Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

NON EVANS
hanes ymladdwr

F’enw i yw Non Evans. Cefais fy ngeni ar 20 Mehefin 1975 yn Nhreforys yn Abertawe. Cefais fy magu mewn pentref bach yng Ngorllewin Cymru o’r enw Pontarddulais, sydd ger Llanelli, ac es i ysgol gynradd Gymraeg yn Llangennith. Dwi’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

fi’n moyn mysls!

Roedd fy rhieni yn hoff o chwaraeon fel plant ond wnaethon nhw erioed gystadlu ar lefel uwch. Roedd fy nhad yn chwarae rygbi dros yr ysgol, fy mam yn chwarae hoci, ond cefais i fy ngeni gyda llinyn y bogail wedi'i lapio o amgylch fy ngwddf, dair gwaith. Mae mam yn dweud, “Dyw di ddim wedi stopio symud ers hynny”.

Yn sicr, cefais fy ngeni i wneud chwaraeon. Mae yna luniau ohonof i’n blentyn mewn siorts a fest a’m chwaer mewn ffrogiau gyda gwallt hir. Gwallt byr sydd gen i a dwi’n tynnu fy chwaer o gwmpas yr ardd yn ei threisicl gyda rhaff, yn dweud, “Fi’n moyn mysls!” … pan dwi’n dair blwydd oed. Ro’n i arfer rhedeg o amgylch gardd fy rheini a byddai fy chwaer yn f’amseru yn gwneud lapiau, fel yr hyfforddiant egwyl dwi’n i’w wneud.

Doedd dim cymaint â hynny o chwaraeon yn yr ysgol, felly dechreuais wneud jwdo yng Nghlwb Jwdo Pontarddulais pan oeddwn tua 10 neu 11, a chyn y jwdo roeddwn yn arfer gwneud acrobateg gyda Chlwb Acrobateg Bynea a oedd yn eithaf adnabyddus nôl yn yr 80au. Buom ar raglenni teledu fel Blue Peter a Going Live gyda Philip Schofield a Gordon the Gopher. Byddem yn mynd dros y wlad i gyd ond es i ychydig yn rhy fawr i acrobateg a dyna pryd y dechreuais wneud jwdo. Fe gystadles i ym Mhencampwriaethau Cymru nes o’n i’n 18 pan ddes i’r brifysgol yng Nghaerdydd. A dyna pryd y codais i bêl rygbi am y tro cyntaf, a dwi wedi chwarae rygbi byth ers hynny.

ennill

Yn St Michaels, fy ysgol uwchradd yn Llanelli, roeddwn yn arfer chwarae tenis. Byddwn yn ennill y twrnamaint tenis bob blwyddyn er mod i’n fach iawn. Mewn jwdo, enillais i gystadlaethau o’r diwrnod cyntaf, des i’n Bencampwr Cymru yn syth. Fi oedd yr ieuengaf i gystadlu ym Mhencampwriaethau Jwdo’r Gymanwlad, yn 16 oed. Roeddwn i’n berson cystadleuol iawn. Yn ôl mam, roeddwn i’n blentyn drwg ond dwi ddim yn meddwl hynny. Dim ond mod i’n brysur ac yn methu eistedd yn llonydd.

darganfod

Dwi newydd ysgrifennu fy hunangofiant, ac mae darn mawr yn y llyfr am Ian Lewis. Yn anffodus, bu ef farw y llynedd. Dwi’n cofio mynd i Glwb Jwdo Pontarddulais. Roedd Ian yn ‘wregys brown’ ar y pryd a chyn hyfforddi, byddai yno bob tro yn gwneud ei ymarferion ymestyn a’i hyfforddiant cyflyru. Roedd fy nhad yn feddyg, mae fy mrawd yn feddyg, a’r cyfan o’n i’n ei wneud oedd rhedeg o gwmpas ac ymladd pobl. Roedd fy rhieni am i fi fynd i’r byd mwy academaidd. Un diwrnod, daeth Ian Lewis i weld fy nhad. Curodd ar y drws a dweud, “Mae’ch merch yn wirioneddol dda mewn jwdo. Mae Pencampwriaethau Cymru'r penwythnos yma a dwi’n meddwl y dylech chi ei chefnogi hi”. Ef oedd y person cyntaf hefyd a aeth â fi i redeg. Doeddwn i ddim yn arfer rhedeg fel rhan o’m ymarfer a byddai e’n mynd â fi i ymarfer sbrintio i fyny’r mynydd, ger Pontarddulais, a byddai’n fy helpu i weithio ar agweddau o’m ffitrwydd nad oeddwn i’n ymwybodol ohonyn nhw. Dywedodd wrtha i mod i wedi mynd yn rhy dda i Glwb Jwdo Pontarddulais, wedi tyfu allan ohono, ac aeth e lawr â fi i Glwb Jwdo Steadman’s yn Llanelli, clwb enwog iawn. Mae Steadman yn cael ei adnabod fel gwrw, ac mae ganddo MBE a phopeth, ac aeth â fi i Steadman’s. Dyna lle y datblygodd fy jwdo i a des i’n bencampwr.

bob diwrnod o’r flwyddyn

Dwi wedi mwynhau ymarfer erioed, er ei bod yn anodd ceisio cystadlu ar y lefel uchaf a hefyd dal swydd lawn-amser. Mae llawer o bobl yn meddwl mod i’n athletwraig broffesiynol ond dydw i ddim, yn anffodus. Dwi’n gweithio’n llawn-amser. Dwi’n codi’n gynnar bob bore i ymarfer, ac yna’n mynd i’r gwaith, yna’n ymarfer bob nos, felly dwi wedi blino drwy’r adeg. Does gen i ddim amser i gael bywyd cymdeithasol oherwydd mae’r dyddiadur yn llawn, o chwech o’r gloch y bore tan ddeg o’r gloch y nos. Yr unig amser dwi’n ymlacio yw pan dwi’n cysgu.

I fi, mae wedi mynd yn obsesiwn braidd. Os nad ydw i’n ymarfer, yna, mae’n debyg y byddaf yn teimlo’n euog. Pan rydych chi’n siarad â’r athletwyr gorau, mae’r rhan fwya’n teimlo’r un peth. Dwi’n meddwl, os ydych chi eisiau llwyddo, mae’n rhaid iddo fod yn obsesiwn. Mae’n rhaid i chi eich gwthio’ch hun i’r eitha ac ymarfer ar ddydd Nadolig, bob dydd o’r flwyddyn, os ydych chi am fod y gorau.

yn erbyn y ffactore

Dwi ddim yn meddwl fod merched yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu. Pe bawn i’n ddyn, byddwn yn chwaraewr rygbi proffesiynol, ac mae’n debyg y byddwn yn filiwnydd erbyn hyn. Ond, fel merch mewn chwaraeon, mae bob amser yn frwydr. Enw fy hunangofiant yw Yn Erbyn y Ffactore, oherwydd, i ferch lwyddo mewn chwaraeon a chael y gydnabyddiaeth a ges i, mae’n frwydr, ceisio llwyddo ym myd dynion. Mae’n debyg na fydd rygbi merched fyth yn broffesiynol, yn sicr ddim yn fy amser i. Mae tîm rygbi merched Lloegr yn cael rhywfaint o arian tuag at Gwpan y Byd ac ati, ond mae pob un yn gorfod gweithio.

Mae’n debyg y bydda i’n ymddeol o rygbi rhyngwladol eleni. Nid yw Undeb Rygbi Cymru wedi gofyn i fi fod yn llysgennad i gêm y merched, i fod yn fodel rôl i rai ifanc yng Nghymru. Gallwch gyfri ar fysedd un llaw nifer yr athletwyr benyw enwog yng Nghymru, ac mae angen modelau arnom ac mae angen llysgenhadon arnom. Dwi’n meddwl fod hyn braidd yn od gan fod chwaraeon yn cael eu gwthio nawr gan y llywodraeth, gan y Cynulliad, gan ysgolion, i blant, i ferched, i bobl ifanc. Dwi wir yn meddwl bod gen i lawer i’w roi’n ôl. Ond mae’n anodd gwybod sut mae gwneud hynny os nad oes neb yn gofyn ichi.

jwdo

Jwdo oedd fy mhrif gamp o oed ifanc iawn. Gyda jwdo, mae pobl yn tueddu i gyrraedd y brig yn eitha ifanc, a bûm i’n cystadlu mewn tair Pencampwriaeth Gymanwlad, ac ennill dwy fedal arian - byth aur, yn anffodus.

Mae gen i lawer o uchafbwyntiau, yn cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad ar hyd a lled y byd. Roedd jwdo wedi’i adael allan o Gemau’r Gymanwlad, felly’n sydyn dyma nhw’n cynnal Pencampwriaethau Jwdo’r Gymanwlad ym Mauritius. Doedd neb yn cwyno am hynna. Cyrhaeddais y rownd derfynol. Roeddwn i’n arfer ymladd o dan 61kg mewn jwdo ond y flwyddyn arbennig yma, er mod i wedi ennill Pencampwriaethau Cymru a mod i’n Bencampwr Cymru ar 61 cilo (dwi’n meddwl mod i’n Bencampwr Prydain ar y pryd hefyd), fe benderfynon nhw ddewis merch arall i’r 61 a’m rhoi i yn nosbarth pwysau uwch y 66, sy’n swnio’n hurt nawr o ystyried mod i newydd ymladd yn Delhi o dan 55 cilo yn y reslo. Felly fi oedd y gwannaf yn sicr, ond llwyddais i ennill pob gornest. Mewn ffordd, roedd hi ychydig yn haws ymladd yn y dosbarth 66 yn hytrach na’r 61, oherwydd roeddwn gymaint â hynny’n gyflymach na’r merched eraill i gyd, ac roedden nhw’n dalach na fi hefyd, felly roedd gen i graidd disgyrchiant is. Gallwn i fynd oddi tanyn nhw. Enillais fy ngornest gynta, ennill yr ail ornest, ennill y drydedd, mynd i’r rownd gogynderfynol, y gynderfynol, a’r peth nesa, ro’n i yn y ffeinal. Merch o Loegr oedd yn f’erbyn i ac roedd yn ornest arbennig o dda. Fe es i amdani ac yna fe ddaliodd hi fi a’m taflu, ac enillodd hi ar unwaith, dim dadl o gwbl. Ond ennill medal arian mewn dosbarth pwysau gwahanol yn erbyn merched mwy oedd uchafbwynt fy ngyrfa jwdo, ddwedwn i.

rygbi

Dwi’n meddwl mod i wastad wedi bod yn athletwr unigol i raddau. O oed ifanc iawn, roeddwn yn mwynhau campau unigol. All neb eich gadael chi i lawr. Os ydych yn ennill, chi wnaeth y cyfan, ac os ydych chi’n colli, chi wnaeth hynny hefyd, a’r mwyaf o ymdrech a rowch i mewn y mwyaf o foddhad gewch chi. Er mod i wedi mwynhau pob munud o’m rygbi dros y blynyddoedd, dwi wedi teimlo’n rhwystredig iawn yn chwarae mewn tîm Cymreig na fu mor llwyddiannus â hynny. Ro’n i’n ymarfer gant y cant ac yn rhoi popeth i rygbi, yn ymarfer fy sgiliau, y pasio, y cicio, ond nid oedd rhai o’r merched eraill yn y tîm yn gwneud cymaint o ymdrech falle, ac yna bydden ni’n colli gemau. Ac o ran natur y safle dwi’n chwarae ynddo, cefnwraig – rydych chi’n sefyll yn y cefn ar eich pen eich hun – falle mai dyna’r lle gorau i fi, allan o’r ffordd yn y cefn. Mae’n debyg mai hwnnw yw’r safle mwyaf unigol ar y cae.

Ond wedi dweud hynny, dwi wedi dwlu bod yn rhan o dîm rygbi Cymru. Mae fy ffrindiau gorau i gyd yn dod o’r tîm rygbi. Dwi wedi teithio’r byd gyda rygbi. Mae’n debyg mod i’n cael fy nabod yng Nghymru yn fwy oherwydd fy rygbi nag unrhyw gamp arall oherwydd natur ein gwlad. Dwi’n chwarae’r gêm fwyaf poblogaidd yn y wlad. Dwi wedi bod yn Seland Newydd, Awstralia, De Affrica, pob man, yn chwarae rygbi. Mae’n bosib mai un o’r profiadau gorau oedd chwarae dros 15 y Byd. Fi oedd yr unig chwaraewr o Gymru i gael ei dewis yn 2003, dwy gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd, Seland Newydd, yn Eden Park, yn gefnwraig. Dyna binacl fy ngyrfa rygbi. Ond hefyd curo Lloegr am y tro cyntaf erioed, y tymor diwethaf ond un.

Doedd Cymru erioed wedi curo Lloegr yn holl hanes rygbi merched, ar ôl 22 mlynedd o drïo, a phan ystyriwch chi gwlad mor fach ydyn ni a’r adnoddau sydd gennym o’n cymharu â Lloegr, mae’n Ddafydd a Goliath go iawn. Roedd y cyfan yn dibynnu ar gic ola’r gêm. Roedd hi’n 15-13 i Loegr ac fe gawsom ni gic gosb. Fi sy’n cymryd ciciau at y gôl a meddai’r dyfarnwr, “Does dim amser am lein, dim amser am sgrym”. Felly, rydych chi naill ai’n tapio a cheisio sgorio cais, neu rydych yn cymryd y pwyntiau. Doedd hi mo’r gic fwyaf anodd yn y byd ond y ffaith mai hon oedd cic ola’r gêm. Pe bai’n mynd drosodd, byddem wedi curo Lloegr am y tro cyntaf erioed; pe bawn i’n methu, byddem wedi colli! Dywedodd y capten, “Ti am ei chymryd?” a dywedais innau, “Iawn”, a chamu i fyny, a, diolch byth, aeth hi’n syth rhwng y pyst, ac yna chwythodd y dyfarnwr ei chwiban. Chlywais i ddim mo’r chwiban oherwydd roedd gweddill y tîm wedi neidio ar fy mhen. Enillon ni 16-15, ac mae hynna wedi rhoi rygbi Cymru ar y map. Cawsom fwy o sylw ar ôl y gêm honno nag erioed, ac roedd curo’r hen elyn, a’r ffordd y gwnaethon ni eu curo, yn gwbl wych. Dwi’n dal i gael hunllefau mod i’n methu’r gic yna, ond, diolch byth, aeth hi drosodd.

codi pwysau

Roeddwn i’n arfer bod wrth fy modd yn codi pwysau yn y gampfa. Ro’n i’n gwneud yr ymarferion codi pwysau i gyd, ac un diwrnod, daeth rhywun ataf a dweud, “Ti’n codi lot o bwysau. Faint wyt ti’n bwyso?” Ac atebais inne, “Tua 57, 58 cilogram”. Ro’n i’n codi tipyn mwy na phwysau fy nghorff a dywedodd, “Mae’n siŵr y byset ti’n cymhwyso i Gemau’r Gymanwlad pe bai ti’n mynd i Bencampwriaethau Cymru”, ac oherwydd mod i’n berson cystadleuol, meddyliais, “Wel, does `da fi ddim byd i’w golli”.

Felly es i Bencampwriaethau Cymru ac ennill, es i Bencampwriaethau Prydain ac ennill yno, a chymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ym Manceinion. Ond roedd hi’n anodd ym Manceinion, oherwydd ro’n i’n gwneud y jwdo a’r codi pwysau. Mae gwneud dwy gamp mewn un Gemau yn un o’r pethau mwyaf anodd dwi erioed wedi’i wneud, ond doeddwn i ddim am golli’r cyfle i godi pwysau dros fy ngwlad ac ymladd dros fy ngwlad, felly dyna wnes i.

Mae codi pwysau yn brofiad gwahanol iawn i jwdo a reslo, oherwydd dych chi ddim yn ymladd yn erbyn rhywun arall. Gyda chodi pwysau, dim ond y chi a’r bar sydd yna. Rydych chi’n gwybod beth rydych chi’n gallu’i godi yn y gampfa, felly, pan fyddwch mewn cystadleuaeth, mae’n rhyfedd iawn sut rydych yn gallu codi rhagor. Rydych chi bob amser yn rhoi ychydig mwy iddi. Roedd un gystadleuaeth, o bosib yr un fwyaf anodd i fi godi pwysau ynddi, allan yng ngwlad Groeg, lle mae codi pwysau’n beth mawr. Am ryw reswm, y diwrnod hwnnw fe godais i tua phum cilogram yn fwy nag oeddwn erioed wedi’u codi o’r blaen. Roeddwn yn mynd am fy ail gynnig - a fyddai hefyd yn orau personol - a chodais y bar ac aeth i fyny’n hawdd, ond, wrth i fi fynd i hwbio’r bar i fyny, fe darodd y bar fi ar fy ngên. Torrodd damaid oddi ar yr asgwrn a chwympodd y pwysau ar lawr – ddim yn gymwys, felly. Y trydydd tro, roedd rhaid i fi drïo codi’r un pwysau eto, ac yn seicolegol roedd hyn yn anodd iawn, iawn achos ro’n i’n gwybod mod i wedi taro fy ngên gyda’r bar eiliadau ynghynt. Roeddwn i’n arfer mynd yn reit nerfus wrth godi pwysau achos gallech wneud ffŵl ohonoch eich hun … fel roeddwn i wedi’i wneud y diwrnod hwnnw. Ond llwyddais y trydydd tro. Roedd yn orau personol. Enillais fedal arian yng ngwlad Groeg ynghanol codwyr pwysau heb eu tebyg o bob rhan o’r byd.

reslo

Ymaflyd codwm, neu reslo, yw fy nghamp fwya diweddar. Dim ond llynedd ddechreuais i. Ro’n i wedi cael digon ar rygbi, roedd angen newid arnaf. Roedd fy nghyn-hyfforddwr jwdo, Alan Jones, wedi sefydlu tîm reslo Cymru a phan oeddem yn arfer gwneud jwdo, byddem yn aml iawn yn tynnu’n siacedi a dechrau reslo. Mae jwdo a reslo yn debyg iawn, technegau tebyg, rydych yn sgorio mewn ffordd debyg, felly doedd dewis reslo ddim fel pe bawn i wedi dewis camp allan o unman.

Fy nod oedd cymhwyso i Gemau’r Gymanwlad yn Dehli, felly roedd pwysau ym mhob cystadleuaeth, oherwydd roedd yn rhaid i fi ennill pob un neu o leia ennill medal. Mae’n debyg mai’r un galetaf oedd Pencampwriaethau Cymru. Dyw’r rhain ddim mor fawr â chwaraeon eraill, ond roedd yn rhaid i fi ennill yn fy mlwyddyn gynta fel reslwr er mwyn cael teitl Pencampwr Cymru ac yna gwneud yr holl bethau eraill i gymhwyso ar gyfer Dehli. Mae reslo yn dactegol iawn, ond, pan ymladdais i yn y gystadleuaeth gynta yna, ro’n i fel tarw mewn siop lestri. Ro’n i’n trio wado pawb ac ennill pob pwynt. Wnes i ladd fy hun. Dwi ddim wedi bod mor gorfforol flinedig yn fy mywyd, ond enillais i bob gornest. Ar ôl hynny, gwellodd fy nhactegau a dysgais sut i ennill pwyntiau heb ladd fy hun, achos mae chwe munud o ymladd yn galed iawn. Ond fe wnes yr hyn roedd rhaid imi ei wneud, a llwyddo i gael mynd i Delhi.

Ond, colli medal efydd o un pwynt, oedd un o’r pethau anoddaf i fi orfod delio ag ef erioed. Roedd cyrraedd Dehli yn anodd i ddechrau. Roedd cyrraedd fy mhwysau yn anodd iawn, cyrraedd 55 cilogram, oherwydd roeddem newydd gael Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Awst pan aeth fy mhwysau i fyny i tua 59/60 cilo, felly roedd rhaid i fi golli pedwar cilo a hanner. Roedd y dafol yn Dehli yn drwm oedd yn gwneud pethau’n waeth ac yn golygu colli hanner cilogram arall.

Ond y peth mwya siomedig i fi oedd y paru. Mater o lwc yw pwy gewch chi’n wrthwynebydd mewn reslo. Rydych yn cael eich pwyso ac mae rhywbeth fel olwyn rwlét ar sgrin y cyfrifiadur. Rydych yn pwyso botwm ac mae’n glanio ar rif ac mae un yn ymladd dau a thri yn ymladd pedwar, ac yn y blaen. Roedd y ferch o India eisoes wedi pwyso a hi oedd rhif chwech, felly roeddwn eisiau unrhyw rif yn yr hanner gwaelod, neu’r hanner ucha heblaw rhif pump. Pwysais y botwm a beth ges i? Rhif pump. Felly collais i i’r ferch o India ar bwyntiau’n unig. Aeth hi ymlaen i ennill yr aur; es i ymlaen i ymladd am yr efydd a chyrraedd yr ornest ola yn erbyn y ferch o Nigeria a cholli o bwynt yn unig yn y drydedd rownd. Fe wnaeth hi fy ngwthio allan o’r cylch, ond, i ddweud y gwir, er mai ond o bwynt y collais i, doeddwn i ddim wedi edrych yn debygol o ennill; dwi’n meddwl mai hi oedd y person cryfaf i fi ymladd yn ei herbyn erioed. Edrychwch ar y lluniau ohonof yn ei hymladd hi. Pe na bawn i yn y llun, byddech yn meddwl mai dyn oedd yna. Mae gen i gyhyrau ond dwi erioed wedi gweld merch gyda chymaint o gryfder a diffiniad yn ei chyhyrau. Doedd dim techneg o gwbl: y cyfan wnaeth hi oedd fy nghipio, fy nal ac yna fy ngwthio allan o’r cylch i gael pwynt. Roedd yn debycach i reslo Sumo! Roedd ganddi reolaeth lwyr, er na wnaeth hi mo ‘nhaflu na’m pinio i lawr. Roedd hi’n gwybod yn union beth roedd hi’n ei wneud i ennill y pwynt hwnnw ac ennill yr ornest. Roedd yn siom fawr gan mae’n debyg na fydda i byth yn mynd i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, eto. Byddai wedi bod yn hyfryd ennill medal dros Gymru, ond ac ystyried mai dim ond y llynedd y dechreuais i reslo a bod y Gemau yn fuan ar ôl Cwpan y Byd, alla i ddim bod yn rhy siomedig gyda dod yn bedwerydd.

trwbl dwbl

Fi oedd y person cyntaf yn y Gymanwlad i gystadlu mewn dwy gamp wahanol yn yr un Gemau. Mae ’na bobl eraill sydd wedi newid eu camp yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad. Roedd yna athletwr a newidiodd o seiclo i rwyfo neu rywbeth felly, ond roedd gwneud dwy gamp wahanol yn yr un gemau yn record. Roedd yn galed iawn achos roeddwn i’n codi pwysau o dan 63 cilogram ac yn ymladd gyda’r jwdo o dan 57 cilogram. Roeddwn i’n codi pwysau ac yn trïo dod yn gryfach ac, yn amlwg, y mwyaf o bwysau rych chi’n eu codi, y mwya mae’ch cyhyrau’n mynd, ac wedyn roeddwn yn gorfod mynd ar ddiet i golli pwysau ar gyfer y jwdo. Hurt bost! Yn ffodus, y jwdo oedd gynta ac wedyn y codi pwysau. Pe bai wedi bod fel arall, byddwn wedi cael trafferth. Wnes i golli pwysau i gyrraedd 57 cilogram a dwi’n cofio pwyso ar y bore dydd Mercher yn 56.1 cilo, ymladd yn y jwdo drwy’r dydd, a bore trannoeth wrth gael fy mhwyso roeddwn i’n 62.8 cilogram yn y codi pwysau, oherwydd bod y corff mor ddadhydredig ac rydych wedi llwgu’ch hun a heb gael llawer o hylif. Mae’ch corff fel sbwng ac yn amsugno’r hylif i gyd, felly pan es i’r codi pwysau ro’n i bron i bum cilo’n drymach. Fe gymerodd hi fisoedd i fi ddod dros hynny. Fe wnaeth e ddweud arna i yn sicr.

Mae’n wir mod i’n gwneud bywyd yn anodd i mi fy hun. Mae pobl yn gofyn imi’n aml, “Pam wyt ti’n rhoi dy hun o dan gymaint o bwysau?” ac os gallwn ateb y cwestiwn hwnnw, dwi’n meddwl y byddwn i’n berson tipyn hapusach. Alla i ddim eistedd yn ôl a dod yn ail orau. Dwi wastad wedi bod eisiau gwthio fy hun i gyrraedd y nod. Dwi ddim yn hapus am fy mod i’n chwarae rygbi i Gymru. Dwi eisiau bod y chwaraewr gorau yng Nghymru a dwi eisiau ennill y profion ffitrwydd i gyd a dwi eisiau cicio’r pwyntiau i gyd a sgorio’r ceisiau i gyd. Mae’n anodd oherwydd dwi’n rhoi fy hun dan bwysau yn gyson a hyd yn oed yn fy mywyd tu allan i chwaraeon - dwi’n gweithio fel rep meddygol i gwmni fferyllol a dwi’n gwerthu cyffur ar gyfer crydcymalau gwynegol - bob blwyddyn, dwi’n rhoi fy hun dan bwysau i gael y ffigyrau gwerthiant gorau yn y DU, ac os nad ydw i’n gorffen ar y brig, ac yn ennill y gwobrau a’r clod i gyd, dwi’n siomedig iawn.

cymylau pinc fflwfflyd

Mae pobl sydd ddim yn fy nabod i ac sy’n fy ngweld i, ar y teledu falle neu mewn cystadleuaeth, yn aml yn meddwl mod i’n berson hyderus iawn. Mae trahaus yn un gair sydd wedi cael ei ddefnyddio. Dwi’n meddwl os ydych chi’n cystadlu mewn chwaraeon, mae’n rhaid ichi gael ychydig o draha, yr ochr gystadleuol yna, i wneud yn dda. Ond mewn gwirionedd, dwi’n berson meddal iawn, iawn. Dwi ddim yn hoffi dadlau. Dwi’n hoffi edrych ar y byd drwy gymylau pinc fflwfflyd, a dwi ddim yn hoffi pethau cas mewn bywyd. Mae’n reit od mewn ffordd mod i wedi dewis campau mor dreisgar ac ymosodol, ond dwi wrth fy modd yn ymladd yn erbyn pobl ac yn taro pobl i’r llawr, eu pinio nhw i lawr ac ymaflyd breichiau pobl, a thagu pobl, a rhoi hwb llaw i bobl a thaclo pobl. Mae hynna’n rhoi gwefr enfawr i fi, ac o’r funud y dechreuais i wneud chwaraeon, yr ochr gorfforol o’n i’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r teimlad dwi’n ei gael pan fydda i’n cerdded oddi ar y mat, oddi ar y cae rygbi, ar ôl chwalu pobl, yn wirioneddol dda!

difaru dim

Dwi’n meddwl mod i wedi cyflawni popeth dwi eisiau’i gyflawni yn fy mywyd. Yr unig beth na wnes i yw cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Dwi wedi cyflawni popeth a allwn i mewn rygbi. Dwi wedi chwarae i dîm 15 y Byd, fi sy’n dal record y byd o ran ceisiau ym maes rygbi merched, ac mae gen i 87 cap i Gymru. Yn anffodus, nid yw’n gamp Olympaidd, ond nid wy’n difaru dim.

cymru

Dwi’n falch iawn mod i’n Gymraes. Cymraeg yw fy mamiaith. Dwi’n siarad Cymraeg gartre gyda’r teulu. Mae gwisgo jersi rygbi Cymru yn deimlad anhygoel a phan fyddwch yn sefyll yn y rhes ac yn canu’r anthem genedlaethol, hyd yn oed ar ôl chwarae dros Gymru yr holl droeon hynny, mae’n dal i yrru ias i lawr fy nghefn. Dwi wedi cystadlu dros Brydain dros y blynyddoedd mewn nifer o chwaraeon gwahanol ac wedi chwarae i 15 y Byd, ond, i mi, mae rhywbeth arbennig mewn chwarae dros Gymru. Dyna pam mae Gemau’r Gymanwlad mor arbennig. Dyna’r unig gyfle gaiff pobl i gystadlu dros Gymru mewn athletau, ac os ydych chi’n ennill medal aur, cewch glywed yr anthem genedlaethol a chewch gario’r Ddraig Goch o amgylch.

Mae’n rhwystredig bod yn Gymraes weithiau, serch hynny, oherwydd ein bod mor gul ein meddyliau a dwi’n meddwl, pe bawn i’n Saesnes ac wedi llwyddo yn y campau a wnes i yn Lloegr, byddwn yn bendant yn llysgennad a byddwn yno yn gwneud pethau i wthio merched mewn chwaraeon. Ond dydy Cymru ddim yn gwneud yn fawr o’n hathletwyr, dydyn ni ddim yn gwneud yn fawr o lwyddiant yng Nghymru. Dwi’n meddwl mai’r meddylfryd Cymreig sydd ar fai. Rydyn ni wedi ymgolli yn ein gwlad fach ein hunain.

Rydyn ni’n genedl fach iawn a phan edrychwch chi ar ba mor llwyddiannus y buon ni dros y blynyddoedd mewn chwaraeon, mae’n anhygoel. Pan fyddwch yn ystyried y cyfleusterau sydd gan Loegr, poblogaeth Lloegr, yr arian, nid yn unig ym maes rygbi merched ond ym mhob camp, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn. Dwi’n meddwl fod tîm rygbi Cymru, dros y blynyddoedd, wedi curo Lloegr fwy o weithiau nag y mae Lloegr wedi curo Cymru. O feddwl ein bod ni mor fach, mae hynna’n gamp aruthrol. Dwi’n meddwl mai’r angerdd yw e, y ffaith fod pobl eisiau chwarae dros eu gwlad ac eisiau gwneud yn dda dros Gymru. Maen nhw’n fodlon mynd y filltir arall er mwyn cystadlu dros Gymru.

cenedl Olympaidd?

Dwi ddim yn meddwl y dylai Cymru fod yn genedl Olympaidd ond dim ond am ei bod hi’n rhy fach. Mae Prydain Fawr hyd yn oed yn cael trafferth i fod yn y deg uchaf o ran medalau yn y Gemau Olympaidd. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd yn cystadlu dros Gymru yn y Gemau Olympaidd ond y broblem yw, pe gallai pob gwlad anfon athletwr dim ond am mai hwnnw yw rhif un yn y wlad honno, byddai safon y cystadlu yn isel iawn. Dyna’r peth arbennig am y Gemau Olympaidd, mae’n rhaid ichi gymhwyso ar eu cyfer drwy fod yn yr ugain gorau yn y byd. Felly, er mwyn cadw’r safon yn uchel a chadw’r Gemau Olympaidd yn rhywbeth arbennig, dwi’n meddwl y dylem aros fel Prydain Fawr.

llundain 2012

Dwi’n meddwl y bydd 2012 yn hollol wych oherwydd ei fod yn Llundain ac yn Gemau cartref i ni. Hyd yn oed os ydych chi’n Gymro neu’n Gymraes, maen nhw’n dal yn Gemau cartref, a dwi’n meddwl y gwelwch chi lawer o athletwyr Cymru yn gwneud yn dda iawn, yr athletwyr sydd wedi sefydlu’u hunain fel Christian Malcolm a Dai Greene, enwau adnabyddus ond, hefyd, lawer o rai ifanc sy’n dod drwodd. Fe enillon ni fedalau yn y pwll nofio am y tro cyntaf yn Delhi, medalau ar y trac seiclo am y tro cyntaf ers tro byd, a dydy’r merched hyn a wnaeth mor dda yn Delhi ddim ond yn 18 oed, felly erbyn 2012, byddan nhw’n 20 neu 21, a byddant ar eu gorau.

Fy nod i oedd ceisio cymhwyso ar gyfer 2012, mewn reslo, ond hyd yn oed os ydych chi’n rhif un ym Mhrydain, dydy hynny ddim yn golygu’ch bod chi’n gallu mynd i’r Gemau Olympaidd. Mae’n rhaid ichi gymhwyso a chael eich graddio yn y byd. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim wedi dweud wrthym beth sy’n ofynnol i gymhwyso. Y peth rhwystredig am y reslo yw bod yr hyfforddwr Prydeinig yn dod o’r Wcrain. Mae yna nifer o athletwyr o Wcrain yn hyfforddi’n llawn-amser ym Manceinion, a byddan nhw’n ‘Brydeinwyr’ erbyn 2012. Dywedwyd wrthyf mai’r unig ffordd y gallaf gymhwyso a chael cyfle i gystadlu yw os symudaf i Fanceinion a hyfforddi’n llawn-amser yno, ond dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Mae gen i forgais i’w dalu, mae gen i swydd dda iawn. Mae’n rhwystredig iawn nad yw’r cyfle yna imi i geisio cymhwyso erbyn 2012 drwy fyw yn fy ngartref a pharhau yn fy swydd. Yn y bôn dwi’n meddwl mai ymddeol wna i.

camp rhif pump?

Dydw i ddim yn chwilio am bumed gamp. Am y tro cyntaf erioed yn fy mywyd, dydw i ddim yn siŵr i ble’n union dwi’n mynd. Roedd fy mywyd wedi cael ei fapio allan bob blwyddyn. Ro’n i’n gwybod beth fyddwn i’n ei wneud fis ar ôl mis. Gallwn yn hawdd iawn barhau i chwarae rygbi dros Gymru. Dwi’n ffit. Dwi’n iach. Mae’n debyg mod i’n chwarae’r rygbi gore dwi wedi’i chwarae erioed, ond ar ôl Cwpan y Byd yn 2010, mae wyth i ddeg o’r merched wedi ymddeol o garfan Cymru. Mae rhai wedi mynd i deithio, mae’r hyfforddwyr wedi mynd, mae staff yr ystafell gefn wedi mynd. Maen nhw newydd hysbysebu am hyfforddwyr newydd, felly pe bawn i yn parhau i chwarae i Gymru eleni, dwi’n meddwl y byddai’n rhwystredig iawn i fi, rhai ifanc yn dod drwodd o’r sgwad dan 20, ac mae’n debyg y cawn ni ychydig flynyddoedd rhwystredig o ran canlyniadau hefyd.

Felly, dwi’n meddwl y byddai’n well gen i orffen ar y brig ac edrych yn ôl ar yrfa lwyddiannus iawn yn hytrach na pharhau i chwarae er mwyn chwarae. Ond, wedi dweud hynny, mae gennych amser hir i fod wedi ymddeol o chwaraeon, felly os dwi’n dal yn gallu ac yn ei fwynhau, yna efallai y gwnaf i gario mlaen. Mwynhad yw’r peth pwysig. Mi fydda i’n dal i chwarae rygbi saith bob ochr. Chwaraeais i yn y Dubai Sevens eleni. Dwi’n chwarae rygbi cyffwrdd i Gymru. Mae yna bencampwriaeth byd rygbi cyffwrdd yr haf hwn, felly dwi’n edrych ymlaen at hynny.

barod i orffen?

Roeddwn i’n siarad â Linford Christie echdoe, a dywedodd e wrtha i, “Gwna’n siŵr dy fod ti’n barod i orffen”. Dwi di bod yn teimlo’n isel ers dod nôl o Delhi. Mae ’na ferch sy’n chwarae rygbi i Gymru ac mae ganddi hi tua 112 o gapiau. Mae wedi ennill y 50 cap diwethaf, yn fras, oddi ar y fainc, munud fan hyn a dwy funud fan acw. Mae’n gyrru i lawr bob wythnos. Mae’n byw yn Ipswich neu rywle ac mae tua 38 oed, a dwi’n meddwl bod hynny’n eitha trist. Dwi wedi chwarae 87 gêm i Gymru a dwi wedi dechrau a gorffen 86 ohonyn nhw. Dim ond pan dorrais i fy nghoes wnes i ddim gorffen. Dwi ddim eisiau bod yn rhywun mae pawb yn dweud amdani, “O, dyna Non Evans. Mae hi’n dal wrthi te”, math o beth.

Y tri gair fyddwn i’n eu defnyddio i’m disgrifio fy hun fyddai cystadleuol, hunan-feirniadol ac obsesiynol.


Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw