Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

DAVID MORGAN
hanes codwr pwysau

Ganwyd fi yng Nghaergrawnt yn 1964. Roedd fy nhad yn Gymro, a’m mam yn Saesnes. Ganwyd fy nhad ym Mhontypridd a dyna pam mai i Gymru y bues i’n cystadlu.

Roeddwn yn reit fach pan o’n i’n ifanc. Wel, dydw i ddim yn fawr iawn nawr, dim ond pum troedfedd wyth modfedd. Credwch neu beidio, fuodd gen i erioed lawer o ddiddordeb mewn chwaraeon yn yr ysgol. Doedd gen i ddim diddordeb mewn pêl-droed na chriced. Un o’r pethau yr oedd gen i ddiddordeb ynddo oedd llyfrau comics ac archarwyr a phobl sydd â phwerau arbennig. Roeddwn yn arfer cael comics Marvel a darllen am Spiderman a’r Incredible Hulk, a byddwn yn breuddwydio am gael rhyw fath o bŵer goruwchnaturiol fy hun. Ryw ddiwrnod, roeddwn yn darllen rhifyn diweddaraf Marvel ac roedd hysbyseb ynddo y bydd rhai pobl yn ei chofio, efallai. Hysbyseb y Charles Atlas Dynamic Tension Bodybuilding Course oedd hi. Yn fyr, dyma stori’r boi sy’n cael tywod wedi’i gicio’n ei wyneb ar y traeth a’r pishyn yn dwyn ei gariad; mae yntau’n mynd oddi yno ac yn gwneud cwrs Charles Atlas, yn newid ei hun, yn rhoi crasfa i’r bwli ac yn ennill y ferch yn ôl ac, er nad yw’n wleidyddol gywir, roedd yn apelio ata i ar y pryd. Felly, anfonais am y cwrs a dechreues wneud yr ymarferion yn f’ystafell wely, gan anadlu’n ddwfn o flaen ffenest agored bob dydd a gwneud cannoedd ar gannoedd o ‘press-ups’ bob dydd, a dechreuodd fy nghorff newid, er mawr syndod imi.

Yna yn 1975, es i weld ffilm o’r enw Pumping Iron. Seren y ffilm oedd Arnold Schwarzenegger ac, ar y pryd, nid oedd yn enwog o gwbl. Roedd yn llawer mwy o ddyn na Charles Atlas ac roedd wedi datblygu’i gorff drwy ddefnyddio pwysau.
Meddyliais innau, “Wel, falle fod defnyddio dim ond pwysau’r corff ei hun yn cyfyngu arnaf; falle dylwn i ddechrau codi pwysau”. A dyna wnes i, nid i fod yn seren Olympaidd nac i fynd i Gemau’r Gymanwlad, ond er mwyn gwneud fy nghorff yn fwy, a bod yn berson cryfach.

Dros amser, dechreuais gymryd mwy o ddiddordeb yn y cynnydd yn fy nghryfder ac mewn cynyddu maint y cyhyrau. Yn 1978, gwelais y cystadlaethau codi pwysau yng Ngemau’r Gymanwlad ar y teledu a meddyliais camp mor wych oedd hi. Ar ôl hynny newidiais o geisio magu cyhyrau mwy i geisio magu cryfder.

pwy ydy’r boi yma o Gymru?
Yn 1979, bûm yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Prydain a llwyddais i ennill, ond nid ennill oedd y peth mwyaf arwyddocaol. Y peth mwyaf arwyddocaol oedd imi gwrdd â dyn o’r enw Den Welch oedd yn rhedeg yr Empire Sports Club ym Mryste, a oedd yn gartref i lawer o bencampwyr. Mae wedi marw erbyn hyn ond gwelodd fy mhotensial a gofynnodd imi fynd yno dros wyliau’r haf a dywedodd y byddai’n fy hyfforddi. Felly mi es i, a byw ym Mryste, gan ymarfer ddwywaith y diwrnod, ac yn 1982 es i Gemau’r Gymanwlad. Rwy’n credu mod i’n 17. Roedd gan Den lawer o ffydd ynof erioed a byddai wastad yn dweud, “Rwyt ti’n mynd i ennill!” Yn 1978, roeddwn yn ceisio ennill fy lle ar gyfer Gemau’r Gymanwlad; yn 1982, roedd y dyn yma’n dweud wrthyf y gallwn ennill! Os wy’n onest, doeddwn i ddim yn credu hynny’n llwyr … ond yr oedd e.

Mae dau godiad ym maes codi pwysau, y cipiad a’r codi a hwbio. Ar ôl cystadleuaeth y cipiad, roeddwn yn arwain o saith kilo a hanner ac roeddwn i’n ysgafnach o ran pwysau na Bill Stellios, yr Awstraliad, y pencampwr ar y pryd. Es i’r toiled rhwng y ddwy elfen ac roeddwn yn eistedd yno, yn ymlacio, yn paratoi ar gyfer y codi a hwbio. Roedd cwpl o Awstraliaid yno a’r rheini’n dweud, “Pwy ydy’r boi yma o Gymru, David Morgan? Mae’n arwain o 10k a dydw i erioed wedi clywed amdano!”, ac fe roddodd hynny dipyn bach o hyder i fi.

Felly, es i godi a hwbio, ac roedd Den, fel arfer, yn hynod o hyderus a dewisodd y pwysau iawn bob tro. Roedd yn rownd olaf gyffrous oherwydd roedd yr Awstraliad ychydig yn gryfach na mi yn yr ail gymal, ond y cwestiwn oedd, oedd e 10k yn gryfach?

Fe orffennais i ar 162 a hanner, a olygai fod rhaid i’r Awstraliad gael 172 a hanner. Wnaeth e ddim ac roeddwn wedi ennill Gemau’r Gymanwlad! Allwn i ddim credu’r peth! Wedyn es i’r Gemau Olympaidd yn 1984 a dod yn bedwerydd. Rhyw bedwerydd ffug oedd hynny mewn ffordd gan i’r rhan fwyaf o’r gwledydd Comiwnyddol gadw draw. Ond roeddwn yn dal yn falch o ddod yn bedwerydd. Dim ond 19 oeddwn i. Roeddwn yn falch o fod yno.

Yn 1986 roedd Gemau’r Gymanwlad, yng Nghaeredin y tro hwn, a fi oedd y ffefryn. Roeddwn yn cystadlu yn erbyn Awstraliad arall, Robert Kabbas, a aeth yno wedi ennill medal Olympaidd arian. Roedd pobl yn disgwyl pethau mawr ganddo, ond fe’i maeddais i e ac roedd hynny’n deimlad da iawn.

Yna, daeth Gemau Olympaidd 1988, yn Korea, a des yn bedwerydd ond, mewn gwirionedd, dylwn fod wedi dod yn ail o leiaf a, mwy na thebyg, os wyf yn onest â mi fy hun, yn gyntaf … ond nid felly y bu. Yn anffodus, cefais ddysentri bythefnos cyn y cystadlu. Treuliais wythnos yn yr ysbyty ac yna cefais wythnos i ymarfer, ond gwanhaodd hynny fy mherfformiadau fymryn ac mae’n debyg, o’m holl siomedigaethau, mai honno oedd y fwyaf gan fy mod yn teimlo y dylwn fod wedi ennill.

1990, Gemau’r Gymanwlad, aur eto; 1994, Gemau’r Gymanwlad, aur eto. Fe es i i’r Gemau Olympaidd yn ’92 ond roedd gennyf anaf i’m clun felly tipyn o drychineb oedd hynny. Wedyn, dyma 1998 yn cyrraedd, amser diddorol i mi oherwydd dysgais wers reit fawr bryd hynny. Roeddwn yn ymarfer yn galed ond roeddwn wedi mynd yn hunanfodlon, wedi colli’r awch. Roedd un neu ddwy agwedd o’r ymarfer nad oeddent yn mynd yn dda ac yn lle cydnabod hynny a gwneud rhywbeth ynglŷn ag ef, roeddwn yn rhyw wthio’r peth i gefn fy meddwl gan ddweud, “Bydd popeth yn iawn ar y noson”. Ond doedd pethau ddim yn iawn ar y noson, ac enillais fedal arian pan ddylwn fod wedi ennill yr aur a’r rheswm oedd, nid yn gymaint fod fy mhen wedi chwyddo, ond mod i’n or-hyderus. Fe es i braidd yn wirion a meddwl, “Rwy’n well na phawb arall”.

Os tynnwch chi’ch troed oddi ar y sbardun buan iawn y cewch chi’ch taro lawr, ac roedd hynny’n wers werthfawr i fi. Bu bron i hynny â rhoi terfyn ar fy ngyrfa codi pwysau, a bod yn onest. Roeddwn yn siomedig iawn oherwydd, pe bawn wedi ennill yn 1998, arwyddocâd hynny fyddai fy mod wedi cael pum medal aur ac mae hynny’n unigryw, nid dim ond i godi pwysau ond i chwaraeon. Pan ddechreuais ar fy ngyrfa codi pwysau roedd dau beth yr oeddwn yn dyheu am eu gwneud ac un ohonynt oedd gwneud rhywbeth unigryw – byddai ennill pum medal aur wedi gwireddu hynny. Y llall oedd torri record byd.

fe alla i wneud hynny
Es i ddim i’r gampfa am flwyddyn ar ôl hynny. Roeddwn mor flin â fi’n hun ac yna – onid yw’n rhyfedd fel mae pethau’n digwydd a phobl yn dod i’ch bywyd ac yn newid pethau – ffoniodd ffrind o godwr pwysau fi, yn 1999, a dweud, “Rwy wedi trefnu ffleit i Glasgow. Ry’n ni’n mynd am benwythnos o yfed”, a minnau’n ateb, “Fel mynni di”. Felly fe aethon, ond doedd e ddim yn mynd â fi am benwythnos o yfed o gwbl. Roedd yn mynd â fi i Bencampwriaethau Codi Pwysau’r Meistri. Aeth â fi yno y diwrnod roedd fy nosbarth i’n cystadlu. Torrodd y dyn yn fy nosbarth i record byd a dywedodd yntau, “Fe alli di wneud hynny”. Dywedais innau, “Na, does gen i ddim diddordeb.”. Dywedodd, “Fe alli di dorri’r recordiau hyn”. Beth bynnag, allan â ni a dechrau ar noson o yfed ac ar ôl chwe pheint, dywedais, “Fe alla i wneud hynny!”, a dechreuais ymarfer eto.

Yn 2000, euthum i Florida. Enillais Bencampwriaethau Codi Pwysau’r Meistri a thorrais y record byd, felly dyna un nod wedi’i gyrraedd. Cymerodd bron i ddeng mlynedd ar hugain imi dorri record byd, ond gwnes hynny o’r diwedd, ac i’m meddwl i dyna ddiwedd ar hynny. Wedyn dechreuais gael negeseuon gan wahanol bobl ac roedd un ohonynt oddi wrth Myrddin John. Mae’n reit gynnil yn y ffordd y mae’n gwneud pethau. Anfonodd restr safleoedd Gemau’r Gymanwlad ataf a roeddwn i’n bedwerydd. Oddi tano roedd nodyn bach yn dweud, “Gweithia ychydig bach yn galetach, a falle gallet ti ennill dy bumed Gemau”.

Ar y pryd, roeddwn yn gweithio’n galed ac, a bod yn onest, fu gen i erioed yr arian i allu neilltuo’r amser. Roedd gen i lawer o ffrindiau da drwy fy musnes hyfforddi personol, ac fe wnaethon nhw i gyd grynhoi’r arian roedd ei angen arnaf i hyfforddi ar gyfer y Gemau.

Gallwn ysgrifennu llyfr am yr hyfforddi a wnes ar gyfer 2002 a’r holl bethau anhygoel a ddigwyddodd i’m galluogi i wireddu fy nod eithaf. Cefais bob math o anafiadau y llwyddais i’w goresgyn; a methodd pobl a oedd, yn ddamcaniaethol, yn mynd i godi mwy na mi brofion cyffuriau ac roeddent allan o’r gystadleuaeth. Cipiais 145 – digon da roeddwn i’n meddwl i ennill y fedal aur – a daeth yr Awstraliad, oedd wedi methu pob codiad paratoadol, allan a chipio 147 a hanner, a finnau’n meddwl. “Dyna ni. Dydw i byth yn mynd i ennill aur eto.”. A bu bron imi â pheidio. Bu bron imi beidio â mynd ymlaen i godi a hwbio, ond dywedodd Den, “Dalia i fynd. Gwna’r codi a hwbio”. Dyna wnes i, gyda 160 kilo oedd yn rhoi cyfanswm o 305 imi. Yn fy mhen meddyliais, “Wel, dyna ni. Arian yw hi ar y cipiad, efydd ar y codi a hwbio, ac efydd ar y bwrdd mae’n siŵr. Dyna ni.”.

Roedd y gystadleuaeth yn dal i fynd ac es i i gael cawod, gwisgo fy nhracwisg fel y byddwn yn edrych yn dda pan fyddai pawb yn cael eu medalau, wyddoch chi, a sychu fy ngwallt. Wrth imi ddod allan o’r gawod, dywedodd codwr arall, “Wel, tair arian. Roedd yr Awstraliad yn ceisio curo’r Indiad a rhoddodd ormod o bwysau a methu un codiad.” Meddyliais innau, “Iawn, tair arian. Mae ychydig yn well”, felly es allan a chefais y tair medal arian. Doedd y dyn o Awstralia ddim yn siarad â neb. Fe allai fod wedi cymryd pwysau ysgafnach ac ennill, wyddoch chi. Gwnaeth yn union yr un fath ag a wnes i yn 1998; fe dorrodd y rheolau; anghofiodd wneud yr hyn y dylech ei wneud i ennill medalau ac, yn lle defnyddio’i ymennydd a dilyn y fformiwla – cymryd y pwysau ysgafnaf sy’n ofynnol i ennill y gystadleuaeth ac wedyn, os ydych yn dymuno, mynd am record – aeth ei ego yn drech nag ef.

Beth bynnag, erbyn min nos, roedd yn siarad eto ac fe benderfynon fynd am beint gyda’n gilydd. Roeddem yn eistedd yno a dywedodd, “Fedra i ddim coelio’r holl bethau sydd wedi digwydd i ti wrth i’r Bencampwriaeth agosáu. O wybod dy lwc di, bydd yr Indiad sydd wedi cael y fedal aur yn methu prawf cyffuriau a byddi di’n ennill yr aur.” Dair wythnos yn ddiweddarach, cefais neges destun gan Michaela Breeze: “Rwyt ti wedi cael yr aur!” Es i Ceefax, a fedrwn i ddim credu’r peth. Meddyliais, “Fe gymra i hynny!”. Felly, fe wnes i ennill Gemau’r Gymanwlad bum gwaith, sy’n beth unigryw, ac fe dorrais record byd.

nid hud a lledrith mohono
Un o’r camgymeriadau mae llawer o bobl yn ei wneud, yn enwedig pobl iau, yw eu bod eisiau i bopeth ddigwydd nawr ond y gwir yw nad yw popeth yn digwydd nawr. Mae pethau’n cymryd amser. A’r gwirionedd creulon arall yw, gydag unrhyw beth sy’n digwydd nawr ac yr ydych yn ei gael heb unrhyw ymdrech, na fyddwch byth yn ei werthfawrogi beth bynnag. Bydd pobl yn dweud wrthyf, “Rwyt ti wastad mewn hwyliau da. Rwyt ti wastad yn hapus. Beth yw’r gyfrinach?”, a byddaf finnau’n dweud, “Y gyfrinach yw cael nod, a gweithio tuag at eich nod bob amser, ceisio gwella’ch hun mewn rhyw ffordd bob amser, fel eich bod yn tyfu fel person”. Mae hynny’n golygu nid dim ond yn gorfforol, ond yn feddyliol hefyd. Yr ail gam yw cael rhywbeth i edrych ymlaen ato bob amser; gallai hynny fod yn drip i’r theatr neu wyliau neu beth bynnag. Rwy’n 45 ac rwy’n dal i godi pwysau trwm, rwy’n gwthio pwysau oddi ar y fainc ac yn codi pwysau marw, a bob blwyddyn rwy’n ceisio gwella rhywbeth. Rwy’n meddwl fod hynny’n dda i’r enaid.

Dydw i ddim yn meddwl fod unrhyw un wedi bod yn fy ngwarchod. Ond roedd gen i nod penodol ac rwy wedi dal i weithio tuag ato, er gwaethaf pob cnoc. Nid mater o hud a lledrith mohono. Os nad yw rhywbeth yn gweithio, newidiwch ef, daliwch i symud ymlaen ac, yn y pen draw, byddwch yn ennill. Felly rydw i wedi gweld, beth bynnag.

dewis cymru
Dros Gymru y bues i’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad. Roedd gen i ddewis i gystadlu dros Loegr neu Gymru. Roedd fy nhad am imi gystadlu dros Gymru felly dyna wnes i. Roeddwn yn falch o gystadlu dros Gymru. Roeddwn hefyd yn falch o gystadlu dros Brydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Dydw i ddim yn siŵr fod Cymru wedi dathlu rhyw lawer ar fy llwyddiant, a dydw i ddim yn siŵr beth yw’r rheswm am hynny. Rwy’n credu mai ar ddau achlysur yn unig dros yr wyth mlynedd ar hugain diwethaf rwy wedi cael fy ngwahodd i noson Personoliaeth y Flwyddyn, Cymru. Roeddwn wedi disgwyl bod ar y rhestr fer yn 2002 ar ôl ennill mewn pump o Gemau gan fod hynny yn unigryw nid yn unig i Gymru, ac nid yn unig i fyd codi pwysau, ond yn unigryw i chwaraeon.

Cefais fy nghyfweld unwaith gan gyfwelydd radio a ddywedodd wrthyf, “Dwyt ti ddim wedi ennill cynifer o fedalau aur â Thorpe, y nofiwr”, a dyma finnau’n dweud, “Wel, y rheswm am hynny yw, ym myd codi pwysau, nid yw’n bosib. Does yna ddim 25 o ddigwyddiadau gwahanol. Enillodd Thorpe ei fedalau ar ddau achlysur yng Ngemau’r Gymanwlad, sy’n golygu ei fod ar frig ei gamp am bedair blynedd, tra enillais i bum medal mewn pum Gemau dros ugain mlynedd. Dydy’r gymhariaeth ddim yn un deg.”.

Dydw i ddim yn chwaraewr tîm, fûm i ddim erioed a fydda i byth. Cyn belled ag ydw i’n bod – ac mae hyn yn mynd i swnio fel pe bawn i’n ben mawr – all neb ymarfer mor galed â mi, ac ni wnaiff neb ymdrechu i’r un graddau â mi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw