Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

TANNI GREY-THOMPSON
Stori rasiwr cadair-olwyn 2 (9 Hydref 2012 / Caerdydd)

Llundain 2012

Roedd y gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn hollol wych. Yn well na phob gobaith a breuddwyd fu gen i erioed amdanyn nhw. Roedd ‘na ryw fath o deimlad yn nyddiau cyntaf y Gemau fod popeth yn iawn a bod y trefniadau’n gweithio ond roedd angen i’r medalau Olympaidd ddod, a phan ddechreuodd hynny ddigwydd, roedd yn syfrdanol. Yr awyrgylch yn y ddinas, y parc, pob feniw....y bobl yn siarad â’i gilydd ar y tiwb, pobl yn cofleidio’i gilydd wrth fynd o gwmpas y ddinas. Cha’ i byth gyfle eto i gyfarch plismon arfog efo ‘hi-five’, achos dyna’n union beth oedden nhw’n ei wneud wrth ichi adael y pentref, rhoi ‘hi-fives’ i’r plant i gyd. Roedd adeiladu’r safleoedd, troi’r freuddwyd yn sylwedd, y cyfan yn wych. Ond hefyd os edrychwch ar berfformiadau’r athletwyr, roedden nhw allan o’r byd hwn, a dwi’n meddwl bod hyn yn dangos pa mor bwysig yw chwaraeon nid yn unig i’r athletwyr ond hefyd i’r cyhoedd, gan eu bod nhw wedi dod allan yn eu miloedd a pheri bod pob feniw dan ei sang.

Am ymddangosiad!

Treuliais i tua’r saith mlynedd ddiwethaf ar bwyllgorau bach ond y peth mwyaf hwyliog a wnes i oedd bod yn rhan o’r Seremoni Agoriadol. Ces i alwad ffôn yn gofyn, “Fasat ti’n hoffi cymryd rhan?” ac wrth gwrs mae dyn yn dweud “Baswn”, a dywedon nhw wedyn, “Mae’n annisgwyl, ychydig yn wahanol, bach yn artistig”, a dywedais i , “Ocê”. Doedd fy nheulu ddim wedi bwriadu dod i’r Seremoni Agoriadol ac felly mi ruthrais i allan a phrynu mwy o docynnau ac yna ffeindiais i fod fy rhan i yn golygu bod ar weiren, yn eitha’ uchel yn yr awyr. Cawsom dri ymarfer, y tro cynta’ es i fyny yn yr awyr gan gydio’n dynn, dynn yn y gwifrau, a gofyn,“Pa mor uchel ydw i?” A dyma nhw’n dweud, “Chwe modfedd o’r ddaear!” “O, ocê”, ac yna roedd yr un nesa’ yn uchel, uchel yn y stadiwm ac yn wirioneddol syfrdanol. Roedd yn anhygoel, yn
ffantastig, yn arswydus. Âf i ddim ar weiren-sip fyth eto tra bydda’i byw, ond roedd bod yno ar y noson ac yn yr entrychion uwchben yn edrych i lawr ar wynebau’r athletwyr a gallu gweld pobl, … roedd hynna’n werth y cyfan! Tri munud a hanner o arswyd pur ond roedd yn wych achos dwi’n meddwl bod y seremoni wedi creu’r union naws ar gyfer y gemau Paralympaidd.

balch

Roedd yn ddiddorol bod yno, gweithio ar yr ochr arall fel petai, gweithio gyda’r cyfryngau a sylwebu, llond lle o hwyl. Dwi ddim yn meddwl bod y cyhoedd yn sylweddoli am faint o oriau rydych chi yno! Mi oeddwn i yn y gemau Paralympaidd ar gyfer pob un digwyddiad bron iawn, o naw o’r gloch yn y bore tan un ar ddeg y nos. Roedd hi’n grêt bod mor agos a gwylio pob dim, gwylio rhai perfformiadau gwych, a gweld Aled Davies yn ennill.. a David Weir, perfformiadau ardderchog … ac yna cofio eich bod i fod i weithio a siarad yn gall ynglŷn â’r peth. Ond roedd bod mor agos at yr holl ddigwydd yn hwyl aruthrol. Rydw i mor falch o bopeth wnaethon nhw.

ddim dy dro di bellach

Mae ’na ran fechan, fach ohono’i fuasai wedi hoffi cystadlu yn Llundain, ond yna mi ydach chi’n deffro’n sydyn a sylweddoli y byddai hynny’n golygu ymarfer yn anhygoel o galed, a rasio a bod oddi cartref o hyd ac roeddwn wedi cael digon ar hynny. Unwaith roedd fy ngyrfa ar ben roedd hi ar ben go iawn. Roeddwn i’n gwybod mai dyna’r diwedd. Doeddwn i ddim eisiau ei wneud o fyth eto felly doedd o byth yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd. Iawn, mae’na eiliad pan ’dach chi’n gweld y dyrfa ac yn meddwl ‘dyna braf’, ond dwi wedi cystadlu o flaen 110,000 o bobl. Dyna yw eich moment chi, ac wedyn mae’r foment honno wedi troi’n foment rhywun, ac mewn gwirionedd mi ges i amser reit dda. Fel athletwr, rydych chi’n canolbwyntio cymaint ar eich tasg. Dach chi ddim yn cael cyfle mewn gwirionedd i’w fwynhau’n iawn, ac felly o’m rhan i mi ges i goblyn o hwyl yn y Gemau. Dyna’r peth gorau a wnes i erioed, ac felly roeddwn i’n fodlon iawn i fod lle roeddwn i.

Ddim yn gwylio’r cadeiriau

Yn ystod y Gemau, roedd y cyhoedd yn gynnwrf i gyd. Roedd pobl yn dod i fyny ata’ i a dweud, “Mi ges i docynnau i’r gemau Paralympaidd am fy mod i wedi methu cael tocynnau i’r gemau Olympaidd ond mi oedd yn anhygoel”. Roedd pobl yn dod ata ’i a dweud, “Mae wedi newid y ffordd dwi’n edrych ar anabledd, a newid fy syniadau am bobl â nam”. Doedden ni ddim yn gwylio’r llafnau na’r cadeiriau, roedden ni’n gwylio’r campau eu hunain, ac mae hynny’n amheuthun. Mi glywais ddwy ferch yn siarad ar y tiwb am Oscar Pistorius a Johnny Peacock ac roedden nhw’n trafod p’run oedd y pishyn gorau. Dyna rywbeth na fyddai wedi digwydd hyd yn oed ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae hynny’n anhygoel, ond dydy ddim yn mynd i newid agwedd y byd i gyd tuag at bobl anabl. Mae wedi newid syniadau llawer o bobl, llawer o bobl yn llawer mwy positif ond y ffaith yw bod pobl ag anableddau yn dal i brofi cryn dipyn o wahaniaethu ac mae hi’n eitha’ anodd allan yn y byd mawr ar nifer o bobl anabl. Y plant sydd wedi gwylio’r Gemau …dyna’r rhai wneith y gwahaniaeth; efallai na welwn y canlyniad am genhedlaeth neu ddwy.

yr athletwyr yw canolbwynt y cyfan

Dwi’n meddwl bod ‘na lwyth o bethau y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y Gemau’n gadael eu hôl. Os mai etifeddiaeth o ran chwaraeon sydd gennym mewn golwg, trwy wneud yn siŵr bod cyrff llywodraethu, hyfforddwyr, a gwirfoddolwyr yn cydweithio mewn modd cadarnhaol iawn, a bydd hynny’n cael effaith positif go iawn ar bobl sy’n anabl. Ond dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yr athletwyr yn mynd o gwmpas ac yn siarad am eu profiadau gan ddal i ledaenu’r neges am pa mor braf oedd y teimlad.

cynrychioli dwy wlad

Mi fydd athletwyr Cymru bob amser yn cystadlu’n wirioneddol dda fel rhan o dîm Prydain. Maen nhw’n cystadlu’n dda yn Chwaraeon y Gymanwlad ond mae ‘na rywbeth arbennig ynglŷn â bod yn athletwr o Gymru; mae rhywun yn teimlo bod rhywun yn cynrychioli dwy wlad bron. Prydain Fawr a Chymru.

Mae gennyn ni draddodiad gwych mewn chwaraeon, hyfforddi a datblygu, ac rydyn ni’n angerddol iawn wrth wneud chwaraeon, a ’sdim ots os ydych chi wedi tyfu i fyny yng Nghymru neu wedi dod i fyw yma, rydych chi’n dod o Gymru, ac rydych chi’n Gymreig. Mae hynna ynoch chi bob amser a dyna sy’n gwneud i’r hogiau hyfforddi mor galed. I lwyddo dros Gymru a thros Brydain.

gwylio Nathan

Roedd hi’n galed iawn gwylio Nathan Stephens yn cystadlu achos rydw i wedi’i ’nabod ers pan oedd o’n hogyn ifanc ac mae o’n ymdrechu mor galed. Mi welais i o’n ennill Pencampwriaeth y Byd yn Seland Newydd. Roeddwn i wrth ymyl y trac ac roedd yn foment anhygoel ond doedd fawr neb yn gwylio, dim ond llond dwrn o bobl. Dyna chwaraeon ichi. Mae’n andros o ddiflas pan ’dach chi’n methu cyflawni’r pethau ’dach chi eu heisiau neu’r pethau ’dach chi’n gallu eu gwneud. Mae’n ddiflas, diflas iawn. Dyna foment orau’ch bywyd a’r foment waetha hefyd. Wrth imi adael y stadiwm mi welais i o ac es i ato a dweud yn syml, “Wyt ti’n iawn?”, a doedd y naill na’r llall ohonon ni’n gallu dweud dim. Rhois fy mreichiau amdano a dweud, “Mi fyddi di’n iawn. Mi ddoi di’n ôl. Mae’n iawn”. Mae o’n un o’r bobl ‘ma sy’n ymarfer yn galed, yn gwneud popeth o fewn ei allu. Nid dyna ei foment o, ond mi ddaw ei foment o. Bydd o’n cael y foment honno i ddangos i’r byd pa mor dda ydy o.

hyrwyddwyr y gemau

Mae hi mor anodd dewis fy moment orau yn y Gemau Paralympaidd achos rhaid ystyried perfformiad yn y chwaraeon, aeth yr ochr drafnidiaeth yn iawn. A dweud y gwir efallai mai’r hyrwyddwyr gemau mewn gwirionedd. Wrth inni adael y stadiwm bob nos, mi fydden nhw’n arfer sefyll yn rhesi a ninnau’n cerdded heibio iddyn nhw a rhoi ‘ high fives’. Roedden nhw’n hapus, yn siriol, roedden nhw’n gweithio oriau gwirioneddol hir mewn swyddi digon annifyr weithiau ond yno yr oedden nhw o hyd ac o hyd.

Bydd y Gemau wedi newid bywydau’r bobl hynny am byth. Fyddan nhw fyth yr un fath eto. Dwi’n gwybod hynny achos mi sgrifennodd cymaint ohonyn nhw ataf neu anfon e-bost neu fy stopio ar y stryd a dweud, “Helo, roeddwn i yn un o hyrwyddwyr y gemau”. Mae diolch enfawr yn ddyledus i’r bobl hynny oherwydd hebddyn nhw fyddai’r Gemau ddim wedi digwydd, felly os dwi’n gorfod dewis un agwedd….dwi’n eu dewis nhw. Mi wnaethon nhw osod y nod i’r athletwyr, y gwylwyr a phawb arall gyrchu ato.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw