arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

DAVID ‘DAI’R PYSGODYN’ ROBERTS
Hanes nofiwr

Cefais fy ngeni yng Nghymoedd y Rhondda, ym Mhontypridd, ar y 25ain o Fai 1980, ac ar hyn o bryd dwi’n byw ym Mae Caerdydd. Dwi wedi nofio dros Gymru ers pan oeddwn yn un ar ddeg oed, a thros Brydain am y pymtheg mlynedd diwethaf. Dwi wedi bod i’r tri Gemau Olympaidd diwethaf ac wedi teithio dros y byd i gyd fel nofiwr.

parlys yr ymennydd
Pan dwi’n nofio, dydw i ddim yn gwybod fy mod wedi deifio oddi ar y bloc nes bydda i yn yr awyr. Pan dwi’n gwthio oddi ar y wal, dydw i ddim yn gwybod fy mod i’n symud nes bydda i’n gweld y teils yn mynd i’r cyfeiriad arall. Felly, mae’n rhaid i mi fod ychydig yn fwy gofalus. Ond dydw i ddim yn ystyried fy hunan yn anabl. Dwi’n gweld fy hunan fel fi. Mae parlys yr ymennydd yn dag sydd yn dod gyda fi gan mai dyna’r cyflwr sydd arna i. Ond dydw i ddim yn berson anabl. Dwi mor abl ag unrhyw un ohonoch chi.
Does dim rheswm penodol am barlys yr ymennydd hyd y gwyddon ni; mae’n brinder ocsigen adeg eich geni neu ar ryw adeg yn eich bywyd. Mae llawer o bobl yn cael damweiniau ffordd ac yn cael niwed ar eu hymennydd, ac yn y pen draw maen nhw’n cael parlys yr ymennydd gan nad ydynt wedi cael digon o ocsigen. Does dim ffordd o’i wella.

Dywedwyd wrtha i fy mod i’n drwsgl. Dywedwyd wrth fy rhieni eu bod nhw’n rhy amddiffynnol ac fy mod i’n drwsgl. Dim ond pan welon ni feddyg ymgynghorol o Great Ormond Street y dywedwyd wrtha i, “Na, dwyt ti ddim yn drwsgl. Dyma’r anabledd sydd arnat ti a dyma sut y bydd yn effeithio arnat am weddill dy fywyd”. Fe darodd popeth a ddywedodd e’r diwrnod hwnnw pan oeddwn i’n un ar ddeg oed yr hoelen ar ei phen. Adeg hynny, doedd fy nhraed i ddim yn troi i mewn, ond fe ddywedodd e, “Wrth i ti fynd yn hŷn, fe fydd dy draed yn troi i mewn, ac yn y pen draw fe fyddan nhw’n torri eu hunain”, ac maen nhw wedi gwneud hynny ddwywaith, felly roedd e’n iawn.

Serch hynny, doeddwn i ddim yn cael fy nhrin yn wahanol o gwbl gan fy ffrindiau. Roeddwn i’n dal i ddringo coed a chwarae pêl-droed, rygbi, a gwneud popeth yr oedden i yn ei wneud fel arfer. Ond roedd yn golygu fy mod yn arfer mynd i weld ffisiotherapyddion lawer yn amlach … ac fe ddechreuais wneud mwy o nofio.
Fe ddes i’n nofiwr yn hollol ddamweiniol. Roeddwn i’n mynd i ffisiotherapi ac roedd pobl yn dweud wrthyf drwy’r amser fod angen imi wneud rhywbeth, neu – oherwydd fy anabledd – fe fydden i mewn cadair olwyn yn y pen draw. Roeddwn i’n arfer meddwl fod dringo coed yn hwyl, ond nag oedd mae’n debyg. Felly, fe ddywedodd fy ffisio wrthyf am fynd i glwb nofio i’r anabl yng Nghaerdydd. Fe es i. Fe ges i un wers ac roeddwn i’n well na’r person oedd yn fy nysgu. Felly, fe ymunais â’r clwb. Fe enillais bob ras y gallwn i, a dwi wedi dal ati i nofio ers hynny.

y gorau
Dwi wedi bod i Gemau Olympaidd, Pencampwriaethau Byd, Pencampwriaethau Ewrop a, fy ffefryn i, Gemau’r Gymanwlad. Dwi’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn edrych ar waelod pwll a’r holl deils lliwiau gwahanol, y gallu i adael gweddill y byd allan a ffocysu’n llwyr ar fy hunan, achos dydy nofio ddim fel chwaraeon tîm. Does dim rhaid i mi boeni am weddill y tîm, dim ond am fy hunan, a dwi’n eitha hoff o hynny.

Yn amlwg, byddwn i’n hoffi bod y gorau. Dyna beth sy’n fy ysbrydoli i fod yn well, felly dyna pam y byddaf yn mynd i Lundain i geisio ennill un fedal aur arall. I ennill yr un fedal aur arall yna, i guro Tanni Grey, dyna’r unig beth sy’n fy ngyrru ymlaen, i gael fy adnabod fel y gorau, ddim yn gydradd.

Ond, ar ddiwedd y dydd, mae Tanni yn athletwraig wych ac mae hi’n rhywun mae pobl ledled y byd yn edrych i fyny ati a’i pharchu am yr hyn a wnaeth hi mewn chwaraeon, ac mae’n braf cael fy ngweld ar yr un lefel â hi.
gemau olympaidd

Pan fyddwn mewn Gemau Olympaidd, rydw i’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn chwilio yn y dyrfa am fy mam, fy nhad a’m cariad pan dwi’n mynd i rasio, tra bo’r rhan fwyaf o bobl wedi ffocysu’n llwyr a phrin yn sylweddoli bod tyrfa yno. Dwi’n ymwybodol iawn eu bod nhw yno. Dwi’n ei fwynhau, yn dangos fy hunan, i ddweud y gwir.

Roeddwn i’n dwlu ar Beijing achos fe benderfynodd gweddill y byd yn sydyn fod chwaraeon i’r anabl yn rhywbeth y gallen nhw ddechrau ei wneud o ddifrif. Mae’r tîm nofio Prydeinig wastad wedi bod ymhell ar y blaen i weddill y byd. Nawr, yn sydyn, mae gwledydd gwahanol yn rhoi arian, llawer o arian, i mewn i’r peth ac mae wedi mynd yn llawer anoddach. Pan ewch chi i China, maen nhw eisiau bod y gorau ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, ac mae’r Americanwyr a’r Awstraliaid yr un peth ac yna, yn sydyn, mae cystadleuaeth ddifrifol. Roedd hi’n llawer anoddach.

Fe gollais i Bencampwriaethau Ewrop a Phencampwriaethau’r Byd y llynedd achos roeddwn i’n mynd â ’nghi am dro ac, yn anffodus, fe welodd hi wiwer ac fe dynnodd fi i mewn i goeden. Fe dorrais fy mraich mewn dau le ac fe dorrais fy nwy asen uchaf.

Fy mhrofiad Olympaidd mwyaf cofiadwy oedd cario’r faner yn y Seremoni Gloi yn Beijing. Yr anrhydedd eithaf yw cael cario baner nid yn unig eich tîm ond eich cenedl ac roedd e’n wych. Roedd e’n ddiweddglo da i Gemau da achos yn amlwg roeddwn i wedi dod yn gyfartal â Tanni Grey, hefyd. Roedd yn goron ar y cyfan.

ennill
Wel, maen nhw’n cyflwyno’ch medal ichi ac rydych chithau eisiau dal i’w gwisgo. Yn swyddogol, rydych chi’n ei gwisgo ar gyfer y seremoni fedalau, yna rydych yn cerdded o amgylch y pwll yn ei dangos i ddiolch i’r bobl sydd wedi dod ac i ddal baneri a blodau a phopeth arall, ac yna gallwch ei thynnu a mynd i ymlacio … neu, fel fi, fe allwch ddal i’w gwisgo! Beth dwi’n tueddu i’w wneud, a dwi’n meddwl y bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod i Gemau Olympaidd yn dweud yr un peth, rydych yn cysgu gyda hi, y noson gyntaf, does dim ots sawl medal rydych yn eu hennill, rydych yn cysgu gyda’ch medal o dan eich gobennydd, ac yn deffro’r bore wedyn mewn panig yn meddwl tybed yw hi’n dal yno. Ac rydych yn ei gwisgo ac yn falch o’i gwisgo, felly rydych yn mynd i gael bwyd y bore canlynol yn dal i’w gwisgo.
ffrindiau

Fe gwrddais i â ’nghariad drwy nofio. Roedd hi’n arfer nofio dros Sweden. Mae gen i ffrindiau ar draws y byd i gyd. Dwi’n mynd i Mallorca ymhen pythefnos i hyfforddi gyda dau nofiwr o Sbaen yr ydw i wedi eu nabod ers blynyddoedd maith. Mae llawer o ’ngwrthwynebwyr pennaf yn ffrindiau eithaf agos, felly fe dreuliais i lawer o amser yn America y llynedd, yn hyfforddi gyda fy mhrif wrthwynebydd yn Georgia.
Dwi wedi cwrdd â’r fenyw enwocaf yn y byd mwy na thebyg, y Frenhines. Dwi wedi bod i’w thŷ hi ychydig o weithiau. Dwi wedi bod i’w garddwest. Doedd hi ddim gwahanol i’m mam-gu. Ond mae hi’n byw mewn tŷ mwy. Dyna’r ffordd i edrych arni. Dydych chi ddim yn edrych ar bobl fel enwogion. Dim ond pobl ydyn nhw. Dyna’r cyfan ydyn nhw. Dydyn nhw’n ddim gwahanol i chi.

Dwi wedi cwrdd â David Beckham, Steven Gerrard. Dwi wedi cwrdd â thywysogion a thywysogesau. Y person enwocaf dwi wedi cwrdd ag e, y person yr oeddwn i’n fwyaf cyffrous ynglŷn a’i gyfarfod, oedd Nelson Mandela, ac fe gwrddais i ag e yn hollol ddamweiniol. Roeddwn i’n bwyta fy swper yn y neuadd fwyta Olympaidd yn Sydney, yn meindio fy musnes fy hunan yn hwyr y nos, ac fe eisteddodd rhywun i lawr gyferbyn â fi ac fe feddyliais i, “Iawn, mae hynny’n digwydd”. Wnes i ddim edrych i fyny, ond fe sylwais fod dau swyddog diogelwch yn sefyll drws nesaf imi a drws nesaf iddo fe ac fe feddyliais i, “Mmm, dwi’n meddwl fod rhywun enwog o ’mlaen i”. Fe edrychais i fyny a Nelson Mandela oedd e ac roedd e’n bwyta swper yn y neuadd fwyta, ac fe eisteddon ni a siarad fel rydw i’n siarad â chi nawr. Fe wnaeth e fy nghyfweld i fel rydych chi’n ei wneud ac roedd e’n dda iawn. Dwi wedi cwrdd â Lady Gaga. Dwi wedi cwrdd â Madonna. Dwi wedi cwrdd â llawer o bobl wallgof am ddim rheswm gwell na fy mod i’n gallu nofio.

cymru (a chaerdydd)
Dwi wastad yn cystadlu dros Gymru, wastad. Boed hynny o dan faner Prydain neu faner Cymru, dwi wastad yn cystadlu dros Gymru. A oes gwrthdaro? Nac oes, ddim i ddweud y gwir. Bydda i wastad yn mynd â baner Cymru i bobman. Lle bynnag dwi’n mynd yn y byd, fe allwch chi weld ble ydw i achos bydd fy maner Cymru yno. Rydych chi’n mynd i’r gemau Olympaidd ac maen nhw’n dweud wrthych na chewch chi fynd â’ch baneri Cymru ond, mae’n ddrwg gen i, fe fydda i wastad yn gwneud hynny, a dydy hynny ddim yn bod yn amharchus. Y broblem yw, yn y cyfryngau, os dwi’n ennill dwi’n Brydeiniwr ac os dwi’n colli dwi’n Gymro, a dwi ddim yn hoffi hynny o gwbl. Dwi wastad yn gwneud yn siŵr fod pobl yn gwybod fy mod i’n Gymro.

Yn anffodus, yn Sydney doedden ni ddim yn cael mynd â fflagiau Cymru ar y podiwm gyda ni, ond roedd y dyn oedd yn rhedeg y seremonïau yn dod o Drelái yng Nghaerdydd ac fe roddodd ei fflag Cymru imi bob tro yr oeddwn i’n mynd i fyny. Yn Athen a Beijing, dywedwyd wrthym nad oedden yn cael achos nad ydyn nhw’n genhedloedd sy’n cael eu cydnabod o fewn y Gemau Olympaidd, ond dwi wastad yn mynd â hi. Fe fydda i wastad yn cario baner Cymru lle bynnag y bydda i’n mynd.

A, phan dwi’n ennill, dwi’n gwneud yr Ayatolla. Mae’n un o nodweddion Dinas Caerdydd. Dwi’n cefnogi Dinas Caerdydd. Mae e’n rhywbeth i atgoffa pobl o bwy ydw i ac fy mod i’n gweld eisiau’r ddinas ac yn gweld eisiau’r bobl. Does dim ots pa ddinas yr ydych yn cystadlu ynddi, rydych chi wastad yn edrych am y canlyniadau pêl-droed a dwi wastad yn edrych am yr un yna gyntaf.

penderfyniad
Mae gwrthwynebwyr a hyfforddwyr gwahanol yn dweud wrtha i fy mod i’n mynd i gael fy nghuro drwy’r amser, ac mae’n fy ngwneud i’n fwy penderfynol eu profi nhw’n anghywir. Rydych chi’n defnyddio hynny fel anogaeth. Os oes rhywun yn dweud nad ydych chi’n dda iawn am wneud hyn, dwi’n eitha siŵr y byddwch chi’n gwneud eich gorau i geisio sicrhau eich bod chi.

Dwi’n dod o dref fach mewn cwm bach a gafodd ei ddinistrio’n llwyr. Roedd gwaith golosg yn ei ganol ac yn amlwg mae hwnnw wedi cau nawr. Rydw i wedi gallu ymestyn fy ngorwelion a gweld pethau gwahanol am fy mod i wedi penderfynu nad oeddwn i am aros yn y cymoedd, am byth. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gyda fy mywyd, ac roeddwn i’n ffodus mai chwaraeon oedd fy ffordd allan.

enwogrwydd
Yng Nghaerdydd does dim diwrnod yn pasio heb i rywun fy adnabod. Yn amlach na pheidio, yr hen fenywod bach sy’n pacio eu siopa, ac fe fyddan nhw’n dweud, “Fe welais i ti ar y teledu”.
Yn y pen draw, rydw i yn llygad y cyhoedd ac os oes rhywun eisiau fy llofnod, os yw e’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well, wrth gwrs, does gen i ddim problem gyda hynny. Os yw pob plentyn yn yr ysgol yma eisiau fy llofnod, fe fydden i’n aros yma drwy’r dydd. Fe fydden i’n llofnodi llyfr pob plentyn neu beth bynnag maen nhw ei eisiau, achos mae hynny’n rhan o fod yn Olympiad, rhan o fod yn athletwr. Dydw i ddim yn ystyried fy hunan yn enwog. Fi ydw i.

llundain 2012
Mae gan Lundain swyddogaeth bwysig iawn, iawn. Bydd Llundain naill ai’n wych neu’n drychinebus i chwaraeon i’r anabl ym Mhrydain. Dyma’u cyfle i fynd i’r brif ffrwd, y brif ffrwd yn y wlad hon. Fe ddigwyddodd yn Athen, fe ddigwyddodd yn Awstralia, fe ddigwyddodd yn China. Dyma’n cyfle ni i ddal llygad y cyhoedd a’i chadw arnom ni, oherwydd, i ddweud y gwir, unwaith mewn pedair blynedd yr ydych chi’n gwybod am chwaraeon Paralympaidd. Dim byd arall. Doedd neb ohonoch yn gwybod fy mod wedi gwneud treialon Pencampwriaethau’r Byd ddoe, dwi’n eithaf sicr o hynny. Cyhoeddwyd y tîm am un ar ddeg o’r gloch bore ’ma. Dwi heb ei weld e eto. Dwi’n cymryd fy mod i’n mynd achos fe wnes i’r amser cymhwyso, ond dwi heb ei ddarllen eto. Dyna’r gwahaniaeth. Pan fydd tîm yn cael ei gyhoeddi ym maes y rhai nad ydyn nhw’n anabl, rydych chi’n gwybod am y peth … felly mae’r brics yn fach ond rydyn ni’n adeiladu clamp o dŷ mawr braf.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw