymryd o ddifrif ag athletau. Roedd yn credu fod gen i lawer o dalent, llawer o botensial. Cyfarfod â Ron Pickering ar hap ac yna dod i’r lle hwn, UWIC – Coleg Hyfforddi Caerdydd fel oedd e’n cael ei adnabod bryd hynny – y cyfuniad o fod yng Nghaerdydd gyda thrac redeg ar drothwy’r drws, a Ron Pickering, yr hyfforddwr enwog i Gymru, a mwya’ sydyn, roeddwn wedi ymgymryd ag athletau.

Ron ddysgodd bopeth i mi. Doedd gen i ddim syniad sut i wneud y naid hir, sut i redeg yn gyflym, y technegau oedd ynghlwm wrth hynny, a chan ei fod yn hyfforddwr mor dda, datblygais yn gyflym iawn. Fe wnes i gynyddu fy nghyflymder wrth redeg, gwella fy naid hir, a chefais fy newis i fynd am y tro cyntaf i Gemau’r Gymanwlad yn Perth, Gorllewin Awstralia, yn ôl ar ddechrau’r ’60au. Fe wyddwn bryd hynny mod i eisiau cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Dyna oedd fy nod. A’r tair blynedd honno o baratoi gyda Ron Pickering, ac astudio addysg gorfforol yma yng Ngholeg Hyfforddi Caerdydd, y cefndir rhagorol hwnnw o wybodaeth, dysgu am theori ymarfer at ati, a’m rhoes ar dir cadarn ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo yn 1964.

tywydd cymru yn tokyo

Yr oedd yn wefreiddiol, yn y lle cyntaf, cael fy newis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, breuddwyd pob athletwr ifanc. Derbyniais lythyr o Balas Buckingham, gyda llofnod Dug Caeredin arno, a oedd yn Llywydd British Athletics, yn fy ngwahodd i gystadlu yn y ras 100 metr, y naid hir a’r ras gyfnewid, yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 1964. Hedfan am 32 awr, gan aros am gyfnodau o bum awr ar y tro. Roeddem yn Tokyo am oddeutu mis at ei gilydd, profiad gwych, byw gyda’r holl bobl eraill oedd yn ymwneud â chwaraeon a gwybod sut beth oedd bod mewn pentref Olympaidd.

Roedd y tywydd yn ddiarhebol. Diwedd mis Hydref oedd hi, tymor y glaw yn Japan. Fy nod oedd cyrraedd y ffeinal yn y naid hir ac efallai, yn y lle cyntaf un, cael medal efydd. Wnes i ddim meddwl y gallwn i guro’r ddau a oedd yn dal record y byd, sef Ralph Boston ac Igor Ter-Ovanesyan. Fy nod oedd cael medal efydd, ond ar y diwrnod ei hun roedd yr amgylchiadau yn waeth nag y gallech eu dychmygu, gwynt cryf, tywallt y glaw, trac cols mân a oedd yn torri drwy’r adeg. Roeddwn wedi ymarfer dan yr amgylchiadau hyn ar y trac awyr agored 400 metr yma yn UWIC, ymarfer rhagorol. Roedd yn rhaid imi ddisgwyl i’r gwynt ostegu ac yn y bumed rownd fe wnaeth hynny, ac fe es i ar y blaen, ac yna, y boen o ddisgwyl i Ralph Boston neidio am y tro olaf. Roeddwn i wedi cyflawni 8m 7cm yn fy mhumed rownd ac roedd ganddo un naid ar ôl. Daeth drwodd gyda rhywbeth fel 8m 3cm. Y Rwsiad, Igor Ter-Ovanesyan oedd nesaf, ei naid olaf, ac fe neidiodd a meddyliais, “O, dyna ni. Mae o wedi fy nghuro”, ond fe neidiodd 7m 98cm, felly roeddwn wedi cipio’r teitl Olympaidd o tua 5cm, diolch, i ryw raddau, i dywydd Cymru a gawsom yn Tokyo yn 1964.

munich 1972

Fe wnes i gystadlu mewn tri Gemau Olympaidd i gyd: Tokyo oedd y cyntaf; Mexico ’68 oedd yr ail; ac yna wrth gwrs y Gemau trist ym Munich, pan wnaeth terfysgwyr Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) feddiannu’r pentref a’r pedair awr ar hugain ofnadwy hynny pan gafodd tîm Israel eu herwgipio. Cawsom y profiad ofnadwy hwnnw o orfod disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd. Roedd gwleidyddiaeth wedi dod i mewn i’r Gemau a daeth yn llwyfan i’r grŵp terfysgwyr wneud eu datganiad. Pan oeddech chi yn y pentref roeddech chi’n ymwybodol fod rhywbeth wedi digwydd, hofrenyddion uwch ben, camerâu teledu. Clywsom fod y terfysgwyr wedi dringo dros y ffens yn oriau mân y bore, yn cario gynnau yn eu bagiau, ac wedi meddiannu pentref yr Israeliaid a’u dal yn wystlon ac, wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd. Cafodd pob un ohonynt eu saethu ar y maes awyr lle’r oedden nhw’n ceisio bargeinio gyda heddlu’r Almaen. Roedd yn drist iawn. Roedd y Gemau Olympaidd yn rhai trist iawn i fod ynddynt. Dywedodd Avery Brundage, Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (yr IOC) ar y pryd, na ddylai’r Gemau gael eu dal yn wystlon gan derfysgwyr, gan fasnacheiddiwch, gan yr un dylanwad allanol; eu bod yn gyfrwng gwych i bobl ifanc y byd, cyfrwng na allai gwleidyddion fyth ei ddyfeisio ac, felly, y dylid bwrw ymlaen â Gemau Munich, na ddylid eu canslo, fel yr awgrymwyd gan rai.

medalau aur y gemau olympaidd, ewropeaidd a’r gymanwlad

Teimlaf yn ffodus na chefais unrhyw anafiadau difrifol, fy mod wedi cael hyfforddwr arbennig o dda, cefnogaeth dda iawn gan fy nheulu a’m gwraig, mod i wedi teithio i bob gwlad yn y byd, bron iawn, ac, fel y dywedais, mod i wedi cael ychydig o lwc dda i ennill medal aur Olympaidd yn fy Ngemau cyntaf. Ychwanegwch at hynny Gemau’r Gymanwlad yn ’66, yn Kingston, Jamaica, a’r rhai Ewropeaidd yn Budapest, ennill medalau aur yno, gan roi i mi’r arbenigrwydd o fod yr athletwr cyntaf o Brydain i ddal medalau aur yn y Gemau Olympaidd, Ewropeaidd a’r Gymanwlad ar yr un pryd.

Am y pedair blynedd a arweiniai at y Gemau Olympaidd yn Montreal yn 1976, fe es i fyw i Ganada a gweithio fel Cyfarwyddwr Technegol i Canadian Athletics. Roeddwn yn Rheolwr Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Moscow yn 1980 a Gemau Los Angeles yn 1984, ac yna, yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd UK Athletics, dwi wedi bod yn Beijing ddwy flynedd yn ôl, yn Athen cyn hynny ac yn Sydney yn 2000. Lle’r oeddwn i’n ffodus, dwi’n meddwl, oedd mod i wedi cael boddhad mawr ac ymdeimlad o gyflawni yn sgil mynychu tri Gemau Olympaidd, ac o fod wedi ennill y fedal aur. Felly, erbyn 1972, teimlwn mod i wedi gwneud cyfiawnder â’m gyrfa mewn athletau.

anrhydeddau

Heddiw, fel Llywydd UK Athletics, yn y bôn, dwi’n cynorthwyo’r Prif Weithredwr a Chadeirydd ein Bwrdd. Dwi’n cadeirio’r Cyngor athletau; hon yw ein cangen ddemocrataidd, os hoffwch chi, oherwydd fod UK Athletics yn atebol i’r gamp ac, felly, mae’n rhaid imi weld fod yna archwiliadau a chydbwysedd rhwng yr aelodau – ein rhanddeiliaid – a’r corff llywodraethu. Dwi’n gweithio fel llysgennad, ac felly’n mynychu amrywiaeth o gyfarfodydd a digwyddiadau. Eleni, er enghraifft, roeddwn i’n Glasgow ym mis Ionawr, yna fe es i Sheffield ar gyfer y Pencampwriaethau Dan Do, yma yn UWIC ar gyfer cystadleuaeth y Cwpan Celtaidd y penwythnos diwethaf, ac yna, byddaf yn mynd i Baris ar gyfer Pencampwriaethau Dan Do Ewrop.

Dwi’n credu mai yn 1968 y cefais i’r fraint o dderbyn yr MBE gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ym Mhalas Buckingham, ac yna, dair blynedd yn ôl, oherwydd fy rôl fel Llywydd UK Athletics, cefais y CBE, unwaith eto gan Ei Mawrhydi ym Mhalas Buckingham.

Enillais Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ddwywaith, yn amlwg ar ôl ennill yng Ngemau Olympaidd ’64, ac yna, ddwy flynedd yn ddiwedd-arach, llwyddais i ennill teitl yng Ngemau’r Gymanwlad ac yn y Gemau Ewropeaidd, ac ennill y teitl drachefn. Ond wnes i erioed ennill gwobr genedlaethol y BBC. Ddim digon da mae’n debyg. Pobl arbennig ym myd chwaraeon sydd wedi ennill y wobr hon; i’w hennill mae’n rhaid i chi fod yn wirioneddol arbennig yn eich maes. Cawsom bedair medal aur Olympaidd yn ’64: Mary Rand, Ken Matthews, Ann Packer a minnau, felly nid oedd yn bosib iddyn nhw ei rhoi i bob un ohonom. Mary Rand gafodd y wobr yn y pen draw. Roeddwn i wedi ennill medal aur Olympaidd yn y naid hir, ond roedd hi wedi ennill y naid hir, wedi cael medal arian yn y pentathlon a medal efydd yn y ras gyfnewid 4x100, felly roedd ganddi set lawn, ac, ar sail hynny, hi a enillodd, ac iawn o beth hefyd.

cenedl sy’n hoff o chwaraeon

Mae’n bwysig i mi deimlo mod i’n Gymro. A minnau’n dod o gymuned lofaol fach yn Ne Cymru, cefais fy magu gydag ymdeimlad o Gymreictod o’m cwmpas ym mhob man, bob amser yn gydwybodol iawn ac yn falch iawn. A dwi’n teimlo fod pobl Cymru wedi bod yn falch iawn o’r hyn dwi wedi’i gyflawni, a dwi wastad wedi teimlo’n falch o allu rhannu’r llwyddiant hwnnw gyda phobl yng Nghymru. Mae’n rhyfeddol faint sy’n dal i fy nghofio yn ennill y fedal aur Olympaidd, yr holl flynyddoedd yn ôl.

Mae chwaraeon yn gyfrwng ardderchog i roi ymdeimlad o hunaniaeth i ni, pwy ydym ni, ein hymdeimlad o genedligrwydd. Pan ydych chi’n edrych ar lwyddiannau mawr Cymru yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad dros y blynyddoedd, mae pawb yng Nghymru’n uniaethu gyda’r bobl hynny ac yn teimlo ychydig bach yn well fod rhywun o Gymru yn gallu ennill. Mae’n rhoi ymdeimlad o hyder i ni, o ffydd. Credaf fod pobl yn mynd i’r gwaith ar fore Llun yn teimlo gymaint yn well am lle maen nhw, am y ffaith eu bod yn Gymry, am eu gwaith; mae’n rhoi anferth o hwb i bawb ohonom. Yn Llundain y flwyddyn nesaf, er enghraifft, os bydd Dai Greene yn ennill y ras 400 metr dros y clwydi, a gallai gyflawni hynny wrth gwrs - mae’r rhain yn Gemau cartref, ar drothwy’r drws, ddwy awr i ffwrdd - dyn o Gymru’n ennill medal aur yn Llundain, byddai hynny’n gwneud i bawb yng Nghymru deimlo’n dda.

Rydym yn genedl sy’n hoff o chwaraeon. Rydym yn frwd am chwaraeon. Yn ysbryd y genedl, mae yna angen mawr inni fynegi ein hunain. Gwelwn hyn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, mewn celfyddyd, mewn cerddoriaeth, mewn drama, mewn actio. Rydym yn cynhyrchu perfformwyr o fri; mae’n rhan o bersonoliaeth Cymry i berfformio.

Mae’n bosib fod hyn yn mynd yn ôl i ddyddiau’r Eisteddfodau a chystadlaethau canu mewn ysgolion; rydym yn cael ein dysgu i fynegi a chyflwyno ein hunain yn dda. A chredaf fod hynny i’w weld yn ein pêl-droed, ein rygbi, ein hathletau, ein nofio. Rydyn ni’n perfformio’n eithriadol o dda am wlad mor fach, ein cenedl fach o lai na thair miliwn o bobl; rydym yn cystadlu gyda gwledydd o drigain miliwn o bobl ac yn dal i ddod i’r brig.

2012 a thu hwnt

Yr hyn a ddysgodd Beijing i mi oedd yr effaith yr oedd arian y Loteri yn ei chael ar ein llwyddiant yn y wlad hon. Rydyn ni, bellach, yn mynd at weddill y byd ar yr un telerau; roedden ni’n cystadlu gydag Americanwyr, Ewropeaid ac athletwyr Dwyrain Ewrop gyda chefnogaeth lawn, gyda hyfforddiant da iawn, gyda chyfleusterau da iawn, gyda chefnogaeth feddygol, ffisiotherapi; ddim yn teimlo mai ni oedd y gwannaf, sef y sefyllfa fel ag yr oedd hi gynt. Daethom yn bedwerydd ar y tabl o fedalau yn Beijing, Prydain, ac roedd gan Gymru ran fawr i’w chwarae yn hynny.

A chredaf fod 2012 yn mynd i fod yn well fyth. Bydd y rhain yn Gemau cartref, a’r awgrym a geir ym mhob tystiolaeth yw fod nifer y medalau yn cynyddu’n sylweddol pan fydd gwlad yn cystadlu mewn Gemau Olympaidd cartref. Credaf ein bod, y flwyddyn nesaf, yn mynd i weld un o’r Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed yn y wlad hon. Gobeithio wir.

Mae llwyddiant yn magu llwyddiant, ac os gwnawn ni’n dda yn 2012, bydd yna genhedlaeth newydd o bobl ifanc sy’n mynd i gael eu cymell a’u hysbrydoli ac am fod yn awyddus i fynd i Rio i gystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf. Dyma’r etifeddiaeth y cyfeiriodd Seb Coe ati pan ddaeth y Gemau i Lundain, mai gwerth y Gemau Olympaidd yn amlwg yw cynhyrchu pencampwyr ac enillwyr, ond hefyd yr etifeddiaeth y mae’n ei gyflwyno i’r genhedlaeth i ddod, yr ysbrydoliaeth, y cymhelliant, yr awydd.

Cyfweliad gan Phil Cope, 2 Mawrth 2011 yn UWIC

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw