Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

TANNI GREY-THOMPSON
hanes athletwraig cadair olwyn

Tanni Grey-Thompson ydw i. Cefais fy ngeni ar 26 Gorffennaf 1969 yng Nghaerdydd, i rieni angerddol eu Cymreictod. Roedd fy mam yn gwirioni ar rygbi Cymru felly cefais fy magu mewn awyrgylch lle’r oedd llawer o chwaraeon. Cefais fy ngeni a spina bifida arna i. Roeddwn yn gallu cerdded tan oeddwn tua chwech, ond wedyn, yn raddol iawn, cefais fy mharlysu. Bryd hynny, roedd yr agwedd tuag at bobl anabl yn wahanol iawn. Roedd pobl anabl yn cael eu cadw dan glo. Doedd dim toiledau hygyrch yn unman. Doeddech chi ddim yn gweld pobl anabl ar y strydoedd.

Magodd fy rhieni fi i gredu nad fy mhroblem i oedd bod mewn cadair olwyn, ac os oedd yn broblem i unrhyw un arall, mater iddyn nhw oedd delio â hynny. Cefais fy magu i gredu y gallwn wneud unrhyw beth a ddymunwn. Etifeddais hynny i gyd gan fy mam. Rwy’n styfnig, rwy’n tynnu’n groes, rwy’n ddi-droi’n-ôl, yn teimlo’n angerddol am chwaraeon, yn angerddol am Gymru, ac rwy’n eithriadol o ddiamynedd. Dyna fi, yn gryno.

Penderfynodd fy nhad a’m mam y byddem yn cael cyfle i roi cynnig ar bethau. Dydw i ddim yn credu ei fod yn benderfyniad bwriadol, hyd yn oed; roedd yn fater o adael inni ganfod ein potensial. Nid oedd yn fater o beth na allem ei wneud; roedd i’w wneud yn fwy â’r hyn y gallem ei wneud. Roedd yn golygu rhoi’r cyfle inni i drïo, ac i archwilio, a gweld beth fyddai’n digwydd.

tiny!

Fy chwaer hynaf, Sian, roddodd fy enw imi. Cefais fy medyddio’n Carys Davina Grey, a, phan ddywedodd fy rhieni wrthi y byddai yna fabi arall, roedd hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn. Llongyfarchodd fy nhad a mam eu hunain ar fod yn rhieni mor wych, fod eu plentyn hynaf mor gall. Ond, pan ddes i adref o’r ysbyty, mae’n debyg i Sian sefyll yn ymyl y crud a dweud, “Uch, it’s tiny”, a throdd tiny yn Tanni, a buan iawn y penderfynodd fy rhieni ei bod yn llawer haws fy ngalw’n Tanni, oherwydd os oedden nhw’n ceisio dweud, “Na, Carys yw enw’r babi”, roedd Sian yn mynd yn flin. Roedd yn haws newid fy enw, felly dyna darddiad Tanni.

bod yn athletwraig

Drwy’r ysgol y dechreuais ymddiddori mewn chwaraeon, drwy’r gwersi Addysg Gorfforol. Roedd fy ysgol iau yn arbennig oherwydd roedden ni’n gwneud Addysg Gorfforol gynhwysol cyn bod neb yn gwybod ystyr y gair ‘cynhwysol’. Cefais fy annog i wneud gwahanol bethau. Hefyd, y tu allan i’r ysgol, roeddwn yn mynd i nofio a marchogaeth. Roeddem yn lwcus ein bod mewn sefyllfa i allu gwneud hynny, bod Mam yn gallu’n gyrru hwnt ac yma a’u bod nhw’n gallu fforddio rhoi’r cyfleoedd hyn inni.

Dechreuais mewn athletau pan oeddwn yn 13, eto drwy gyfle yn yr ysgol. Chwaraeais lawer o gampau gwahanol. Roeddwn yn berson cystadleuol iawn, a rhywbeth yn fy ngyrru, ond o’r funud y gwnes i athletau, dyna oeddwn i am ei wneud yn fwy na dim byd arall. O’r adeg yr oeddwn yn 13 oed, roedd pob penderfyniad a wnes wedi’i seilio ar y ffaith mod i am fod yn athletwraig. Es i Brifysgol Loughborough oherwydd chwaraeon. Dyna a bennodd pwy y byddwn yn ei briodi, athletwr (Ian Thompson). Trefnwyd ein priodas o gwmpas ein hamserlen gystadlu; seiliwyd genedigaeth ein merch o gwmpas ein hamserlen gystadlu. Ond doedd hynny byth yn aberth. Pe bawn i’n cael punt am bob person sydd wedi dweud, “Beth fu’n rhaid i ti ei aberthu i fod yn athletwraig?”, ond doedd dim, oherwydd dyna fûm i am ei wneud erioed yn fwy nag unrhyw beth arall.

Rwy’n meddwl – pan fyddaf yn edrych ar athletwyr eraill nad ydynt wedi cael eu dewis efallai neu nad ydynt wedi perfformio ar yr adeg iawn – fod bywyd fel athletwr mor fyr. Amser cyfyngedig sydd gennych i gyflawni. Nid oedd eisiau mynd allan, neu bartïa, neu wneud yr holl bethau hynny, erioed yn broblem. Oeddech, roeddech yn cael munudau pan fyddech yn gwneud hynny, ond, i mi, y cwestiwn mawr oedd, “Beth mae rhaid i mi ei wneud i fod yn gystal athletwraig ag y medraf fod, cyn imi fynd yn rhy hen?”.

A’r funud pan nad oeddwn am wneud hynny mwyach, dyna pryd yr ymddeolais.

cydnabyddiaeth

Yn ffodus, cefais i gydnabyddiaeth yn gynnar, oherwydd yn y rasys cyntaf y cymerais ran ynddynt, gwnes yn reit dda, wedyn cefais gwpl o flynyddoedd eraill pan oeddwn yn gwneud yn iawn. Roedd merch gref iawn yn f’ysgol i a oedd yn dda iawn, iawn am wibio ac roedd yn ennill popeth. Rwy’n cofio cystadlu yn y Gemau Iau pan oeddwn yn 16 – dyna fy Gemau Iau olaf – ac fe’i curais i hi. Roedd hynny’n sioc enfawr i bawb. Doeddwn i ddim yn gwybod y byddwn i’n dda ond gwyddwn mai dyna oeddwn i am ei wneud. Mewn gwirionedd, roedd cael cydnabydd-iaeth yn cyfrannu at y brwdfrydedd i aros yn y gamp oherwydd, rhwng 16 a 19 oed, mae’n reit anodd ac, wyddoch chi, bryd hynny doedd y cyfleusterau ddim cystal ag ydyn nhw nawr. Doedd dim cyllid ac roeddwn yn y Brifysgol, felly roedd ambell i sialens ar hyd y ffordd.
Dros amser, cynyddodd y gydnabyddiaeth honno’n raddol ac, erbyn Barcelona, fy ail Gemau Paralymp-aidd lle’r enillais bedair aur ac un arian, roedd llawer mwy o sylw ar y cyfryngau. Roedd y Gemau Paralympaidd yn cael eu dangos ar y teledu; roedd llawer amdanynt yn y wasg. Rwy’n reit lwcus a dweud y gwir fod y proffil ar y cyfryngau wedi cynyddu dros amser, felly cefais gyfle i ymaddasu iddo a dysgu ohono, ac ni wnaeth fy llethu’n sydyn a mynd yn drech na mi.

arwyr

Roedd gen i ddau fodel rôl. Un oedd Gareth Edwards, yr oedd fy mam wedi fy magu i gredu mai ef oedd y peth agosaf at berffeithrwydd ar y cae rygbi, oherwydd y ffordd y chwaraeai, ei hyder a’i allu i wneud i bethau ddigwydd … ond heb byth fod yn drahaus. Byddai fy mam wastad yn dweud wrthyf, “Beth fyddai Gareth yn ei wneud?”. Fy model rôl arall oedd Chris Hallam, yr athletwr cadair olwyn o Gymro o Gwmbrân a enillodd farathon Llundain yn 1985. Roedd yn sefyll allan am ei fod yn gwisgo dillad anghyffredin, llawer o brintiau llewpard a’i wallt wedi’i liwio’n felyn, cymeriad digon bywiog. Fe’i gwyliais ym marathon Llundain a dywedais wrth fy mam, “Rydw i’n mynd i wneud hynna, ryw ddiwrnod. Rwy’n mynd i wneud marathon Llundain”, a hithau’n dweud, “Ie, ie, wrth gwrs dy fod ti!”. Ac yna, dair blynedd yn ddiweddarach, roeddwn i ar y llinell gychwyn.

dim ond chwaraeon

Mae llawer o adegau anodd os ydych yn athletwr. Fe gollais i lwythi o rasys a, wyddoch chi, mae’n reit boenus pan fyddwch yn colli. Mae’n dysgu cymaint ichi amdanoch eich hunan, i allu dod yn ôl a bod yn gryfach. Cefais fy nysgu fel plentyn bach i beidio â cherdded i ffwrdd; does dim methiant mewn rhoi cynnig arni. Beth yw’r peth gwaethaf a all ddigwydd? Y methiant yw peidio â bod ar y llinell gychwyn, bod arnoch ofn colli. Ac, weithiau, mae ar bobl ofn ennill. Ond, mewn gwirionedd, wyddoch chi, dim ond chwaraeon ydyn nhw. Does neb yn marw, a phan fydd pethau’n mynd yn iawn, mae’n rhyfeddol, mae’n wirioneddol anhygoel. Ond, pan nad ydynt, mae’n gallu bod yn ddiflas.

Rwy’n credu, mwy na thebyg, mai’r un adeg wirioneddol anodd yn fy ngyrfa oedd pan oeddwn yn disgwyl a dywedodd amryw o bobl wrthyf, “Ddylai pobl fel ti ddim cael plant”, yn golygu defnyddwyr cadeiriau olwyn, a rhai pobl oedd yn credu na allech fod yn athletwraig ac yn fam, er ei bod yn hollol iawn bod yn athletwr ac yn dad! Dysgodd hynny gymaint imi amdanaf fy hun: “Meddylia y tu allan i’r bocs, paid â meddwl am yr holl bethau na alli di eu gwneud”. Roedd fy merch yn arfer dod i’r trac mewn pram neu gropian o gwmpas neu chwarae yn y pwll naid hir gyda bwced a rhaw. Cafodd fy merch ei geni yn 2002 ac roedd honno’n flwyddyn Gemau’r Gymanwlad. Yn fy ngyrfa fel oedolyn, dim ond ddwywaith y ces i gystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad, felly roedd yn her, dod yn ôl i fod yn ddigon ffit i gystadlu dros Gymru a gwneud cyfiawnder â fest Cymru. Ond roedd yn werth yr ymdrech. Mae fy merch yn casáu athletau. Mae’n meddwl mai dyna’r peth mwyaf diflas yn y byd. Dywedodd wrthyf yn ddiweddar – roedd hi’n rhedeg traws gwlad yn yr ysgol ac roeddwn yn ceisio egluro wrthi sut i reoli’i chyflymder dros filltir – edrychodd arna i a dweud, “Wyt ti erioed wedi rhedeg milltir, Mam?” A finnau’n gorfod dweud, “Na, dydw i ddim, ond rwy wedi gwthio llawer o filltiroedd”, a hithau’n mynd, “Yh!”. Rwy’n credu fod gennym berthynas reit iach!

nid yn anodd

Mae ymarfer yn ddiflas ac undonog a syrffedus ac oer a gwlyb, neu mae’n gallu bod felly, a chithau efallai wedi’ch gorchuddio â llysnafedd trwyn, ond mae hefyd, pan fydd yn mynd yn dda, yn gallu rhoi’r wefr fwyaf ichi, mae bron yr un fath â chystadlu o flaen 110,000 o bobl. Pan fyddwch wedi gwneud sesiwn ac wedi gorffen, ac rydych yn meddwl eich bod yn mynd i chwydu’ch perfedd wrth ymyl y ffordd, a chithau’n gwybod eich bod yn gwthio’n galed a’i fod yn syfrdanol, mae’n gwbl anhygoel. Rwy’n dwlu ar ymarfer. Nid y cystadlu’n unig sy’n bwysig. Roedd gen i rywfaint o dalent naturiol – mae angen hynny arnoch i fynd mor bell – ond, mewn gwirionedd, rwy’n credu mai’r hyn oedd gen i oedd y gallu i wneud imi weithio’n galed, i wneud y pethau nad oeddwn yn hoffi’u gwneud, y pethau nad oeddwn cystal am eu gwneud. Roeddwn braidd yn obsesiynol am hynny, felly, pan gefais fy merch, dim ond deg diwrnod o seibiant o’r hyfforddi ges i. Dyna berson â ffocws, person obsesiynol. Ond, os ydych eisiau bod yn y siâp gorau posib pan fyddwch ar y llinell gychwyn, os ydych eisiau gadael cyn lleied â phosib i siawns, does dim gwyddor gymhleth yn y peth, ond rhaid ymarfer ddwywaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos, pum deg wythnos y flwyddyn fwy neu lai gydol eich gyrfa. Dyna sydd rhaid ichi ei wneud os ydych am fod yn dda. A, hyd yn oed wedyn, efallai na wnaiff ddigwydd … ond, os na wnewch chi hynny, wnewch chi byth gyflawni.

bwyd

Roedd diet bob amser yn bwysig i mi yn fy ngyrfa. Rwy’n credu fod hynny’n rhannol oherwydd bod fy mam yn gogyddes wirioneddol dda. Roedd yn credu mewn bwyd ffres a chinio iawn bob nos, ac rwy’n credu fod hynny wedi cyfrannu at fy llwyddiant cynnar. Os nad ydych yn bwyta’r bwydydd iawn, chewch chi mo’r canlyniadau y pen arall. Mae’n siŵr ein bod ni’n ofalus, yn hytrach nag obsesiynol. Pan fyddaf yn siarad ag athletwyr ifanc am yr hyn y mae angen ichi ei wneud i fod yn athletwr, rwy’n dweud wrthynt, “Gallwch ymarfer yn wirioneddol galed ond os nad yw’ch diet yn iawn ac os nad ydych yn cael digon o gwsg a bod eich hydradu’n iawn a’r seicoleg, a’ch bod yn rhoi’r holl bethau hyn at ei gilydd, a dweud y gwir rydych yn gwastraffu’ch amser”.

Y peth gorau am fod wedi ymddeol yw y cewch chi fwyta pacedaid o fisgedi. Mae’n grêt! Yr anfantais yw – pan ydych wrthi’n gwneud 120 milltir yr wythnos ac yn y gampfa bum gwaith yr wythnos – dyna pryd y gallech fwyta pacedaid o fisgedi ac ni fyddai ots … nid ar ôl ichi ymddeol. Roeddwn yn poeni braidd pan ymddeolais a fyddai peth o’m hymddygiad obsesiynol yn trosglwyddo i’m bywyd ar ôl chwaraeon, ond, mewn gwirionedd, mae’r rhan fwyaf ohono wedi diflannu. Rwy’n dal yn styfnig ac yn annioddefol o galed arnaf fy hun, ond bu newid rhwng fy mywyd athletaidd a’m bywyd ar ôl chwaraeon.

seoul 1988

Fy llwyddiant cyntaf fyddai cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Seoul yn ’88. Doedd dim sicrwydd o bell ffordd y cawn i fynd. Roeddwn yn athletwr a oedd yn gwella; roeddwn yn cymryd camau breision ymlaen. Roedd yn rhywbeth yr oeddwn wedi breuddwydio y gallwn ei wneud ac rwy’n dal i gofio cael y llythyr a ddywedai, “Dear Tanni, Congratulations, you’ve been selected”. Roedd yn brofiad rhyfeddol bod gyda’r tîm, a ninnau ar ein ffordd i Corea. Roedd yn ddiwrnod ar yr awyren ac roedd llawer o bethau a oedd yn waith digon caled, ond roedd yn gyffrous iawn i ferch oedd wedi tyfu i fyny mewn rhan dawel iawn o Gaerdydd lle nad oedd llawer yn digwydd. Yn yr ychydig amser rhydd oedd gennym, wrth gerdded y strydoedd a gweld marchnadoedd stryd a swynfeddygon yn berwi draenogiaid byw i wneud moddion, roeddech yn meddwl, fyddai hynna ddim yn digwydd yng Nghaerdydd!

Enillais fedal efydd. Roeddwn ym Mhrifysgol Loughborough. Roeddwn ar fin dechrau fy ail flynedd ac eto rhoddodd hynny’r ysgogiad iawn imi ar yr adeg iawn i symud i lefel arall. Gwyddwn cyn gadael Seoul fy mod eisiau bod yn Barcelona. Ond nid dim ond yn Barcelona; roeddwn am fod yno ac yn ennill, yn ennill dro ar ôl tro!

barcelona 1992

Es i Barcelona yn ’92 ar ôl graddio yn ’91. Nid oeddwn wedi gallu canfod cydbwysedd da yn fy mlwyddyn olaf rhwng astudio a hyfforddi, felly roedd tymor ’91 yn reit galed. Gwnes yn iawn ond ddim yn wych, ond golygai’r ymdeimlad o ryddid a rhyddhad ar ôl graddio – rhywbeth a deimlodd fy nheulu i gyd hefyd, rwy’n meddwl – fod gen i flwyddyn i ganol-bwyntio. Roeddwn wedi bod yn ystyried mynd i’r Unol Daleithiau i astudio ym Mhrifysgol Illinois. Roedd ganddynt raglen rasio cadeiriau olwyn gref iawn. Ond penderfynais aros gartref, ac ymarfer. Erbyn imi gyrraedd Barcelona ym mis Medi 1992, roeddwn yn dal y record byd dros y 100, y 200, y 400 a’r 800 metr, a dyna’r pedair aur a enillais. Ac fe enillon ni’r fedal aur tîm 4x100.

Roedd cymaint o wahaniaeth rhwng Seoul a Barcelona o ran y sylw ar y cyfryngau, roedd wedi cynyddu ar ei ganfed. Roedd hynny yn rhannol oherwydd newyddiadurwraig anhygoel gyda’r BBC o’r enw Helen Rollason a benderfynodd ei bod am roi sylw i’r Gemau Paralympaidd, a hynny fel chwaraeon pur. Nid mater o, “Y bobl anabl druain hyn” ac “Onid ydyn nhw’n ddewr ac yn wych?”. Chwaraeon oedden nhw, a chafodd hi ddylanwad enfawr ar y ffordd y rhoddwyd sylw i’r Gemau. Rwy’n cofio ffonio gartref bob nos, ar ôl gwneud cyfweliadau i Blue Peter a Grandstand a Newyddion Cymru a Newyddion Llundain. Roedd yn amser anhygoeol i fod yno, i fod yn ennill, yn gwisgo fest Prydain.

Rwy’n meddwl fod Barcelona yn drobwynt i’r mudiad Paralympaidd, o ran trefniadaeth y Gemau. Roedd Seoul yn dda iawn ond dydw i ddim yn credu fod y cyhoedd yn llawn ddeall hanfod y Gemau Paralymp-aidd. Câi cefnogwyr eu cludo i mewn ar fysiau yng Ngemau Seoul, ond yn Barcelona, oherwydd y nawdd y tu cefn iddynt – fe’u noddwyd gan ONCE, elusen i bobl â nam ar eu golwg – yr hyn a gawsant oedd chwaraeon anabledd. Felly, bob nos, roedd 80,000 o bobl yn llenwi’r canolfannau, yn gwylio pobl anabl yn gwneud chwaraeon.

Aeth pawb ohonom i Atlanta yn disgwyl Gemau anhygoel ond, mewn gwirionedd, nid Gemau Paralympaidd a gafwyd. Fe gawson ni wahaniaethu ar sail anabledd, mynediad a hawl i addysg, yr holl agweddau gwleidyddol, ond doedd dim ots gan neb mewn gwirionedd am y Gemau Paralympaidd. Doedd dim sylw bron iddynt ar y teledu yn yr Unol Daleithiau ac er i ni gael llawer o sylw ar y teledu gartref, roedd y Gemau yn her. Felly, mae llawer o bobl yn meddwl, “Diolch byth am Sydney”, oherwydd cododd Sydney’r Gemau i lefel arall. Yn Athen, roeddem i gyd yn falch fod y canolfannau’n barod oherwydd roedd dyfalu a fyddent ai peidio, ond gwnaeth Beijing rywbeth anhygoel oherwydd fe lanwon nhw’r stadia. Gwnaethant waith aruthrol. Erbyn hynny, roeddwn yn eistedd yno yn gweithio i’r cyfryngau, yn gwylio athletwyr Prydain yn cystadlu, a gosododd Beijing safon uchel iawn i Lundain ei chyrraedd yn 2012. Mae wedi sefydlu’r Gemau Paralympaidd ar y tir yr oeddent yn ei haeddu erioed.

atlanta 1996

Roedd Atlanta’n Gemau gwirioneddol anodd i fod ynddynt am bob math o wahanol resymau. Roedd fy ngŵr – neu fy nghariad ar y pryd – yn cystadlu yno ac roedd wedi mynd i Atlanta yn gwthio’n anhygoel o dda, wel, mewn siâp arbennig, ond aeth pethau ar chwâl iddo yn reit gynnar yn y Gemau. Wnaeth hynny ddim effeithio’n arbennig ar fy mherfformiad i, ond roedd llawer o bethau a ddigalonnodd bawb. Enillais aur a thair arian. Yn wir, o safbwynt perfformiad pur, roeddwn yn gwthio’n anhygoel o gyflym. Torrais y record byd yn y 200, a chwalais fy ngorau personol i yn y 100, y 400 a’r 800.

Dysgodd Atlanta wers eithriadol o bwysig imi am y bobl sydd gennych o’ch cwmpas, oherwydd, pan ydych yn ennill mae pawb yn ffrind ichi, ond pan nad ydych yn ennill rydych yn gweld pwy yw’ch ffrindiau. Gwelais fod grŵp bach o bobl oedd yn credu ynof. Rwy’n cofio dod adref o Atlanta ac roedd dwy awyren yn dod yn ôl, a phenderfynodd un o reolwyr y tîm, yn lle awyren A ac awyren B, neu’r awyren gynnar a’r awyren hwyr, y byddai’n galw un yn awyren yr Enillwyr a’r llall yn awyren y Rhai a Gollodd – gwych i ysbryd y tîm! Yn wreiddiol, gan fod y tîm yn meddwl y byddwn yn ennill pedair aur, roeddwn ar awyren yr Enillwyr, yna ces fy israddio i awyren y Rhai a Gollodd, ac, er syndod i neb, doeddwn i ddim yn hapus iawn pan ddaeth yr un rheolwr tîm ataf a dweud fy mod wedi fy nyrchafu’n ôl i awyren yr Enillwyr tra oedd fy ffrindiau i gyd a’m darpar ŵr ar awyren y Rhai a Gollodd.

Felly, roedd yn amser anodd oherwydd, er i mi berfformio’n wirioneddol dda, yr argraff oedd fy mod wedi methu ac nad oeddwn wedi cyrraedd fy nharged. Roedd hynny’n wir, oherwydd roeddwn eisiau ennill pedair aur, ond mewn tair o’m pedair cystadleuaeth roedd rhywun a oedd yn gyflymach ac nid oes unrhyw beth y gallwch ei wneud ynglŷn â hynny. Treuliais amser hir yn ateb cwestiynau, pobl yn gofyn imi, “Ydych chi’n mynd i ymddeol?” neu’n dweud “Fe ddylech chi ymddeol”. “Pam?” “Rydych chi wedi gweld eich dyddiau gorau!” Ond dywedodd y grŵp bach hwn o bobl o’m cwmpas, “Gwna’r hyn rwyt ti am ei wneud.”

sydney 2000

Penderfynais yn gyflym iawn fy mod am ddyfalbarhau â’r freuddwyd o gystadlu dros Brydain Fawr, ac ennill medalau aur a thorri recordiau byd. Es oddi yno, ni thynnais sylw ataf fy hun am bedair blynedd, bûm yn ymarfer yn wirioneddol galed, yna’n galetach eto, ac erbyn imi gyrraedd Sydney, enillais bedair medal aur. Eto, roedd hynny’n gromlin ddysgu ddiddorol oherwydd ar ôl imi ennill fy medal aur gyntaf, byddai ychydig rhagor o bobl ar y tîm yn siarad â mi, ac ar ôl yr ail ychydig eto, a’r drydedd mwy eto, ac erbyn y bedwaredd roedd llawer o bobl yn dweud pethau clên. Ond anghofia i fyth y grŵp hwnnw o bobl oedd o’m cwmpas, oedd yn credu ynof fel unigolyn, ac a oedd yn onest – er nad ydych weithiau am glywed y gonestrwydd hwnnw.

Roedd Sydney yn wych oherwydd dealltwriaeth y cyhoedd o chwaraeon Paralympaidd. Mae athletwyr Paralympaidd Awstralia yn cael llawer iawn o gydnabyddiaeth, felly, roedd bod yno o flaen 100,000+ o bobl, yn ennill medalau, ac yn rasio’n dda hefyd – oherwydd weithiau gallwch ennill rasys er nad chi yw’r gorau yn y maes, neu byddwch yn ennill gydag amser araf – a minnau’n gwthio’n gyflym, yn arbennig. I mi, roedd ennill yn Sydney yn wych.

athen 2004

Felly, bedair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn cyrraedd Athen ac roeddwn yn meddwl, yn dawel bach wrthyf fy hun, mai’r rhain fyddai fy Ngemau Paralympaidd olaf. Fyddai Beijing ddim yn Gemau i mi.

Fy ffeinal gyntaf oedd yr 800 metr a chollais yn drychinebus. Gwnes benderfyniad ar amrantiad 120 metr i mewn i’r ras a hwnnw’n gamgymeriad – roeddwn wedi fy mlocio fy hun tu ôl i’r ferch arafaf yn y ras ac allwn i ddim dod allan. Gwyddwn gyda rhyw 420 metr i fynd nad oedd gobaith, roedd fy ras ar ben. Roeddwn wedi bod mewn sefyllfa ers nifer o flynyddoedd lle byddwn ar y blaen, yn rheoli. Er bod cymaint o ffordd i fynd, gwyddwn nad oedd gobaith imi adennill tir, ac roeddwn yn torri fy nghalon, roedd fy ngŵr yno ac roedd yntau’n torri’i galon, ac roedd fy rheolwr tîm yn torri’i galon. Clywais un newyddiadurwr yn dweud, “Roedd hynna’n smonach!”. “Diolch yn fawr iawn!” Rwy’n cofio pacio fy mag a theimlo mor isel, gadael y trac, a llwythi o gefnogwyr Prydeinig y tu allan yn dweud, “Roedd hynna’n smonach!”. “Oedd, rwy’n gwybod. Ro’n i yno.”
Yr hyn y mae rhaid ichi ei ddysgu fel athletwr yw fod gofyn ichi fod yn groengaled, oherwydd nid yw pobl yn golygu pethau’n bersonol. Maent yn dweud wrthych oherwydd rydych fel rhan o’u teulu; byddant yn siarad â chi fel aelod o’r teulu, gan fod yn onest iawn â chi. Felly, rhaid ichi ddweud, “Diolch yn fawr iawn. Mae hynny’n grêt”. Ond, rwy’n siŵr fod tua deg o gefnogwyr Prydeinig i gyd yn dweud wrthyf mor sâl oeddwn i, ac rwy’n cofio cyrraedd lle’r oedd fy nheulu a’m ffrindiau’n eistedd ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn crïo, yn meddwl mwy na thebyg, “Gallem fod wedi aros gartref a gwylio hyn”. Fy merch oedd yr un arbennig – roedd hi ychydig dros ei dwy ar y pryd – a dywedais wrthi, “Wnes di wylio ras Mami?” Atebodd Carys, “Naddo, ro’n i’n bwyta ci poeth!”. “Chwarae teg”, fel byddai fy mam wedi dweud, “Chwarae teg!”. A gwnaeth hynny imi weld y sefyllfa yn ei gwir olau. Nid yw un ras sâl yn eich gwneud yn athletwr sâl.
Roedd gen i dridiau cyn fy ffeinal nesaf, sadiais fy mhen ac yn y diwedd enillais ddwy fedal aur. Ymateb Ian i’r holl beth yw: “Wel, mae’n ychwanegu drama!”. Ydy, ond byddai’n dal yn well gennyf fod wedi cael medal efydd yn yr 800 neu fedal arian. Byddwn wedi bodloni ar ddod yn bedwerydd, ond mewn gwirionedd, wyddoch chi, does dim diben edrych yn ôl oherwydd mae gennych ganfed rhan o eiliad mewn ras 800 metr i wneud penderfyniad, a dyna sut mae hi. Fe ddysgais gymaint amdanaf fy hun eto, a chymaint am rasio. Roedd yn ffordd dda o orffen fy ngyrfa Baralympaidd. Byddai wedi bod yn braf cael ychydig llai o boen o dioddefaint … ond fel yna mae chwaraeon.

ymddeol

Es i Gemau’r Gymanwlad yn 2006 ond ches i ddim ras dda iawn. Des yn bedwerydd, yr ail dro imi ddod yn bedwerydd yng Ngemau’r Gymanwlad. Yn 2002, roedd yn bedwerydd da; yn 2006 roedd yn rhyw bedwerydd di-fflach. Doeddwn i ddim eisiau cystadlu dros Gymru na Phrydain Fawr yn teimlo nad oeddwn wedi rhoi pob tamaid ohonof fy hun, felly ymddeolais yn gynnar yn 2007. Roeddwn am ddewis pryd i ymddeol, roeddwn am ddewis y ras, roeddwn am ymddeol yn y DU, nid yng Ngemau’r Gymanwlad nac ym Mhencampwriaethau’r Byd nac yn yr Iseldiroedd, felly ymddeolais ym Manceinion, ac roedd y diwrnod olaf yn galed. Daeth fy hen hyfforddwraig, Jenny Banks o Awstralia, drosodd i wylio fy ras olaf ac roedd hynny’n reit emosiynol. Roedd fy nheulu yno a threuliais y rhan fwyaf o’r diwrnod yn crïo. Roedd Ian yn dweud drosodd a throsodd, “Fe alli di newid dy feddwl, ti’n gwybod, os nad wyt ti eisiau ymddeol. Does dim rhaid iti”, ac rwy’n cofio dweud wrtho, “Dydw i byth, byth, byth eisiau gwneud hyn eto!”, oherwydd pan fyddwn yn cystadlu, byddwn yn chwydu cyn pob ras. Arferai’r garfan feddwl fy mod yn colli arnaf oherwydd nerfau ond wnes i erioed boeni am y peth tan y ras olaf honno. Dyna oeddwn i’n ei wneud. Rwy’n cofio eistedd gyda’m pen mewn bin, yn meddwl, “Dydw i ddim eisiau dal i chwydu, dydw i ddim eisiau teimlo’n ofnus, dydw i ddim eisiau ...”, a doeddwn i erioed wedi teimlo hynny tan y funud honno, pan darodd y cyfan fi ac roeddwn yn teimlo, “Dyna ni, rwy wedi darfod”. Dyna’r peth gorau imi ei wneud oherwydd, pe bawn wedi dal i fynd, fyddai Beijing ddim wedi bod yn iawn i mi fel athletwraig. Ni fyddwn wedi gallu anrhydeddu f’ymrwymiad i dîm Prydain Fawr.
Roeddwn wedi colli’r ewyllys i ymarfer. O ran oedran, byddwn wedi bod yn iawn. Roedd yna athletwyr hŷn na mi, a oedd yn ennill. Yn gorfforol, roeddwn mewn cyflwr reit dda, hynny yw, roedd gen i ambell i boen, ysgwyddau, penelinoedd, ond os ydych wedi bod yn ymarfer yn galed am oddeutu ugain mlynedd dyna sy’n digwydd. Yn fy mhen yr oedd yr hyn oedd yn lladd yr awydd i ymarfer. Doedd yr awch ddim yno mwyach. Fues i erioed yn athletwraig oedd yn edrych yn ôl neu’n dweud, “Iawn, dyna wnes i, mae hynny’n iawn”. Roeddwn bob amser yn edrych yn feirniadol iawn ar yr hyn roeddwn wedi’i wneud a bob amser yn edrych ymlaen i weld sut y gallwn fynd yn gyflymach, sut y gallwn fod yn well, a sut y gallwn geisio ennill o fwy. Des yn ôl o Athen ac roeddwn yn meddwl, “Roedd hynna’n iawn”. Ac rwy’n cofio meddwl, cwestiynu fy hun, “Beth wyt ti’n ei olygu, roedd hynna’n iawn?”, a gwyddwn mai dyna’r adeg y dylwn roi’r gorau iddi. Mae’n debyg y gallwn i fod wedi mynd i Beijing drwy ymarfer wyth neu naw gwaith yr wythnos ond, mewn gwirionedd, roedd hynny’n mynd yn groes i bopeth yr oeddwn yn credu ynddo. Dylech ymarfer nerth eich calon a’ch enaid, ac i mi roedd hynny wedi mynd. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny mwyach.

beijing 2008

Pan es i Beijing, roedd llawer o bobl yn ofalus iawn o’m cwmpas oherwydd doeddwn i ond wedi ymddeol ddeunaw mis ynghynt. Roedd yna bobl yn meddwl na ddylent ofyn imi sut yr oeddwn yn teimlo am fod yno rhag ofn imi ddechrau beichio crïo, ond, mewn gwirionedd, roedd yn wych. Roeddwn wrth fy modd. Roedd yn brofiad gwefreiddiol gwylio’r merched y bûm i’n cystadlu yn eu herbyn am ugain mlynedd. Roedd yn wirioneddol cŵl eu gwylio nhw’n rasio ac yn ennill neu ddim yn ennill, a mynd drwy’r emosiynau. Roedd y tamaid bach lleiaf ohonof a fyddai efallai, a dim ond efallai, wedi dymuno bod yno pe bawn i’n ffit, ond roeddwn i’n gwybod, erbyn Beijing 2008, fod y ffitrwydd wedi mynd, roedd popeth wedi mynd. Doeddwn i ddim eisiau bod yno’n cystadlu a minnau heb fod ar fy ngorau, a gorffen 150 metr y tu ôl i weddill y merched dros 800 metr. Doeddwn i ddim eisiau cyrraedd diwedd fy ngyrfa a meddwl, “O na bawn i wedi gwneud mymryn yn rhagor yn Atlanta”, oherwydd, wrth edrych yn ôl, am 99% o’m gyrfa doedd dim byd yn rhagor y gallwn i fod wedi’i wneud. Felly, dyna pam oedd eistedd yn Beijing, yn gwylio, yn cael y fraint o wylio athletau drwy’r dydd, bob dydd, yn lle reit braf i fod ynddo.

o wibio i’r marathon

Un o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn imi amlaf, hyd yn oed nawr, yw sut mae gwibiwr yn gwneud marathon, a na, yn ymarferol, fyddai Linford Christie ddim erioed wedi rhedeg marathon, a fyddai Sally Gunnell ddim wedi rhedeg marathon, pan oeddent ar binacl eu ffitrwydd corfforol. Fel camp, rydym yn llawer tebycach i feicio nag i redeg. Rydym yn defnyddio cyfarpar a momentwm sydd raid i ni ei oresgyn nid disgyrchiant, felly unwaith ichi gyrraedd eich cyflymder eithaf, mae llawer o ffyrdd o chwarae gyda chynllun y gadair, y rhimynnau gwthio, y ffordd yr ydych yn gwthio a’ch techneg i gadw’r cyflymder eithaf hwnnw i fynd. Mae mwy neu lai yr holl dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio yn dod o fyd beicio, ac mae’r ffordd yr ydym yn ymarfer, y ffordd yr ydym yn rasio, y tactegau ar y ffordd ac ar y trac yn dod o fyd beicio. Felly, rwy’n meddwl, gyda’r marathon, roeddwn i’n un o’r arbenigwyr gwibio yn y Tour De France. Rydych yn dal eich gafael yn ddygn yng nghefn y pac am 26 milltir ac os oeddwn yn dal yno ar 26 milltir, roeddwn yn dal i allu mynd amdani drwy wibio. Pe bawn i’n colli tir rhyw filltir i mewn i’r ras, roedd hi wedi canu arnaf fwy neu lai. Mewn gwirionedd, mae pellteroedd hir iawn a byr iawn yn ategu’i gilydd; nid yw’r stamina a’r dechneg y mae eu hangen arnoch ar gyfer gwibio ond yn dod drwy wneud milltiroedd lawer ar y ffordd ac ar gefn hynny fe allwch wneud nifer fach o farathonau da. Roeddwn yn reit ofalus; roeddwn yn dewis fy marathonau’n ofalus; dewisais y cyrsiau oedd yn gweddu i mi. Roedd marathon Llundain yn un o’r cyrsiau oedd yn gweddu i mi, marathonau gwastad.

Mae’n debyg fod fy ngyrfa marathon wedi para rhyw 14, 15 mlynedd, ac enillais farathon Llundain chwe gwaith, a des yn ail a thrydydd mewn rhai marathonau eraill o gwmpas y byd, yn Berlin a dinasoedd mawr eraill. Ond, Llundain oedd y cwrs oedd yn gweddu i mi ond, mae’n chwith gen i ddweud, mae’n cael ei gynnal ar adeg ddiflas o’r flwyddyn. Rhaid ichi ddyrnu arni’n galed drwy’r gaeaf cyn marathon Llundain ym mis Ebrill, ac mae llawer iawn o droadau. Pan oeddwn i’n gwneud y ras, roedd y cobls yn dal ynddi, ond roedd llawer o gefnogaeth Brydeinig oedd yn ei gwneud yn hwyl i gymryd rhan ynddi. Mae’n siŵr imi gael mwy o farathonau sâl nag o rai da yn Llundain, ond mae’n debyg fy mod yn fwy adnabyddus fel rhywun sydd wedi cystadlu’n dda ym marathon Llundain nag ar y trac. Serch hynny, rhaid gofyn a oeddwn i, mewn gwirionedd, yn dda am rasio mewn marathonau? Fe ges i rai rasys da ond yr hyn yr oeddwn i’n wirioneddol dda arno oedd rasio ar y trac.

ffocws

Rwy’n credu mod i’n athletwraig dda am fod gen i ffocws ac am fy mod yn ymarfer yn galed, ac rwy’n styfnig. Wnes i ddim gadael i lawer o ddim fy rhwystro. Pan feddyliwch chi cyn lleied o bobl sy’n ceisio cystadlu dros Gymru neu Brydain Fawr sydd mewn gwirionedd yn cyrraedd y nod o wisgo tracwisg Prydain, mae’n fraint enfawr. Pe bawn yn adio’r holl amser a dreuliais ar y trac yn fy ngyrfa Baralympaidd at ei gilydd, wyddoch chi, y munudau a’r eiliadau pan oeddwn yn rasio, tua ugain munud o’m bywyd yw, felly nid yw ond y tamaid lleiaf ar frig y pyramid. Rhaid ichi wneud yr holl bethau eraill hynny, eich ymarfer, haf a gaeaf, a chymhwyso, ac rydych yn gwneud hynny oll i baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a’r Pencampwriaethau Ewropeaidd a Byd. Ond, i mi, y Gemau Paralympaidd oedd y pinacl.

cyffuriau

Mewn chwaraeon Paralympaidd, nid yw cyffuriau wedi gafael yn yr un ffordd ag mewn chwaraeon Olympaidd. Rwy’n credu fod sawl rheswm gwahanol am hynny. Pe bawn yn hollol onest, os ydych yn mynd i dwyllo gyda chyffuriau a hynny’n llwyddia-nnus iawn, mae’n costio llawer o arian, nid yn unig i brynu’r cyffuriau a phrynu’r asiantau, ond hefyd i gael rhywun sy’n deall pethau, ac nid oes cymaint o arian mewn chwaraeon Paralympaidd. Ydy pobl anabl yn wahanol i bobl nad ydynt yn anabl? Nac ydynt. A wnaiff pobl anabl dwyllo? Gwnân, fe wnân nhw, ond rwy’n credu inni fod yn lwcus yn y mudiad Paralympaidd gan ein bod wedi dysgu llawer gan y mudiad Olympaidd yn y Ffederasiynau Rhyngwladol wrth iddynt fynd drwy’u prosesau o ganfod a phrofi athletwyr, a’u dal. O bryd i’w gilydd, bydd athletwyr anabl yn cael eu dal yn cymryd cyffuriau ond rydym mewn lle reit dda. Mae angen o hyd inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud llawer o waith gydag athletwyr ifanc, nid yn dweud wrthynt i beidio â chymryd cyffuriau oherwydd dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n gweithio – mae’n naïf dweud, “Peidiwch â chymryd cyffuriau”. Rhaid egluro wrth athletwyr y penderfyniadau y bydd gofyn efallai iddynt eu gwneud. Mae athletwyr yn gwneud miloedd ar filoedd o benderfyniadau bob blwyddyn heb feddwl amdanynt. Fyddech chi ddim yn coelio mor dueddol yw athletwyr o ddifetha eu gyrfaoedd eu hunain, ac rwy’n credu fod rhaid inni eu haddysgu i ddeall y canlyniadau: “Os yw hon yn gamp rydych chi’n dwlu ar ei gwneud, dyma ganlyniadau cael eich dal … ac fe gewch chi’ch dal. Efallai na chewch eich dal ar unwaith ond fe wnaiff ddigwydd!”. Gwn wrth inni nesáu at Lundain a’r tu hwnt fod y meini prawf profi a’r ffyrdd o ddal athletwyr yn gwella drwy’r amser.
Does dim lle mewn chwaraeon i dwyllo drwy gymryd cyffuriau a, phe bawn i’n cael fy ffordd, byddwn yn rhoi gwaharddiad oes i bob un sy’n gwneud hynny. Ddylech chi ddim cael yr hawl i wneud hynny eto.

Fûm i yn bersonol erioed mewn ras lle’r oeddwn yn credu fod athletwraig yn cymryd cyffuriau. Efallai fod athletwyr eraill o gwmpas y byddwn yn edrych arnynt gan feddwl, “O, sgwn i”. Ond bûm mewn rasys gydag athletwyr oedd wedi dweud celwyddau am eu dosbarth, sy’n ffordd wahanol o dwyllo mewn chwaraeon Paralympaidd – mae lawer iawn yn rhatach, nid yw’n hynod o niweidiol i’ch iechyd, ac, os cewch eich dal, ni chewch eich gwahardd o’r gamp. Rydych yn cael eich symud i ddosbarth gwahanol. Mae llawer o wiriadau a chroeswiriadau ond, o bryd i’w gilydd, mae pobl yn llithro drwy’r rhwyd.
Pan ymddeolais o gystadlu, gofynnwyd imi ymuno â bwrdd Athletau’r DU a chymerais amser hir i feddwl am hynny. Yn y pen draw, dywedodd ffrind da iawn wrthyf, “Tanni, mae gen ti ddau ddewis. Un ai rwyt ti’n ymuno â’r bwrdd neu rwyt yn cau dy geg, a pheidio byth â chrybwyll athletau eto, oherwydd alli di ddim gwrthod y cyfle ac yna ladd ar athletau o’r tu allan”, a dywedais innau, “Ie, rwyt ti’n iawn”, felly ymunais. Sylweddolais na fyddai’n bosib byth imi roi’r gorau i siarad am athletau. Fel rhan o’r broses honno gofynnodd ein Prif Weithredwr imi edrych ar ein gweithdrefnau a’n polisïau gwrthgyffuriau a’r gwahanol gamau y caiff athletwyr eu tywys drwyddynt.

Mewn chwaraeon, pan fyddwn yn siarad am gyffuriau, rydym wastad yn meddwl am y canlyniad yn y pen draw, rydym wastad yn meddwl am rywun yn cael ei ddal ac am hyd eu gwaharddiad a beth fydd hynny’n ei olygu o ran eu gyrfa i’r dyfodol. Ond, pan ddechreuais ymchwilio i hyn, ac edrych arno ychydig yn fwy cyfannol, hanfod y peth mewn gwirionedd yw nad ydym am i athletwyr o Brydain gael eu gwahardd, nad ydym am iddynt gael eu taflu allan o’n camp. Rydym am iddynt fod wrthi’n cystadlu ac yn cystadlu i’w potensial. Wedyn, rhaid ichi fynd â hynny yr holl ffordd yn ôl at yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’n hathletwyr o’r adeg y cânt eu sefydlu yn y garfan, drwy eu hyfforddiant, eu haddysg, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr hyn y dylent ei wneud, a rhoi arweiniad cadarnhaol iddynt am y dewisiadau y maent yn eu gwneud ym myd chwaraeon. Ac wedyn, os ydyn nhw’n gwneud dewis gwael, ydych, rydych yn gorfod edrych ar y canlyniadau. Felly, cymerodd yr adolygiad flwyddyn o’m bywyd. Roeddwn wrth fy modd, roedd yn her wirioneddol, ond rwy’n gobeithio ein bod wedi sefydlu rhai pethau a fydd yn arwain ac yn cefnogi athletwyr. Ni allwch atal pobl rhag gwneud dewisiadau gwael ond byddwn yn eu helpu, yn eu tywys ac yn eu cefnogi, ac os byddant yn gwneud penderfyniadau gwael mae math gwahanol o gymorth ar gael. Os ydynt yn mynd yn gaeth i gyffuriau adloniant, yn hytrach na’u taflu allan o’r gamp a’u hanwybyddu, rydym yn rhoi cymorth iddynt i gael pethau yn ôl i drefn. Mae’n llinell fain rhwng dymuno cael gwared ag athletwr sydd wedi torri’r rheolau a’u cefnogi drwy’r hyn sydd yn adeg anodd iawn yn eu bywydau, ond rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod rheidrwydd ar y gamp i roi hynny iddynt.

dai’r pysgodyn

I mi mai’r holl gystadleuaeth yma am bwy sydd â’r nifer fwyaf o fedalau aur yn wirioneddol ddigri. Am dipyn, fi oedd yr athletwr Prydeinig oedd wedi ennill y nifer fwyaf o fedalau, wedyn fi oedd yr athletwraig Brydeinig oedd wedi ennill y mwyaf o fedalau. Os oes rhywun arall yn mynd i fynd â’r fantell, rwy am iddo fod yn rhywun o Gymru. Ond, mewn gwirionedd, wnes i erioed gystadlu i fod y sawl sy’n ennill y nifer fwyaf o fedalau aur oherwydd, pe bawn wedi gwneud hynny, byddwn wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn cael fy siomi. Roeddwn yn cystadlu i ennill cynifer â phosib o rasys, i guro’r merched eraill oedd yn rasio yn f’erbyn, ac i fod cystal ag y medrwn fod fel athletwraig. Mae’r holl siarad arall yn ddigon braf ond nid yw’n bwysig iawn i fi. Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i bobl eraill; mae’n bwysig mwy na thebyg i’m teulu oherwydd, iddyn nhw, mae’r teitl yna o fod â’r nifer fwyaf o fedalau yn wirioneddol bwysig. I mi, mae’r un fath â recordiau byd, maent yn dod ac yn mynd, dim ond am ychydig y maen nhw’n eiddo ichi. Does gennych chi ddim hawl i ddal eich gafael arnynt. Rydych yn lwcus os ydynt yn para ychydig fisoedd ar ôl ichi orffen eich gyrfa; os ydynt yn para mwy na hynny rydych yn wir yn athletwr breintiedig iawn.

Medalau sy’n amlygu mewn sylwedd ichi ennill, a dydw i byth am eu colli, ond wyddoch chi, pe bai fy nhŷ’n llosgi’n ulw, dydyn nhw ddim yn agos at frig y rhestr o bethau y byddwn yn eu hachub. Felly, byddaf yn bloeddio hwrê i Dave ac yn ei annog i ennill mwy o fedalau na mi. Rydw i am i athletwyr o Gymru, athletwyr o Brydain, wneud yn dda, rydw i am iddynt guro pawb arall yn y byd. Byddwn yn wirioneddol hapus i Dave gael y teitl hwnnw oherwydd ei gyfrifoldeb ef wedyn fydd delio ag ef. I mi, fel athletwraig, does dim y gallaf ei wneud yn awr, a minnau wedi hen roi’r gorau i gystadlu – does gen i ddim rheolaeth dros hyn. Rwy’n berson sy’n hoffi rheoli beth bynnag, felly mae’n amser da i drosglwyddo’r teitl i rywun arall, am ba hyd bynnag y bydd hynny.

cymru

Mae un realiti absoliwt, sef os ydych yn ennill rydych yn Brydeiniwr, ac os ydych yn colli rydych yn Gymro. Treuliais y rhan fwyaf o’m gyrfa yn teithio’r byd gyda phobl yn dweud, “Chi yw tîm Lloegr”. “Na, tîm Prydain ydyn ni”, a byddai gweddill aelodau’r garfan yn mynd, “O nefoedd, dyma hi’n dechrau ar y wers hanes, eto”, a minnau’n dechrau egluro’r gwahaniaeth rhwng y Deyrnas Unedig a Phrydain Fawr. I mi, mae hynny’n reit bwysig. A’r holl bethau bach hynny, pryfocio, eich galw’n “Taff” nes i Gymro arall gyrraedd ac wedyn doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud gan nad oeddent yn ddigon dyfeisgar i feddwl am lysenw Cymreig arall. Ond mae’r cyfan yn cyfrannu mewn ffordd tuag at greu’r cryfder sydd ei angen arnoch pan fyddwch ar y llinell gychwyn, mewn lle digon caled.

Byddai wedi bod yn braf cael y cyfle i gystadlu gwpl rhagor o weithiau dros Gymru fel oedolyn, ond nid oedd hynny i fod. Nid oedd dim y gallwn ei wneud am hynny, felly i mi cystadlu dros Brydain oedd yr hyn yr oeddwn yn anelu ato, oherwydd dyna oedd y peth uchaf y gallwn ei gyflawni fel athletwraig. Enillais i erioed yn fest Cymru. Byddai wedi bod yn anhygoel. Mae Cymru’n gwneud yn llawer gwell nag y dylai yn ôl yr herwydd, o ystyried maint ein cenedl.
Os edrychwch chi ar gyfraniad Cymru i dîm Prydain, ar y medalau o Gymru, mae’n rhyfeddol, ond, mewn gwirionedd, rydym ninnau’n elwa o fod yn rhan o dîm Prydain, rydym yn elwa o noddwyr a fyddai efallai yn ystyried eu hunain yn Saeson, rydym yn elwa o’r gefnogaeth, o’r gwmnïaeth. Felly, mae gen i farn ranedig ar hyn.

Rwy’n credu ein bod yn lwcus fod gennym bethau fel Gemau’r Gymanwlad. Efallai y byddai’n braf gwneud hynny ym Mhencampwriaethau’r Byd, hefyd. Roeddwn i wastad yn gwneud yn siŵr, pan fyddwn yn ennill yn fest Prydain Fawr, fy mod yn cael tynnu fy llun gyda’r ddraig goch ar y llinell derfyn. Ond mae rheolau chwaraeon yn rhyfedd iawn y dyddiau hyn. Does dim hawl i ddal dim ond baner Cymru neu’r Alban, rhaid ichi ddal baner Jac yr Undeb hefyd. Roeddwn wastad yn gwneud yn siŵr fod draig a Jac yr Undeb rywle’n agos ataf ar y llinell derfyn.

Mae bod yn Gymraes yn eithriadol o bwysig imi. Rwy’n credu o ddifrif, pe na bawn wedi cael fy ngeni a’m magu yng Nghymru, na fyddwn wedi cael y gefnogaeth na’r yrfa a gefais, oherwydd y cyfryngau yng Nghymru. Ac roedd Chris Hallam o Dde Cymru yntau wedi torri’i gwys o’m blaen i.

Un o’r profiadau rhyfeddaf a gefais erioed oedd symud i Loegr, oherwydd fy ngŵr, ac yna’n dechnegol roeddwn yn preswylio yn Lloegr a gallwn, mewn gwirionedd, fod wedi cystadlu dros Loegr ym Manceinion. Dywedodd rhywun o Gemau’r Gymanwlad Lloegr wrthyf, “Felly, rwyt ti’n mynd i gystadlu dros Loegr”. “Nac ydw.” “Ond rwyt yn preswylio yn Lloegr.” “Ie?” Roedd rhyw ragdybiaeth y byddwn am fod yn Saesnes. Yn gyntaf, byddai fy mam wedi fy lladd. Dydw i ddim yn Saesneg. Dydw i’n bendant ddim yn Saesnes. Cymraes ydw i, a Phrydeinwraig. Rwy’n gymysgedd ryfedd, yn dibynnu ar sut rwy’n teimlo ar y pryd, rhywle yn y canol rhwng y ddau. Ond fydda i byth yn athletwraig o Loegr ac mae’n debyg fod y math hwnnw o obsesiwn yn rhedeg yn ddwfn. Roeddwn yn byw yn Lloegr ond yn feichiog, ac roedd hynny’n iawn oherwydd, er mai Sais yw fy ngŵr yn dechnegol, mae’n dod o Swydd Efrog felly nid yw ef yn credu ei fod yn Sais, chwaith. Ond des nôl i Gymru i gael fy mabi rhag ofn mai bachgen fyddai a rhag ofn y byddai ganddo ryw lygedyn o ddawn rygbi. Rwy’n gwybod y byddai bod yn Gymraes o fam yn ddigon iddo allu chwarae dros Gymru ond roeddwn am wneud yn siŵr. Ond, wyddoch chi, does ganddi hi ddim llawer i’w ddweud wrth chwaraeon ac mae’n meddwl fod yr holl beth braidd yn ddiflas.

ti oedd tanni grey-thompson

Mae argraffiadau pobl ohonof bob amser yn fy rhyfeddu. Nid yw’r cyhoedd yn gweld cymaint o ymdrech sy’n mynd i fod yn athletwr; y tameidiau y maen nhw’n eu gweld yw’r tameidiau gwirioneddol braf, yr ennill, neu efallai y tameidiau llai braf o golli. Maent yn gweld ambell gipolwg o’ch bywyd ond nid ydynt yn gweld y pyramid oddi tano. Hyd yn oed nawr, mae’n rhyfeddol. Bydd rhywun yn dod ataf yn y stryd ac yn dweud, “Tanni wyt ti, ynte?” neu “Ti yw’r ferch yna oedd yn arfer gwneud y marathon”, neu daeth rhywun ataf yr wythnos o’r blaen a dweud, “Ti oedd Tanni Grey-Thompson, ynte?”. “Wel, Tanni Grey-Thompson ydw i o hyd!”. Ac mae’n dal yn rhyfeddol, mae’n hyfryd. Rwy’n cael llythyrau gan bobl ifanc neu rieni’n dweud, “Wyddoch chi, mae fy merch yn gwneud chwaraeon o’ch achos chi”, ac mae hynny’n fy nghyffwrdd. Rwy’n gobeithio na wnaf fyth flino ar hynny. Rwy’n gweld rhai athletwyr sydd wedi syrffedu ar hynny, ond rydw i’n meddwl ei fod yn ganmoliaeth fawr. Wnes i erioed feddwl pan oeddwn yn 14 y byddwn yn landio yn Nhŷ’r Arglwyddi? Naddo, wrth gwrs.

Roedd yn rhyfeddol bod yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru oherwydd dydych chi ddim yn gwybod, does gennych chi ddim syniad nes – neu’n sicr doedd gen i ddim – nes i’ch enw gael ei gyhoeddi. Rydych yn mynd i eistedd ac yn disgwyl ac yn ceisio pwyso a mesur beth mae pawb arall wedi’i wneud ac rydych yn meddwl, “O, gafodd Gareth well blwyddyn na fi?” a “Beth wnaeth Calzaghe eleni?”. Mae’n wirioneddol cŵl ond mae hefyd yn hollol frawychus. Mae’n un o’r pethau hynny yr ydych yn dymuno wedyn y gallech fod wedi’i fwynhau’n fwy, ac rwy wastad yn difaru na roddais well araith ddiolch. Rydw i mor paranoid, wnes i erioed gynllunio araith ddiolch rhag ofn na fyddwn yn ennill, oherwydd alla i ddim meddwl am ddim byd gwaeth na bod ag araith ddiolch wedi’i pharatoi ac yna nad oes gofyn ei defnyddio. Cefais gyd-gyflwyno cwpl o’r seremonïau, a gweld wyneb y sawl oedd wedi ennill, yn dod i fyny ar y llwyfan ac yn cael y tlws. Mae’n braf bod ar yr ochr arall. Rwy’n credu ein bod ni’n gwneud hynny’n dda ym myd chwaraeon yng Nghymru: rydym yn dathlu llwyddiannau pobl ifanc ac yn dathlu chwaraeon tîm a llwyddiannau unigol.
Ac yna cael DBE, a chael fy ngalw y Fonesig Tanni. O na bai fy mam heb farw cyn i hynny ddigwydd, o na bai hi wedi cael gweld hynny, byddai wedi bod mor ... byddai wedi dweud wrth bawb yn y stryd, pa un a oedden nhw am wybod ai peidio.

2012

Bydd mynd i 2012 yn wirioneddol anodd oherwydd mae llawer iawn o ddata ystadegol sy’n dangos fod gwledydd sy’n cystadlu ar dir cartref yn rhagori ar y disgwyliadau. Roedd hynny’n grêt tan Beijing ac yna, yn Beijing, rhagorodd y tîm Olympaidd a’r tîm Paralympaidd ar y cyfrif medalau, ac rydych yn dod oddi yno’n meddwl, “Sut mae hyn yn mynd i ddigwydd?”. Ond yng Nghymru, mae rhai strwythurau eithriadol wedi cael eu sefydlu. Rwy’n dal i gredu mai Cymru yw’r gorau o’r gwledydd cartref o ran datblygu chwaraeon, o safbwynt bwydo doniau amrwd drwy’r twndish er mwyn iddynt gyrraedd y lefel elît. Mae gennym gymaint i fod yn falch ohono, y gallai llawer o wledydd eraill ar draws y byd ddysgu ohono. Wyddoch chi, hyd yn oed yn Lloegr a’r Alban, does ganddyn nhw mo’r systemau sydd gennym yng Nghymru. Mae hynny’n fy ngwneud yn falch iawn o fod yn athletwraig o Gymru. Mae’r Cyngor Chwaraeon a’r Cynulliad yn cydnabod mor bwysig yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o ddoniau.
Rwy’n falch iawn i Lundain ennill y Gemau ar gyfer 2012 – byddwn i’n dweud hynny, oni fyddwn, a finnau’n rhan o dîm y cais.

Rydw i yn Singapore yn eistedd mewn neuadd gyda Llundain ar un ochr a Pharis yr ochr arall, ac rwy’n eistedd nesaf at Seb Coe, ac ni all y naill na’r llall ohonom afael yn ein gwydryn dŵr gan fod y ddau ohonom yn crynu. Mae gennych wên ffals – rhyw wên seremoni’r Oscars – ar eich wyneb ac rydych yn dweud, “O, does dim ots os na enillwn ni” ac o’r ennyd yr agorodd Jacques Rogge yr amlen a dweud ymhen ychydig, “London”, aeth pawb ohonom yn wallgof.

Roedd yn anhygoel oherwydd yr ymrwymiad i ddau Gemau cydradd eu statws. Mae’r gwaith a wnaeth Beijing yn gosod her wirioneddol inni ond rwy’n credu y gallwn ymateb iddi. Ni chaiff y Gemau Paralymp-aidd byth eto lithro’n ôl i fod yn bobl anabl, druain, yn rhoi cynnig arni, “Onid ydyn nhw’n hyfryd? Onid ydyn nhw’n wych?”. Chwaraeon fydd y ffocws, a dyna’r cyfan yr ydw i wedi’i ddymuno erioed.

rhoi rhywbeth yn ôl

Yr hyfforddwr cyntaf fu gen i oedd dyn o’r enw Roy Anthony, yng Nghlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd e wastad yn arfer dweud, “Os ydych chi’n cael rhywbeth allan o chwaraeon yna rhaid ichi roi rhywbeth yn ôl”, a chafodd hynny ei bwnio i’n pennau, ac rwy wedi ceisio byw yn unol â hynny, drwy roi rhywbeth yn ôl. Gwn fod llawer o bobl sy’n dymuno na fyddwn yn rhoi rhywbeth yn ôl, ond y peth yw ceisio gwneud rhywbeth a gwneud yn siŵr nad yw’r bobl ifanc sy’n dod drwodd yn ymladd am rai o’r pethau yr oeddwn i’n ymladd amdanynt yn 19. Mewn rhai ffyrdd, rydym wedi symud ymhell ac mewn ffyrdd eraill mae gennym ffordd bell i fynd eto.

Rwy wedi cael cynnig i wneud llawer o bethau ac mae hynny’n wych, boed hynny’n ymddangos ar rywbeth fel A Question of Sport sy’n reit cŵl, neu gael gwahoddiad i ymweld â gwledydd eraill i helpu pobl i feddwl yn wahanol am chwaraeon. Rwy’n rhan o gwpl o fudiadau / elusennau gwahanol sy’n defnyddio chwaraeon i helpu pobl i newid. Un ohonynt yw International Inspiration sy’n gysylltiedig â 2012 ac mae’n gobeithio newid bywydau pum miliwn o bobl ifanc drwy chwaraeon, drwy eu hannog i gymryd rhan a hyfforddi a gweinyddu. Mae hyn mewn gwledydd lle nad yw chwaraeon yn cael ei annog fel arfer efallai i ferched, neu lle caiff ei annog hyd at 13 ac yna, wrth i ferched aeddfedu a thyfu, mae’n cael ei ystyried yn rhywbeth nad yw’n dda i gymdeithas. Nid mater o fynd i wlad arall a dweud, “Dyma ydyn ni’n ei wneud. Rhaid i chi ei wneud fel hyn”, mohono. Gallwn ninnau ddysgu llawer hefyd. Yn weddol ddiweddar, es i Wlad Iorddonen a gwelais enghreifftiau anhygoel o Addysg Gorfforol gynhwysol lle’r oeddent yn gwneud pethau na fyddem byth yn eu gwneud yn y wlad hon oherwydd iechyd a diogelwch, a doedden nhw ddim wedi bod ar y cwrs hwn a’r cwrs acw ... ac mae pethau y gallwn ni eu dysgu ganddyn nhw.

Y mudiad arall rwy’n gweithio gydag ef, ac yn un o’r ymddiriedolwyr, yw mudiad o’r enw Lorius, sef Sefydliad Chwaraeon er Daioni, sy’n defnyddio chwaraeon i newid bywydau pobl ifanc. Grŵp yw o 42 o gyn-athletwyr, hen begoriaid erbyn hyn a oedd i gyd yn llwyddiannus ym myd chwaraeon. Yn eu plith mae Martina Navratilova, Boris Becker, Ed Moses, Bobby Charlton, Seb Coe. Rydym yn cefnogi 76 o brosiectau ar draws y byd ac yn mynd allan i godi arian, yn ei daflu i’r pot byd-eang ac yna, drwy chwaraeon, rydym yn helpu pobl ifanc i ddelio ag iechyd rhywiol, trais, troseddau gynnau, troseddau cyllyll, tlodi. Nid yw’n mynd i newid y byd ar unwaith, ond mae’n mynd i helpu ac mae’n mynd i wneud i bobl feddwl yn wahanol.

Yr ymweliad mwyaf pwerus imi fod arno oedd ymweliad â Rwanda ychydig yn ôl. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl. O fewn dwy awr i fod yn y wlad, aethant â fi i ardal hyfryd o barc; cofeb hil-laddiad oedd hi lle claddwyd 250,000 o gyrff, ac nid oedd hwnnw ond un o saith safle yn Kigali lle’r oedd cofeb hil-laddiad. Roedd hynny’n brifo i’r byw. Des oddi yno y noson honno a gweld pobl ifanc yn mwynhau chwaraeon, pobl ifanc oedd wedi cael eu hanafu’n greulon yn yr hil-laddiad, pobl ifanc o wahanol gymunedau yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’i gilydd, yn siarad a dysgu, yn deall ac yn gwellhau yn rhannol.

Pe bai rhaid imi roi tri gair i ddisgrifio fy hun byddwn yn dweud styfnig, yn ddi-droi’n-ôl ac roeddwn yn mynd i ddweud byth-cweit-yn-hapus-â’r-hyn-rwy-wedi’i-wneud! Llwyth o gysylltnodau! Ac wastad-yn-edrych-i’r-dyfodol!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw